Rhan 2 – Cod Ymarfer a chanllawiau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Yn cynnwys Llesiant, Asesiad Poblogaeth, Atal, Hyrwyddo Mentrau Cymdeithasol a Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy

 

Cyhoeddwyd o dan adrannau 145 a 169 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

 

(Teitl byr: Cod Ymarfer ar Swyddogaethau Cyffredinol)

 

Cynnwys:

 

Pennod

1.            Dyletswyddau llesiant a hollgyffredinol

2.            Asesiad poblogaeth

3.            Gwasanaethau ataliol

4.            Mentrau cymdeithasol

5.            Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

6.            Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill

 

Rhaglith

1.            Cyhoeddwyd penodau 1, 2A a 3 - 6 o’r cod ymarfer hwn (ac eithrio pennod 2B, fel y nodir isod) o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’.). Mae pennod 2B, sy’n cynnwys paragraffau 140 i 150, yn cynnwys canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan adran 169 o’r Ddeddf y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol eu hystyried.

 

2.            Derbyniodd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014 i ddod yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.

 

3.            Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/enacted  

 

4.            Rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â’r gofynion yn y cod hwn wrth gyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw adran 147 (gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y cod hwn. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i unrhyw ganllawiau a amlinellir yma.

 

5.            Yn y cod hwn a’r canllawiau statudol hyn, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel “rhaid” neu “ni chaniateir”/”rhaid...beidio”. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel “gall” neu “dylai/ni ddylai”.

 

6.            Mae Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â swyddogaethau cyffredinol awdurdod lleol, gan gynnwys asesu anghenion poblogaeth am ofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill megis y rhai sy’n hyrwyddo llesiant, a hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector. Yn ogystal, mae’r Rhan hon yn rhoi sylw i sut y dylai pobl sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, sut mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu ystod o wasanaethau ataliol a sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau o ran cyflenwi gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth, a chynhorthwy i gael mynediad at ofal a chymorth.

 

7.            Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio rhoi’r cod hwn ar waith trwy broses sy’n ymgysylltu’n llawn â rhanddeiliaid. Mae’r gwaith o sefydlu grwpiau technegol sy’n cynnwys cynrychiolwyr ag arbenigedd, gwybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol perthnasol i weithio gyda swyddogion ar y polisi manwl sy’n angenrheidiol er mwyn datblygu’r rheoliadau a’r Cod Ymarfer a fydd yn cyflawni’r dyheadau polisi sy’n sail i’r Ddeddf wedi bod yn rhan annatod o’r dull hwn. Y cod hwn yw un o ganlyniadau’r cyd-gynhyrchu hwn.

 

Eiriolaeth

 

 

8.            Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cydraff yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Mae’n agored i unrhyw unigolyn wahodd rhywun o’i ddweis i’w helpu i gyfranogi’n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindia rhywun, ei deulul neu rwydwaith cymorth ehangach.

 

9.            Mae’r cod ymarfer penodol ar eitiolaeth a dan Ran 10 o’r Ddeddf yn nodi’r swyddogarthau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriarth â'r unigolyn, lunio barn ynglŷn â sut y gallai eiriolaeth gefnogi'r broses o ddyfarnu a sicrhau canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod barn ynglŷn â'r angen am eiriolaeth yn rhan annatod o'r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.


 

Pennod 1: Dyletswyddau llesiant a hollgyffredinol

 

Cyflwyniad

 

10.         Mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhan annatod o fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gefnogi pobl ar adegau anodd ac yn hirdymor. Maent yn amddiffyn pobl rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso ac yn galluogi pobl i fyw bywydau bodlon a sicrhau llesiant.

 

11.         Mae’r bennod hon yn gosod y cyd-destun ar gyfer rhoi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’i rheoliadau a’i chodau ymarfer cysylltiedig ar waith. Mae’r cyd-destun hwnnw yn canolbwyntio ar lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, hawliau a rhoi grym i bobl greu perthynas newydd â gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n ymwneud â chefnogi pobl sy’n darparu gwasanaethau cymdeithasol, gan roi grym iddynt gyd-gynhyrchu atebion gyda phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.

 

12.         Mae cyd-gynhyrchu yn cyfeirio at ffordd o weithio lle mae ymarferwyr a phobl yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid cyfartal i gynllunio a darparu gofal a chymorth. Mae hyn yn cyfateb i’r agwedd ddarbodus at ofal iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hegwyddorion gofal iechyd darbodus yn:

 

http://gov.wales/topics/health/nhswales/prudent-healthcare/?skip=1&lang=cy  

 

13.         Nod y dull hwn yw gweithio gyda phobl i ddod o hyd i atebion priodol. Os oes angen ymyrraeth, dylai fod yn gymesur ac yn amserol a helpu pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

14.         Mae llesiant yn sail i’r system gyfan ac yn cysylltu â’r cyfraniad y gall ymyrraeth gynnar ac atal ei wneud at hyrwyddo llesiant, sut mae pobl yn cael eu grymuso gan wybodaeth, cyngor a chynhorthwy a sut maent yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau. Mae’r Cod hwn yn rhoi system ar waith lle mae pobl yn bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gofal a chymorth. Mae’n rhoi hawliau a chyfrifoldebau clir i bobl.

 

15.         Mae pobl – plant, oedolion a gofalwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau – yn asedau hollbwysig ac yn rhan annatod o’r fframwaith cyfreithiol hwn. Bydd gweithio gyda phobl yn allweddol er mwyn cyflawni llesiant a datgloi’r potensial i fod yn greadigol, gan wneud defnydd gwell a mwy effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael.

 

16.         Mae’r fframwaith cyfreithiol yn rhan annatod o’r fframwaith deddfwriaethol. Mae’n rhoi cyfle i bawb fwynhau llesiant a lefel briodol o annibyniaeth. Gall pawb gael llais – cyfle – hawl – i gael eu clywed fel unigolyn, fel dinesydd, ac arfer rheolaeth dros eu bywydau o ddydd i ddydd.

 

17.         Trwy ddiffinio llesiant, darparu eglurder a thryloywder ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau a sicrhau dull sy’n seiliedig ar gyd-gynhyrchu ar lefel unigol, sefydliadol a strategol, mae’r bennod hon yn gosod fframwaith cryf ar gyfer yr holl godau a rheoliadau.

 

18.         Mae’r bennod hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

 

·         Diffiniad o lesiant

·         Dyletswydd llesiant

·         Hyrwyddo llesiant

·         Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinol

·         Ystyr ‘rhoi sylw i’

·         Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig

·         Monitro llesiant

 

19.         Mae’r bennod hon yn berthnasol i awdurdodau lleol mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd yna oblygiadau i gyrff partner, gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol, y trydydd sector, y sector annibynnol a phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yng Nghymru.

 

Cyd-destun a diben y bennod hon

 

20.         Mae’r bennod hon yn darparu canllawiau ar yr adrannau canlynol o dan Ran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

 

·         adran 5, o ran amlinellu sut y dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswydd i geisio hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth;

·         adran 6, o ran sut y dylai awdurdodau lleol gydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol cyffredinol a amlinellir yn y Ddeddf;

·         adran 7, o ran sut y dylai awdurdodau lleol gydymffurfio â dyletswyddau hollgyffredinol eraill a amlinellir yn y Ddeddf: Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.

 

21.         Ni wneir unrhyw reoliadau o dan yr adrannau hyn, ond bydd datganiad statudol o’r canlyniadau personol i’w cyflawni yn cael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 8. Bydd y datganiad hwn yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad pan fydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Ebrill 2016.

 

22.         Bydd y datganiad hwn yn rhan allweddol o’r fframwaith statudol sy’n amlinellu’r canlyniadau i’w cyflawni, mewn perthynas â llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.

 

23.         Mae’r cod hwn wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori â phartneriaid a phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. 

 

24.         Dylai’r cod hwn gael ei ddarllen ochr yn ochr â’r codau ymarfer a gyhoeddwyd o dan yr holl rannau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Diffiniad o Lesiant

 

25.         Mae adran 2 o Ran 1 o’r Ddeddf yn darparu diffiniad clir o lesiant sy’n berthnasol i:

 

a)    bobl sydd angen gofal a chymorth; a

b)    gofalwyr sydd angen cymorth.

                                

26.         Mae pob cyfeiriad at lesiant yn y Ddeddf yn golygu llesiant person sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth mewn perthynas ag unrhyw un o’r agweddau canlynol:

 

a)    Iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol

b)    Amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod

c)    Addysg, hyfforddiant a hamdden

d)    Perthnasoedd domestig, teulu a phersonol

e)    Cyfraniad at gymdeithas

f)     Sicrhau hawliau

g)    Llesiant cymdeithasol ac economaidd

h)   Addasrwydd llety.

 

Mewn perthynas â phlentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys:-

a)    datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol

b)    ‘llesiant’ fel y dehonglir y gair at ddibenion Deddf Plant 1989.

 

Mewn perthynas ag oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys-

a)    Rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd

b)    Cyflawni gwaith.

