Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar  18 Tachwedd 2011 o dan adrannau 20(2) a 26(2) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

Y GEMAU OLYMPAIDD A’r GEMAU PARALYMPAIDD, CYMRU

Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoli gweithgaredd hysbysebu a gweithgaredd masnachu yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ac o’i amgylch (y “parth digwyddiadau”) yn ystod y cyfnodau pan fydd  digwyddiadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn cael eu cynnal (“cyfnod digwyddiad”).

Mae’r Rheoliadau wedi eu gwneud o dan adrannau 19, 20(1), 22(8), 25, 26(1) a 28(6) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 (“y Ddeddf”). Mae adran 21(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn dramgwydd torri rheoliadau hysbysebu sydd wedi eu gwneud o dan adran 19 o’r Ddeddf honno, ac mae adran 27 o’r Ddeddf yn darparu ei bod yn dramgwydd torri rheoliadau masnachu sydd wedi eu gwneud o dan adran 25 o’r Ddeddf honno.

Darpariaethau cyffredinol sydd yn Rhan 1 o'r Rheoliadau.

Mae un parth digwyddiadau yng Nghymru, sef parth Stadiwm y Mileniwm, a ddiffinnir yn rheoliad 3 drwy gyfeirio at y map sydd ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.  Mae rheoliad 3 hefyd yn diffinio cyfnod digwyddiad.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau manwl sy’n ymwneud â gweithgaredd hysbysebu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

Mae rheoliad 5(1) yn diffinio “gweithgaredd hysbysebu” i olygu arddangos hysbyseb neu ddosbarthu neu ddarparu deunydd hyrwyddo. Mae “hysbyseb”, “arddangos hysbyseb” a “deunydd hyrwyddo” wedi eu diffinio yn yr un rheoliad. Mae darpariaeth benodol wedi ei gwneud yn rheoliad 5(3) ar gyfer hysbysebion sy’n cael eu harddangos ar ffonau symudol a dyfeisiau tebyg eraill.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwaharddiad ar hysbysebu ac yn pennu pobl sydd i’w trin fel rhai sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer ymhel â gweithgaredd hysbysebu.

O dan adran 21(2) o’r Ddeddf, mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan adran 21(1) o’r Ddeddf os yw'n profi bod y toriad wedi digwydd heb iddo wybod hynny neu er gwaethaf y ffaith ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i'w atal rhag digwydd neu (pan ddaeth yn ymwybodol ohono ar ôl iddo gychwyn) rhag parhau.

Yn ychwanegol at yr amddiffyniad hwn, mae rheoliadau 7 i 10 yn pennu eithriadau i’r gwaharddiad ar hysbysebu.

Mae’r eithriadau yn rheoliad 9 wedi eu gwneud ar lun darpariaethau yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (“Rheoliadau 1992”). 

Yn ogystal â’r eithriadau a bennir yn rheoliadau 7 i 10, mae rheoliad 11 yn darparu na fydd y gwaharddiad ar hysbysebu’n gymwys i weithgaredd hysbysebu yr ymgymerir â hwy neu a reolir gan y “London Organising Committee of the Olympic Games and Paralympic Games Limited” (“LOCOG”), neu berson a awdurdodir gan LOCOG.

Mae hawl LOCOG i ymhel â gweithgaredd hysbysebu ac unrhyw awdurdodiad a roddir ganddo yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir yn rheoliad 11(4), gan gynnwys bod yr hysbysebwr yn dal trwydded y mae'n ofynnol ei chael, yn ychwanegol at awdurdodiad o dan reoliad 11, cyn y caiff y person hwnnw ymhel â gweithgaredd hysbysebu (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol). 

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau manwl sy’n ymwneud â gweithgaredd masnachu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

Mae rheoliad 12 yn diffinio “gweithgaredd masnachu” i olygu cyflawni un neu fwy o'r gweithgareddau a bennir yn y rheoliad hwnnw mewn man cyhoeddus agored. 

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer gwaharddiad ar fasnachu ac yn  pennu pobl sydd i’w trin fel rhai sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer ymhel â gweithgaredd masnachu.

Mae rheoliad 14 yn pennu eithriadau i'r gwaharddiad ar hysbysebu.

Yn ychwanegol at yr eithriadau a bennir yn rheoliad 14, mae rheoliad 15 yn darparu na fydd y gwaharddiad ar fasnachu yn gymwys i weithgaredd masnachu yr ymgymerir ag ef yn unol ag awdurdodiad a roddwyd gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd (“ODA”) neu berson y mae swyddogaeth rhoi awdurdodiadau wedi ei dirprwyo iddo gan ODA. 

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth i berson sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad ac sy'n anfodlon ar benderfyniad yr awdurdodwr, ofyn i ODA adolygu'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer iawndal i berson y mae ei eiddo wedi ei ddifrodi yn ystod arfer neu arfer honedig o bŵer gorfodi o dan adran 22 neu 28 o Ddeddf 2006. 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Tachwedd 2011 o dan adrannau 20(2) a 26(2) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

Y GEMAU OLYMPAIDD A'R GEMAU PARALYMPAIDD, CYMRU

Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 19, 20(1), 22(8), 25, 26(1) a 28(6) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol â'r gofynion a nodir yn adrannau 20(3) a 26(3) ac wedi rhoi sylw i'r materion y cyfeirir atynt yn adrannau 19(2) a 25(2) o'r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 20(2) a 26(2) o'r Ddeddf honno([3]).

RHAN  1

Cyflwyniad

Enwi, cychwyn, dirwyn i ben a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012.

(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Mae eu heffaith yn peidio ar ddiwedd 14 Awst 2012.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cymhwyso i’r Goron

2.(1)(1) Mae'r darpariaethau canlynol yn rhwymo'r Goron—

(a)     rheoliadau 5 i 11, a

(b)     rheoliadau 3, 4, 16 a 17 i’r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd hysbysebu.

(2) Ond nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n gwneud y Goron yn atebol am dramgwydd.

