FIN(4) -03-12 Papur 2
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NA
8 Chwefror 2012
Annwyl Jocelyn
Cyllideb Atodol 2011-12
Ysgrifennaf atoch i roi gwybod i’r Pwyllgor bod y Comisiwn yn cyflwyno cyllideb atodol fel rhan o gyflwyniad Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2012.
Y newid rydym yn ei geisio yw dychweliad y gyllideb sy’n weddill ar ôl yr etholiad. Darparodd cyllideb 2011-12 ar gyfer cyllid ar wahân er mwyn ymateb i natur unigol costau’r etholiad. Y cyllid a gytunwyd arno oedd £3.460m ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a £0.655m ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad. Cafodd y gyllideb hon ei hamcangyfrif ar y sail bod 30 o Aelodau ddim yn dychwelyd i’r Cynulliad, tra’r ffigur go iawn oedd 23, gan arwain at lai o alw am grantiau ailsefydlu, lwfansau dirwyn i ben a thaliadau diswyddo, yn ogystal â chostau cychwynnol ar gyfer Aelodau newydd.
Amlinellodd y gyllideb y byddai’r Comisiwn yn ceisio dychwelyd unrhyw arian dros ben i floc Cymru drwy gyfrwng cyllideb atodol. Ar ôl i’r Comisiynwyr gytuno ar hyn, rydym yn cynnig dychwelyd £1.8m o gyfanswm cyllid Aelodau’r Cynulliad ar gyfer yr etholiad, sef £3.460m. Cyfanswm y gost a hawliwyd gan Aelodau’r Cynulliad oedd tua £1.6m. Yn ogystal â chael llai o Aelodau newydd na’r amcangyfrif, ni hawliodd yr Aelodau a ymddiswyddodd neu na chafodd eu hail-ethol gymaint o gostau ag yr amcangyfrifwyd yn y gyllideb.
Mae’r newid hwn i’r gyllideb yn effeithio ar dablau 1 a 4 yn ogystal ag Atodiad 1 ac Atodiad C i gyllideb 2011-12. Rwyf wedi cynnwys y tablau wedi’u hailddatgan er hwylustod. Rwy’n cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud i gyllideb y Comisiwn.
Os hoffech gyfarfod i drafod unrhyw agwedd ar y newid hwn i’r gyllideb, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Yn gywir

Claire Clancy
Prif Weithredwr a Chlerc/Chief Executive and Clerk
Cynulliad Cenedlaethol Cymru/National Assembly for Wales
cc Angela Burns AC, Comisiynydd y Cynulliad dros Adnoddau
Tabl 1: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2011-12
|
|
£000 |
|
Adnoddau nad ydynt yn adnoddau cronnus i’w defnyddio gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer costau refeniw a chyfalaf yn gysylltiedig â gweinyddu a gweithredu Gwasanaethau’r Cynulliad i gefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”); hyrwyddo’r Cynulliad gan gynnwys taliadau i’r Comisiwn Etholiadol ac eraill; taliadau’n ymwneud â’r Comisiynydd Safonau a’r Bwrdd Taliadau; unrhyw daliadau eraill yn ymwneud â swyddogaethau’r Cynulliad neu swyddogaethau Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. |
32,328 |
|
Adnoddau nad ydynt yn adnoddau cronnus i’w defnyddio gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â phenderfyniadau’r Bwrdd Taliadau. |
14,694 |
|
Gwariant a Reolir yn Flynyddol i’w ddefnyddio gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â darpariaeth Pensiwn Aelodau’r Cynulliad. |
500 |
|
Adnoddau cronnus i’w cadw’n unol ag adran 120(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac i’w defnyddio gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru: · drwy waredu asedau sefydlog ac incwm cyfalaf arall i’w defnyddio i brynu neu i gaffael asedau sefydlog; neu · incwm rhent; anrhegion; cymorth grant; ailgodi tâl ac incwm a geir drwy werthu eiddo masnachol a drwy ddarparu gwasanaethau eraill i’r cyhoedd neu eraill ac i’w defnyddio i dalu am gostau gweinyddu’r Cynulliad. |
260 |
|
Y swm i’w dderbyn gan Gronfa Gyfunol Cymru i dalu’r symiau y disgwylir y bydd angen eu talu yn ystod y flwyddyn am y gwasanaethau a’r dibenion uchod llai’r derbyniadau y disgwylir y gellir eu cadw a’r TAW y disgwylir y gellir ei adennill. |
44,918 |
|
Tabl 4 – Y gyllideb ddangosol |
£000 |
||||
|
|
2010-11 |
2011-12 |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
|
Aelodau’r Cynulliad |
13,380 |
13,034* |
13,041 |
13,126 |
13,130 |
|
% y toriadau yn y gyllideb mewn termau real |
4.4% |
2.2% |
1.9% |
2.5% |
|
|
Yn cyfateb i ostyngiad o |
600 |
293 |
254 |
337 |
|
|
Costau untro’r etholiad |
1,660 |
|
|
|
|
|
Cyfanswm Cyllideb DEL |
13,380 |
14,694 |
13,041 |
13,126 |
13,130 |
|
Cyllideb AME |
500 |
500 |
500 |
500 |
500 |
|
* Roedd cyllideb 2010-11, mewn cymhariaeth, yn amcangyfrif swm o £13.923m ar gyfer 2011-12.