 

Dyletswydd llesiant

 

27.         Mae adran 5 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf geisio hyrwyddo llesiant (fel y’i diffinnir yn adran 2):

 

a)    pobl sydd angen gofal a chymorth; a

b)    gofalwyr sydd angen cymorth.

 

28.         Mae’r ddyletswydd hollgyffredinol hon i geisio hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yn berthnasol i bob person a chorff sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol ac asiantaethau statudol eraill. 

 

29.         Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r cyfrifoldeb dros lesiant gael ei rannu gyda phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Rhaid i bobl sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf roi grym i bobl gyfrannu at sicrhau eu llesiant eu hunain gyda’r lefel briodol o gymorth a gwasanaeth. Ni all asiantaethau a sefydliadau sicrhau canlyniadau personol person, ond gallant ei helpu i gyflawni’r canlyniad hwnnw. Bydd gweithio mewn partneriaeth â phobl yn allweddol er mwyn sicrhau eu llesiant ac atal datblygiad anghenion gofal a chymorth pobl.

 

30.         Er mwyn ceisio hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, mae angen i awdurdodau lleol ddeall beth sy’n bwysig i bobl a’r canlyniadau personol y maent am eu cyflawni. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y datganiadau canlyniadau llesiant sy’n sail i’r diffiniad o lesiant, o dan bob agwedd ar lesiant. Mae’r datganiadau hyn yn amlinellu’r canlyniadau personol cenedlaethol y dylai pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth ddisgwyl eu cyflawni er mwyn byw bywydau bodlon.

 

31.         Mae gan bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth hawliau a chyfrifoldebau o ran cyflawni eu canlyniadau personol. Pan fo pobl yn cyd-gynhyrchu eu canlyniadau personol gyda gwasanaethau cymdeithasol a’u partneriaid, gall pobl ddisgwyl cyflawni canlyniadau personol sy’n adlewyrchu’r datganiadau canlyniadau llesiant cenedlaethol canlynol:

 

Diffiniad o lesiant

Datganiadau canlyniadau llesiant cenedlaethol

Sicrhau hawliau

 

Hefyd i oedolion: Rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd

Rwy’n gwybod ac yn deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd ar gael ac yn defnyddio’r rhain i’m helpu i sicrhau fy llesiant

Rwy’n gallu cael gafael ar y wybodaeth briodol, pan fydda i ei hangen, yn y ffordd rwy’n ei dymuno, ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i reoli a gwella fy llesiant

Rwy’n cael fy nhrin ag urddas a pharch ac yn trin eraill yr un fath

Mae fy llais yn cael ei glywed ac mae pobl yn gwrando arnaf

Mae fy amgylchiadau personol yn cael eu hystyried

Rwy’n siarad drosof fi fy hun ac rwy’n cyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio ar fy mywyd, neu mae gen i rywun sy’n gallu gwneud hynny ar fy rhan

Iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol

                  

Hefyd i blant: Datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol

Rwy’n iach a bywiog ac rwy’n gwneud pethau i gadw fy hun yn iach

Rwy’n hapus ac yn gwneud y pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus

Rwy’n cael y gofal a’r cymorth iawn, cyn gynted â phosibl

Amddiffyniad rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Rwy’n ddiogel ac yn cael fy amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Rwy’n cael cymorth i amddiffyn y bobl sy’n bwysig i mi rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso

Rwy’n gwybod sut i fynegi fy mhryderon

Addysg, hyfforddiant a hamdden

Rwy’n gallu dysgu a datblygu i’m llawn botensial

Rwy’n gwneud y pethau sy’n bwysig i mi

Perthnasoedd domestig, teulu a phersonol

Rwy’n perthyn

Rwy’n cyfrannu ac yn mwynhau perthnasoedd diogel ac iach

Cyfraniad at gymdeithas

Rwy’n cysylltu ac yn gwneud cyfraniad at fy nghymuned

Rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi yn y gymdeithas

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

 

Hefyd i oedolion: Cyflawni gwaith

Rwy’n cyfrannu at fy mywyd cymdeithasol ac yn gallu bod gyda’r bobl rwy’n dewis bod gyda nhw

Nid wyf yn byw mewn tlodi

Rwy’n cael fy helpu i weithio

Rwy’n cael yr help sydd ei angen arnaf i dyfu a bod yn annibynnol

Rwy’n cael gofal a chymorth trwy’r Gymraeg os bydda i eu hangen

Addasrwydd llety

Rwy’n byw mewn cartref sy’n fy helpu i gyflawni fy llesiant

 

32.         Mae llesiant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Bydd pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth am gyflawni canlyniadau personol sy’n bersonol iddyn nhw a’u hamgylchiadau unigol. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried canlyniadau personol pobl a chyd-gynhyrchu atebion gyda’r bobl hynny. Rhaid i sicrhau bod ymatebion yn gymesur ac amserol fod yn sail i’r broses hon.

 

33.         Mae’n debygol y bydd person am gyflawni amryw o ganlyniadau personol, gan roi sylw i fwy nag un agwedd ar lesiant. Mae pob un o’r agweddau hyn ar lesiant mor bwysig â’i gilydd. Mae pob person yn wahanol ac efallai y bydd rhai agweddau yn bwysicach i rai pobl ac efallai y byddant angen gofal a chymorth i’w helpu i gyflawni’r agweddau hyn.

 

34.         Efallai y bydd yna adegau pan na ellir cyflawni canlyniadau personol trwy berthynas gyfartal rhwng pobl ac ymarferwyr a phan fydd rhaid i wasanaethau cymdeithasol ystyried a oes lle i gynnal ymchwiliad naill ai o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989 neu adran 126 o’r Ddeddf hon (gweler y Cod Ymarfer ar Ran 7 – Diogelu).

 

Hyrwyddo Llesiant

 

Y diffiniad o hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth

 

Mae hyrwyddo llesiant yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol fod yn rhagweithiol o ran ceisio gwella’r agweddau hynny ar lesiant wrth gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer person sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae ystyr llesiant wedi’i amlinellu yn adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r datganiadau canlyniadau llesiant.

 
 

 

 

 

 

 

 

 


35.         Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth wrth gyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas â pherson sydd angen gofal a chymorth; mae hyn yn cynnwys y bobl hynny nad oes ganddynt anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ond sydd ag anghenion gofal a chymorth a all gael eu diwallu mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy a gwasanaethau llesiant ataliol.

 

36.         Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithredu rhwng yr awdurdod lleol a’i “bartneriaid perthnasol” gyda’r nod o wella llesiant oedolion yn eu hardal sydd ag anghenion gofal a chymorth a gwella llesiant plant yn eu hardal. Mae partner perthnasol (mewn perthynas â’r trefniadau i hyrwyddo cydweithredu ar gyfer oedolion) wedi’i restru yn adran 162 (4) o’r Ddeddf. Mewn achosion unigol, rhaid i bartner perthnasol gydymffurfio â chais gan yr awdurdod lleol i gydweithredu o ran cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a all gynnwys helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau personol, oni bai yr ystyrir nad yw hyn yn cydymffurfio â dyletswyddau’r partner perthnasol neu y byddai’n cael effaith andwyol ar gyflawni swyddogaethau’r partner perthnasol.

 

Llywio’r asesiad poblogaeth

 

37.         Wrth hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio gwybodaeth am lesiant pobl a’r rhwystrau i hyrwyddo llesiant pobl i lywio’r asesiad poblogaeth. Diben yr asesiad poblogaeth yw nodi ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu ac atal anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr. Mae mwy o wybodaeth am y gofyniad i gynnal asesiad poblogaeth ym mhennod 2.

 

Gohirio ac atal yr angen am ofal

 

38.         Rhaid i’r gwaith o hyrwyddo llesiant pobl gynnwys ffocws ar ohirio ac atal yr angen am ofal a chymorth i atal anghenion pobl rhag gwaethygu. Rhaid i ystod a lefel y gwasanaethau ataliol mae awdurdodau lleol yn eu darparu neu eu trefnu geisio hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, yn ogystal â chyflawni’r dibenion yn adran 15 o’r Ddeddf.  

 

Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

39.         Er mwyn i bobl bennu’r canlyniadau maen nhw am eu cyflawni a gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’r ffordd orau o reoli eu llesiant, rhaid sicrhau bod gwybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth a help o ran cael mynediad at ofal a chymorth ar gael ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Rhaid i awdurdodau lleol roi system ar waith sy’n darparu’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen ar bobl i’w helpu i reoli eu bywydau o ddydd i ddydd a gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt (gweler pennod 5 ar wybodaeth, cyngor a chynhorthwy).

 

Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector

40.         Dylai pobl fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau ar bob lefel, fel unigolion ac fel rhan o’r boblogaeth gyfan. Rhaid i awdurdodau lleol geisio grymuso pobl i gynhyrchu atebion arloesol ar gyfer gohirio, atal a diwallu’r angen am ofal a chymorth trwy rwydweithiau a chymunedau lleol. Mae pennod 4 yn amlinellu ffordd o gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 16 o’r Ddeddf i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo sefydliadau dielw.