Dehongli'n Gyffredinol

3. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adeilad” (“building”) yw adeilad parhaol ond nid yw'n cynnwys caban ffôn;

ystyr “caban ffôn” (“telephone kiosk”) yw unrhyw gaban, bwth, cwfl acwstig, cysgodfa neu adeiledd tebyg a godir neu a osodir er mwyn amgáu neu gynnal cyfarpar cyfathrebu electronig a hwnnw'n fan lle y mae gwasanaeth cyfathrebu electronig wedi ei ddarparu (neu lle y mae i'w ddarparu) gan weithredwr cod cyfathrebu electronig;

ystyr “cyfnod digwyddiad” (“event period”) yw pob un o'r cyfnodau a ganlyn—

(a)     y cyfnod sy'n dechrau am 00:01 ar 24 Gorffennaf 2012 ac sy'n dod i ben am 23:59 ar 28 Gorffennaf 2012,

(b)     y cyfnod sy'n dechrau am 00:01 ar 30 Gorffennaf 2012 ac sy'n dod i ben am 23:59 ar 4 Awst 2012, ac

(c)     y cyfnod sy'n dechrau am 00:01 ar 9 Awst 2012 ac sy'n dod i ben am 23:59 ar 10 Awst 2012;

ystyr “daliedydd” (“receptacle”) yw unrhyw beth sy'n cael ei ddefnyddio (p'un a yw wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu at ddefnydd o'r fath) fel cynhwysydd i unrhyw eitem neu i arddangos unrhyw eitem, gan gynnwys—

(a)     unrhyw gerbyd, trelar neu ferfa, neu

(b)     unrhyw fasged, bag, blwch, llestr, stondin, stand, îsl, bwrdd, neu hambwrdd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006;

mae “eitem” (“article”) yn cynnwys peth byw;

nid yw “papur newydd neu gyfnodolyn” (“newspaper or periodical”) yn cynnwys papur newydd neu gyfnodolyn sydd wedi ei fwriadu'n benodol i hysbysebu un neu fwy o'r canlynol o fewn parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad—

(a)     nwyddau neu wasanaethau,

(b)     person sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau;

ystyr “parth digwyddiadau” (“event zone”) yw parth Stadiwm y Mileniwm, sef yr ardal y mae llinell werdd ddotiog yn ffin allanol iddi, gan gynnwys y gofod awyr uwchben yr ardal honno, a ddangosir ar y map sydd wedi ei lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru, sy’n dwyn
enw’r parth digwyddiadau, enw’r Rheoliadau hyn, a’r dyddiad Medi 2011, ac y mae printiau ohono wedi eu hadneuo ac ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac yn swyddfeydd Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW, ac yn Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3ND;

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992([4]); ac

mae “trwydded” (“licence”) yn cynnwys unrhyw fath o gydsyniad, tystysgrif, caniatâd neu awdurdod (drwy ba enw bynnag) a roddir gan dirfeddiannwr, awdurdod lleol neu berson arall yn unol ag unrhyw ddeddfiad, Siarter neu ddogfen arall.

Yr effaith ar ddeddfwriaeth arall etc.

4. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn—

(a)     sy'n awdurdodi person i wneud unrhyw beth sydd wedi ei wahardd (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol) drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad neu reol o'r gyfraith, na

(b)     yn effeithio ar ofyniad mewn unrhyw ddeddfiad neu reol o'r gyfraith bod person yn dal trwydded cyn ymhel â gweithgaredd y mae’n ofynnol cael y drwydded honno’n ar ei gyfer (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol).

RHAN  2

Gweithgaredd Hysbysebu

Dehongli'r Rhan hon

5.(1)(1) Yn y Rhan hon—

mae “arddangos hysbyseb” (“displaying an advertisement”) yn cynnwys (heb leihau effaith yr ymadrodd hwnnw’n gyffredinol)—

(a)     taflunio, allyrru neu sgrinio hysbyseb neu ei rhoi ar ddangos,

(b)     cario neu ddal hysbyseb neu gyfarpar a ddefnyddir i arddangos hysbyseb,

(c)     darparu bod—

                           (i)    hysbyseb yn cael ei harddangos ar anifail, neu

                         (ii)    cyfarpar a ddefnyddir i arddangos hysbyseb yn cael ei gario neu ei ddal gan anifail,

(ch)  gwneud un neu fwy o'r canlynol fel rhan o ymgyrch marchnata rhagod—

                           (i)    cario neu ddal eiddo personol y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno,

                         (ii)    gwisgo gwisg hysbysebu,

                       (iii)    arddangos hysbyseb ar gorff unigolyn;

ystyr “corff di-elw” (“not-for-profit body”) yw corff sydd, yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad—

(a)     yn un y mae’n ofynnol iddo (ar ôl talu alldaliadau) ddefnyddio'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus, a

(b)     wedi ei wahardd rhag dosbarthu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ymhlith ei aelodau unrhyw ran o'i asedau (ac eithrio at ddibenion elusennol neu gyhoeddus);

ystyr “deunydd hyrwyddo” (“promotional material”) yw dogfen neu eitem a ddosberthir neu a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo;

ystyr “gweithgaredd hysbysebu” (“advertising activity”) yw—

(a)     arddangos hysbyseb, neu

(b)     dosbarthu neu ddarparu deunydd hyrwyddo;

ystyr “gwisg hysbysebu” (“advertising attire”) yw—

(a)     trwsiad sy'n hysbyseb, neu

(b)     dilledyn y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno; 

ystyr “hysbyseb” (“advertisement”) yw unrhyw air, llythyren, delwedd, marc, sain, golau, model, arwydd, hysbyslen, bwrdd, hysbysiad, sgrîn, cysgodlen, bleind, baner, dyfais, trwsiad neu ddarluniad, p'un a yw'n oleuedig ai peidio, sydd o ran ei natur yn hyrwyddo, yn hysbysebu, yn cyhoeddi neu'n cyfarwyddo ac yn cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio’n gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn gwneud hynny;

ystyr “hysbysebwr” (“advertiser”) yw person sy'n ymhel â gweithgaredd hysbysebu; ac

ystyr “ymgyrch marchnata rhagod” (“ambush marketing campaign”) yw ymgyrch (p'un a yw'n un weithred neu'n gyfres o weithredoedd) sydd wedi ei bwriadu'n benodol i hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo un neu fwy o'r canlynol o fewn parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad—

(a)     nwyddau neu wasanaethau,

(b)     person sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau.

(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson sy’n ymhel â gweithgaredd hysbysebu i’w drin fel cyfeiriad sy’n cynnwys person y mae rheoliad 6(2) yn gymwys iddo.

(3) Nid yw gweithgaredd hysbysebu sy'n cynnwys arddangos hysbyseb ar ddyfais gyfathrebu bersonol  i'w drin fel gweithgaredd hysbysebu at ddibenion y Rhan hon onid yw'r hysbysebwr yn bwriadu bod yr hysbyseb yn cael ei harddangos, drwy gyfrwng y ddyfais, i'r cyhoedd yn gyffredinol (yn hytrach na'i harddangos i neb ond yr unigolyn sy’n defnyddio'r ddyfais).

(4) Ym mharagraff (3), ystyr “dyfais gyfathrebu bersonol” (“personal communication device”) yw ffôn symudol neu ddyfais gyfathrebu ryngweithiol bersonol arall.

