R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision posibl metro de Cymru? OAQ(4)2631(FM)
2. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli cyfraddau busnes? OAQ(4)2632(FM)W
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith lefelau ffioedd gofal preswyl ar hyfywedd y sector? OAQ(4)2622(FM)
4. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i gefnogi entrepreneuriaid yng Nghymru? OAQ(4)2623(FM)
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i wella lles pobl yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)2621(FM)
6. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o hyfforddiant i bobl anabl? OAQ(4)2617(FM)
7. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr astudiaeth gwmpasu gychwynnol ar y rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin? OAQ(4)2620(FM)W
8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2625(FM)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i i greu swyddi mewn cymunedau ledled Canol De Cymru? OAQ(4)2616(FM)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adfer pyllau cloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(4)2618(FM)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymunedau gwledig yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OAQ(4)2615(FM)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae adolygiad o wariant Llywodraeth y DU wedi'i chael ar lywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)2628(FM)
13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu'r gadwyn gyflenwi Gymreig ar gyfer Wylfa Newydd? OAQ(4)2630(FM)W
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drydaneiddio'r brif reilffordd o Abertawe i Lundain? OAQ(4)2614(FM)
15. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i atal llifogydd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)2619(FM)