TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I BWYLLGOR MENTER A BUSNES CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU AM DDYFODOL MASNACHFRAINT RHEILFFYRDD TEITHWYR CYMRU AR GORORAU

 

Cyflwyniad

 

1.    Maer rheilffordd yn cynnig dull cysylltedd pwysig i wasanaethu anghenion busnesau, pobl a chymunedau ac maen cludo teithwyr a nwyddau.

 

2.    Mae ar Lywodraeth Cymru eisiau system reilffordd fodern, hygyrch a fforddiadwy syn gwasanaethu pobl Cymru. Nid ywr cyfrifoldeb dros wasanaethau rheilffordd a seilwaith y rheilffordd wedii ddatganoli ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd rl gynyddol yn y maes hwn.

Masnachfraint Cymru ar Gororau ar hyn o bryd

 

3.    Dyfarnwyd masnachfraint Cymru ar Gororau i Drenau Arriva Cymru yn 2003 gan yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol am gyfnod o 15 mlynedd. Maer fasnachfraint yn nodir gwasanaethau ar safonau gwasanaethau y mae disgwyl i Drenau Arriva Cymru eu cyflawni.

 

4.    Telir yn rhannol am weithredur fasnachfraint gan incwm y maer cwmnin ei gynhyrchu ac yn rhannol gan gymhorthdal sylweddol gan y llywodraeth. Yn 2012/13, tua 290m oedd cyfanswm yr incwm ar gyfer y fasnachfraint, y mae dros ei hanner yn dod o gymhorthdal Llywodraeth Cymru.

 

5.    Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am reoli masnachfraint Trenau Arriva Cymru, drwy Gytundeb Ar y Cyd ag Adran Drafnidiaeth y DU, ers 2006.

 

6.    Trosglwyddodd Llywodraeth y DU yr arian ar gyfer masnachfraint Trenau Arriva Cymru i Lywodraeth Cymru yn 2006/7 ar lefel a oedd yn ddigon i dalu am waelodlin y fasnachfraint. Nid oedd hyn yn darparu ar gyfer y cynnydd mewn galw a gafwyd ar rwydwaith Cymru, lle maer Llywodraeth o ganlyniad wedi rhoi arian er mwyn pontior bwlch rhwng y capasiti a roddwyd inni yn y fasnachfraint ar capasiti sydd ei angen ar gwsmeriaid.

 

7.    Bu ehangu arwyddocaol o ran capasitir gwasanaeth a niferoedd y teithwyr yn ardal masnachfraint Cymru ar Gororau ers 2003. Rhwng 2003-04 a 2012-13 cynyddodd y cilometrau trn ar gyfer gwasanaethau a ddarparwyd gan Drenau Arriva Cymru 31 y cant, gan gynnwys gwasanaethau ar y llinellau wediu hailagor a noddwyd gan Lywodraeth Cymru; er enghraifft i Barcffordd Glynebwy, a rheilffordd Bro Morgannwg. Dros yr un cyfnod cynyddodd nifer teithiaur teithwyr ar y gwasanaethau hyn 61 y cant. Ar ddangosyddion perfformiad allweddol, maer perfformiad wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Yn gyntaf am fodlonrwydd cwsmeriaid, o ran y teithwyr yr oedd eu barn gyffredinol am eu taith yn fodlon neun dda; cododd y mesur hwn o 79 y cant or teithwyr yng ngwanwyn 2004 i 88 y cant yng ngwanwyn 2013. Ac yn ail, mesur perfformiad cyhoeddus prydlondeb (y trn yn cyrraedd cyn pen 5 munud ir amser ar yr amserlen) a gododd o 81.8 y cant yn 2003-04 i gyrraedd 95.4 y cant yn ystod chwarter cyntaf 2013-14.

 

Dyfodol masnachfraint Cymru ar Gororau

 

8.    Mae masnachfraint bresennol Cymru ar Gororaun dod i ben ym mis Hydref 2018. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, yr Adran Drafnidiaeth fydd yr awdurdod breinio o hyd ar gyfer masnachfraint Cymru ar Gororau a hi syn gyfrifol am osod y fasnachfraint nesaf. Cydnabyddir diddordeb Gweinidogion Cymru yn y fasnachfraint yn y ddeddfwriaeth ac maer Ddeddf Rheilffyrdd (2005) yn darparu ir perwyl hwnnw.

 

9.    Maer fasnachfraint newydd yn cynnig cyfle i lunio manyleb syn adlewyrchur patrwm defnydd sydd wedi datblygu ar sail i wella cystadleurwydd economaidd Cymru.

 

10. Fel y nodwyd yn ein tystiolaeth i Gomisiwn Silk, mae trafodaethau ynghylch posibilrwydd datganoli grymoedd pellach o ran y rheilffyrdd ar setliad ariannol priodol wedi dechrau r Adran Drafnidiaeth. I gyd-fynd hynny rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i archwilio pob opsiwn ar gyfer model y fasnachfraint y gellid ei fabwysiadu.

 

11. Beth bynnag fydd maint ein rl wrth osod masnachfraint nesaf Cymru ar Gororau, bydd Llywodraeth Cymrun nodi ei blaenoriaethau ar gyfer y fasnachfraint nesaf gan gynnwys disgwyliadau gwasanaethau ar safonau ansawdd a model y fasnachfraint rydyn ni eisiau iddi gael ei chyflawni. Fodd bynnag, maen bwysig alinio hyn gyda setliad cyllid priodol gan Lywodraeth y DU.

 

12. Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn dod ar adeg allweddol ac rwyn awyddus i sicrhau bod y gwersi a dynnwch or dystiolaeth a gasglwch yn llywio ein dull gweithredu yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

Edwina Hart MBE CStJ AC

Y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth