|
Rhif y Ddeiseb: P-06-1450 Teitl y ddeiseb: Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd Geiriad y ddeiseb: § Gwella ansawdd aer mewn lleoliadau iechyd a lleoliadau gofal cymdeithasol drwy fynd i'r afael ag awyru, hidlo aer a sterileiddio; § Ailgyflwyno gwisgo masgiau fel mater o drefn yn y lleoliadau hynny (yn unol ag argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd ar 20 Rhagfyr 2023), yn enwedig masgiau anadlol; § Ailgyflwyno profion Covid fel mater o drefn - mae'n asymptomatig; § Sicrhau bod llawlyfrau staff yn cynnwys atal heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr yn llawn; § Darparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd am ddefnyddio masgiau anadlol a hidlo aer HEPA yn erbyn heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr. Caiff heintiau fel Covid, ffliw, RSV, y frech goch a TB eu lledaenu drwy anadlu aerosolau bach a gludir yn yr awyr fel mwg. Ffyrdd allweddol o'i atal yw gwella ansawdd aer a gwisgo masgiau anadlol sy'n ffitio'n dda. Mae ailheintio yn cynyddu'r risg o niwed difrifol hirdymor posibl i unrhyw un, i'r ymennydd, y galon, y system imiwnedd, ac ati. Gweithwyr gofal sydd ar frig y gynghrair Covid hir. Mae salwch dro ar ôl tro a cholli swyddi yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau. Dangoswyd bod cyfradd yr heintiau Covid a gafwyd yn yr ysbyty yn uwch nag yn y gymuned. Yn aml mae'n rhaid i bobl sy'n agored i niwed yn glinigol ddefnyddio mesurau gofal ond maent yn canslo apwyntiadau iechyd hanfodol. Mae trosglwyddo yn aml yn asymptomatig. Nid yw Covid yn dymhorol. Felly mae profion rheolaidd yn hanfodol. Mae yna lawer o ddulliau i ddiogelu iechyd. Dim ond un sy'n cael ei ddefnyddio: brechu - nid yw ar gael i lawer, gan gynnwys rhai pobl sy'n agored i niwed yn glinigol. |
Mae'r ddeiseb yn galw am roi nifer o fesurau ar waith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr.
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd y gall awyru priodol a hidlo aer helpu i leihau crynodiad pathogenau yn yr awyr, gan leihau'r risg o haint o bosibl.
Mewn sesiwn holi ac ateb ynghylch awyru a chyflyru aer, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn egluro mai awyru yw'r broses o ddod ag aer ffres, o’r awyr agored y tu mewn a gosod aer dan do y tu allan er mwyn cynnal neu wella ansawdd aer. Mae'r risg o gael heintiau fel Covid-19 yn cynyddu mewn lleoliadau gorlawn ac sydd wedi’u hawyru'n wael. Mae hyn oherwydd bod y feirws yn pasio rhwng pobl drwy ronynnau anadlol heintiedig ar ffurf defnynnau ac aerosolau. Mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n wael, gall aerosolau heintiedig aros yn yr awyr neu deithio ymhellach na phellter sgwrsio. Mae gwella awyru dan do yn lleihau'r risg y bydd y feirws yn lledaenu dan do.
Cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd fap ffordd i wella a sicrhau awyru dan do da yng nghyd-destun Covid-19. Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn parhau i argymell gwisgo masgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi'u hawyru'n wael, ni waeth beth fo'r sefyllfa epidemiolegol leol.
O ran profion Covid-19, mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar brofion arferol ar gyfer Covid-19 i gyd-fynd â chlefydau heintus anadlol eraill.
Mae Fframwaith Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Feirysau Anadlol 2023 i 2024 yn amlinellu cynlluniau ar gyfer rheoli feirysau anadlol. Mae'n nodi bod profion ar gyfer Covid-19 yn cael eu darparu mewn amrywiaeth o leoliadau ond bod y ddarpariaeth arferol o brofion dyfeisiau llif unffordd Covid-19 am ddim ar gyfer rheoli achosion wedi dod i ben.
Mae mesurau Atal a Rheoli Heintiau yn parhau i fod yn elfen allweddol o ymarfer mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i leihau trosglwyddiad feirysau anadlol a norofeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i ddim goddefgarwch o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd y gellir eu hatal.
Mae lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru yn rhoi nifer o fesurau ar waith i leihau lledaeniad heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr, gan gynnwys:
§ Mesurau Atal a Rheoli Heintiau: Rhaid i bob aelod o staff gofal iechyd fod yn gyfarwydd ag egwyddorion Rhagofalon Safonol Rheoli Heintiadau a Rhagofalon Seiliedig ar Drosglwyddo ar gyfer atal lledaeniad heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd.[SC1] .
Mae’r cyfrifoldeb dros sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Atal a Rheoli Heintiau mewn lleoliadau iechyd[SC2] yng Nghymru yn cael ei rannu rhwng sawl endid, gan gynnwys byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a darparwyr gofal iechyd nad ydynt yn y GIG. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sy'n gyfrifol am sicrhau bod darparwyr gofal iechyd yng Nghymru yn bodloni’r trefniadau Atal a Rheoli Heintiau gofynnol.