Rheoli gweithgaredd hysbysebu

6.(1)(1)Rhaid i berson beidio ag ymhel â gweithgaredd hysbysebu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

(2) Mae person i'w drin fel un sy'n mynd yn groes i baragraff (1) os yw’n trefnu (ar unrhyw bryd ac mewn unrhyw le) i weithgaredd hysbysebu gael ei gynnal yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

(3) Mae person i'w drin hefyd fel un sy'n mynd yn groes i baragraff (1) os yw gweithgaredd hysbysebu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad—

(a)     yn ymwneud â nwyddau, gwasanaethau, busnes neu gonsýrn arall y mae ganddo fuddiant ynddo neu y mae'n gyfrifol amdano, neu

(b)     yn cael ei gynnal ar dir, mangre neu eiddo arall y mae'n berchen arno neu arni neu y mae'n ei feddiannu neu’n ei meddiannu neu y mae ganddo gyfrifoldeb dros ei reoli neu ei rheoli.

(4) Heb leihau effaith paragraff (3) yn gyffredinol—

(a)     mae person i'w drin fel un sydd â buddiant mewn busnes neu gonsýrn arall, neu gyfrifoldeb dros y naill neu'r llall, os yw'n swyddog i'r busnes neu'r consýrn hwnnw,

(b)     mae person i'w drin fel un sydd â buddiant   mewn nwyddau neu wasanaethau, neu gyfrifoldeb dros y naill neu'r llall, os yw'n swyddog i fusnes neu gonsýrn arall sydd â buddiant yn y nwyddau neu'r gwasanaethau, neu sy’n gyfrifol am y nwyddau neu'r gwasanaethau hynny, ac

(c)     mae person i'w drin fel un sydd â chyfrifoldeb dros reoli tir, mangre neu eiddo arall os yw'n swyddog i fusnes neu gonsýrn arall sy'n berchen ar y tir, y fangre neu'r eiddo arall, yn ei feddiannu neu'n ei meddiannu neu sydd â chyfrifoldeb dros ei reoli neu ei rheoli.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “swyddog” (“an officer”) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg.

(6) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gweithgaredd hysbysebu p'un a yw'n cynnwys canlyniad neu barhad gweithgaredd a gyflawnwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Eithriad ar gyfer gwrthdystiadau, etc.

7.(1)(1) Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i weithgaredd hysbysebu sydd wedi ei fwriadu—

(a)     i ddangos cefnogaeth neu wrthwynebiad i ddaliadau neu weithredoedd unrhyw berson neu gorff o bersonau,

(b)     i roi cyhoeddusrwydd i gred, achos neu ymgyrch, neu

(c)     i gofnodi neu goffáu digwyddiad.

(2) Ond nid yw'r eithriad hwn yn gymwys i weithgaredd hysbysebu sy'n hyrwyddo neu'n hysbysebu—

(a)     nwyddau neu wasanaethau, neu

(b)     person neu gorff (ac eithrio corff di-elw) sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau.

Eithriad ar gyfer unigolion sy'n gwisgo gwisg hysbysebu, yn arddangos hysbysebion ar eu cyrff, neu'n cario eiddo personol

8.(1)(1) Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i unigolion sy'n ymhel â gweithgaredd hysbysebu yn unig drwy wneud un neu fwy o'r canlynol, oni bai eu bod yn gwybod neu fod ganddynt le rhesymol i gredu eu bod yn cymryd rhan mewn ymgyrch marchnata rhagod—

(a)     gwisgo gwisg hysbysebu,

(b)     arddangos hysbyseb ar gorff yr unigolyn,

(c)     cario neu ddal eiddo personol y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno.

(2) Nid yw'r ffaith bod yr eithriad hwn yn gymwys i unigolion yn effeithio ar gymhwyso rheoliad 6 i unrhyw berson arall (p'un ai mewn cysylltiad â'r un gweithgaredd hysbysebu neu fel arall).

Eithriadau ar lun Rheoliadau 1992

9.(1)(1) Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i weithgaredd hysbysebu sy'n cynnwys arddangos hysbyseb—

(a)     o fewn Dosbarth a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 i Reoliadau 1992 cyhyd â bod yr arddangosiad neu'r hysbyseb yn cydymffurfio â'r amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2) o'r Rheoliadau hynny,

(b)     o fewn Dosbarth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992 yn ddarostyngedig i'r amodau a'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6(1)(a) a (b) o'r Rheoliadau hynny, neu

(c)     sy’n hysbyseb oleuedig ar fangre busnes—

                           (i)     y rhoddwyd iddi gydsyniad pendant o fewn ystyr “express consent” a nodir yn rheoliad 5(1) o Reoliadau 1992 cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, a

                         (ii)     sy’n cydymffurfio â’r amodau a’r cyfyngiadau a bennir ym mharagraffau (2) i (11) o Ddosbarth 4B yn Rhan 1 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992.

(2) Ond nid yw'r eithriad hwn yn gymwys i arddangos hysbyseb—

(a)     o fewn Dosbarth A (hysbysebion ar falŵns),

(b)     o fewn Dosbarth B (hysbysebion a arddangosir ar dir caeëdig) pan fo’r tir caeëdig y mae'r hysbyseb wedi ei harddangos arno—

                           (i)    yn orsaf reilffordd (a'i iardiau) neu’n orsaf fysiau (ynghyd â'i blaengwrt, p'un a yw wedi ei amgáu ai peidio), neu

                         (ii)    yn dir caeëdig (gan gynnwys stadiwm chwaraeon neu adeilad arall) y mae Digwyddiad Olympaidd Llundain(1) yn cael ei gynnal neu i'w gynnal arno neu ynddo,

(c)     o fewn Dosbarth D (hysbysebion a ymgorfforir yn adeiladwaith adeiladau) nad oedd yn bodoli ar y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym,

(ch)  o fewn Dosbarth J (hysbysebion a arddangosir y tu mewn i adeiladau), ac eithrio hysbysiad busnes esempt, pan fo’r adeilad y mae'r hysbyseb wedi ei harddangos ynddo—

                           (i)    yn rhan neu'n ffurfio rhan o orsaf reilffordd neu orsaf fysiau, neu

                         (ii)    yn stadiwm chwaraeon neu’n adeilad arall y mae Digwyddiad Olympaidd Llundain yn cael ei gynnal neu i'w gynnal ynddo,

(d)     o fewn Dosbarth 1B (hysbysebion a arddangosir gan awdurdodau cynllunio lleol)—

                           (i)    nad yw wedi ei harddangos yn gyfan gwbl er mwyn cyhoeddi neu gyfarwyddo mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod cynllunio lleol y mae wedi ei harddangos drwyddo, a

