2016 Rhif 29 (Cy. 11)

cynllunio gwlad a thref, cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir”).

Mae’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dosbarthau penodol ar ddatblygiadau.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 3 (newidiadau mewn defnydd) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir er mwyn rhoi hawliau datblygu a ganiateir newydd. Mae’r hawliau datblygu a ganiateir hynny yn caniatáu newid defnydd, fel y gellir defnyddio adeiladau a ddefnyddir fel tai amlfeddiannaeth ar raddfa fechan, a rennir gan dri i chwech o bobl, fel tai annedd wedi hynny.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.


2016 Rhif 29 (Cy. 11)

Cynllunio gwlad a thref, cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016

Gwnaed                                13 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       18 Ionawr 2016

Yn dod i rym                      25 Chwefror 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 25 Chwefror 2016.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995

2.(1)(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rhan 3 o Atodlen 2, ar ôl dosbarth G mewnosoder—

Class H

Permitted Development

H. Development consisting of a change of use of a building to a use falling within Class C3 (dwellinghouses) of the Schedule to the Use Classes Order from a use falling within Class C4 (houses in multiple occupation) of that Schedule.

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

13 Ionawr 2016



([1])           1990 p. 8. Diwygiwyd adran 59 gan adrannau 27 a 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a pharagraff 3 o Atodlen 4 a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler yr eitemau priodol yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006    (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 1995/418 a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/592 (Cy. 69). Nid yw’r diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.