R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Lynne Neagle (Torfaen):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith diwygiadau lles ar Gymru? OAQ(4)2698(FM)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth economaidd Llywodraeth Cymru i Ganol De Cymru? OAQ(4)2695(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mwy o gydraddoldeb o ran canlyniadau addysgol disgyblion? OAQ(4)2696(FM)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Cyflymu Cymru? OAQ(4)2700(FM)W
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun benthyca i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y flwyddyn academaidd nesaf? OAQ(4)2701(FM)
6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)2691(FM)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am faterion rheoli traffic yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)2692(FM)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith deuoli ar yr A465, sef ffordd Blaenau'r Cymoedd? OAQ(4)2693(FM)
9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth Dechrau'n Deg? OAQ(4)2687(FM)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddisgwyliadau economaidd pobl hŷn yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2688(FM)
11. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido prifysgolion? OAQ(4)2689(FM)W
12. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd i economi gorllewin Cymru? OAQ(4)2699(FM)W
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysau ar wasanaethau argyfwng yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2690(FM)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch ail-fapio masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau? OAQ(4)2694(FM)W
15. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran mynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ(4)2697(FM)