Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Medi 2016
 i'w hateb ar 21 Medi 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1.     David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses i sefydlu meiri etholedig yng Nghymru? OAQ(5)0019(FLG)

2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i'r portffolio economi a'r seilwaith mewn perthynas â chymorth busnes ym mhob un o'r 3 blynedd diwethaf? OAQ(5)0024(FLG)

3. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y panel cynghori allanol i adael yr UE? OAQ(5)0031(FLG)

4. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau? OAQ(5)0022(FLG)W

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0026(FLG)

6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu bargen ddinesig ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0027(FLG)

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cynghorau Cymru? OAQ(5)0021(FLG)

8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ai peidio i awdurdodau lleol ynghylch caffael cotractau rheoli gwastraff? OAQ(5)0023(FLG)

9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i bortffolio Amgylchedd a Materion Gwledig? OAQ(5)0018(FLG)

10.  Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog fynd i'r afael â diwygio cyllid llywodraeth leol ochr yn ochr ag unrhyw gynlluniau ad-drefnu? OAQ(5)0028(FLG)

11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch adolygu fformiwla Barnett? OAQ(5)0029(FLG)

 

12. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei asesiad o ddyfodol cronfeydd strwythurol yr UE? OAQ(5)0030(FLG)

 

13. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllideb i'r portffolio Cymunedau a Phlant? OAQ(5)0025(FLG)

 

14. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am setliad ariannol llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FLG)