Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 144(8ZA) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2016 Rhif (Cy. )
y gyfraith gyfansoddiadol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, drwy newid disgrifiad un o'r cyrff a restrir yn yr Atodlen honno. Mae'r cyfeiriad at Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae hyn yn dilyn ailenwi'r corff corfforaethol hwnnw o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 144(8ZA) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2016 Rhif (Cy. )
Y gyfraith gyfansoddiadol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed ***
Yn dod i rym 7 Hydref 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 144(8)(c)([1]) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn([2]).
Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd ganddo yn unol ag adran 144(8ZA)([3]) o'r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru
1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio)
2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Hydref 2016.
Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998
2. Ym mharagraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn lle “Local Government Boundary Commission for Wales” rhodder “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.
Enw
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad