2015 Rhif 1803 (Cy. 258)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadaur Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywr nodyn hwn yn rhan or Rheoliadau)

Maer Rheoliadau hyn yn ymwneud âr Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir o dan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer trafodion yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn darparu ir Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried materion penodol ac i adrodd arnynt.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol ir Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod â chadeiryddion y Byrddau Diogelu o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol ir Bwrdd Cenedlaethol gynnal cyfarfodydd ymgynghori blynyddol.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod yr wybodaeth i’w chynnwys yn adroddiad blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol ac yn darparu ynglŷn âr amseroedd ar gyfer llunior adroddiad ai gyhoeddi.

Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2015 Rhif 1803 (Cy. 258)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadaur Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015

Gwnaed                                 30 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       3 Tachwedd 2015

Yn dod i rym                     25 Tachwedd 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 133(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enwr Rheoliadau hyn yw Rheoliadaur Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015.

(2) Dawr Rheoliadau hyn i rym ar 25 Tachwedd 2015.

(3) Maer Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn

 ystyr aelod or Bwrdd (Board member) yw aelod or Bwrdd Cenedlaethol;

ystyr y Bwrdd Cenedlaethol (the National Board) ywr Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol;

ystyr Bwrdd Diogelu (Safeguarding Board) yw bwrdd diogelu a sefydlir o dan adran 134 or Ddeddf;

 ystyr y Ddeddf (the Act) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cyfansoddiad

3.(1)(1) Maer Bwrdd Cenedlaethol iw ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o aelodaur Bwrdd yn gadeirydd y Bwrdd Cenedlaethol.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynur telerau y penodir aelodaur Bwrdd odanynt.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adnoddau eraill i gynorthwyor Bwrdd Cenedlaethol i gyflawni ei swyddogaethau.

Trafodion mewn cyfarfodydd

4.(1)(1) Rhaid ir Bwrdd Cenedlaethol ethol un oi aelodau yn is-gadeirydd.

(2) Maer cadeirydd neur is-gadeirydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

(3) Maer Bwrdd Cenedlaethol i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif syml o aelodaur Bwrdd syn bresennol; mae’r person syn llywyddu yn y cyfarfod i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

(4) 3 aelod or Bwrdd, gan gynnwys y person syn llywyddu, ywr cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

(5) Rhaid ir Bwrdd Cenedlaethol gadw cofnodion oi gyfarfodydd a chofrestr o fuddiannau aelodaur Bwrdd.

Grwpiau atodol a sefydlir gan y Bwrdd Cenedlaethol

5.(1)(1) Caiff y Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried

(a)     materion penodol,

(b)     materion syn ymwneud â diogelu plant yn unig, neu

(c)     materion syn ymwneud â diogelu oedolion yn unig,

ac adrodd yn ôl ir Bwrdd Cenedlaethol.

(2) Caniateir i grŵp or fath gael ei ffurfio or canlynol

(a)     aelodaur Bwrdd yn unig,

(b)     personau nad ydynt yn aelodau ac un neu fwy o aelodaur Bwrdd, neu

(c)     dim ond personau nad ydynt yn aelodau.

Cyfarfodydd rhwng aelodaur Bwrdd Cenedlaethol a chadeiryddion Byrddau Diogelu

6. Rhaid i un neu fwy o aelodaur Bwrdd wahodd cadeiryddion y Byrddau Diogelu, a gwneud trefniadau i gyfarfod â hwy o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Ymgynghori â phobl yr effeithir arnynt

7. Rhaid ir Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod, o leiaf unwaith y flwyddyn, â grŵp o bersonau syn cynrychiolir rhai y gall trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru effeithio arnynt.

Adroddiad blynyddol

8.(1)(1) Rhaid ir Bwrdd Cenedlaethol gyflwyno ei adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Hydref bob blwyddyn, mewn cysylltiad âr flwyddyn syn dod i ben ar y 31 Mawrth blaenorol.

(2) Rhaid ir adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y canlynol

(a)     unrhyw gymorth a chyngor a roddwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol ir Byrddau Diogelu;

(b)      unrhyw waith arall a wnaed gan y Bwrdd Cenedlaethol, neu gan grwpiau atodol a sefydlwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol, ar canlyniadau a sicrhawyd;

(c)     digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a wnaed gan y Byrddau Diogelu i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, gan gynnwys

                           (i)    y gwersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau ymarfer oedolion a gynhaliwyd gan Fyrddau Diogelu ac oddi wrth adolygiadau ac ymchwiliadau eraill;

                         (ii)    enghreifftiau o adegau pan gafodd dysgu, gwybodaeth ac adnoddau eu rhannu rhwng Byrddau Diogelu o fewn ardal Bwrdd Diogelu neu rhwng Byrddau Diogelu ledled Cymru;

                       (iii)    enghreifftiau o fesurau effeithiol y mae Byrddau Diogelu wedi eu cymryd i roi i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gyfle i gymryd rhan mewn gwaith Bwrdd Diogelu;

(d)     unrhyw argymhellion y maer Bwrdd Cenedlaethol yn dymuno eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid i'r Bwrdd Cenedlaethol roi'r adroddiad blynyddol ar gael i'r cyhoedd heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y cafodd ei gyflwyno.

(4) Yn y rheoliad hwn

(a)     ystyr adolygiad ymarfer plant (child practice review) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015([2]) syn ymwneud â phlentyn; a

(b)     ystyr adolygiad ymarfer oedolion (adult practice review) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 syn ymwneud ag oedolyn.

Dirymu

9. Mae Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015([3]) wedi eu dirymu.

 

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Hydref 2015



([1])           2014 dccc 4.           

([2]) O.S. 2015/1466 (Cy. 160).

([3]) O.S. 2015/1358 (Cy. 132).