                         (ii)    nad yw'n rhesymol ofynnol iddi gael ei harddangos i gyflawni'r swyddogaethau hynny'n ddiogel neu’n effeithlon,

(dd)  o fewn Dosbarth 3D (hysbysebion sy'n cyhoeddi digwyddiadau a gweithgareddau lleol) sy’n hyrwyddo neu'n hysbysebu—

                           (i)    nwyddau neu wasanaethau, neu

                         (ii)    person neu gorff (ac eithrio corff di-elw) sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau,

(e)     o fewn Dosbarth 3F (hysbysebion sy'n ymwneud â syrcasau teithiol, ffeiriau neu adloniannau teithiol tebyg),

(f)      o fewn Dosbarth 7B (baneri ar safleoedd datblygu preswyl) nad yw'n ymwneud â'r datblygiad nac â pherson sy'n cyflawni'r datblygiad neu agwedd ar y datblygiad,

(ff) o fewn Dosbarth 8 (hysbysebion ar hysbysfyrddau),

(g)     o fewn Dosbarth 9 (hysbysebion ar adeileddau priffordd),

 (ng) o fewn Dosbarth 12 (hysbysebion a arddangosir y tu mewn i adeiladau), ac eithrio hysbyseb busnes esempt, pan fo’r adeilad y mae'r hysbyseb wedi ei harddangos ynddo—

                           (i)    yn rhan neu'n ffurfio rhan o orsaf reilffordd neu orsaf fysiau, neu

                         (ii)    yn stadiwm chwaraeon neu'n adeilad arall y mae Digwyddiad Olympaidd Llundain yn cael ei gynnal neu i'w gynnal ynddo,

(h)     o fewn Dosbarth 13 (hysbysebion ar safleoedd a ddefnyddir i arddangos hysbysebion heb gydsyniad pendant),

(i)      o fewn Dosbarth 14 (hysbysebion a arddangosir ar ôl i gydsyniad pendant ddirwyn i ben).

(3) Yn y rheoliad hwn—

(a)     ystyr “hysbysiad busnes esempt” (“exempt business advertisement”) yw hysbyseb (p'un ai'n oleuedig ai peidio) a arddangosir ar fangre busnes y tu mewn i adeilad (neu flaengwrt sy'n gysylltiedig â mangre o'r fath) sy'n cyfeirio'n gyfan gwbl at unrhyw rai neu'r cyfan o'r canlynol: y busnes sy'n cael ei redeg, y nwyddau neu'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu neu enw neu gymwysterau'r person sy'n rhedeg y busnes, neu'n darparu'r nwyddau neu'r gwasanaethau, ar y fangre honno,

(b)     mae cyfeiriad at “Dosbarth” (“Class”)  hysbyseb yn gyfeiriad at Ddosbarth cyfatebol hysbyseb yn Atodlen 2 neu (yn ôl fel y digwydd) 3 i Reoliadau 1992, ac

(c)     mae i “mangre busnes” a “blaengwrt” yr un ystyr â “business premises” a “forecourt” yn Atodlen 3 i Reoliadau 1992([5]).

(4) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)     mae Rhan 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992 yn gymwys i ddehongli'r Atodlen honno,

(b)     mae cyfeiriad at adeilad yn Atodlen 2 neu 3 i Reoliadau 1992 i'w ddehongli'n unol â'r diffiniad o adeilad yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn,

(c)     mae cyfeiriad at arddangos hysbyseb (sut bynnag y mae wedi ei eirio) yn Atodlen 2 neu 3 i Reoliadau 1992 i’w ddehongli’n unol â’r diffiniad yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn, ac

(ch) mae cyfeiriad at gerbyd yn Atodlen 2 i Reoliadau 1992 yn cynnwys beic.

Eithriadau eraill

10.(1)(1) Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i'r gweithgaredd hysbysebu a ganlyn—

(a)     arddangos hysbyseb sy'n cael ei defnyddio'n gyfan gwbl fel—

                           (i)    cofeb, neu

                         (ii)    signal rheilffordd,

(b)     dosbarthu neu ddarparu papur newydd neu gyfnodolyn cyfredol, naill heb ddaliedydd neu o ddaliedydd nad yw'n achosi ymyrraeth ormodol neu anghyfleustra gormodol i bersonau sy'n defnyddio'r stryd,

(c)     gweithgaredd hysbysebu yr ymgymerir ag ef yn unol ag amod sydd ynghlwm wrth awdurdodiad a roddwyd o dan reoliad 15 (gweithgaredd masnachu a awdurdodir gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd etc.),

   (ch) arddangos hysbyseb ar awyren at un neu fwy o'r dibenion a ganlyn—

                           (i)    cydymffurfio â chyfraith y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall, sef y gyfraith sydd mewn grym mewn perthynas â'r awyren,

                         (ii)    sicrhau diogelwch yr awyren neu unrhyw berson neu eiddo ynddi,

                       (iii)    hyrwyddo, gan neu ar ran adran o'r Llywodraeth gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan berson sy'n gweithredu o dan unrhyw ddyletswydd gyhoeddus neu gan berson sy'n darparu cyfleusterau ambiwlans neu gyfleusterau achub drwy'r awyr, fesurau mewn cysylltiad ag amgylchiadau, sy'n bodoli neu ar ddyfod ar yr adeg y mae'r awyren yn cael ei defnyddio, ac a allai achosi perygl i bersonau neu eiddo,

                        (iv)    dibenion amddiffyn sifil, dibenion milwrol neu ddibenion heddlu,

(d)     arddangos marc neu arysgrif (ac eithrio arwydd goleuedig) ar gorff awyren neu hofrennydd, neu

(dd)  arddangos hysbyseb ar ddodrefnyn stryd ar yr amod—

                           (i)    bod yr hysbyseb heb ei oleuo,

                         (ii)    mai'r unig bethau y mae'r hysbyseb yn eu dwyn yw enw, manylion cyswllt a dyfais (neu unrhyw un neu fwy o'r pethau hynny) gweithgynhyrchydd, perchennog neu weithredwr y dodrefn stryd (neu unrhyw un neu fwy o'r personau hynny), a

                       (iii)    nad yw'r hysbyseb wedi ei harddangos fel rhan o ymgyrch marchnata rhagod.

Hysbysebu yr ymgymerir ag ef neu a awdurdodir gan Bwyllgor Trefnu Llundain

11.(1)(1) Nid yw rheoliad 6 yn gymwys i weithgaredd hysbysebu yr ymgymerir ag ef neu a reolir gan—

(a)     Pwyllgor Trefnu Llundain([6]), na

(b)     unrhyw berson a awdurdodir gan y Pwyllgor hwnnw  (p'un a yw'n ddarostyngedig i delerau ac amodau a osodwyd gan y Pwyllgor hwnnw ai peidio a ph’un a yw'n unol â chytundeb nawdd neu gytundeb masnachol arall gyda'r Pwyllgor hwnnw ai peidio).

