R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brinder llefydd mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0011(EDU)
2. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ganran o ddisgyblion sydd mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion yn Islwyn? OAQ(5)0009(EDU)
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i addysg? OAQ(5)0004(EDU)
4. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg bellach? OAQ(5)0002(EDU)W
5. Hefin David (Caerffili):Sut y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) arfaethedig yn cefnogi disgyblion sydd â'r anghenion dysgu a meddygol mwyaf cymhleth yn ein hysgol addysg arbennig? OAQ(5)0016(EDU)R
6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella dealltwriaeth disgyblion o wleidyddiaeth a materion cyfoes mewn ysgolion? OAQ(5)0015(EDU)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth addysg ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth? OAQ(5)0006(EDU)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg ariannol? OAQ(5)0005(EDU)
9. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r gefnogaeth i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0010(EDU)
10. Dawn Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni)A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am awdurdodau addysg lleol sydd wedi cael eu codi o fesurau arbennig yn ddiweddar? OAQ(5)0017(EDU)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu dinasyddiaeth mewn ysgolion? OAQ(5)0012(EDU)W
12. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu meddwl yn feirniadol ymysg plant ysgol yng Nghymru? OAQ(5)0008(EDU)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y maint delfrydol ar gyfer dosbarthiadau cyfnod allweddol 1? OAQ(5)0003(EDU)
14. Neil McEvoy (Canol De Cymru):A yw'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant difreintiedig a phlant mwy breintiedig yn flaenoriaeth i'r Gweinidog? OAQ(5)0014(EDU)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ariannu ar gyfer addysg yn y Pumed Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru? OAQ(5)0007(EDU)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0001(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn ag oblygiadau cyfreithiol y DU o ran tynnu allan o'r UE? OAQ(5)0002(CG)W