CLA(4)-14-11

 

CLA61

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Rheoliadau drafft hyn, a wnaed o dan adrannau 19, 20, 22(8), 25, 26 a 28(6) o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006, yn rheoli gweithgaredd hysbysebu a masnachu o amgylch yr unig ganolfan ddigwyddiadau Olympaidd yng Nghymru, sef Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, yn ystod y cyfnodau pan fydd digwyddiadau Olympaidd yn cael eu cynnal yn y stadiwm. Bwriedir iddynt ategu Contract y Ddinas Groesawu y cytunodd llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ei gweithredu drwy rwystro marchnata rhagod. Mae’r Rheoliadau’n galluogi Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd (“yr Awdurdod”) a Phwyllgor Trefnu Llundain (“y Pwyllgor”) i benderfynu pa weithgaredd masnachu a gaiff ei gynnal a pha hysbysebion a gaiff eu harddangos mewn ‘parth digwyddiadau’ penodol o amgylch Stadiwm y Mileniwm, er bod y Rheoliadau’n cynnwys eithriadau er mwyn galluogi busnesau i barhau i hysbysebu a masnachu heb amharu’n ormodol arnynt.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn – ei fod yn

codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb

i’r Cynulliad.

 

Cefndir

 

Dyma’r tro cyntaf i’r pwerau yn Neddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 ar gyfer rheoleiddio gweithgareddau hysbysebu a masnachu yn yr ardal ger digwyddiadau’r gemau Olympaidd gael eu harfer yng Nghymru. Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn Lloegr a’r Alban.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cyd â Lloegr a’r Alban rhwng 7 Mawrth a 30 Mai 2011.

 

Cafwyd cyfanswm o 50 o ymatebion ac nid oedd yr un ohonynt yn berthnasol i Gymru yn uniongyrchol.

 

Materion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru sydd o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dim

 

Materion eraill

 

Dygwyd nifer o faterion eraill i sylw’r Pwyllgor mewn tystiolaeth ysgrifenedig.

 

Y diffiniad eang o ‘Marchnata Rhagod’

 

Caiff “hysbyseb” ac “ymgyrch marchnata rhagod” eu diffinio yn Rheoliad 5(1).

 

Ystyr hysbyseb yw unrhyw air, llythyren, delwedd (gan gynnwys logos ac unrhyw ddulliau eraill o frandio), marc, sain, golau, model, arwydd, hysbyslen, bwrdd, hysbysiad, sgrîn, cysgodlen, bleind, baner, dyfais, trwsiad neu ddarluniad, p'un a yw'n oleuedig ai peidio, sydd o ran ei natur yn hyrwyddo, yn hysbysebu, yn cyhoeddi neu'n cyfarwyddo ac yn cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio’n gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn gwneud hynny.

 

Mae’r Rheoliadau’n diffinio ymgyrch marchnata rhagod (p'un a yw'n un weithred neu'n gyfres o weithredoedd) fel ymgyrch sydd wedi’i bwriadu'n benodol i hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo nwyddau neu wasanaethau, neu berson sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau o fewn parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad.

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau’n angenrheidiol er mwyn rhoi contract y ddinas groesawu, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid mynd i’r afael â marchnata rhagod, ar waith.

 

Mae’r Rheoliadau’n darparu y bydd yn rhaid i berson sydd am ymgymryd â gweithgareddau hysbysebu o fewn y parth digwyddiadau yn ystod cyfnod y digwyddiad, yn amodol ar rai eithriadau, gael caniatâd penodol gan Bwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (“y Pwyllgor Trefnu”) o flaen llaw. Bydd y broses awdurdodi’n sicrhau mai dim ond hysbysebion a fydd yn gyson â nodau’r Rheoliadau a ganiateir. Mae’r Rheoliadau’n darparu nifer o eithriadau i alluogi busnesau i barhau i weithredu yn ôl yr arfer o’u heiddo heb ddefnyddio hysbysebion a fydd yn mynd yn groes i nodau’r Rheoliadau. Mae eithriadau eraill hefyd i amryw o ddulliau penodol o hysbysebu nad ydynt yn mynd yn groes i nodau’r Rheoliadau.

