Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2016
 i'w hateb ar 11 Hydref 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1.     Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer datblygu'r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol yn Llanfrechfa? OAQ(5)0190(FM)

 

2. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun peilot Rhagnodi Cymdeithasol?  OAQ(5)202(FM)

 

3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau cyllido ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)203(FM)

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Sir Benfro?  OAQ(5)0188(FM)

 

5. Rhianon Passmore (Islwyn):Faint o bwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarlledwyr sy'n derbyn arian cyhoeddus, o ran darparu lefelau uchel o raglenni gwreiddiol? OAQ(5)0201(FM)

 

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithlu sydd â'r sgiliau priodol yng Nghymru? OAQ(5)0206(FM)

 

7. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i wella'r broses gynllunio ar gyfer darparu tai?  OAQ(5)0197(FM)

 

8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu TAN8?  OAQ(5)0196(FM)W

 

9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon? OAQ(4)0204(FM)W

 

10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at adeiladu tai di-garbon?  OAQ(5)0205(FM)

 

11. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw Bil Cymru yn bodloni amcanion datganedig Llywodraeth y DU o ddarparu setliad parhaol i Gymru? OAQ(5)0192(FM)

 

12. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):Pa lefel o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi i addysg wrth benderfynu ar bolisïau Llywodraeth Cymru?  OAQ(5)0195(FM)

 

13. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru? OAQ(5)0200(FM)

 

14. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd undebau llafur mewn cymdeithas sifil yng Nghymru?  OAQ(5)0198(FM)R

 

15. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yn Arfon? OAQ(5)0193(FM)W