R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FM)
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Rhanbarth Dinas Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM)
3. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â phroblem newid yn yr hinsawdd? OAQ(5)0030(FM)
4. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae parhad aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio yn ei hanfod ar economi Islwyn? OAQ(5)0036(FM)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglyn â llysoedd yng Nghymru sydd wedi eu clustnodi i gau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder? OAQ(5)0027(FM)W
6. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithgareddau'r tasglu dur ers diddymiad y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(5)0032(FM)
7. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi galwadau glowyr Cymru ac undeb NUM De Cymru am ymchwiliad i ddigwyddiadau Orgreave ym mis Mehefin 1984? OAQ(5)0026(FM)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol Pencampwriaethau Pel-droed Ewropeaidd 2016 i Gymru? OAQ(5)0037(FM)W
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau trafnidiaeth ym Mhort Talbot? OAQ(5)0029(FM)
10. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddu Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0034(FM)
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(5)0024(FM)
12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0019(FM)
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Pa feini prawf a ddefnyddia Llywodraeth Cymru i gyfrif gwerth effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru? OAQ(5)0028(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau casglu gwastraff llywodraeth leol? OAQ(5)0021(FM)
15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pa bryd y bydd y Prif Weinidog yn cwrdd nesaf ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru? OAQ(5)0033(FM)W