(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae gan Bwyllgor Trefnu Llundain ddisgresiwn llwyr mewn cysylltiad â phob cais am awdurdodiad a gyflwynir iddo.

(3) Rhaid i Bwyllgor Trefnu Llundain roi sylw i ddarpariaethau Contract y Ddinas Groesawu([7]) cyn ymhel â gweithgaredd hysbysebu neu roi awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(4) Mae hawl Pwyllgor Trefnu Llundain i ymhel â gweithgaredd hysbysebu yn unol â'r rheoliad hwn ac unrhyw awdurdodiad a roddir ganddo yn ddarostyngedig i bob un o'r amodau a ganlyn—

(a)     bod yr hysbysebwr yn dal unrhyw drwydded y mae’n ofynnol ei chael, yn ychwanegol at awdurdodiad gan neu o dan y rheoliad hwn, cyn y caiff person ymhel â gweithgaredd hysbysebu (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol),

(b)     na chaiff unrhyw hysbyseb ei lleoli neu ei harddangos yn y fath fodd ag i—

                           (i)    peryglu personau sy'n defnyddio unrhyw briffordd, rheilffordd, neu ddyfrffordd,

                         (ii)    cuddio unrhyw arwydd traffig, signal rheilffordd neu gymorth mordwyo neu awyrlywio, neu atal yr arwydd, y signal neu'r cymorth hwnnw rhag cael ei ddehongli'n ddidrafferth, neu

                       (iii)    atal gweithrediad unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion diogelwch neu wyliadwriaeth neu i fesur cyflymder unrhyw gerbyd, ac

(c)     bod yr hysbysebwr yn cadw unrhyw hysbyseb mewn cyflwr na fydd—

                           (i)    yn amharu ar amwynder gweledol y safle, na

                         (ii)    yn gosod y cyhoedd mewn perygl.

RHAN  3

Gweithgaredd Masnachu

Dehongli'r Rhan hon

12.(1)(1) Yn y Rhan hon—

(a)     mae cyfeiriad at berson sy’n ymhel â gweithgaredd masnachu i’w drin fel cyfeiriad sy’n cynnwys person y mae rheoliad 13(2) yn gymwys iddo;

(b)     mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi ei eirio) at werthu eitem yn cynnwys rhoi eitem ar ddangos i'w gwerthu neu ei chynnig i'w gwerthu;

(c)     mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi ei eirio) at gyflenwi gwasanaeth yn cynnwys cynnig cyflenwi gwasanaeth;

 (ch) mae i “cerbyd modur” yr un ystyr â “motor vehicle” yn Neddf Traffig Ffyrdd 1988([8]);

(d)     ystyr “man cyhoeddus agored” (“open public place”) yw—

                           (i)    priffordd, neu

                         (ii)    man arall—

(aa)        y caiff y cyhoedd fynd iddo (p'un ai'n gyffredinol neu at ddibenion y gweithgaredd masnachu yn unig), a

(bb)       nad yw mewn adeilad ac eithrio un sydd wedi ei ddylunio neu'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i barcio ceir;

(dd)  ystyr “perfformiad drama” (“performance of a play”) yw perfformiad unrhyw ddarn o waith dramatig, p'un a yw'n cynnwys byrfyfyr ai peidio—

                           (i)    a hwnnw'n ddarn sy'n cael ei gyflawni'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan un neu fwy o bersonau sy'n bresennol mewn gwirionedd ac yn perfformio, a

                         (ii)    lle y mae'r cyfan neu ran sylweddol o'r hyn a wneir gan y person neu'r personau sy'n perfformio, p'un ai drwy gyfrwng lleferydd, canu neu weithred, yn cynnwys chwarae rôl;

(e)     ystyr “adloniant cyhoeddus” (“public entertainment”) yw adloniant o un neu fwy o'r disgrifiadau canlynol a ddarperir ar gyfer aelodau o'r cyhoedd—

                           (i)    perfformiad o gerddoriaeth fyw,

                         (ii)    unrhyw chwarae cerddoriaeth sydd wedi ei recordio,

                       (iii)    perfformiad dawns,

                        (iv)    perfformiad drama,

                          (v)    adloniant o ddisgrifiad tebyg i'r hyn sy'n dod o fewn paragraffau (i) i (iv);

(f)      mae “gwerthu eitem” (“selling an article”) yn cynnwys (heb leihau effaith y term hwnnw’n gyffredinol) fasnachu gan berson sy'n gweithredu fel pedler (p'un a yw o dan awdurdod tystysgrif pedler a roddwyd o dan adran 4 o Ddeddf Bedleriaid 1871(2)); ac

(ff) ystyr “gweithgaredd masnachu” (“trading activity”) yw cyflawni un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol mewn man cyhoeddus agored—

                           (i)    gwerthu eitem,

                         (ii)    cyflenwi gwasanaeth,

                       (iii)    gwneud apêl i aelodau o'r cyhoedd roi arian (drwy ba fodd bynnag) neu eiddo arall (neu'r ddau) at ddibenion elusennol neu ddibenion eraill (p'un a yw wedi ei awdurdodi gan neu o dan unrhyw ddeddfiad),

                        (iv)    darparu adloniant cyhoeddus er elw neu gydnabyddiaeth.

(2) Wrth ddyfarnu a yw gweithgaredd yn gyfystyr â gweithgaredd masnachu at ddibenion y Rhan hon, mae'r materion canlynol i'w diystyru—

(a)     y ffaith nad yw elw neu gydnabyddiaeth sy'n deillio o'r gweithgaredd yn dod yn eiddo i'r person sy'n cyflawni'r gweithgaredd mewn gwirionedd,

(b)     y ffaith nad yw'r naill barti na'r llall i drafodiad mewn man cyhoeddus agored lle y mae un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol yn digwydd—

                           (i)    cynnig eitem i'w gwerthu neu ei rhoi ar ddangos i'w gwerthu,

                         (ii)    cynnig i gyflenwi gwasanaeth,

                       (iii)    cwblhau'r trafodiad,

(c)     y ffaith nad yw trafodiad wedi ei gwblhau mewn man cyhoeddus agored, os yw un o'r gweithgareddau canlynol neu'r ddau ohonynt yn digwydd yn y man hwnnw—

                           (i)    cynnig eitem i'w gwerthu neu ei rhoi ar ddangos i'w gwerthu,

                         (ii)    cynnig i gyflenwi gwasanaeth,

(ch)  y ffaith bod eitem a werthwyd mewn gwirionedd neu wasanaeth a gyflenwyd mewn gwirionedd yn wahanol i'r hyn a gynigiwyd i'w gwerthu neu a roddwyd ar ddangos i'w gwerthu.

