OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 32 (Cy. 13)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/229 (Cy. 11)) (“Gorchymyn 2015”). Mae Gorchymyn 2015 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi a chynllun rhyddhad ardrethi dros dro sydd i redeg o 1 Ebrill 2015 hyd 31 Mawrth 2016, ac nid yw ond yn gymwys i gategorïau penodol o hereditament.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2015 drwy estyn y cyfnod amser y mae’r cynllun rhyddhad ardrethi dros dro yn gymwys hyd 31 Mawrth 2017.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 32 (Cy. 13)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 12 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Ionawr 2016
Yn dod i rym 8 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9)(b), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn
hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau
Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Chwefror 2016 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2016 ymlaen.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015
2. Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015, yn lle “31 Mawrth 2016” rhodder “31 Mawrth 2017”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
12 Ionawr 2016