Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Tachwedd 2015 i'w hateb ar 2 Rhagfyr 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy integredig? OAQ(4)0664(HSS)

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0659(HSS)

 

3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a chadw meddygon yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0660(HSS)

 

4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i fesurau iechyd ataliol yng Nghymru? OAQ(4)0665(HSS)

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru? OAQ(4)0669(HSS)

 

6. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i feddyginiaethau haenedig yng Nghymru? OAQ(4)0661(HSS)

 

7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0670(HSS)W

 

8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am driniaeth HIV yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0667(HSS)

9. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yng Nghymru? OAQ(4)0662(HSS)

 

10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i wella perfformiad Gwasanaethau Ambiwlans Cymru? OAQ(4)0656(HSS)

 

11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf ar y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0671(HSS)W

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benodi uwch swyddogion yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0655(HSS)

 

13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0657(HSS)W

 

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau i gleifion canser y pancreas yng Nghymru? OAQ(4)0658(HSS)

 

15. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig?OAQ(4)0663(HSS)

 

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

1. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa drefniadau sydd ar waith i sicrhau y bydd digon o seicolegwyr addysgol i weithio mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0652(ESK)

 

2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant y grant amddifadedd disgyblion hyd yma o ran pontio'r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion o deuluoedd tlawd a mwy cefnog? OAQ(4)0662(ESK)

 

3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ad-drefnu addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0651(ESK)

 

4. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae plant yr effeithir arnynt gan fod eu rhieni wedi'u carcharu yn cael eu cefnogi o fewn y system addysg yng Nghymru? OAQ(4)0655(ESK)

 

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffedereiddio ysgolion fel dewis amgen yn hytrach na chau ysgolion ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0654(ESK)

 

6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau sy'n cael eu gweithredu i wella safonau addysg ledled Canol De Cymru? OAQ(4)0648(ESK)

7. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn Islwyn? OAQ(4)0653(ESK)

 

8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor a ddarperir i ysgolion ynghylch ymweld â chyfandir Ewrop? OAQ(4)0656(ESK)

 

9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaeth ar Gymru? OAQ(4)0658(ESK)W

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ariannu ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0649(ESK)

 

11. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut y mae awdurdodau lleol yn dehongli Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 a Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan 2011 mewn perthynas â gwyliau teuluol yn ystod y tymor? OAQ(4)0661(ESK)

 

12. Mike Hedges (South Wales East): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen adeiladu Ysgolion y 21ain Ganrif yn Abertawe? OAQ(4)0647(ESK)

13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)0660(ESK)

14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno bagloriaeth Cymru yng nghyfnod allweddol 4? OAQ(4)0659(ESK)

15. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc o addysg i gyflogaeth? OAQ(4)0650(ESK)