2016 Rhif 18 (Cy. 6)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Strategol (Cyfansoddiad Paneli a Gwariant Cymwys) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad panel cynllunio strategol (“panel”) o ran rhyw yr aelodau ac ynghylch gwariant cymwys panel sydd i’w dalu gan ei awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r gofynion cyfansoddiad o ran panel, ac yn darparu bod rhaid i fenywod a dynion gyfansoddi o leiaf 40% yr un, o aelodau’r panel sy’n aelodau awdurdod cynllunio lleol. Gwneir eithriad, yn rheoliad 4, pan fo cyfansoddiad yr awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol yn peri bod y gofynion cyfansoddiad yn annichonadwy. Mewn achos o’r fath, fodd bynnag, y gofynion cyfansoddiad o ran aelodau’r panel yw fod rhaid i ganrannau’r ddau ryw o’r aelodau awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol fod mor agos at 40% ag y bo modd.

Mae rheoliad 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol i gydweithio er mwyn bodloni’r gofynion cyfansoddiad.

Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar banel i barhau i adolygu cydymffurfiaeth â’r gofynion cyfansoddiad yn rheoliad 3.

Os na fodlonir y gofynion cyfansoddiad, am ba bynnag reswm, rhaid i’r panel gydymffurfio â’r gofynion adrodd a nodir yn rheoliad 7. Rhaid anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n rhoi manylion sut y methwyd â bodloni’r gofynion cyfansoddiad. Mae’r gofynion adrodd yn ymwneud â chynnwys ac amseriad yr adroddiad. Mae’r gofynion yn gymwys, i’r un graddau, i ddiwygiadau mewn adroddiad.

Mae rheoliad 8 yn ymwneud â methiant gan y panel i gydymffurfio â’r gofynion adrodd, ac yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu panel ynghylch methiant o’r fath o fewn yr amser penodedig a bod rhaid i banel ymateb o fewn y cyfnod o amser penodedig, gan gadarnhau pa gamau y mae’n bwriadu eu cymryd i unioni’r toriad.

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd i banel neu awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol o dan reoliad 9 os yw un ohonynt neu’r ddau, ym marn Gweinidogion Cymru, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion cyfansoddiad yn rheoliad 3, y ddyletswydd i gydweithio er mwyn bodloni’r gofynion cyfansoddiad yn rheoliad 5, y ddyletswydd i adolygu’r gofynion hynny wrth gydymffurfio â rheoliad 6, neu’r hysbysiad ynghylch gofynion adrodd yn rheoliad 8.

Os digwydd i awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r gofynion cyfansoddiad, mae rheoliad 10 yn darparu bod hawliau pleidleisio aelodau awdurdod cynllunio lleol yr awdurdodau sy’n methu, mewn perthynas â gweithrediadau’r panel, wedi eu hatal hyd nes bo’r toriad wedi ei unioni.

Mae rheoliad 11 yn darparu nad yw toriad o unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r canlynol: y gofynion cyfansoddiad, y ddyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol i gydweithio er mwyn bodloni’r gofynion cyfansoddiad, yr adolygiad o’r gofynion hynny, a’r hysbysiad o’r gofynion adrodd, yn annilysu unrhyw beth a wneir gan y panel.

Mae rheoliad 12 yn nodi pa wariant gan banel sydd yn “gwariant cymwys”, y bydd yr awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol yn talu amdano, at ddibenion paragraff 16 o Atodlen 2A i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae’n disgrifio hefyd wariant nad yw’n “gwariant cymwys”.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

 


2016 Rhif 18 (Cy. 6)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Strategol (Cyfansoddiad Paneli a Gwariant Cymwys) (Cymru) 2016

Gwnaed                                11 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       13 Ionawr 2016

Yn dod i rym                        16 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004([1]) a pharagraffau 5 ac 16 o Atodlen 2A i’r Ddeddf honno.

RHAN 1

Materion rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Strategol (Cyfansoddiad Paneli a Gwariant Cymwys) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

ystyr “gofynion cyfansoddiad” (“composition requirements”) yw’r gofynion yn rheoliad 3;

ystyr “panel” (“panel”) yw panel cynllunio strategol([2]).

RHAN 2

Paneli cynllunio strategol

Gofynion cyfansoddiad panel

3. Yn ddarostyngedig i reoliad 4(2), y gofynion cyfansoddiad yw’r canlynol—

(a)      rhaid i fenywod gyfansoddi o leiaf 40% o’r aelodau o banel sy’n aelodau awdurdod cynllunio lleol; a

(b)      rhaid i ddynion gyfansoddi o leiaf 40% o’r aelodau hynny o banel.