 

Ar gyfer grwpiau, ac eithrio partneriaid a deiliaid trwyddedau noddwyr answyddogol, bydd y Pwyllgor Trefnu yn cynnal proses ymgeisio gyhoeddus a fydd am ddim.

 

Y farn gyffredinol yw, cyhyd â nad ydych yn ceisio camarwain y cyhoedd i feddwl bod cysylltiad rhwng eich busnes chi â gemau 2012 a’u noddwyr, a’ch bod yn cydymffurfio â Rheoliadau 2011, ni ddylech gael eich erlyn.

 

Cosbau

 

Bydd unrhyw achos o hysbysebu neu fasnachu heb drwydded ddilys yn mynd yn groes i’r Rheoliadau a bydd yn drosedd o dan adran 22 o Ddeddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006, a bydd cosb ar ffurf dirwy o hyd at £20,000. Y Ddeddf yn hytrach na’r Rheoliadau hyn sy’n darparu ar gyfer y drosedd hon.

 

Canllawiau

 

Mae Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd wedi cyhoeddi canllawiau’n ddiweddar ar hysbysebu a masnachu yn ystod y gemau, a gellir dod o hyd iddynt yma[1].

 

Gwrthdroi’r baich

 

Mae’r Rheoliadau’n darparu y bydd person sydd â budd mewn busnes, nwyddau neu wasanaethau, neu sy’n gyfrifol amdanynt, yn atebol os bydd y busnes yn mynd yn groes i’r Rheoliadau, neu os yw’r tramgwydd yn ymwneud â nwyddau neu wasnaethau. Yn yr un modd, bydd person sy’n berchen ar dir neu sy’n ei ddefnyddio yn gyfrifol am unrhyw dramgwydd a gyflawnir ar y tir hwnnw.

Yn y ddau achos, gall person osgoi atebolrwydd am y tramgwedd os gall brofi bod y tramgwydd wedi digwydd heb yn wybod iddo neu er gwaetha’r ffaith ei fod wedi cymryd pob cam posibl i atal y tramgwydd rhag digwydd, rhag parhau i ddigwydd neu rhag digwydd eto.

Gan hynny, mae’r Rheoliadau’n gwrthdroi’r baich profi mewn achosion o dramgwydd troseddol.

Yn yr asesiad hawliau dynol sydd yn Atodiad B i’r Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth y DU yn derbyn y gellid dadlau bod y Rheoliadau’n amharu ar yr hawl i dybio bod person yn ddieuog fel y cadarnheir yn Erthygl 6(2) o Siarter Hawliau Dynol Ewrop. Rhoddir y cyfiawnhâd a ganlyn dros hynny.

          An interference with the right to be presumed innocent will be justified where it is confined “within reasonable limits which take into account the importance of what is at stake and maintain the rights of the defence.”   Putting this another way, an interference will be justified where it furthers a legitimate aim and is reasonably proportionate to that aim.

In paragraph 12 above, we have set out the three general objectives of the Regulations.  The reverse onus provision is intended to contribute to the achievement of those objectives.  In addition, it is specifically intended to ensure that people who are responsible for businesses that contravene the Regulations, or goods or services in relation to which a contravention occurs, or land on which a contravention takes place, are held accountable for the contravention or, at least, take reasonable steps to prevent a contravention occurring.

The reversal of onus is reasonably proportionate to those objectives.  The onus (to prove a lack of knowledge or reasonable preventative steps) will only transfer to an accused once the prosecution has proven that a contravention of the regulations has occurred (that is, that there has been advertising or trading activity in contravention of the regulations).  The prosecution would also have to prove that the contravention was undertaken by a business for which the defendant was responsible, or that it related to a good or service for which the person was responsible, or that it occurred on land which the person owned or occupied.  Accordingly, the prosecution will be required to make out the main elements of an offence before the onus shifts to the defendant.