Rheoli masnachu

13.(1)(1) Rhaid i berson beidio ag ymhel â gweithgareddmasnachu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

(2) Mae person i'w drin fel un sy'n mynd yn groes i baragraff (1) os yw’n trefnu (ar unrhyw bryd ac mewn unrhyw le) i weithgaredd masnachu gael ei gynnal yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

(3) Mae person i'w drin hefyd fel un sy'n mynd yn groes i baragraff (1) os yw gweithgaredd masnachu yn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad—

(a)     yn un y mae busnes neu gonsýrn arall yn ymgymryd ag ef a hwnnw'n fusnes neu gonsýrn y mae ganddo fuddiant ynddo neu y mae'n gyfrifol amdano, neu

(b)     yn cael ei gynnal ar dir y mae'n berchen arno neu'n ei feddiannu neu y mae ganddo gyfrifoldeb dros ei reoli.

(4) Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys i berson sy'n profi—

(a)     bod y gweithgaredd masnachu wedi ei gynnal heb iddo wybod hynny, neu

(b)     bod y person hwnnw wedi cymryd pob cam rhesymol i atal y gweithgaredd masnachu rhag cael ei gynnal neu, pan fo wedi ei gynnal, i'w atal rhag parhau neu ailddigwydd.

(5) Heb leihau effaith paragraff (3) yn gyffredinol—

(a)     mae person i'w drin fel un sydd â buddiant mewn busnes neu gonsýrn arall, neu gyfrifoldeb dros y naill neu'r llall, os yw'n  swyddog i'r busnes neu'r consýrn hwnnw,

(b)     mae person i'w drin fel un sydd â chyfrifoldeb dros reoli tir os yw'n swyddog i fusnes neu  gonsýrn arall sy’n berchen ar y tir, sy’n ei feddiannu neu sydd â chyfrifoldeb dros reoli’r tir hwnnw.

(6) Ym mharagraff (5), ystyr “swyddog” (“an officer”) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg.

(7) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gweithgaredd masnachu p'un a yw'n cynnwys canlyniad neu barhad gweithgaredd a gyflawnwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ai peidio.

Eithriadau

14.(1)(1) Nid yw rheoliad 13 yn gymwys i'r gweithgaredd masnachu a ganlyn—

(a)     gwerthu papur newydd neu gyfnodolyn cyfredol, naill ai heb ddaliedydd neu o ddaliedydd nad yw'n achosi ymyrraeth ormodol neu anghyfleustra gormodol i bersonau sy'n defnyddio'r stryd,

(b)     gweithgaredd masnachu yr ymgymerir ag ef neu a reolir gan Bwyllgor Trefnu Llundain ar dir caeëdig y mae Digwyddiad Olympaidd Llundain yn cael ei gynnal neu i'w gynnal arno,

(c)     gwerthu neu draddodi eitem i berson mewn mangre sy'n cyffinio â phriffordd,

(ch)  gwerthu cerbyd modur ar dir preifat sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i werthu cerbydau modur,

(d)     cyflenwi gwasanaethau glanhau cerbydau modur ar dir preifat sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i  gyflenwi'r gwasanaethau hynny,

(dd)  cyflenwi gwasanaethau parcio cerbydau modur mewn adeilad neu ar dir arall sydd wedi ei ddylunio neu sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i barcio cerbydau modur,

(e)     darparu cyfleuster iechydol cyhoeddus,

(f)      darparu caban ffôn parhaol,

 (ff)  masnachu fel gweithredwr teithiau cerdded,

(g)     cyflenwi gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys gwasanaethau i dwristiaid, neu

 (ng) gweithgaredd masnachu ar dir preifat sy’n gyfagos â mangre fanwerthu esempt ar yr amod bod y gweithgaredd masnachu—

                           (i)    yn ffurfio rhan o fusnes arferol perchennog y fangre neu berson sydd wedi ei asesu ar gyfer ardreth fusnes unffurf mewn cysylltiad â'r fangre, a

                         (ii)    yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod y mae'r fangre ar agor i'r cyhoedd ar gyfer busnes.

(2) Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyfleuster iechydol” yr un ystyr â “sanitary convenience” yn Neddf Adeiladu 1984([9]);

ystyr “gwasanaethau i dwristiaid” (“tourist services”) yw gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus er budd twristiaid yn bennaf;

ystyr “gweithredwr teithiau cerdded” (“walking tour operator”) yw person sy'n cyflenwi gwasanaethau i'r cyhoedd sy'n cynnwys teithiau mewn ardal ar ddeudroed; ac

ystyr “mangre fanwerthu esempt” (“exempt retail premises”) yw adeilad a ddefnyddir fel rheol fel—

(a)     siop,

(b)     bwyty, bar, neu fangre arall a ddefnyddir i gyflenwi prydau bwyd,  lluniaeth neu alcohol i'r cyhoedd, neu

(c)     gorsaf betrol.

Gweithgaredd masnachu a awdurdodir gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd etc.

15.(1)(1) Nid yw rheoliad 13 yn gymwys i weithgaredd masnachu yr ymgymerir ag ef yn unol ag awdurdodiad a roddir gan yr Awdurdod([10]).

(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae gan yr Awdurdod ddisgresiwn llwyr mewn cysylltiad â phob cais am awdurdodiad.

(3) Rhaid i'r Awdurdod roi sylw i ddarpariaethau Contract y Ddinas Groesawu cyn rhoi awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.

(4) Mae awdurdodiad a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i'r amod bod rhaid i unrhyw berson sy'n ymhel â gweithgaredd masnachu gan ddibynnu ar yr awdurdodiad ddal unrhyw drwydded y mae’n ofynnol ei chael, yn ychwanegol at awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, cyn y caiff y person ymhel â gweithgaredd masnachu (p'un ai mewn man penodol neu'n gyffredinol).

(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Awdurdod” (“Authority”) yw—

(a)     Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd, neu

(b)     person y mae swyddogaeth rhoi awdurdodiadau at ddibenion y rheoliad hwn wedi ei dirprwyo iddo gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd.

RHAN  4

Hawliau adolygu

Dehongli'r Rhan hon

16. Yn y Rhan hon—

ystyr “awdurdodiad” (“authorisation”) yw awdurdodiad a roddir—

(a)     o dan reoliad 11(1)(b) mewn perthynas â gweithgaredd hysbysebu, neu

(b)     o dan reoliad 15 mewn perthynas â gweithgaredd masnachu;

ystyr “awdurdodwr” (“authoriser”)—

(a)     mewn perthynas â chais am awdurdodiad o dan reoliad 11(1)(b), yw Pwyllgor Trefnu Llundain, neu

(b)     mewn perthynas â chais am awdurdodiad o dan reoliad 15, yw’r Awdurdod (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw); ac

mae i “ceisydd” (“applicant”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 17(1).

