Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Medi 2016
 i'w hateb ar 5 Hydref 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

1.         Leanne Wood (Rhondda):Pa waith sydd ar y gweill gan y Gweinidog i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0049(EI)

 

2. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0052(EI)

 

3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd a seilwaith yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0045(EI)

 

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffyniant economaidd yng Nghymru? OAQ(5)0043(EI)

 

5. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei sectorau blaenoriaeth ar gyfer datblygu economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0050(EI)

 

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(5)0039(EI)

 

7. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael â chynrychiolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru? OAQ(5)0046(EI)

 

8. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru):Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r trefniadau tollau ar Bont Hafren ddychwelyd i'r sector cyhoeddus? OAQ(5)0040(EI)

 

9. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i gefnogi'r sector treftadaeth yng Nghymru? OAQ(5)0048(EI)

 

10.  Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0038(EI)

 

11. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno wi - fi cyhoeddus yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0051(EI)

 

12. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru? OAQ(5)0044(EI)W

 

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu banc datblygu i Gymru OAQ(5)0047(EI)

 

14. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch Pride Cymru 2017? OAQ(5)0041(EI)

 

15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i droi’r A477 dros Bont Cleddau yn gefnffordd? OAQ(5)0042(EI)W

 

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau dulliau atal salwch yng Nghymru? OAQ(5)0040(HWS)

 

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau iechyd ledled Sir Benfro? OAQ(5)0038(HWS)

 

3. Leanne Wood (Rhondda):Pa waith y mae'r Gweinidog yn ei wneud i ddenu meddygon i Gymru? OAQ(5)0050(HWS)

 

4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu telefeddygaeth? OAQ(5)0041(HWS)W

 

5. Lynne Neagle (Torfaen):Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon uchel yn Nhorfaen? OAQ(5)0049(HWS)

 

6. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl y mae tiwmorau niwroendocrin yn effeithio arnynt? OAQ(5)0043(HWS)

 

7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi ffitrwydd corfforol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0047(HWS)

 

8. Huw Irranca–Davies (Ogwr):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anghenion gofal sylfaenol poblogaethau Llanharan a Phencoed? OAQ(5)0051(HWS)

 

9. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0042(HWS)

 

10. Lee Waters (Llanelli):Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? OAQ(5)0053(HWS)

 

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru o ddefnyddio unedau mân anafiadau i gwrdd a’r galw am ofal sydd heb ei drefnu?  OAQ(5)0052(HWS)W

 

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau dilynol? OAQ(5)0039(HWS)

 

13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn mynd i'r afael â chaethiwed i gyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ(5)0037(HWS)

 

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i wella gofal newyddenedigol yng Nghymru? OAQ(5)0046(HWS)

 

15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau mewn ysbytai cymunedol?  OAQ(5)0045(HWS)W