R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Jeremy Miles (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Cymru Greadigol? OAQ(5)0035(EI)
2. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cymorth ariannol sydd ar gael i brosiectau twristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0027(EI)
3. Neil McEvoy (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â busnesau bach a chanolig brodorol? OAQ(5)0034(EI)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0023(EI)
5. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithgynhyrchu? OAQ(5)0029(EI)
6. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniad yr anghydfod diwydiannol rhwng PCS ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru? OAQ(5)0030(EI)
7. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd y gallai Bil Cymru eu cynnig ar gyfer integreiddio systemau trafnidiaeth gyhoeddus yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0033(EI)
8. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu ymwelwyr i Gymru? OAQ(5)0028(EI)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar brosiectau isadeiledd yn ardal Bae Abertawe? OAQ(5)0026(EI)W
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth o fewn Dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0022(EI)
11. Nathan Gill (Gogledd Cymru): Pa drefniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i fanteisio’n llawn ar y cysylltiadau rhwng Gogledd Cymru a phwerdu arfaethedig y gogledd? OAQ(5)0021(EI)
12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol diwydiant trwm yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0025(EI)W
13. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog nodi sut y bydd y dull dinas-ranbarth o fudd i ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0031(EI)
14. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno band eang yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0024(EI)
15. Neil McEvoy (Canol De Cymru):Sut y mae'r Gweinidog yn asesu effeithiolrwydd cymorth busnes Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0031(EI)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru? OAQ(5)0027(HWS)
2. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unedau Brys a Damweiniau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0022(HWS)W
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0020(HWS)
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0019(HWS)
5. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau pediatrig yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0034(HWS)
6. Sian Gwenllian (Arfon):Beth yw strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0026(HWS)W
7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chleifion yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0021(HWS)
8. Leanne Wood (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio meddygon? OAQ(5)0029(HWS)
9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog nodi pa ddarpariaeth gofal iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi drwy'r GIG i gefnogi unigolion sydd yn y ddalfa? OAQ(5)0032(HWS)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ehangu mynediad i gyfleusterau chwaraeon? OAQ(5)0024(HWS)
11. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ragnodi ar gyfer clefyd Coeliac? OAQ(5)0025(HWS)W
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer deddfwriaeth yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0023(HWS)
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfle y mae'r Gweinidog wedi'i gael i gwrdd ag aelodau Hemoffilia Cymru? OAQ(5)0035(HWS)
14. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gefnogi mentrau i gynyddu nifer y menywod a merched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon? OAQ(5)0028(HWS)
15. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi yn eu lle i baratoi ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym? OAQ(5)0033(HWS)