Yr hawl i geisio adolygiad

17.(1)(1)Caiff person sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad(“ceisydd”) ac sy'n anfodlon ar benderfyniad yr awdurdodwr ofyn i Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd adolygu'r penderfyniad hwnnw.

(2) Rhaid bod cais o'r fath—

(a)     mewn ysgrifen,

(b)     yn cynnwys yr wybodaeth neu'r dystiolaeth honno y mae'r ceisydd yn barnu ei bod yn berthnasol neu rhaid bod gwybodaeth neu dystiolaeth o'r fath yn dod gyda'r cais, ac

(c)     yn cael ei wneud o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y mynegwyd penderfyniad yr awdurdodwr i'r ceisydd.

(3) Rhaid i Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd adolygu penderfyniad yr awdurdodwr o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad a gaiff gais o'r fath.

(4) Wrth adolygu penderfyniad yr awdurdodwr, caiff Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd—

(a)     cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol, neu

(b)     rhoi penderfyniad newydd yn lle'r penderfyniad gwreiddiol.

(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar yr adolygiad, rhaid i Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd yn rhoi gwybod iddo am benderfyniad yr Awdurdod a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(6) Mae penderfyniad Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd ar yr adolygiad yn derfynol.

RHAN  5

Iawndal

Dehongli'r Rhan hon

18.  Yn y Rhan hon—

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), mewn perthynas ag arfer neu arfer honedig o bŵer o dan adran 22 neu 28 o'r Ddeddf—

(a)     os oedd yr arfer neu'r arfer honedig o'r pŵer gan swyddog gorfodi, yw Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd, neu

(b)     os oedd yr arfer neu'r arfer honedig o'r pŵer gan gwnstabl, yw awdurdod heddlu yr heddlu y mae'r cwnstabl yn aelod ohono;

mae i “hawlydd” (“claimant”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 20(1);

mae i “hysbysiad am hawliad” (“notice of claim”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 20(1);

ystyr “hysbysiad penderfynu” (“decision notice”) yw hysbysiad a ddyroddwyd gan awdurdod perthnasol o dan reoliad 22(2)(b) neu (3); ac

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw person a ddynodwyd at ddibenion adran 22 neu 28 o'r Ddeddf (pwerau gorfodi) gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd.

Hawl i gael iawndal am ddifrod i eiddo

19.(1)(1) Mae gan berson y mae ei eiddo wedi ei ddifrodi yn ystod arfer neu arfer honedig o bŵer o dan adran 22 neu 28 o'r Ddeddf hawl i gael iawndal gan yr awdurdod perthnasol yn unol â'r Rhan hon.

(2) Ond nid oes gan berson sydd, yn ôl cred resymol yr awdurdod perthnasol, yn gyfrifol am dorri'r Rheoliadau hyn, hawl i gael iawndal.

(3) Swm yr iawndal sy'n daladwy yw cyfanswm—

(a)     cost trwsio'r eiddo er mwyn ei adfer i'w gyflwr blaenorol (neu, yn achos eiddo sy'n amhosibl, neu nad yw'n werth chweil yn fasnachol, ei drwsio, cost rhoi eiddo newydd yn ei le), a

(b)     unrhyw golled arall a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i’r difrod i'r eiddo.

Hysbysiad am hawliad

20.(1)(1)Caiff person sydd â hawl i gael iawndal o dan y Rhan hon (“hawlydd”) anfon hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad am hawliad”) i’r awdurdod perthnasol yn hawlio'r iawndal hwnnw.

(2) Rhaid i hysbysiad am hawliad gael ei anfon o fewn—

(a)     cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y digwyddodd y difrod, neu

(b)     unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno gan yr awdurdod perthnasol mewn ysgrifen.

(3) Rhaid i hysbysiad am hawliad gynnwys yr holl wybodaeth a thystiolaeth ganlynol neu rhaid iddynt ddod gyda'r hysbysiad hwnnw—

(a)     enw llawn yr hawlydd,

(b)     y dyddiad y digwyddodd y difrod,

(c)     y cyfeiriad neu'r man lle y digwyddodd y difrod,

(ch)  disgrifiad—

                           (i)    o'r eiddo a ddifrodwyd,

                         (ii)    o natur y difrod, a

                       (iii)    o natur unrhyw golled pellach a ddeilliodd yn uniongyrchol o'r difrod y mae iawndal yn cael ei hawlio amdano,

(d)     swm yr iawndal sy'n cael ei hawlio (yn unol â rheoliad 19(3)) a'r sail a ddefnyddir i gyfrifo swm yr iawndal, a

(dd)  ffotograffau, derbynebau, dyfynbrisiau neu dystiolaeth arall am y materion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (b) i (d).

Pwyso a mesur a yw'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gafwyd yn ddigonol

21.(1)(1) O fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn cael hysbysiad am hawliad, rhaid iddo ddyfarnu a yw wedi cael digon o wybodaeth a thystiolaeth i'w alluogi i benderfynu'r materion a ganlyn—

(a)     a oes gan yr hawlydd hawl i gael iawndal o dan y Rhan hon,

(b)     ac os oes, swm yr iawndal.

(2) Os yw'r awdurdod yn dyfarnu nad yw wedi cael digon o wybodaeth neu dystiolaeth, rhaid iddo anfon at yr hawlydd hysbysiad ysgrifenedig yn nodi'r wybodaeth neu'r dystiolaeth bellach y mae ei hangen ar yr awdurdod.

(3) Rhaid i'r hawlydd anfon i'r awdurdod yr wybodaeth neu'r dystiolaeth a nodir yn yr hysbysiad hwnnw o fewn—

(a)     cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y bydd yr hawlydd yn cael yr hysbysiad, neu

(b)     unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno gan yr awdurdod perthnasol mewn ysgrifen.

(4) O fewn cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y bydd yr awdurdod yn cael unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach ar ôl hysbysiad o’r fath, rhaid iddo wneud y dyfarniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) unwaith eto (a bydd paragraffau eraill y rheoliad hwn yn gymwys i'r dyfarniad newydd hwnnw).

Penderfyniad awdurdod ar hawliad

22.(1)(1) Os yw awdurdod perthnasol yn dyfarnu o dan reoliad 21 ei fod wedi cael digon o wybodaeth a thystiolaeth, rhaid iddo, o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad y dyfarniad hwnnw, benderfynu'r materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 21(1)(a) a (b).