Eithriad o’r gofynion cyfansoddiad

4.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid oes angen cydymffurfio â’r gofynion cyfansoddiad os yw cyfansoddiad yr awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol yn gwneud y gofynion cyfansoddiad yn annichonadwy.

(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, y gofynion cyfansoddiad yw fod rhaid i fenywod a dynion gyfansoddi canrannau o’r aelodau awdurdod cynllunio lleol ar y panel sydd mor agos ag y bo’n ymarferol at 40% o’r naill a’r llall.

Dyletswydd i gydweithredu er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfansoddiad

5. Rhaid i’r awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol([3]) gydweithio er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion cyfansoddiad.

Dyletswydd i adolygu’r gofynion cyfansoddiad

6. Rhaid i banel barhau i adolygu cyfansoddiad y panel at y diben o fonitro cydymffurfiaeth â’r gofynion cyfansoddiad.

Gofynion adrodd

7.(1)(1) Os na chaiff y gofynion cyfansoddiad eu bodloni, rhaid i’r panel baratoi adroddiad ar ei gydymffurfiaeth â’r gofynion cyfansoddiad, yn unol â’r rheoliad hwn.

(2) Rhaid i’r adroddiad sy’n ofynnol o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)     manylion am sut y methir â bodloni’r gofynion cyfansoddiad;

(b)      y rhesymau pam y methwyd â bodloni’r gofynion cyfansoddiad;

(c)     y camau a gymerwyd gan y panel a’r/neu’r awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol i fodloni’r gofynion cyfansoddiad.

(3) Rhaid i’r adroddiad sy’n ofynnol o dan baragraff  (1) gael ei lofnodi gan gadeirydd y panel neu, yn absenoldeb y cadeirydd, gan ddirprwy gadeirydd y panel.

(4) Rhaid i’r panel anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru o fewn 12 wythnos ar ôl y dyddiad y methir â bodloni’r gofynion cyfansoddiad.

(5) Rhaid i banel, ddim hwyrach na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonodd adroddiad at Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, hysbysu’r awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol ynghylch cyflwyno’r adroddiad.

(6) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at adroddiad yn cynnwys adroddiad fel y’i diwygiwyd.

(7) Mae unrhyw ofyniad i anfon adroddiad at Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn yn cynnwys gofyniad i gyhoeddi’r adroddiad.

(8) Mae anfon adroddiad at Weinidogion Cymru neu ei gyhoeddi o dan y rheoliad hwn yn cynnwys anfon neu gyhoeddi’r adroddiad yn electronig.

Hysbysiad o fethiant i gydymffurfio â’r gofynion adrodd

8.(1)(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn credu bod panel yn methu â gwneud, neu’n hepgor gwneud, unrhyw beth y mae angen iddo ei wneud at y diben o gydymffurfio â’r gofynion adrodd yn rheoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r panel yn unol â pharagraff (2) ac o fewn y cyfnod hysbysu a bennir ym mharagraff (3).

(2) Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y methiant neu’r hepgoriad.

(3)  Y cyfnod hysbysu a bennir at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)     6 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru adroddiad o dan reoliad 7;

(b)     yn absenoldeb adroddiad, 6 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y daeth Gweinidogion Cymru i gredu bod y panel yn methu â gwneud, neu’n hepgor gwneud, unrhyw beth y mae angen iddo ei wneud at y diben o gydymffurfio â’r gofynion adrodd yn rheoliad 7.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hysbysu ym mharagraff (3) os tybiant fod angen gwneud hynny.

(5)  Rhaid i’r panel, ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, anfon ateb at Weinidogion Cymru sy’n nodi’r modd y mae’r panel yn bwriadu unioni’r methiant neu’r hepgoriad.

Pwerau mewn achos o fethiant i gydymffurfio

9.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn credu bod panel neu awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol yn methu â gwneud, neu’n hepgor gwneud, unrhyw beth y mae angen iddo ei wneud at y diben o gydymffurfio â gofyniad penodedig.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo panel neu awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol i gymryd pa bynnag gamau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru at y diben o gydymffurfio â gofyniad penodedig.

(3) Rhaid i banel neu awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan y rheoliad hwn.

(4) Gofyniad penodedig yw gofyniad a osodir gan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn—

(a)     rheoliad 3 (gofynion cyfansoddiad panel);

(b)     rheoliad 5 (dyletswydd i gydweithredu er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfansoddiad);

(c)     rheoliad 6 (dyletswydd i adolygu’r gofynion cyfansoddiad);

(d)     rheoliad 8(1) (hysbysiad o fethiant i gydymffurfio â’r gofynion adrodd).

