Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Chwefror 2016 i'w hateb ar 1 Mawrth 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2739(FM)

 

2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad ym maes biotechnoleg i Gymru? OAQ(4)2738(FM)

 

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mwy o swyddi gweithgynhyrchu medrus yn ne Cymru? OAQ(4)2747(FM)

 

4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at weithredu cynllun trafnidiaeth leol de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2734(FM)

 

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau gofal iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2746(FM)

 

6. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol? OAQ(4)2741(FM)

 

7. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach yn ardal Taf Elái? OAQ(4)2745(FM)

 

8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â’r amseroedd aros a brofir ar hyn o bryd gan gleifion canser yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2733(FM)

 

 

9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ad-drefnu etholiadol? OAQ(4)2748(FM)W

 

10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl i weithredu nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(4)2735(FM)W

 

11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth wrthdlodi Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2742(FM)W

 

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r broses o weithredu'r safonau iaith Gymraeg sy'n dod i rym ar 1 Ebrill? OAQ(4)2737(FM)W

 

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cael cyllid ar gyfer metro de Cymru yn sgil cynnig Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith? OAQ(4)2743(FM)

 

14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru? OAQ(4)2740(FM)

 

15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)2749(FM)