R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid sydd ei angen ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0222(FM)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0215(FM)
3. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd buddsoddi mewn twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0216(FM)
4. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y galw ar wasanaethau gofal sylfaenol? OAQ(5)0213(FM)
5. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Beth fydd y gost o roi grantiau prawf modd i fyfyrwyr sydd newydd gymhwyso o gartrefi sy'n ennill rhwng £50,020 ac £81,000? OAQ(5)0219(FM)
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau gweithredu pan benderfynir na all cymuned gael ei chysylltu o dan raglen Cyflymu Cymru? OAQ(5)0221(FM)W
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth canolfannau celfyddydol ledled Cymru? OAQ(5)0208(FM)
8. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwahaniaeth y mae'r grant amddifadedd disgyblion yn ei wneud i ganlyniadau addysgol yn Islwyn? OAQ(5)0214(FM)
9. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sail dystiolaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sail i strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0211(FM)
10. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Ardd Fotaneg Cymru? OAQ(5)0218(FM)
11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0212(FM)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dwf y diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0207(FM)
13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistiaeth? OAQ(5)0224(FM)W
14. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi pysgota Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0217(FM)
15. David Melding (Canol De Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y cynnydd yn nealltwriaeth y cyhoedd o faterion iechyd meddwl a gyflawnwyd drwy ddigwyddiadau fel wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl? OAQ(5)0209(FM)