2016 Rhif 31 (Cy. 12)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sy’n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan III (ardrethu annomestig) o’r Ddeddf honno.

Mae adran 66 o Ddeddf 1988 hefyd yn diffinio llety hunanddarpar ac yn darparu nad yw llety o’r fath yn eiddo domestig. Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn ychwanegu amgylchiadau pellach lle y mae adeilad neu ran hunangynhaliol o adeilad yn llety hunanddarpar ac felly heb fod yn eiddo domestig.

Pan fo adeilad wedi cael ei osod neu ran hunangynhaliol o adeilad wedi cael ei gosod am o leiaf 70 o ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn flaenorol a chydymffurfiwyd â gweddill adran 66(2BB)(a) i (c), bydd yr adeilad neu’r rhan hunangynhaliol o adeilad yn parhau i fod yn eiddo nad yw’n eiddo domestig.

Mae’r diffiniad wedi ei ddiwygio, fodd bynnag, sy’n golygu, pan fo adeilad wedi cael ei osod neu ran hunangynhaliol o adeilad wedi cael ei gosod am lai na 70 o ddiwrnodau dros y flwyddyn flaenorol fel rhan o fusnes sy’n gosod nifer o adeiladau o’r fath neu rannau hunangynhaliol o adeilad o’r fath yn yr un lleoliad neu’n agos iawn at ei gilydd, y gallai fod yn eiddo nad yw’n eiddo domestig o dan rai amgylchiadau. Pan fo nifer cyfartalog y dyddiau y gosodwyd pob un o’r adeiladau neu’r rhannau hunangynhaliol o adeiladau yn yr un lleoliad neu’n agos iawn at ei gilydd dros y flwyddyn flaenorol yn 70 o leiaf, mae pob un o’r adeiladau neu’r rhannau hunangynhaliol o adeilad yn eiddo nad yw’n eiddo domestig.

Ond ni chaniateir i adeilad neu ran hunangynhaliol o adeilad ond cael ei gynnwys neu ei chynnwys mewn un cyfrifiad yn y flwyddyn berthnasol. Er enghraifft, gosodir tri adeilad, A, B ac C, yn yr un lleoliad (a chydymffurfiwyd â gweddill adran 66(2BB)). Mae adeilad A yn cael ei osod am 95 o ddiwrnodau ac mae adeiladau B ac C yn cael eu gosod am 45 o ddiwrnodau yr un. Caniateir i adeilad A gael ei gynnwys mewn cyfrifiad o dan adran 66(2BB)(d)(ii) gyda naill ai adeilad B neu adeilad C. Nifer y diwrnodau ar y cyd y mae adeiladau A a B, neu adeiladau A ac C wedi cael eu gosod yw 140 o ddiwrnodau, sef 70 o ddiwrnodau ar gyfartaledd, sy’n golygu bod y naill adeilad a’r llall yn eiddo nad yw’n eiddo domestig. Nid yw’r adeilad sy’n weddill (sydd heb ei gynnwys yn y cyfrifiad) yn cyflawni’r amodau ac felly mae’n eiddo domestig. Os yw adeilad A mewn cyfrifiad gydag adeilad B, ni all adeilad A wedyn fod mewn cyfrifiad gydag adeilad C.

Mae erthygl 2(3) a (4) yn cywiro gwall drafftio yn adran 66(2C).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2016 Rhif 31 (Cy. 12)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2016

Gwnaed                                13 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       15 Ionawr 2016

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 66(9) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]), ac sydd wedi ei freinio bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 1 Ebrill 2016.

Diffiniad o eiddo domestig

2.(1)(1) Mae adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle is-adran (2BB)(d), rhodder—

(d) the short periods for which it was so let—

                       (i)  amounted in total to at least 70 days; or

                      (ii)  taken together with the short periods for which one or more other buildings or self-contained parts of a building so let, amounted to an average of at least 70 days for each building or self-contained part of a building included within the calculation; where each building or self-contained part of the building included in the calculation—

(aa)    is not included in another calculation under this sub-paragraph for the year in relation to which the question is being considered,

(bb)    is situated at the same location or in very close proximity to all of the other buildings or self-contained parts of a building included in the calculation, and

(cc)    is so let as part of the same business or connected businesses.”

(3) Yn is-adran (2BC), yn lle “subsection (2B)”, mewnosoder “subsections (2B) and (2BB)”.

(4) Hepgorer is-adran (2C).

 

 

 

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

13 Ionawr 2016

 



([1])           1988 p. 41.

([2])           Trosglwyddwyd y pŵer hwn, i'r graddau yr oedd yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac fe'i trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.