Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2016 i'w hateb ar 2 Mawrth 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau staffio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0701(HSS)W

 

2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth? OAQ(4)0699(HSS)W

 

3. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o gyfleusterau gofal iechyd sylfaenol yn y Fflint? OAQ(4)0704(HSS)

 

4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd ymdrin ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau yng Nghymru? OAQ(4)0697(HSS)

 

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran taliadau i bobl sydd â hemoffilia a heintiwyd gan waed halogedig? OAQ(4)0706(HSS)

 

6. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa ddarpariaeth newydd a wnaed ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn ystod y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0696(HSS)W

 

7. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y niferoedd sydd wedi cael brechiadau yn erbyn y ffliw y gaeaf hwn? OAQ(4)0705(HSS)

 

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfluniad gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0691(HSS)

 

9. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthiad arfaethedig y pecyn ariannu o £2 filiwn i gefnogi gofalwyr yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf? OAQ(4)0693(HSS)

 

10.  Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gwynion a wneir i fyrddau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)0700(HSS)

 

11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ymestyn unrhyw raglenni brechu yng Nghymru? OAQ(4)0692(HSS)

 

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau canser ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0702(HSS)

 

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Rhaglen De Cymru? OAQ(4)0695(HSS)

 

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar sganiau tomograffeg allyriant positron? OAQ(4)0703(HSS)

 

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

1. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau llythrennedd ledled Cymru? OAQ(4)0685(ESK)

 

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lythyr cylch gorchwyl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 2015-16? OAQ(4)0692(ESK)W

 

3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lythrennedd plant yng Nghymru? OAQ(4)0690(ESK)

 

4. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu pynciau STEM mewn ysgolion? OAQ(4)0695(ESK)

 

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu disgyblion ysgol yng Nghymru? OAQ(4)0684(ESK)

 

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n cael cynigion diamod ar gyfer lleoedd prifysgol? OAQ(4)0696(ESK)

 

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg uwch yng Nghymru? OAQ(4)0686(ESK)

 

8. Gwyn Price (Islwyn):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod buddsoddiad yn ein hysgolion yn parhau i gynyddu? OAQ(4)0694(ESK)

 

9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hyfforddi athrawon yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0683(ESK)

 

10.  Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am yr ardoll brentisiaethau? OAQ(4)0687(ESK)

 

11. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys busnesau a diwydiant yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm cenedlaethol newydd? OAQ(4)0689(ESK)

 

12. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd darparu mynediad at ddewis addysgol i rieni? OAQ(4)0697(ESK)

 

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ysgolion ffydd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0682(ESK)

 

14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant i bobl dros 50 oed yng Nghymru? OAQ(4)0691(ESK)

 

15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â lefelau absenoldeb mewn ysgolion cynradd? OAQ(4)0693(ESK)