R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canolfannau hamdden yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0246(FM)
2. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i Gymru yn cynnal y World Expo? OAQ(5)0247(FM) (TYNNWYD YN ÔL)
3. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau? OAQ(5)0248(FM)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am blant yng Nghymru a addysgir gartref? OAQ(5)0250(FM)W
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardaloedd dim galw diwahoddiad yng Nghymru? OAQ(5)0245(FM)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am enwau lleoedd hanesyddol Cymru? OAQ(5)0249(FM)
7. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y cyfarfu’r Prif Weinidog ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod Bil Cymru? OAQ(5)0240(FM)W
8. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes? OAQ(5)0251(FM)
9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau’r cap budd-daliadau yn Nhorfaen? OAQ(5)0252(FM)
10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Ym mha ffyrdd y bydd polisi datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0242(FM)
11. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog o ran cyfansoddiad Cymru? OAQ(5)0239(FM)
12. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran a yw Bil Cymru yn parchu penderfyniad refferendwm 2011? OAQ(5)0241(FM)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o ganserau carsinoma? OAQ(5)0253(FM)
14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y buddsoddiadau y mae Cyllid Cymru yn eu gwneud? OAQ(5)0244(FM)
15. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brentisiaethau yng Nghymru? OAQ(5)0243(FM)W