 

41.         Mae dyletswydd adran 16 hefyd yn golygu rhoi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar ganlyniadau a chefnogi mwy o drefniadau sy’n cael eu cynllunio a’u harwain gan bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Gall annog pobl leol a busnesau i gyfrannu mwy yn eu cymunedau helpu pobl i sicrhau eu llesiant.

 

Asesu anghenion pobl

42.         Y bobl eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i bennu’r canlyniadau personol y maen nhw am eu cyflawni yn seiliedig ar eu gwerthoedd eu hunain a’r hyn sy’n bwysig iddynt. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gan bobl lais a mwy o reolaeth dros y gofal a’r cymorth y maent yn eu derbyn trwy gynnwys unigolion yn y broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd y dull hwn yn cryfhau’r gofyniad am wasanaethau sy’n canolbwyntio ar bobl, gan gynnwys pobl yn cyfrannu’n uniongyrchol at eu llesiant eu hunain. (Gweler y codau a gyhoeddwyd o dan Ran 3 a Rhan 4 ar gyfer Asesu a Chynllunio Gofal).

 

43.         Wrth asesu anghenion, rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl i nodi’r hyn sy’n bwysig iddynt. Bydd pobl am gyflawni gwahanol agweddau ar lesiant, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau; gelwir y rhain yn ganlyniadau personol. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlyniadau personol y mae unigolyn am eu cyflawni, yr adnoddau sydd ar gael a sut y bydd yr awdurdod lleol yn ei helpu i gyflawni’r canlyniadau hyn. Bydd deall y rhwystrau mae person yn eu hwynebu wrth geisio cyflawni eu canlyniadau personol yn rhan annatod o hyn. 

 

44.         O dro i dro, bydd angen cymorth ar unigolion gan deulu, ffrindiau, gofalwyr neu eu rhwydwaith cymorth ehangach er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio eu gofal a’u cymorth. Bydd yna adegau pan na fydd hi’n bosibl neu’n briodol i deulu, ffrindiau, gofalwyr neu eu rhwydwaith cymorth ehangach ddarparu’r cymorth hwnnw. O dan amgylchiadau o’r fath, rhaid i awdurdodau lleol drefnu eiriolwr annibynnol i hwyluso cyfranogiad unigolyn os bydd yr unigolyn hwnnw ond yn gallu goresgyn y rhwystrau i gymryd rhan lawn yn y broses o bennu, adolygu a diwallu ei anghenion gofal a chymorth os oes yna unigolyn priodol ar gael i gefnogi a chynrychioli safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn hwnnw (mae canllawiau manwl yn y cod ymarfer ar Eiriolaeth o dan Ran 10 a rhannau perthnasol eraill o’r Ddeddf).

 

45.         Efallai y bydd asesiad o anghenion gofal a chymorth unigolyn, neu anghenion cymorth yn achos gofalwr, yn cynnwys darparu cyngor a chymorth neu ddatblygu cynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth yn achos gofalwyr. O dan yr holl amgylchiadau, rhaid i awdurdodau lleol weithio’n agored a thryloyw mewn partneriaeth go iawn â phobl er mwyn hyrwyddo llesiant pobl a bod yn hyblyg wrth gyflawni’r agweddau hynny ar lesiant sy’n fwy pwysig i berson. Diben yr asesiad yw sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn derbyn ymateb cymesur ac amserol sy’n eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau personol (gweler y cod a gyhoeddwyd ar gyfer Rhan 3 ar asesiad). Bydd hyn yn gofyn am atebion unigol a nodir mewn partneriaeth gan weithwyr proffesiynol a phobl.

 

46.         Dylai plant gael cymorth gan ymarferwyr a phobl eraill sy’n dod i gysylltiad â nhw, gan gynnwys eu teulu a’u ffrindiau, i nodi’r hyn sy’n bwysig iddynt. Bydd angen i’r cymorth fod yn briodol i’w hoedran a’u dealltwriaeth.

 

47.         Rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion cymorth gofalwyr, a chymryd camau i drefnu darpariaeth, trwy asesiad gofalwyr lle bo hynny’n briodol. Wrth gynnal asesiad o anghenion cymorth gofalwyr, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlyniadau personol y mae gofalwr am eu cyflawni (gweler y cod a gyhoeddwyd ar gyfer Rhan 3 ar asesiad).

 

Diwallu anghenion

 

48.         Wrth ddatblygu cynllun gofal a chymorth (neu gynllun cymorth yn achos gofalwyr), rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl i nodi canlyniadau personol a chytuno ar gerrig milltir ymarferol y mae modd arsylwi arnynt a’u cyflawni er mwyn gwireddu pob canlyniad a monitro ac olrhain cynnydd tuag at gyflawni canlyniadau personol (gweler y cod a gyhoeddwyd ar gyfer Rhan 4 ar gynllunio gofal a’r cod mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol).

 

49.         Mae gan bawb hawl i lesiant ac mae gan bawb gyfrifoldeb dros lesiant hefyd. Rhaid i awdurdodau lleol edrych ar yr hyn y gall pobl a’u cymunedau ei gyfrannu at sicrhau eu llesiant, a rhaid i’w swyddogaethau a’u cyfrifoldebau gael eu cofnodi mewn cynllun gofal a chymorth. Bydd hyn yn adeiladu ar adnoddau pobl, gan gynnwys cryfderau, medrau, teuluoedd a chymunedau pobl (gweler y Cod a gyhoeddwyd ar gyfer Rhan 4 ar gynllunio gofal).

 

50.         Rhaid i’r gwaith o integreiddio gwasanaethau ganolbwyntio ar bobl er mwyn sicrhau canlyniadau personol. Mae gwasanaethau’n gwneud cyfraniadau unigryw i helpu pobl i sicrhau llesiant. Rhaid i awdurdod lleol weithio gyda phob un o’i adrannau o fewn yr awdurdod lleol hwnnw a phartneriaid perthnasol eraill yr ystyrir eu bod yn hanfodol i helpu pobl i sicrhau eu llesiant (gweler adrannau 162 a 163 o’r Ddeddf mewn perthynas â’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cydweithrediad).

 

Dyletswyddau hollgyffredinol

 

51.      Os bydd awdurdod lleol yn trefnu i drydydd parti ddarparu gwasanaethau cymdeithasol ar ei ran, bydd y dyletswyddau hollgyffredinol yn adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf yn aros gyda’r awdurdod. Rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod pob gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol hyn.

51. 

Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinol

 

52.         Mae adran 6 o’r Ddeddf yn amlinellu amryw o ddyletswyddau hollgyffredinol sy’n berthnasol pan fydd pobl yn cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag:

 

a)    unigolyn sydd angen gofal a chymorth neu efallai ei fod angen gofal a chymorth

b)    gofalwr sydd angen cymorth neu a all fod angen gofal a chymorth, neu

c)    blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

 

53.         Mae’r dyletswyddau hollgyffredinol cyffredinol a amlinellir yn adran 6 o’r Ddeddf yn berthnasol pan fydd yr unigolyn angen gofal a chymorth neu pan fydd gofalwr angen cymorth, hyd yn oed os na phennwyd bod gan yr unigolyn anghenion o’r fath, neu os pennwyd nad yw’r anghenion hynny yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ond bod gan yr unigolyn anghenion gofal a chymorth y gellir eu diwallu mewn ffyrdd eraill.

 

54.         Rhaid i berson sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag unigolyn gydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol. Bydd rhai o’r dyletswyddau hollgyffredinol hyn yn berthnasol ym mhob achos, waeth a yw’r swyddogaethau’n cael eu cyflawni mewn perthynas ag oedolyn neu blentyn. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn adran 6(2) o’r Ddeddf. Mae yna ddyletswyddau hollgyffredinol eraill sy’n berthnasol hefyd, naill ai pan fo swyddogaethau’n cael eu cyflawni mewn perthynas ag oedolion (fel yr amlinellir yn adran 6(3)) neu mewn perthynas â phlant (adran 6(4)). Mae’r dyletswyddau hollgyffredinol hyn fel a ganlyn:

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol i ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol (adran 6(2)(a)).

Mae hon yn broses annatod o ran deall ac asesu canlyniadau personol, beth sy’n bwysig i bobl a’u hanghenion gofal a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried barn, dymuniadau a theimladau pobl wrth nodi, asesu a helpu pobl i sicrhau llesiant, yn enwedig os yw’r safbwyntiau hyn yn effeithio ar y penderfyniadau ynglŷn â gofal a chymorth ac os yw pobl wedi mynegi unrhyw farn, dymuniadau a theimladau yn y gorffennol ond nad ydynt bellach yn gallu gwneud hynny.

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol i roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn (adran 6(2)(b)).

Bydd hyrwyddo a pharchu urddas person yn rhan allweddol o’r gwaith o helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt a gosod pobl wrth graidd eu gofal a’u cymorth. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i hyrwyddo a pharchu urddas unigolyn.

