Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Mawrth 2016
i'w hateb ar
8 Mawrth 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y GIG yng Nghymru? OAQ(4)2755(FM)

 

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)2752(FM)

 

3. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig ynghylch bargen ddinesig bae Abertawe? OAQ(4)2757(FM)

 

4. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngheredigion? OAQ(4)2758(FM)W

 

5. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)2751(FM)

 

6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fuddsoddi mewn denu Aston Martin i Sain Tathan? OAQ(4)2766(FM)

 

7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfranogiad Llywodraeth Cymru ym mhrosiect twnnel y Rhondda? OAQ(4)2754(FM)

 

8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth ffonau symudol yng nghefn gwlad? OAQ(4)2764(FM)W

 

9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru? OAQ(4)2759(FM)

 

 

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella sut y cyflenwir gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)2750(FM)

 

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer safonau ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)2753(FM)

 

12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r economi wledig? OAQ(4)2756(FM)

 

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twf gwyrdd yng Nghymru? OAQ(4)2767(FM)

 

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effeithiau camddefnyddio alcohol yng Nghymru? OAQ(4)2760(FM)

 

15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ystad y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2765(FM)