R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru? OAQ(4)0672(EST)
2. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-weinidogion am y seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol? OAQ(4)0674(EST)
3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth ar gyfer gweithgynhyrchu yn Nhorfaen? OAQ(4)0679(EST)
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0676(EST)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi gorllewin Cymru? OAQ(4)0675(EST)
6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i wella'r A55? OAQ(4)0673(EST)
7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mwy o fuddsoddiad yn Nhorfaen? OAQ(4)0678(EST)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0677(EST)
9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd cronfa benthyciadau i ficrofusnesau Cymru? OAQ(4)0680(EST)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0670(EST)
11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau cyflawni arbedion sydd i'w paratoi gan asiantau cefnffyrdd? OAQ(4)0681(EST)W
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydlynu gwasanaethau bws a rheilffordd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0671(EST)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.