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol i roi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm (adran 6(2)(d).

Mae paragraff 35 uchod yn amlinellu swyddogaethau teulu, ffrindiau, gofalwyr, rhwydweithiau cymorth ehangach neu eiriolwyr annibynnol o ran darparu cymorth priodol i sicrhau bod unigolion yn gwneud cyfraniad gweithredol at eu gofal a’u cymorth. Mae canllawiau manwl wedi’u hamlinellu yn y cod ymarfer ar Eiriolaeth o dan Ran 10 a rhannau perthnasol eraill o’r Ddeddf.

 

Mewn perthynas â phlant, bydd hyn yn dibynnu ar eu hoedran a’u dealltwriaeth a dylent gael eu cefnogi gan amrywiaeth o ymarferwyr a phobl eraill sy’n dod i gysylltiad â nhw, gan gynnwys eu teulu a’u ffrindiau. Yn ogystal â hyn, rhaid i unrhyw bobl sy’n darparu gofal a chymorth i blentyn o dan 16 oed gael barn y bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Bydd hyn yn hollbwysig o ran pennu sut i gyflawni canlyniadau personol.

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol i roi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith) (adran 6(2)(c).

Bydd y ddyletswydd hon yn unigryw i bob person. Er enghraifft, efallai y bydd gan rai pobl gredoau ysbrydol neu grefyddol sydd o bwys arbennig iddynt. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried amgylchiadau unigol pobl a sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu wrth hyrwyddo eu llesiant.

 

Mae’r Ddeddf yn diffinio llesiant, ac mae’r diffiniad hwn yn cynnwys ‘sicrhau hawliau’. I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae iaith yn rhan annatod o’u gofal a bydd sicrhau hawliau yn golygu gallu defnyddio eu hiaith eu hunain i gyfathrebu a chyfrannu at eu gofal fel partneriaid cyfartal.

 

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hymgorffori mewn gwaith cynllunio a darparu a bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig i siaradwyr Cymraeg heb iddynt orfod gofyn amdanynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol (Mwy na Geiriau...), sydd ar gael yn:

http://cymru.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/words/?lang=cy

 

Mae’r Fframwaith yn amlinellu chwe amcan allweddol y mae angen i bob sefydliad (gan gynnwys awdurdodau lleol) weithio tuag atynt. Mae hyn yn cynnwys yr amcan o weithredu ymagwedd systematig at wasanaethau Cymraeg fel rhan annatod o’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol (mewn perthynas ag oedolion) i roi sylw i bwysigrwydd dechrau gyda’r rhagdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn (adran 6(3)(a)).

Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i bwysigrwydd dechrau gyda’r rhagdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn. Rhaid i hyn gael ei wneud yn rhan annatod o arferion i sicrhau bod pobl yn bartneriaid cyfartal yn y gwaith o gynllunio a darparu eu gofal. Bydd hyn yn cynnwys pennu’r hyn sy’n bwysig iddynt a’r canlyniadau lles y maent am eu cyflawni. Rhaid i awdurdodau lleol beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau yn seiliedig ar ragdybiaethau ynglŷn ag amgylchiadau person.

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol (mewn perthynas ag oedolion) i roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosib (adran 6(3)(b)).

 

55.         Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn lle bo hynny’n bosibl.

 

56.         Diffinnir llesiant mewn perthynas â phob agwedd ar fywyd person. Ar gyfer person sydd angen gofal a chymorth neu ofalwr sydd angen cymorth, y bwriad yw y bydd llesiant yn cynnwys agweddau allweddol ar fyw’n annibynnol, fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (yn enwedig Erthygl 19 o’r Confensiwn).

 

57.         Mae’r dull o hyrwyddo llesiant pobl trwy nodi’r canlyniadau personol maen nhw am eu cyflawni ym mhob agwedd ar eu bywydau bob dydd, a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth geisio cyflawni’r canlyniadau hyn, yn un sy’n cydnabod y gall gofal a chymorth gyfrannu at ddileu rhwystrau o’r fath yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd. Mae’n cydnabod y gall pobl anabl gyrraedd eu potensial a chymryd rhan lawn fel aelod o gymdeithas, yn unol â Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol Llywodraeth Cymru.

 

58.         Mae Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol Llywodraeth Cymru yn mynegi hawliau pobl anabl i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd, ac mae ar gael yn:

 

http://gov.wales/topics/people-and-communities/equality-diversity/rightsequality/disability/framework-for-action/?skip=1&lang=cy

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol (mewn perthynas â phlant) i roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn (adran 6(4)(a)).

Wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlentyn sydd angen gofal a chymorth neu a all fod angen gofal a chymorth (neu, os yw’r plentyn yn ofalwr, ei fod angen gofal a chymorth neu fe all fod angen gofal a chymorth), neu wrth gyflawni swyddogaethau o dan Ran 6 o’r Ddeddf mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn. Rhaid i awdurdodau lleol ddatblygu eu gwasanaethau ataliol a llesiant i gefnogi’r dyletswyddau hollgyffredinol.

 

·                     Y ddyletswydd hollgyffredinol (mewn perthynas â phlant o dan 16 oed) i ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny a) yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a b) yn rhesymol ymarferol (adran 6(4)(b)).

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd o dan 16 oed, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn ac yn rhesymol ymarferol. Wrth asesu a darparu gofal a chymorth, rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda rhieni plant i ddatblygu cynllun gofal a chymorth sy’n hyrwyddo magwraeth plentyn gyda’i deulu, yn gyson ag anghenion diogelu a dymuniadau a theimladau’r plentyn (gweler y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan Ran 7).

 

Ystyr rhoi sylw

 

 

59.         Mae’r dyletswyddau hollgyffredinol yn adran 6 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bobl sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf ‘roi sylw’ i faterion penodol. Yng nghyd-destun y dyletswyddau hollgyffredinol hyn, mae gofyniad i ‘roi sylw’ i fater penodol yn debyg i ofyniad i ‘ystyried’ y mater hwnnw.

 

60.         Rhaid i awdurdod lleol ddangos ei fod wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol mewn ffordd ystyrlon. Rhaid i awdurdod lleol bennu sut y gellid cyflawni’r gydymffurfiaeth honno. Mae trefniadau megis hyfforddiant staff a chyflwyno mesurau diogelu gweithdrefnol yn enghreifftiau o ffyrdd o gyflawni cydymffurfiaeth.

 

61.         I sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth gyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag unigolion:

 

·         Dylai awdurdod lleol allu dangos ei fod wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol i roi sylw i’r materion penodol sy’n berthnasol i’r penderfyniad pan fo penderfyniad penodol yn cael ei wneud mewn perthynas ag unigolyn sydd angen gofal a chymorth;

 

·         Dylai awdurdod lleol gadw cofnod cywir o’r ffordd y mae wedi rhoi sylw i’r materion penodol hynny wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â nodi anghenion unigolyn a darparu gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

·         Dylai awdurdod lleol roi’r pwys sy’n briodol o dan yr holl amgylchiadau, gan gydbwyso hyn yn erbyn unrhyw ffactorau eraill sy’n berthnasol i’r penderfyniad dan sylw.

 

62.         Mae gan unigolion hawl i gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i awdurdod lleol os ydynt yn teimlo nad yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau hollgyffredinol wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddeddf, er enghraifft, wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â nodi anghenion unigolyn a darparu gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae canllaw i drafod cwynion a sylwadau gan wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, yn amlinellu manylion y broses dau gam y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn wrth ymateb i unrhyw gwynion am y ffordd y maent yn cyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol 

 

(http://gov.wales/topics/health/socialcare/complaints/?skip=1&lang=cy).

 

Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

 

63.         Mae adran 7 o’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar bobl sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf i roi sylw priodol i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r dyletswyddau hyn yn berthnasol pan fo person yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag unigolyn.

 

64.         Mae ystyr rhoi “sylw priodol” i egwyddorion a chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig a amlinellir yn adran 7 o’r Ddeddf yr un fath ag ystyr “rhoi sylw” i’r materion penodol yn adran 6 o’r Ddeddf. I sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion a chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig, dylai awdurdodau lleol ystyried y canllawiau ym mharagraffau 59 i 62. Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu fel eu bod yn cyd-fynd ag “egwyddorion Brown”[1]. I gael mwy o wybodaeth am egwyddorion Brown, ewch i:

 

Equality Act 2010- Technical guidance on the public sector equality duty England

 

65.         Wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag oedolion sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, rhaid i unrhyw bobl sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf roi sylw priodol i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991. I weld Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, ewch i:

 

http://www.un.org/documents/ga/res/46/a46r091.htm

 

Mae yna 18 o egwyddorion i gyd, wedi’u rhannu yn 5 thema: annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas.

