Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2016 i'w hateb ar 3 Chwefror 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

1. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau ailgylchu yng Nghymru? OAQ(4)0409(NR)

2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yn y Gymru drefol? OAQ(4)0412(NR)

3. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i Lywodraeth Cymru am ffordd goedwig Cwmcarn? OAQ(4)0411(NR)

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau i Gyfoeth Naturiol Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0406(NR)

5. Gwenda Thomas (Castell-nedd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o berygl ymsuddo sydyn? OAQ(4)0398(NR)

6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rheoli gwelyau afonydd i atal llifogydd? OAQ(4)0399(NR)

7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'r cynllun datblygu gwledig yn bwriadu gwella economi'r Gymru wledig? OAQ(4)0413(NR)

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun trydan dŵr Rhaeadr y Graig Lwyd? OAQ(4)0403(NR)

9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwriad i godi peilonau ar Ynys Môn? OAQ(4)0401(NR)W

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(4)0396(NR)

 

11. Janet Haworth (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chynrychiolwyr y diwydiant ffermio i sefydlu cynlluniau a allai atal achosion o lifogydd yn y dyfodol? OAQ(4)0408(NR)

12. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganran y ffermwyr sydd wedi cael eu taliadau, yn llawn ac yn rhannol, o dan y cynllun taliad sylfaenol? OAQ(4)0404(NR)

13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant a safonau proffesiynol swyddogion cynllunio yng Nghymru? OAQ(4)0405(NR)

14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eu cymryd os caiff gwastraff ei ddympio yn anghyfreithlon? OAQ(4)0402(NR)

15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad manwl o MTAN2? OAQ(4)0410(NR)

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

1. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sefydlu ceiswyr lloches yng Nghymru? OAQ(4)0420(CTP)

2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drosglwyddo asedau cymunedol? OAQ(4)0417(CTP)

3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa systemau sydd ar waith i fonitro effeithiolrwydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0411(CTP)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran hyrwyddo cydraddoldeb ym maes cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(4)0421(CTP)

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa gymorth sydd ar gael i undebau credyd yng Nghymru? OAQ(4)0415(CTP)

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru? OAQ(4)0422(CTP)

7. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru? OAQ(4)0414(CTP)

8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddangosyddion tlodi yn y Gymru wledig? OAQ(4)0418(CTP)

9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella ansawdd tai yng Nghymru? OAQ(4)0412(CTP)

10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau adfywio y mae ei hadran wedi'u gweithredu i gefnogi cymunedau ledled Canol De Cymru? OAQ(4)0423(CTP)

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch trydanol a charbon monocsid mewn eiddo rhent preifat? OAQ(4)0413(CTP)

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gaiff eu cymryd i fynd i'r afael â gwrth-Semitiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0416(CTP)

13. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector wirfoddol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0419(CTP)

14. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei chael ar gymunedau yn Aberafan? OAQ(4)0424(CTP)

15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0425(CTP)