R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0088(FM)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Bargen Ddinesig Caerdydd? OAQ(5)0097(FM)
3. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)W
4. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0092(FM)
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0086(FM)
6. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chwmnïau angor, fel Airbus, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE? OAQ(5)0094(FM)
7. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau Ewropeaidd ôl-Brexit yn ymwneud â llygredd aer? OAQ(5)0100(FM)
8. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r risgiau i economi Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn gwarantu pob ceiniog o gyllid a gaiff ei ddarparu i Gymru ar hyn o bryd gan yr UE? OAQ(5)0101(FM)
9. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant amaethyddol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0090(FM)
10. David Melding (Canol De Cymru):Pa fesurau sydd yn eu lle i wella'r broses ymgynghori sy'n cefnogi datblygu a gweithredu rhaglen bolisi Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0096(FM)
11. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch adeiladu'r Ganolfan Ofal Gritigol Arbenigol yn Llanfrechfa, Cwmbran, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004? OAQ(5)0099(FM)
12. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi economi de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0091(FM)
13. Dawn Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni)A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at gyrraedd targedau twf yn y sector twristiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0098(FM)
14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Deddfau a gafodd eu pasio yn y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0093(FM)
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflog cyfartal? OAQ(5)0095(FM)