§ Ymchwiliad i Heintiau Covid a Gafwyd mewn Ysbytai: Sefydlwyd y Grŵp Trosglwyddo Nosocomiaidd ym mis Mai 2020 er mwyn helpu i atal heintiau drwy ddysgu a chyhoeddi fframwaith cenedlaethol mewn perthynas â digwyddiadau diogelwch cleifion Covid-19 a gafwyd yn yr ysbyty.
Mae beirniadaeth wedi bod ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd.
Mae’r deisebydd, ar ran grŵp Covid-19 Teuluoedd dros Gyfiawnder Cymru mewn Profedigaeth, wedi ysgrifennu llythyr at Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd ym mis Rhagfyr 2023 yn galw am fesurau cyflym a rhagweithiol i wella rheolaeth ar heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru.
Mae’r deisebydd hefyd wedi ysgrifennu erthygl ym mis Ionawr 2024, gan feirniadu’r modd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd, gan dynnu sylw at y ffaith bod wardiau wedi’u cau a bod ymweliadau wedi’u gohirio mewn ysbytai ledled Cymru oherwydd cynnydd mewn heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr. Roedd yr erthygl hefyd yn beirniadu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei negeseuon iechyd cyhoeddus.
Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Eluned Morgan AS ddatganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o’r Senedd am yr Adolygiad o System Diogelu Iechyd Cymru. Comisiynwyd yr adolygiad yn 2022 i ddarparu argymhellion ar sut y gellir cryfhau’r system diogelu iechyd yng Nghymru.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, fodd bynnag, nid oedd yn mynd i’r afael â threfniadau diogelu iechyd ac ymatebion o fewn gofal sylfaenol, neu’n ymwneud â gofal sylfaenol, na’r trefniadau atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau iechyd
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn wynebu beirniadaeth ynghylch ei phenderfyniad i beidio â phenodi Comisiynydd Diogelwch Cleifion annibynnol, rôl a sefydlwyd yn Lloegr y llynedd ac y mae deddfwriaeth ar ei chyfer yn yr Alban ar hyn o bryd.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun a mesurau eraill yn ddiweddar i wella diogelwch cleifion.
Darparodd Llywodraeth Cymru ymateb i’r Pwyllgor Deisebau ar 8 Gorffennaf.
§ Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Ystadau Arbenigol (NWSSP-SES) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gweithio i wella ansawdd aer ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol drwy awyru a hidlo effeithiol.
§ Mae Memorandwm Technegol Iechyd Cymru (WHTM) 03-01 newydd wedi'i gyhoeddi, gan ddarparu argymhellion awyru manwl ar gyfer pob adeilad gofal iechyd (gweler Rhan A a Rhan B). [SC4]
§ Mae pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru wedi penodi Personau Awdurdodedig ar gyfer awyru, gan sicrhau bod gosodiadau, gwaith cynnal a chadw a monitro yn cael eu cwblhau i safon sy'n cydymffurfio.
§ Mae Grwpiau Diogelwch Awyru ar waith ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru, sy’n gyfrifol am sicrhau bod pob system awyru yn cael ei dylunio, ei gosod, ei phrofi a’i chynnal yn unol â’r canllawiau.
§ Mae NWSSP-SES yn darparu gwasanaethau Peiriannydd Awdurdodi (Awyru), a benodir yn gynghorydd annibynnol gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG.
§ Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag NHS Improvement England (NHSI/E) a gweddill GIG y DU, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau (SAGE), i ddilysu effeithiolrwydd sterileiddio, gan gynnwys hidlydd puro aer - Aer Gronynnol Effeithlonrwydd Uchel (HEPA), mewn lleoliadau gofal iechyd.
§ Mae’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael cyhoeddiadau cynghori drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar drosglwyddo heintiau a phwysigrwydd systemau awyru effeithiol.
§ O dan Adran 44(4)(a) Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig sicrhau bod safleoedd yn hygyrch, wedi’u goleuo, eu gwresogi a’u hawyru’n ddigonol.
§ Mae Mesurau Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Heintiau Anadlol Acíwt (ARI), gan gynnwys COVID-19 ar gyfer Lleoliadau Iechyd a Gofal[SC5] yn darparu cyngor manwl ar y defnydd priodol o fasgiau wyneb mewn lleoliadau clinigol.
§ Yn unol â'r strategaeth hirdymor ar gyfer byw'n ddiogel gyda Covid-19, mae mynediad at brofion am ddim yn canolbwyntio ar gefnogi rheolaeth glinigol pobl sy'n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol.
§ Mae atal heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr yn cael ei gwmpasu gan Fesurau Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Heintiau Anadlol Acíwt (ARI), gan gynnwys COVID-19 ar gyfer Lleoliadau Iechyd a Gofal[SC6] Iechyd Cyhoeddus Cymru.
§ Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch gwybodaeth iechyd y cyhoedd am bob clefyd trosglwyddadwy, gan gynnwys heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |
[SC1]The Welsh link opens in a Word document as opposed to a web page - not sure how you’d usually link this?
[SC2]Is there a Welsh link?
[SC3]I’m unsure how these sentences follow on from each other. Can you please have a look at the English and let me know?
[SC4]Are there Welsh links for these?
[SC5]This opens as a Word document in Welsh.
[SC6]Word document.