Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mehefin, 2016
i'w hateb ar 15 Mehefin 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

1. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision economaidd prosiectau seilwaith ynni mawr yng Nghymru? OAQ(5)0008(EI)

 

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydgysylltu trafnidiaeth trawsffiniol? OAQ(5)0011(EI)

 

3. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i'r rhwydwaith ffyrdd yn Arfon? OAQ(5)0004(EI)W

 

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud busnesau ar-lein yn ymwybodol o'r rheoliadau dull amgen o ddatrys anghydfod a ddaeth i rym eleni? OAQ(5)0017(EI)

 

5. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfleoedd a gaiff eu cynnig drwy'r Ardal Fenter ym Mhort Talbot? OAQ(5)0016(EI)

 

6. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau bach yng Nghaerffili? OAQ(5)0019(EI)

 

7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yng Nghymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0001(EI)

 

8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad i ni am ddatblygu croesiad y Fenai? OAQ(5)0006(EI)W

 

9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cyffyrdd ar hyd yr M4 ym Mhort Talbot? OAQ(5)0015(EI)

 

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol i Bort Talbot? OAQ(5)0002(EI)

 

11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0012(EI)

 

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0009(EI)

 

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen fanwl o'r cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0018(EI)

 

14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Canol De Cymru yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0003(EI)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa ran y gall ynni adnewyddadwy a gynhyrchwyd yng Nghymru ei chwarae yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r economi? OAQ(5)0005(EI)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1.         Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon o ran helpu i wella iechyd a llesiant pobl Cymru?  OAQ(5)0015(HWS)

 

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, sydd â diabetes? OAQ(5)0002(HWS)

 

3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a chadw meddygon teulu yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0012(HWS)

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0004(HWS)

 

5. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cronfa cyffuriau canser? OAQ(5)0013(HWS)

 

6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gweithredu er mwyn mynd i'r afael ag amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0006(HWS)

 

7. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyflawni ei hamcanion o leihau nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru? OAQ(5)0017(HWS)

 

8. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog meddygon teulu i ddod i Gymru? OAQ(5)0014(HWS)

 

9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0001(HWS)

10.  Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer gwella mynediad at fferyllwyr cymunedol? OAQ(5)0016(HWS)

 

11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau Arolwg Iechyd Cymru 2015? OAQ(5)0003(HWS)

 

12. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol yng Nghymru? OAQ(5)0011(HWS)

 

13. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0010(HWS)

 

14. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd therapi ailhyfforddi tinitws ledled Cymru? OAQ(5)0018(HWS)

 

15. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi meddygon newydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0008(HWS)W