R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wydnwch darpariaeth iechyd yng Nghanol De Cymru dros y gaeaf? OAQ(4)2560(FM)
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gytundeb dinas Caerdydd? OAQ(4)2577(FM)
3. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfryngau yng Nghymru? OAQ(4)2575(FM)W
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfraith bywyd gwyllt? OAQ(4)2573(FM)
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy heini ac iach? OAQ(4)2568(FM)
6. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllidebau'n cael eu monitro'n effeithiol? OAQ(4)2576(FM)W
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch newidiadau i’r system gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(4)2574(FM)
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio o flaen llaw ar gyfer gwelliannau i'r A55? OAQ(4)2571(FM)W
9. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau economaidd am weddill y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)2567(FM)
10. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa technolegau iechyd? OAQ(4)2572(FM)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am geisiadau cyllido cleifion unigol? OAQ(4)2566(FM)
12. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau rhwng y cenedlaethau yng Nghymru? OAQ(4)2569(FM)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni gwasanaethau iechyd lleol yn Sir Benfro? OAQ(4)2562(FM)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi yng Nghwm Cynon? OAQ(4)2565(FM)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd trawsffiniol yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2564(FM)