Effaith methiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd ynghylch gofynion cyfansoddiad

10. Effaith methiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan reoliad 9(2)_mewn perthynas â gofyniad penodedig yn rheoliad 9(4)(a)_yw fod hawliau pleidleisio aelod o awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol a bennir yn y cyfarwyddyd wedi eu hatal hyd nes bodlonir y gofynion cyfansoddiad.

Dilysrwydd gweithredoedd panel

11. Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan banel o ganlyniad i fethiant gan banel neu awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth neu ofyniad a osodir arnynt (yn ôl y digwydd) gan—

(a)     rheoliadau 3 a 4(2)(gofynion cyfansoddiad panel);

(b)     rheoliad 6 (dyletswydd i adolygu’r gofynion cyfansoddiad);

(c)     rheoliad 7 (gofynion adrodd);

(d)     rheoliad 8 (hysbysiad o fethiant i gydymffurfio â’r gofynion adrodd);

(e)     rheoliad 9(3) (pwerau mewn achos o fethiant i gydymffurfio).

RHAN 3

Trefniadau ariannol paneli cynllunio strategol

Gwariant cymwys

12.(1)(1) Mae’r disgrifiadau a ganlyn o wariant yr aeth panel iddo neu y mae panel i fynd iddo wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 16(2) o Atodlen 2A i Ddeddf 2004—

(a)     costau tâl neu gyflogau, cyfraniadau pensiwn a chostau diswyddo gorfodol neu wirfoddol neu gostau staff eraill;

(b)     cydnabyddiaeth i aelod enwebedig o’r panel;

(c)     costau lesio a/neu rentu mewn cysylltiad â llogi mangre;

(d)     costau mewn cysylltiad ag ardrethi a chyfleustodau y mae’r panel yn atebol amdanynt mewn cysylltiad â meddiannu mangre;

(e)     ffioedd proffesiynol, ffioedd ymgynghorol a ffioedd technegol;

(f)      costau mewn cysylltiad â swyddogaethau’r panel o ran paratoi ac adolygu cynllun strategol yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004;

(g)     costau offer, gan gynnwys costau prynu, prydlesu neu gynnal dodrefn, deunyddiau dodrefnu, a meddalwedd a chaledwedd cyfrifiadurol;

(h)     cydnabyddiaeth i unrhyw aelod cyfetholedig o’r panel, ac at ddibenion y paragraff hwn, nid yw aelod cyfetholedig yn aelod enwebedig o banel;

(i)      costau sy’n gysylltiedig â galluogi panel i ymgymryd â’i swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2004.

(2)  Nid yw costau cydnabyddiaeth i aelod awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol o’r panel yn wariant cymwys at ddibenion paragraff 16(2) o Atodlen 2A i Ddeddf 2004.

(3) Yn y rheoliad hwn—

mae “costau staff” (“staff costs”) mewn perthynas â phanel yn cynnwys unrhyw gyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol cyflogwr a wneir gan y panel;

ystyr “cyfraniadau pensiwn” (“pension contributions”) yw unrhyw gostau y mae panel yn mynd iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun pensiwn a sefydlwyd at y diben o ddarparu pensiynau i bersonau a gyflogir ar hyn o bryd neu a fu’n gyflogedig gan banel, unrhyw swm a osodir o’r neilltu ar gyfer talu pensiynau yn uniongyrchol yn y dyfodol gan banel i gyflogeion presennol neu gyn-gyflogeion, ac unrhyw bensiynau a delir yn uniongyrchol i bersonau o’r fath heb yn gyntaf eu gosod o’r neilltu;

mae “ffioedd proffesiynol” (“professional fees”) yn cynnwys costau mewn perthynas â chorff proffesiynol ac aelodaeth o gorff proffesiynol;

mae “ffioedd technegol” (“technical fees”) yn cynnwys costau mewn perthynas â chyfrifyddiaeth, archwilio, materion cyfreithiol, yswiriant, cyfathrebu, cyfieithu a chaffael.

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2016



([1])   2004 p. 5. Mewnosodwyd Atodlen 2A gan adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) ac Atodlen 1 iddi.

([2])   Gweler Rhan 1 o Atodlen 2A i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar gyfer darpariaethau ynghylch paneli cynllunio strategol.

([3])   Gweler paragraff 3(3) o Atodlen 2A i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar gyfer ystyr “constituent local planning authority” (“awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol”).