In addition, once the onus is reversed, the matters that a person is required to prove in order to benefit from the defence are peculiarly within the knowledge of the person – that they did not know about the trading or advertising or that they took reasonable steps to prevent the trading or advertising from occurring.  The burden on the accused person would, accordingly, not be difficult for a person to discharge if they have no knowledge of the advertising or trading at issue or have taken steps to prevent

Nododd y Cydbwyllgor Hawliau Dynol yn ei bymthegfed adroddiad ar Fil Senedd y DU ynghylch Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain:-

“We accept that, in light of the guidance recently given by the House of Lords on assessing the compatibility of reverse onus provisions (Sheldrake –v- DPP), this clause is compatible with the presumption of innocence in Article 6 (2) ECHR because the matters in relation to which the defendant bears a legal burden of proof (knowledge of, or efforts made to prevent, and advertisement) are not arbitrary, but matters within his particular knowledge, and do not go beyond what is reasonable for the defendant to establish.”[2]

 

Cyrff elusennol / di-elw

 

Mae Rheoliad 7 yn cynnwys eithriad i’r cyfyngiadau hysbysebu mewn perthynas â chyrff di-elw sy’n cyfrannu at weithgareddau y mae bwriad iddynt gyfleu cefnogaeth neu wrthwynebiad i ddaliadau neu weithredoedd unrhyw berson neu gorff o bersonau, roi cyhoeddusrwydd i gred, achos neu ymgyrch, neu gofnodi neu goffáu digwyddiad.

Diffinnir “corff di-elw” yn Rheoliad 5 fel corff y mae’n ofynnol iddo ddefnyddio'i incwm at ddibenion elusennol neu gyhoeddus, ac sydd wedi’i wahardd rhag dosbarthu ei asedau ymhlith ei aelodau (ac eithrio at ddibenion elusennol neu gyhoeddus).

Traddodi nwyddau

 

Roedd y Rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt ym mis Mawrth 2011 yn darparu eithriadau cyfyngedig ar draddodi nwyddau, ond mae’r Rheoliadau presennol yn darparu eithriad i’r cyfyngiadau ar fasnachu yn Rheoliad 14(1)(c) o ran “gwerthu neu draddodi eitem i berson mewn mangre sy'n cyffinio â phriffordd”. Er enghraifft, byddai hynny’n caniatáu i unigolion sy’n traddodi pitsas neu gatalogau ymgymryd â gweithgaredd o’r fath ym mharth y digwyddiad heb fynd yn groes i’r Rheoliadau.

 

Cymesuredd

 

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn y Memorandwm Esboniadol bod y Rheoliadau’n cynnwys cyfaddawd rhwng ceisio cyflawnio nodau cyffredinol y Rheoliadau, sef:-

 

·         Sicrhau bod delwedd gyson gan y gemau ledled Llundain a’r Deyrnas Unedig;

·         Sicrhau nad oes marchnata rhagod yn digwydd yn agos at leoliadau’r digwyddiadau; a

·         Sicrhau y gall gwylwyr a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gemau gyrraedd a gadael lleoliadau’n rhwydd ac yn ddiogel,

 

a cheisio galluogi sefydliadau sydd wedi’u lleoli o fewn parth y digwyddiadau i ‘barhau yn ôl yr arfer’ tra’n cadw’r un lefel o reolaeth a gweinyddiaethau eraill.

 

Mae’r cyfyngiadau mewn grym am gyfanswm o 13 niwrnod, ac nid ydynt yn ymestyn ymhellach na 500 metr o fynedfa lleoliad pan fydd hyn ar hyd prif lwybr mynediad, ac maent yn llawer llai na hyn mewn mannau eraill.

 

Noda y Memorandwm Esboniadol hefyd:-

 

“If the regulations are not made it will mean the Host City Contract cannot be fulfilled in Wales and there is a risk that the football matches would be moved to an alternative stadium in England”.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Tachwedd 2011

 

 



[1]http://www.london2012.com/documents/oda-publications/detailed-provisions-of-the-advertising-and-trading-regulations.pdf

[2] Pymthegfed adroddiad y Cydbwyllgor Hawliau Dynol – 20 Mawrth 2006