(2) Os yw'r awdurdod yn penderfynu bod gan yr hawlydd hawl i gael iawndal, rhaid iddo

(a)     talu i'r hawlydd y swm iawndal a nodir yn yr hysbysiad am hawliad, neu

(b)     os yw'n penderfynu bod gan yr hawlydd hawl i gael swm iawndal llai, anfon hysbysiad mewn ysgrifen at yr hawlydd—

                           (i)    yn cynnig y swm llai hwnnw i'r hawlydd, a

                         (ii)    yn datgan y rhesymau dros ei benderfyniad.

(3) Os yw'r awdurdod yn penderfynu nad oes hawl gan yr hawlydd i gael iawndal, rhaid iddo anfon hysbysiad mewn ysgrifen at yr hawlydd—

                           (i)    yn gwrthod yr hawliad, a

                         (ii)    yn nodi'r rhesymau dros ei benderfyniad.

(4) Caiff hawlydd sy'n cael hysbysiad penderfynu sy'n cynnig swm iawndal sy'n llai na'r hyn a nodwyd yn yr hysbysiad am hawliad gytuno, mewn ysgrifen, i dderbyn y swm llai hwnnw (ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r awdurdod dalu'r swm hwnnw i'r hawlydd).

(5) Rhaid i hysbysiad penderfynu gynnwys manylion hawliau'r hawlydd—

(a)     i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad, o dan reoliad 23, a

(b)     i apelio yn erbyn penderfyniad ar adolygiad, o dan reoliad 24.

Adolygu penderfyniad ar hawliad

23.(1)(1) Caiff hawlydd sy'n cael hysbysiad penderfynu ofyn i'r awdurdod perthnasol adolygu ei benderfyniad.

(2) Rhaid bod cais o'r fath—

(a)     mewn ysgrifen,

(b)     yn cael ei wneud o fewn—

                           (i)    cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad penderfynu, neu

                         (ii)    unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno mewn ysgrifen gan yr awdurdod perthnasol, ac

(c)     yn cynnwys yr wybodaeth neu'r dystiolaeth honno y mae'r hawlydd yn barnu ei bod yn berthnasol neu rhaid bod gwybodaeth neu dystiolaeth o'r fath yn dod gyda'r cais.

(3) O fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y bydd awdurdod perthnasol yn cael cais o'r fath, rhaid iddo adolygu ei benderfyniad o dan reoliad 22.

(4) Wrth adolygu ei benderfyniad, caiff yr awdurdod—

(a)     cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol, neu

(b)     rhoi penderfyniad newydd yn lle'r penderfyniad gwreiddiol.

(5) Ond wrth adolygu ei benderfyniad, ni chaiff yr awdurdod roi swm iawndal llai yn lle'r hyn a nodwyd yn yr hysbysiad penderfynu.

(6) Rhaid i'r awdurdod anfon hysbysiad ysgrifenedig at yr hawlydd yn rhoi gwybod iddo am ei benderfyniad ar yr adolygiad a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(7) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (6) gynnwys manylion hawl yr hawlydd i apelio yn erbyn penderfyniad ar adolygiad  o dan reoliad 24.

Apelio i'r llys sirol

24.(1)(1) Caiff hawlydd sy'n anfodlon ar benderfyniad yr awdurdod perthnasol ar adolygiad o dan reoliad 23 apelio i'r llys sirol.

(2) Rhaid dwyn apêl o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd yr hawlydd hysbysiad ysgrifenedig am benderfyniad yr awdurdod ar adolygiad.

(3) Caiff y llys roi caniatâd i apêl gael ei dwyn ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, ond dim ond os yw wedi ei fodloni—

(a)     pan fo caniatâd yn cael ei geisio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da pam nad yw'r hawlydd yn gallu dwyn yr apêl mewn pryd, neu

(b)     pan fo caniatâd yn cael ei geisio ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da dros fethiant yr hawlydd i ddwyn yr apêl mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(4) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn fod ar ffurf ailwrandawiad a chaiff y llys wneud y cyfryw orchymyn yn cadarnhau, yn diddymu neu'n amrywio’r penderfyniad ag y gwêl yn dda.

 

 

 

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy,

un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2006 p.12. Cafodd adrannau 19, 20, 25 a 26 eu diwygio gan baragraff 6 o'r Atodlen i O.S. 2007/2129 a pharagraff 8 o'r Atodlen i O.S. 2010/1551.

([2])           Mae adran 41(4) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 yn darparu y bydd adrannau 19 i 30, wrth eu cymhwyso i bethau a wneir yng Nghymru, yn cael effaith fel petai cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 iddi.

([3])           Mae adrannau 20(2) a 26(2) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 yn darparu na chaniateir i reoliadau a wneir o dan adrannau 19 a 25 yn ôl eu trefn o'r Ddeddf honno gael eu gwneud oni fydd drafft o'r rheoliadau wedi ei osod gerbron dau dŷ'r Senedd a'i gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad. Mae adran 41(4) o'r Ddeddf honno'n darparu y bydd adrannau 19 i 30, wrth eu cymhwyso i bethau a wneir yng Nghymru, yn cael effaith fel petai cyfeiriad at benderfyniad y naill Dŷ Senedd a'r llall neu benderfyniad y naill neu'r llall yn gyfeiriad at benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

([4])           O.S. 1992/666, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/2351; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes unrhyw un ohonynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(1)           Mae'r term cyfatebol Saesneg, sef “London Olympic Event”, wedi ei ddiffinio yn adran 1(3)(b) o'r Ddeddf.

([5])           Gweler paragraff 1(1) o Ran 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992.

([6])           Mae'r term cyfatebol Saesneg, sef  “the London Organising Committee”, wedi ei ddiffinio yn adran 1(3)(d) o'r Ddeddf.  Ers pasio'r Ddeddf, mae “the London Organising Committee” wedi newid ei enw cofrestredig i  “The London Organising Committee of the Olympic Games and Paralympic Games Limited.”

([7])           Mae'r term Saesneg cyfatebol, sef “Host City Contract”, wedi ei ddiffinio yn adran 1(3)(e) o'r Ddeddf.

([8])           1988 p.  52. Gweler adran 185 o'r Ddeddf honno.

(2)           1871 p. 96. Diwygiwyd adran 4 gan adran 2 o Ddeddf Bedleriaid 1881 (p. 45), adran 31(5) a (6) o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (p. 45), ac adran 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48).

([9])           1984 p.  55. Gweler adran 126 o'r Ddeddf honno.

([10])         O dan adran 25(7) o'r Ddeddf, caniateir i awdurdodiad a roddir gan yr Awdurdod fod yn ddarostyngedig i delerau ac amodau.