 

66.         Wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr ifanc sydd angen cymorth a phobl y mae swyddogaethau’n cael eu cyflawni mewn perthynas â nhw o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya), rhaid i unrhyw bobl sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf roi sylw priodol i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Nid yw’r ddyletswydd hon yn berthnasol i Weinidogion Cymru gan fod ganddynt eisoes ddyletswydd i roi sylw priodol i’r UNCRC yn unol â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. I gael mwy o wybodaeth am yr UNCRC a’r Cynllun Hawliau Plant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ewch i:

 

http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/rights/uncrc/?skip=1&lang=cy 

 

67.         Yn ogystal ag egwyddorion a chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig a amlinellir yn y Ddeddf, wrth gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr anabl sydd angen cymorth, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn amlinellu hawliau pobl anabl, a gallwch eu gweld nhw yn: http://www.un.org/disabilities/convention/conventionfull.shtml

 

 

Monitro Llesiant

 

68.         Mae adran 8 o’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru hefyd nodi mesurau canlyniadau ar gyfer asesu cyflawniad y canlyniadau personol.

 

69.         Mae’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth wedi’i gyhoeddi. Bydd hyn yn dangos a yw llesiant yn cael ei gyflawni.

 

70.         Bydd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn darparu tystiolaeth ar a yw gwasanaethau gofal a chymorth yn gwella canlyniadau llesiant i bobl yng Nghymru gan ddefnyddio dangosyddion cyson a chymaradwy.

 

71.         I weld y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth, ewch i:

 

http://gov.wales/topics/health/socialcare/well-being/?skip=1&lang=cy    

 

72.         Bydd fframwaith mesur perfformiad ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth yn sail i’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol ac yn dangos y cyfraniad mae gwasanaethau’n ei wneud at helpu pobl i sicrhau llesiant.

 

73.         Mae fframwaith perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol wedi’i gynnwys yn y cod ymarfer mewn perthynas â pherfformiad gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â’r safonau ansawdd a’r mesurau perfformiad a amlinellir yn y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar wahân o dan adran 145 o’r Ddeddf.

 


74.          

Pennod 2: Asesiad Poblogaeth

 

Cyflwyniad

 

74.    Diben y bennod hon yw amlinellu:

 

·         y gofyniad ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i asesu i ba raddau mae pobl angen gofal a chymorth ac i ba raddau mae gofalwyr angen cymorth;

 

·         y gofyniad ar awdurdodau lleol o fewn Bwrdd Iechyd Lleol i lunio cytundeb partneriaeth sengl gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw at ddibenion cynnal yr asesiad hwn.

 

75.         Mae pennod 2A o’r cod ymarfer hwn yn berthnasol i awdurdodau lleol mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae pennod 2B yn cyflwyno canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan adran 169 o’r Ddeddf, ac maent yn berthnasol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. Bydd goblygiadau hefyd i gyrff partner megis y trydydd sector a’r sector annibynnol ac i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yng Nghymru.

 

Cyd-destun

 

76.         Mae’r bennod hon yn rhoi sylw i adran 14 a rheoliadau a wnaed o dan adran 14 ac adran 166 o’r Ddeddf. Mae adran 14 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal asesiad ar y cyd o’r anghenion gofal a chymorth, ac anghenion cymorth gofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol. Rhaid i’r asesiad hwn nodi’r canlynol hefyd:

 

·         i ba raddau nad yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu;

·         ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol er mwyn diwallu’r anghenion hynny;

·         ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol er mwyn darparu’r gwasanaethau ataliol;

·         gwasanaethau sy’n ofynnol yn adran 15 o’r Ddeddf;

·         sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

77.         Mae adran 14 o’r Ddeddf yn rhoi’r grym i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau mewn perthynas â sut mae’r asesiadau hyn yn cael eu cynnal, megis mewn perthynas â’u hamseru a’u hadolygiad.

 

78.         Mae adran 166 o’r Ddeddf yn darparu pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru fel y gallant lunio cytundebau partneriaeth penodol ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol neu gyflawni swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol. Gallai’r rhain fod yn gytundebau partneriaeth gan un awdurdod lleol neu fwy ac un Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy. I ddarparu ar gyfer asesiadau poblogaeth mwy effeithiol o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid i gytundebau partneriaeth gael eu rhoi ar waith fel bod pob Bwrdd Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol yn ardal pob Bwrdd Iechyd Lleol yn cydgysylltu’r ymarfer asesu fel y gallant gynhyrchu adroddiad cyfunol ar yr asesiad poblogaeth yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Diben

 

79.         Diben yr asesiad poblogaeth yw sicrhau bod awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn cyd-gynhyrchu sail dystiolaeth glir a phenodol mewn perthynas ag anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr fel sail i’r gwaith o gyflawni eu swyddogaethau statudol a llywio penderfyniadau cynllunio a gweithredol. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u datblygu mewn ffordd effeithlon ac effeithiol gan bartneriaid yn y sector cyhoeddus er mwyn hyrwyddo llesiant pobl ag anghenion gofal a chymorth.

 

80.         Bydd asesiad poblogaeth yn sbarduno newid, gan gynnwys trwy alluogi awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i ganolbwyntio ar ymagweddau ataliol at anghenion gofal a chymorth. Bydd yn darparu’r wybodaeth ofynnol i gefnogi penderfyniadau yn ymwneud ag adnoddau a chyllideb, gan sicrhau bod gwasanaethau a chanlyniadau yn cael eu targedu, yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn effeithlon. Bydd yn sail i’r gwaith o integreiddio gwasanaethau a chefnogi’r dyletswyddau a amlinellir yn Rhan 9 yn enwedig.

 

81.         Mae’r asesiad poblogaeth hwn yn cysylltu a chefnogi gofynion eraill ar wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol o dan y Ddeddf. Er enghraifft, bydd yr asesiad hwn yn helpu awdurdodau lleol i fodloni’r gofyniad yn adran 16 o’r Ddeddf i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector. Bydd yn cefnogi’r gofyniad i nodi’r gofal a’r cymorth, a’r gwasanaethau ataliol, y dylai’r modelau gwasanaeth amgen hyn eu darparu. Yn ogystal, bydd yn llywio natur y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy sy’n ofynnol.

 

82.         Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n glir bod rhaid i’r asesiad poblogaeth hwn gael ei ystyried wrth gynhyrchu strategaethau iechyd a llesiant yn unol â Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a chynlluniau plant a phobl ifanc yn unol â Deddf Plant 2004. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cysylltiad statudol yn parhau ag unrhyw ddeddfwriaeth bellach yn ymwneud â swyddogaeth cynllunio strategol awdurdodau cyhoeddus. Ein disgwyliad yw y bydd yr asesiad poblogaeth a amlinellir yn y cod ymarfer hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu elfennau unrhyw gynlluniau a strategaethau yn ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, nawr neu yn y dyfodol.

 

83.         Mae’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig a gynhyrchir gan Fyrddau Iechyd Lleol dros gyfnod o dair blynedd, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, yn amlinellu sut y bydd adnoddau yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth a gwella canlyniadau iechyd, gwella ansawdd gofal a sicrhau’r gwerth gorau o adnoddau. Bydd asesiadau poblogaeth a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf yn llywio Cynlluniau Tymor Canolig Integredig a’r ardaloedd cynllunio lleol a sefydlwyd yn dilyn Gosod y Cyfeiriad a gyhoeddwyd yn 2010, ac yn cael eu llywio ganddynt.

 

84.         Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu strategaeth digartrefedd at ddibenion atal ac ymateb i ddigartrefedd. Gan ei bod hi’n debygol y bydd gan y rhai sy’n cael eu heffeithio, neu sy’n wynebu risg o gael eu heffeithio gan ddigartrefedd anghenion gofal a chymorth, dylai’r asesiad poblogaeth hwn lywio’r gwaith o gynhyrchu strategaeth digartrefedd.     

 

85.         Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn ystyried asesiadau poblogaeth sydd wedi’u cynhyrchu wrth arolygu adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. 

 

Pennod 2A – Cynnal asesiad poblogaeth o anghenion gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth

 

Cynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth

 

86.         Rhaid cynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth. Mae pennod 2B yn amlinellu’r gofyniad i lunio cytundeb partneriaeth at ddibenion cynnal asesiad poblogaeth. Dylai awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol mewn cytundeb partneriaeth gyfuno eu hasesiadau poblogaeth mewn un adroddiad. Felly, dylai cyfanswm o saith adroddiad cyfunol ar asesiadau poblogaeth gael eu cyhoeddi yn unol â’r cytundebau partneriaeth a amlinellir ym mharagraff 139.

 

87.         Mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyo’r adroddiad asesiad poblogaeth yn ffurfiol. Bydd angen i hyn gael ei wneud gan Fwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol ac, yn achos yr awdurdod lleol, bydd angen iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn pan fydd awdurdod gweithredol neu fwrdd y cyngor yn ei gyflwyno. Bydd hyn yn sicrhau bod y wybodaeth yn yr adroddiad yn cael ei hystyried ar y lefelau uchaf o fewn y sefydliadau hyn. 

