R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0674(HSS)
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd yng Ngwent? OAQ(4)0688(HSS)
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0679(HSS)
4. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti'r GIG yng Nghymru i fodloni'r galw gan gleifion? OAQ(4)0683(HSS)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd i bobl anabl yng Nghymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0673(HSS)
6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru am weddill y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0689(HSS)
7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ymgynghoriad ar y gweithlu gofal cartref? OAQ(4)0687(HSS)
8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i bobl sydd â dementia? OAQ(4)0685(HSS)
9. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella meddygaeth frys yng Nghymru? OAQ(4)0681(HSS)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cyfraddau bwydo ar y fron? OAQ(4)0678(HSS)
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid byrddau iechyd? OAQ(4)0677(HSS)
12. Janet Haworth (Gogledd Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd amser mewn unedau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0684(HSS)
13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr ariannol byrddau iechyd Cymru? OAQ(4)0682(HSS)W
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngheredigion? OAQ(4)0539(HSS)
15. Nick Ramsay (Mynwy): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella sut y cyflenwir gwasanaethau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0675(HSS)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am gyflwyno'r ardoll prentisiaethau? OAQ(4)0674(ESK)
2. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon cyflenwi? OAQ(4)0673(ESK)
4. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am record Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cyfnod sylfaen yn ystod y Cynulliad hwn? OAQ(4)0679(ESK)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid myfyrwyr yng Nghymru? OAQ(4)0680(ESK)W
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnwys llythyr cylch gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0669(ESK)W
6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd parhad y Coleg Cenedlaethol Cymraeg? OAQ(4)0672(ESK)W
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo dysgu gydol oes yng Nghymru? OAQ(4)0670(ESK)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am yr adolygiad a arweiniwyd gan y Fonesig Sally Coates ynghylch addysg mewn carchardai i oedolion yng Nghymru a Lloegr? OAQ(4)0675(ESK)
9. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar ag Ysgol Gyfun Ystalyfera? OAQ(4)0664(ESK)
10. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog ysgolion i hyrwyddo cydraddoldeb? OAQ(4)0676(ESK)
11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa hyfforddiant a fydd yn cael ei roi i staff addysgu mewn ysgolion cynradd er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau rhifedd perthnasol? OAQ(4)0665(ESK)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fenthyciadau i ôl-raddedigion? OAQ(4)0678(ESK)
13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol? OAQ(4)0671(ESK)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynigion i ad-drefnu ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0666(ESK)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu digidol mewn ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0667(ESK)