OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1409 (Cy. 169)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio’r swm o rent blynyddol sy’n peri, o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988, na chaiff tenantiaeth fod yn denantiaeth sicr pan fo’r rhent blynyddol uwchlaw’r swm hwnnw. Cynyddir y swm hwnnw o £25,000 i £100,000, yn effeithiol o 1 Rhagfyr 2011 ymlaen.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi ohono gan y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1409 (Cy. 169)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011
Gwnaed 2 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mehefin 2011
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(2A) o Ddeddf Tai 1988([1]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy o ran Cymru([2]):
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tenantiaethau
Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1
Rhagfyr 2011.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cynyddu’r trothwy rhent
2.—(1)(1) Diwygir Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na
chânt fod yn denantiaethau sicr) yn unol â pharagraff
(2).
(2) Ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 1([3]), yn lle “£25,000” rhodder “£100,000”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.
2 Mehefin 2011
([1]) 1988 p. 50. Mewnosodwyd adran 1(2A) gan reoliad 2 o Reoliadau Cyfeiriadau at Ardrethu (Tai) 1990 (O.S. 1990/434) a pharagraff 27 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hynny.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1(2A), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Tai 1988 yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.