 

88.         Ar ôl iddynt gael eu cwblhau, rhaid i adroddiadau asesu gael eu cyhoeddi ar wefannau pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol oedd yn rhan o’u cynhyrchu. Yn ogystal, rhaid i gopi o’r adroddiad asesiad poblogaeth gael ei anfon at Weinidogion Cymru adeg ei gyhoeddi. Gall y swyddogaeth hon gael ei dirprwyo i’r corff cydgysylltu arweiniol (gweler pennod 2B).  

 

89.         Dylai’r adroddiad asesiad poblogaeth gael ei ddrafftio gan ddefnyddio iaith hygyrch fel y gall aelodau’r cyhoedd ei ystyried. Mae’n bwysig bod yr adroddiad asesu yn esbonio sut y daeth yr awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w penderfyniad mewn perthynas â’r anghenion a nodir a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

Amserlen ar gyfer cynnal asesiad poblogaeth

 

90.         Rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynhyrchu un adroddiad asesiad poblogaeth ym mhob cylch etholiadol llywodraeth leol. 

 

91.         Dylai adroddiadau asesiad poblogaeth gael eu cynhyrchu o fewn amserlen a fydd yn llywio unrhyw system gynllunio integredig ehangach mewn ffordd ystyrlon. Rhaid i’r adroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi erbyn mis Ebrill 2017. 

 

92.         Bydd Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 yn nodi’r amserlen ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau asesiad poblogaeth dilynol. 

 

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

 

93.         Fel yr amlinellir ym mhennod 1, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn mewn perthynas â pherson sydd angen gofal a chymorth a gofalwr sydd angen cymorth. Yn ogystal, mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol roi sylw priodol i nodweddion gwarchodedig wrth gyflawni eu swyddogaethau.

 

94.         Felly, rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o’r broses o gynnal asesiad poblogaeth. Rhaid i hyn gynnwys asesiadau effaith ar: Oedran, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd a Chredoau, Rhyw a Chyfeiriadedd Rhywiol.

 

 

Adolygu adroddiadau asesiad poblogaeth

 

95.         Wrth gynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth, rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol edrych i’r dyfodol ac ystyried yr anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr ar gyfer y cyfnod hyd at gyhoeddi’r asesiad poblogaeth nesaf. 

 

96.         Fodd bynnag, o ystyried y gall amgylchiadau newid, rhaid i’r cytundeb partneriaeth a sefydlwyd i gynnal yr asesiad poblogaeth adolygu’r adroddiad asesiad poblogaeth yn rheolaidd. Dylai’r adroddiad asesiad poblogaeth gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, ond o leiaf unwaith hanner ffordd trwy gyfnod yr asesiad poblogaeth. Os bydd yr adolygiad hwn yn nodi newid sylweddol yn yr anghenion gofal a chymorth neu anghenion gofalwyr, dylai adendwm gael ei gynhyrchu, ei gyhoeddi a’i anfon at Weinidogion Cymru.

 

Strwythur adroddiad asesiad poblogaeth

 

97.         Dylai adroddiad asesiad poblogaeth fod â dwy ran:

 

·                     yr asesiad o angen;

·                     ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol.

 

Adran 1: Asesiad o angen 

 

98.         Rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol asesu’r canlynol ar y cyd:

 

·         i ba raddau y mae yna bobl yn yr ardal asesu sydd angen gofal a chymorth;

·         i ba raddau y mae yna ofalwyr yn yr ardal asesu sydd angen cymorth;

·         i ba raddau y mae yna bobl nad yw eu hanghenion gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion cymorth) yn cael eu diwallu.

 

99.         Er mwyn cynnal yr asesiad hwn, bydd angen i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddefnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth. Dylid caffael y wybodaeth hon gyda’r nod nid yn unig o nodi maint angen ar adeg cynnal yr asesiad poblogaeth  ond hefyd fel y gellir dadansoddi angen yn y dyfodol dros weddill cyfnod yr asesiad poblogaeth.  

 

100.      Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddarparu ystod eang o wybodaeth ystadegol mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd yr ystadegau hyn, yn ogystal ag ystadegau mae awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn eu cynhyrchu ar gyfer eu hanghenion eu hunain, yn ddefnyddiol wrth gynnal asesiad poblogaeth. Gall ystorfeydd data presennol, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Ddata Cymru, fod yn ddefnyddiol neu’n berthnasol hefyd. Gallai cofrestri o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill a gedwir gan awdurdodau lleol lywio’r asesiad o anghenion pobl â’r cyflyrau hyn (a chael eu llywio gan yr asesiad poblogaeth hwn). Fodd bynnag, ni ddylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddibynnu ar gofrestri yn unig mewn perthynas â phobl anabl a’r rhai â nam ar y synhwyrau.

 

101.      Mae’r cod ymarfer ar ganlyniadau a gyhoeddwyd o dan Adran 9 o’r Ddeddf yn amlinellu gofynion y fframwaith mesur perfformiad sy’n rhan o’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol. Dylid rhoi sylw arbennig i’r mesuriadau perfformiad hyn fel rhan o’r asesiad poblogaeth er mwyn sicrhau bod yr anghenion gofal a chymorth a nodir yn cyd-fynd â gofynion y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol. Bydd y mesuriadau perfformiad yn dangos y newid mewn darpariaeth gwasanaethau i helpu pobl i aros yn eu cymuned a phlant i aros gyda’u teuluoedd.

 

102.      Dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol fod yn arloesol o ran nodi ymchwil, ystadegau a ffynonellau data lleol a allai gyfrannu at asesiad, gan gynnwys defnyddio technoleg. Dylent ystyried hefyd ganfyddiadau asesiadau presennol megis y rhai a gynhelir fel rhan o’r gwaith o ddarparu’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.

 

103.      Mae gwybodaeth ansoddol yn hollbwysig i lywio’r asesiadau hyn. Dylai unrhyw asesiad poblogaeth sicrhau cydbwysedd rhwng gwybodaeth ansoddol a gwybodaeth feintiol. Ni ddylai awdurdodau lleol gynnal asesiad poblogaeth fel ymarfer ystadegol yn unig.

 

104.      Wrth gael gwybodaeth ansoddol, efallai y bydd prifysgolion a sefydliadau lleol wedi cynnal ymchwil a all fod yn ddefnyddiol wrth nodi anghenion lleol. Yn ogystal, dylid ystyried ymchwil genedlaethol a all fod yn berthnasol i amgylchiadau lleol. Er enghraifft, efallai y bydd adroddiadau gan Sefydliad Joseph Rowntree, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) a sefydliadau tebyg eraill yn nodi materion neu themâu y bydd awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol am fod yn ymwybodol ohonynt a’u defnyddio yn eu hardal asesu eu hunain. 

 

105.      Mae’n debygol y bydd gan ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol ac aelodau eraill o staff mewn awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, yn ogystal â mewn asiantaethau partner megis yr heddlu ac addysg, safbwyntiau gwybodus ar faint yr anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr yn yr ardal. Dylai eu profiad a’u harbenigedd fod yn ffynhonnell wybodaeth wych wrth gynnal asesiad.

 

106.      Mae cyfraniad amrywiaeth eang o ddinasyddion, rhanddeiliaid a phartneriaid yn yr asesiad poblogaeth yn rhan annatod o’r gwaith o gynnal asesiad poblogaeth sy’n ystyrlon ac wedi’i ymchwilio’n dda.

 

Ymgysylltu â Dinasyddion

 

107.      Mae pobl yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau’r gwasanaethau gorau posibl sy’n ymwneud ag anghenion. Rydym i gyd yn disgwyl gwneud ein penderfyniadau ein hunain; rheoli’r materion allweddol yn ein bywydau. Os yw penderfyniadau’n berthnasol i bobl eraill, neu os nad yw’r mater o fewn ein rheolaeth, rydym yn dal i ddisgwyl y bydd ein llais yn cael ei glywed. Gallai hyn gynnwys cyfleoedd i deulu, ffrindiau neu eraill eirioli ar ein rhan. Rhaid i wasanaethau gofal a chymorth weithredu mewn ffordd sy’n cryfhau ein llais. 

    

108.      Rhaid i ystod eang o unigolion, grwpiau a sefydliadau fod yn rhan o’r broses o gynnal yr asesiad poblogaeth a chael cyfle i nodi beth y credant yw’r anghenion mewn ardal, gan gynnwys anghenion gofalwyr, a pha wasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, gan gynnwys gwasanaethau ataliol. Mae pennod 4 o’r cod ymarfer hwn, ar fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, yn amlinellu sut mae’n rhaid i awdurdodau lleol gynnwys pobl wrth gyd-gynhyrchu’r gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

 

109.      Mae iechyd a llesiant personol gofalwyr yn rhan annatod o’u gallu i ddarparu gofal a chymorth i eraill. Efallai y bydd gofalwyr angen lefel o gymorth i fyw eu bywydau eu hunain mor annibynnol â phosibl. Felly, mae’n bwysig ymgysylltu â gofalwyr i sicrhau bod eu hanghenion iechyd a llesiant yn cael eu nodi a’u diwallu.

