R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'i chymheiriaid yn y gwledydd datganoledig am oblygiadau cyllido tynnu allan o'r UE? OAQ(4)0684(FIN)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am y dyraniad cyllidebol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0676(FIN)W
3. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu i gefnogi sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru er mwyn sicrhau eu dyfodol? OAQ(4)0680(FIN)R
4. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd refferendwm yr UE yn ei chael ar gyllid Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0678(FIN)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar etholaeth Llanelli? OAQ(4)0677(FIN)W
6. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllid Ewropeaidd ar Dorfaen? OAQ(4)0682(FIN)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau gwariant cyfalaf yn y dyfodol? OAQ(4)0674(FIN)
8. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y dyraniad cyllidebol i'r portffolio cymunedau a threchu tlodi? OAQ(4)0681(FIN)W
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganran caffael sector cyhoeddus sy'n cael ei chadw yng Nghymru? OAQ(4)0671(FIN)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw'r goblygiadau ar gyfer cronfeydd strwythurol yng Nghymru os bydd y DU yn penderfynu gadael yr UE yn y refferendwm sydd i ddod? OAQ(4)0685(FIN)
11. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth cronfeydd strwythurol yr UE yn etholaeth Caerffili? OAQ(4)0675(FIN)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gaffael yn y sector cyhoeddus? OAQ(4)0683(FIN)
13. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli adnoddau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0673(FIN)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth? OAQ(4)0679(FIN)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth am arian i bobl Sir Benfro? OAQ(4)0672(FIN)
Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd a wnaed o ran diwygio llywodraeth leol yn ystod y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0684(PS)W
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad y pecyn o gefnogaeth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(4)0683(PS)
3. Leanne Wood (Canol De Cymru):Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran gwella lles cyn-filwyr yng Nghymru? OAQ(4)0685(PS)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth ymgysylltu â'r cyhoedd wrth gynllunio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0691(PS)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwyr allanol yn darparu swyddogaethau awdurdodau lleol? OAQ(4)0679(PS)
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin? OAQ(4)0682(PS)W
7. Leanne Wood (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0686(PS)
8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(4)0693(PS)W
9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llywodraethiant awdurdodau lleol yn ardal bae Abertawe? OAQ(4)0681(PS)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau gwledig? OAQ(4)0688(PS)
11. Christine Chapman (Cwm Cynon):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0689(PS)
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0687(PS)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu canlyniadau posibl ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0680(PS)
14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa baratoadau sydd wedi cael eu gwneud ar gyfer datganoli posibl heddlu? OAQ(4)0694(PS)W