R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant cyfalaf diweddar awdurdodau lleol? OAQ(5)0042(FLG)
2. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff diffyg Trysorlys Ei Mawrhydi o £66 biliwn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ(5)0049(FLG)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Yn dilyn ei ddatganiad ar 11 Hydref, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gyllid fydd ar gael ar gyfer gweddill y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd o 2014 tan 2020? OAQ(5)0034(FLG)W
4. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar Islwyn? OAQ(5)0047(FLG)
5. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid llywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol hon? OAQ(5)0044(FLG)
6. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyflog byw gwirioneddol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0037(FLG)
7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith diwygio arfaethedig llywodraeth leol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0041(FLG)
8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0043(FLG)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gydweithredu ar draws awdurdodau lleol? OAQ(5)0040(FLG)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0048(FLG)
11. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei rôl yn cadeirio'r panel cynghori allanol ar adael yr UE? OAQ(5)0036(FLG)
12. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bil undebau llafur? OAQ(5)0038(FLG)
13. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau gweithlu Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0033(FLG)W
14. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Trysorlys Cymru? OAQ(5)0039(FLG)
15. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru? OAQ(5)0035(FLG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa ddarpariaeth y mae’r Comisiwn wedi'i gwneud ar gyfer cerbydau trydan yn y Cynulliad? OAQ(5)0001(AC)W
2. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i ddatblygu senedd ieuenctid i Gymru?? OAQ(5)0002(AC)