 

110.      Rhaid ymgysylltu â phobl, gan gynnwys plant, sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, rhieni plant ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr. Dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ystyried trefniadau arbennig i ymgysylltu â phlant yn llwyddiannus ac uniongyrchol. Yn ogystal, rhaid i safbwyntiau’r rhai a fyddai’n anodd eu cyrraedd ac yn cael eu gwthio i’r cyrion fel arall, gan gynnwys y rhai o grwpiau lleiafrifol megis pobl ddigartref a theithwyr, gael eu hystyried fel rhan o’r asesiad poblogaeth. Dylai’r ymgysylltu adlewyrchu hefyd amrywiaeth y bobl yn y gymuned, gan gynnwys gwahanol lefelau o anghenion gofal a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefn i gael barn pobl. Rhaid i ran gyntaf adroddiad asesiad poblogaeth amlinellu sut mae’r awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ymgysylltu â phobl fel rhan o’u gwaith cynhyrchu.

 

111.      Dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol fod yn arloesol wrth ymgysylltu â phobl ac ystyried defnyddio holiaduron a chyfweliadau. Mae’n debygol y bydd ansawdd y cyfraniad mae pobl yn ei wneud at yr asesiad poblogaeth yn gwella yn sgil trafodaeth. Felly, efallai y bydd panel ffurfiol o bobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu ofalu am rywun sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn ddymunol i drafod materion allweddol yn y sector gofal cymdeithasol a’r ffordd ymlaen. Gallai hwn fod yn banel newydd a sefydlwyd yn benodol ar gyfer y dasg hon neu’n banel neu fforwm presennol y gellir ei ddefnyddio at y diben hwn. Efallai yr hoffai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ystyried gweithgareddau penodol i ymgysylltu â phlant ag anghenion gofal a chymorth neu blant sy’n gweithredu fel gofalwyr.  

 

112.      Mae canllawiau ar ymgysylltu â dinasyddion yn effeithiol wedi’u hamlinellu yn Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru Cyfranogaeth Cymru a Canllawiau Ymarfer Gorau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori â Phobl Hŷn ar Newidiadau i Wasanaethau Cymunedol yng Nghymru y Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae’r rhain ar gael yn: 

 

http://www.participationcymru.org.uk/national-principles

 

http://www.olderpeoplewales.com/en/publications/engagement_toolkit_copy1.aspx

 

113.      Wrth gynnal adolygiadau o adroddiadau asesiad poblogaeth, dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol barhau i ystyried safbwyntiau’r bobl y maent yn ymgysylltu â nhw wrth ddatblygu’r adroddiadau asesu cychwynnol. Efallai y bydd angen cyflawni gwaith ymgysylltu ychwanegol yn y cyfnod adolygu. 

 

114.      Dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wrth ymgysylltu â phobl yn hygyrch ac nad yw’n rhy dechnegol er mwyn annog ymgysylltu ystyrlon â’r cyhoedd.  

 

Ymgysylltu â Darparwyr Gwasanaethau

 

115.      Bydd gan sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau’r sector preifat, megis darparwyr cartrefi gofal a gofal cartref, y wybodaeth a’r arbenigedd i lywio asesiad poblogaeth. Felly, wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ymgysylltu â’r trydydd sector a’r sector preifat. Efallai y bydd sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau’r sector preifat yn gallu helpu i nodi pobl nad ydynt yn hysbys i awdurdodau lleol neu Fyrddau Iechyd Lleol ond sydd ag anghenion gofal a chymorth nas diwallwyd.

 

116.      O ystyried y ffaith bod natur sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau’r sector preifat yn amrywio’n fawr ledled Cymru, mae angen i’r dull ymgysylltu gael ei bennu’n lleol. Er hynny, bydd ymgysylltu effeithiol o fudd i bawb sy’n ceisio bodloni gofynion y Ddeddf.

 

117.      Rhaid i ran gyntaf yr adroddiad asesiad poblogaeth amlinellu sut mae’r awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o’u gwaith cynhyrchu.

 

Asesiadau Unigol

 

118.      Dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gael eu llywio gan broses asesu unigol anghenion gofal a chymorth, neu anghenion cymorth gofalwyr (fel yr amlinellir yn y cod ymarfer a gyhoeddwyd mewn perthynas â Rhan 3 o’r Ddeddf), i ddeall maint anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr mewn ardal. Bydd gwybodaeth a gesglir wrth gynnal asesiad, yn ogystal â’r cynlluniau gofal a chymorth unigol, a chynlluniau cymorth gofalwyr, yn ffynhonnell wybodaeth am angen yn yr ardal. Bydd gwybodaeth reoli a gesglir gan y Gwasanaeth Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy ar yr ystod a’r mathau o ymholiadau ‘gofal a chymorth’ a dderbynnir yn darparu tystiolaeth y gall awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ei defnyddio. Er y bydd bob amser angen darparu rhai gwasanaethau pwrpasol er mwyn cyflawni canlyniadau personol unigolyn, efallai y bydd ystyried asesiadau unigol fel rhan o asesiad poblogaeth strategol yn nodi patrymau o anghenion y gellir eu diwallu heb gynlluniau gofal a chymorth unigol.

 

119.      Bydd asesiadau poblogaeth a gynhelir yn unol â’r cod ymarfer hwn yn ymarferion strategol. Fodd bynnag, wrth geisio sicrhau dealltwriaeth strategol, efallai y bydd rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ystyried rhywfaint o wybodaeth bersonol. Mae sefydliadau yn dibynnu fwyfwy ar dechnegau dileu enw i alluogi defnydd ehangach o ddata personol. Mae’r cod ymarfer ar ‘Anonymisation: managing data protection risk’ a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yn esbonio’r problemau sy’n gysylltiedig â dileu enw a datgelu data ar ôl dileu enw. Mae’r cod yn disgrifio’r camau y gall sefydliad eu cymryd i sicrhau ei fod yn dileu enw yn effeithiol ac yn cadw data defnyddiol. Mae dolen i’r cod ymarfer hwn isod:

 

http://ico.org.uk/for_organisations/data_protection/topic_guides/anonymisation

 

Sefydliadau Diogel

 

120.      Rhaid i asesiadau poblogaeth ystyried anghenion gofal a chymorth poblogaethau o sefydliadau diogel er mwyn bodloni gofynion adran 11 o’r Ddeddf. Mae’r cod ymarfer mewn perthynas â rhan 11 yn cynnwys manylion llawn cyfrifoldeb yr awdurdod lleol dros ofal a chymorth y rhai mewn sefydliadau diogel.

 

Y Gymraeg

 

121.      Wrth asesu i ba raddau mae pobl angen gofal a chymorth ac i ba raddau mae gofalwyr angen cymorth, dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu proffil cymunedol y Gymraeg, a gwneud hynny’n glir yn yr adroddiad asesiad poblogaeth. 

 

Cyflwyno canfyddiadau’r asesiad

 

122.      Mae’n debygol y bydd yr ymarfer casglu tystiolaeth yn nodi ystod sylweddol o anghenion gofal a chymorth ledled ardal yr asesiad. Er bod yr holl anghenion gofal a chymorth yn bwysig a bod angen gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny, i sicrhau bod yr adroddiad asesiad poblogaeth yn offeryn strategol defnyddiol dylai awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol strwythuro’r dystiolaeth o gwmpas y themâu craidd cyffredinol a nodir. 

 

123.      Mae awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn gallu penderfynu ar themâu craidd canfyddiadau’r asesiad. Fodd bynnag, RHAID i adran 1 o’r adroddiad asesiad poblogaeth gynnwys themâu craidd penodol sy’n ymwneud â’r canlynol:

 

·                     plant a phobl ifanc;

·                     pobl hŷn;

·                     anableddau corfforol / iechyd;

·                     anabledd dysgu/awtistiaeth;

·                     iechyd meddwl;

·                     nam ar y synhwyrau;

·                     gofalwyr sydd angen cymorth;

·                     trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol.

 

124.      Mewn perthynas â phob thema graidd, dylai adran 1 o’r adroddiad asesiad poblogaeth:

 

·         ddadansoddi tystiolaeth yn ofodol er mwyn datblygu dealltwriaeth o ble ac i ba raddau mae’r themâu craidd wedi’u crynhoi neu eu gwasgaru ledled ardal yr asesiad. Dylai adroddiad asesu amlinellu’r gwahaniaethau mewn perthynas â’r themâu craidd ar draws awdurdodau lleol ac ardaloedd clwstwr y GIG yn ardal yr asesiad;

·         dadansoddi tystiolaeth fesul grŵp oedran os yn briodol;

·         amlinellu i ba raddau nad yw’r anghenion hyn yn cael eu diwallu. 

 

Adran 2: Ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol

 

125.      Rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol asesu’r canlynol ar y cyd:

 

·         ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr;

·         ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i atal anghenion rhag codi neu gynyddu;

·         y camau sy’n ofynnol er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Diwallu anghenion gofal a chymorth ac anghenion cymorth gofalwyr

 

126.      Yn adran 2 o’r adroddiad asesiad poblogaeth, rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol asesu ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth a nodir (ac anghenion cymorth gofalwyr). Dylai’r adroddiad asesiad poblogaeth gynnwys y wybodaeth hon mewn perthynas â phob un o’r themâu craidd a nodir yn adran 1 o’r adroddiad asesiad poblogaeth.