|
|||||
Atodiad 1 - Cyllideb Aelodau’r Cynulliad 2011-12
Dadansoddiad yn ôl natur y gwariant a’r incwm
|
|
£000 |
£000 |
|
|
2011-12 |
2010-11 |
|
Gwariant refeniw |
|
|
|
Costau’n gysylltiedig â chyflogau’r Aelodau |
Y Bwrdd Taliadau i gadarnhau
|
5,406 |
|
Costau’n gysylltiedig â chyflogau staff cymorth |
6,222 |
|
|
Llogi ceir gan ACau |
50 |
|
|
Costau’r Aelodau sy’n teithio yn eu ceir eu hunain |
160 |
|
|
Costau Teithio a Chynhaliaeth yr Aelodau yn y DU |
81 |
|
|
Costau Teithio a Chynhaliaeth yr Aelodau dramor |
61 |
|
|
Costau teithio teuluoedd yr Aelodau |
9 |
|
|
Costau Teithio a Chynhaliaeth staff cymorth |
24 |
|
|
Lwfans Costau Swyddfa’r Aelodau |
850 |
|
|
Lwfans Costau Ychwanegol yr Aelodau |
484 |
|
|
Teithio a Chynhaliaeth y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd |
6 |
|
|
Treuliau Comisiynwyr y Cynulliad |
1 |
|
|
Comisiynydd Safonau (cyllideb 2010-11 yn unig) |
- |
26 |
|
GWARIANT REFENIW NET |
13,034[1] |
13,380 |
|
Gwariant Cyfalaf |
- |
- |
|
GWARIANT CYFALAF NET |
- |
- |
|
Costau’r etholiad |
|
- |
|
|
|
|
|
Cyfanswm y gofyniad adnoddau |
|
13,380 |
|
|
|
|
|
Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) |
|
|
|
Darpariaeth Pensiwn Aelodau’r Cynulliad |
500 |
500 |
Atodiad C – Cysoni’r gofyniad adnoddau net â’r gofyniad arian parod net gan Gronfa Gyfunol Cymru
|
|
|
|
£000 |
|
|
2011-12 |
2012-13 |
2013-14 |
|
Gofyniad refeniw net yr Aelodau |
|
13,041 |
13,126 |
|
Gofyniad Refeniw Net y Comisiwn1 |
31,212 |
30,938 |
31,145 |
|
Gofyniad Cyfalaf Net |
1,116 |
750 |
750 |
|
Darpariaeth Pensiwn Aelodau’r Cynulliad |
500 |
500 |
500 |
|
Addasiadau: |
|
|
|
|
Dibrisiant |
(3,254) |
(3,300) |
(3,300) |
|
Amhariad |
- |
- |
- |
|
Symudiadau mewn darpariaethau |
(500) |
(500) |
(500) |
|
Elw/colled ar ôl gwerthu asedau |
- |
- |
- |
|
Symudiadau mewn stociau |
- |
- |
- |
|
Symudiadau mewn dyledwyr a chredydwyr |
1,150 |
- |
- |
|
Darpariaethau |
- |
- |
- |
|
Arall |
- |
- |
- |
|
|
|
|
|
|
Gofyniad arian parod net gan Gronfa Gyfunol Cymru |
|
41,429 |
41,721 |
1 Yn rhagdybio Incwm Cronnus o £0.260 miliwn o flwyddyn i flwyddyn