 

127.      Dylai adran 2 gynnwys asesiad o’r graddau y gallai’r anghenion a nodir mewn perthynas â’r themâu craidd gael eu diwallu trwy ddarparu gwasanaethau mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac awdurdodau lleol eraill yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw. Felly, er enghraifft, efallai y gallai anghenion pobl ag anableddau dysgu yn ardal un awdurdod lleol gael eu diwallu trwy ddarparu gwasanaeth a fyddai’n diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu yn ardaloedd dau awdurdod lleol neu fwy. Mae’n bosibl y gallai gwasanaethau gael eu darparu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a/neu Fyrddau Iechyd Lleol y tu allan i’r cytundeb partneriaeth. Ni ddylai gwasanaethau gael eu cyfyngu i adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn unig, a gallent gael eu darparu ar draws swyddogaethau awdurdodau lleol. Yn ogystal, gall y trydydd sector a darparwyr eraill helpu i ddiwallu anghenion trwy’r gwasanaethau a ddarparant.

 

128.      Wrth ystyried sut y caiff anghenion eu diwallu, rhaid i awdurdodau lleol adeiladu ar eu dyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector. Gall pobl gynllunio a gweithredu eu gwasanaethau eu hunain, a gall y modelau amgen hyn o ofal a chymorth ddarparu cyfleoedd ychwanegol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl. Rydym yn disgwyl i fwy o fodelau amgen o ofal a chymorth gael eu datblygu dros amser.

 

129.      Bydd nodi asedau ar lefel unigol, cymunedol a phoblogaeth yn hollbwysig er mwyn deall y cyfraniadau presennol a phosibl mae pobl, cymunedau a sefydliadau yn eu gwneud.

 

Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol

 

130.      Wrth nodi ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen er mwyn diwallu angen, rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gael eu llywio gan y fframwaith canlyniadau cenedlaethol. Mae’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn cynnwys y datganiad llesiant, sy’n nodi’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth, a dangosyddion perfformiad i fesur a yw llesiant yn cael ei gyflawni. Bydd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn helpu i nodi ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu angen trwy ddisgrifio llwyddiant o ran diwallu anghenion gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Dylai’r adroddiad asesiad poblogaeth geisio sicrhau ei fod yn disgrifio ystod a lefel y gwasanaeth sy’n ofynnol er mwyn bodloni safonau’r fframwaith canlyniadau wrth nodi lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r angen.

 

Ymgysylltu â Dinasyddion

 

131.      Rhaid i bobl fod yn rhan o’r broses o nodi ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen. Gall yr ymgysylltu hwn ddigwydd wrth nodi lefel yr anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr. Rhaid rhoi grym a hyder i bobl ymgysylltu â’r broses. 

 

Ymgysylltu â Darparwyr Gwasanaethau

 

132.      Bydd y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r angen a nodir yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, yn ogystal â sefydliadau eraill yn y sector preifat a’r trydydd sector. Felly, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau eraill fod yn rhan o’r gwaith hwn gan y byddant yn gallu helpu i sicrhau bod ystod a lefel y gwasanaethau a nodir yn ymarferol a chynaliadwy yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o gwmpas ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael.

 

133.      Gall yr ymgysylltu hwn ddigwydd wrthnodi lefel yr anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyrgyda darparwyr gwasanaethau eraill.

 

134.      Er mwyn i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, dylent fynd ati i ystyried sut y gall sefydliadau seiliedig ar werth ddarparu’r gwasanaethau gofynnol.

 

Caffael gwasanaethau

 

135.      Bydd yr adroddiad asesiad poblogaeth yn llywio’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu gan awdurdodau lleol a phartneriaid ac yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu caffael yn briodol i ddiwallu anghenion a nodir.

 

Gwasanaethau Ataliol

 

136.      Wrth nodi lefelau’r gwasanaeth sydd ei angen i ddiwallu angen, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r angen i ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol, fel sy’n ofynnol gan adran 15 o’r Ddeddf. Rhaid i adran 2 o’r adroddiad asesiad poblogaeth amlinellu’r asesiad o ystod a lefel y gwasanaethau ataliol sy’n ofynnol i gyflawni dibenion adran 15(2). Wrth wneud hynny, dylid cofio bod eiriolaeth yn wasanaeth ataliol ynddo’i hun ac y dylai gael ei ystyried fel rhan o ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu’r angen a nodir. Dylai’r asesiad gynnwys i ba raddau y gellir darparu dull ataliol mewn perthynas â’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac awdurdodau eraill yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw (o bosibl, gallai gwasanaethau gael eu darparu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a/neu Fyrddau Iechyd Lleol y tu allan i’r cytundeb partneriaeth). Wrth ystyried dulliau ataliol, dylai awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol sicrhau eu bod yn nodi’r hyn sy’n bwysig i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Bydd hyn yn helpu i nodi beth sy’n gweithio i bobl yn eu sefyllfa benodol. Dylent sicrhau hefyd fod yna ddealltwriaeth glir o’r adnoddau sydd ar gael gan bobl a chymunedau.

 

137.      Mae canllawiau ar ddarparu dull ataliol ym mhennod 3 o’r Cod Ymarfer hwn. Rhaid i natur a lefel y gwasanaethau ataliol a ddarperir neu a drefnir gael eu cynllunio i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth ac anghenion cymorth gofalwyr a nodir yn yr adroddiad asesiad poblogaeth. 

 

Y Gymraeg

 

138.      Dylai adran 2 o’r adroddiad asesiad poblogaeth nodi’r camau sy’n ofynnol i ddarparu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen trwy gyfrwng y Gymraeg. Nod Mwy na Geiriau..., fframwaith strategol y Gymraeg, yw gwella darpariaeth rheng flaen gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd i siaradwyr Cymraeg, eu teulu a’u gofalwyr. Yn unol â’r egwyddorion yn y fframwaith hwnnw, rhaid i systemau cynllunio gynnwys cyfeiriad at broffil ieithyddol eu cymunedau a sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ddarpariaeth.

 

139.      Mae’r diagram canlynol yn amlinellu proses yr asesiad poblogaeth:



Pennod 2B – Llunio cytundeb partneriaeth at ddibenion cynnal asesiad poblogaeth

 

140.      Rhaid i bob awdurdod lleol mewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol lunio cytundeb partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd hwnnw i gynnal yr asesiad poblogaeth, a dylent gynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth ar y cyd.

 

141.      Rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynhyrchu un asesiad poblogaeth ym mhob cylch etholiadol llywodraeth leol. Ar gyfer pob cyfnod asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff yn y bartneriaeth ffurfio cydbwyllgor, fel rhan o’r bwrdd partneriaeth ehangach a amlinellir yn y cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 9, i ysgwyddo cyfrifoldeb dros reoli’r cytundeb partneriaeth. Trwy’r cydbwyllgor, a gan roi sylw priodol i arbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau perthnasol, rhaid i bartneriaid enwebu corff cydgysylltu arweiniol. Bydd y corff hwnnw’n gyfrifol am gydgysylltu a rheoli’r gwaith o gynhyrchu’r asesiad poblogaeth, ond rhaid i bob corff arall gymryd rhan yn yr ymarfer fel sy’n ofynnol gan y corff cydgysylltu arweiniol. Gall y corff cydgysylltu arweiniol a enwebwyd gael ei adolygu pan fydd y bartneriaeth o’r farn bod angen gwneud hynny.

 

142.      Dylai awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol mewn cytundeb partneriaeth gyfuno eu hasesiadau poblogaeth mewn un adroddiad. Rhaid i adroddiad asesiad poblogaeth cyfunol gynnwys yr asesiad poblogaeth ar gyfer pob un o ardaloedd yr awdurdod lleol a chyfuno’r asesiadau hyn i gynhyrchu asesiad o anghenion y bobl yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac asesiad o ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

143.      Dylai’r corff cydgysylltu arweiniol sicrhau bod gan yr adroddiad asesiad poblogaeth cyfunol fformat cyson a’i fod yn dangos yn glir i ba raddau mae themâu craidd wedi’u crynhoi neu eu gwasgaru ledled ardal y cytundeb partneriaeth AC yn benodol mewn perthynas â phob ardal awdurdod lleol yn y cytundeb partneriaeth.  

 

144.      Cyfrifoldeb y corff cydgysylltu arweiniol yw datrys problemau a all effeithio ar y gwaith o gynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth cyfunol. Yn ogystal, gall Byrddau Partneriaeth, a ddarperir o dan adran 168 ac a amlinellir yn y cod ymarfer ar Ran 9, helpu i ddatrys gwrthdaro wrth lunio adroddiad asesiad poblogaeth. O dan amgylchiadau eithriadol, efallai na fydd hi’n bosibl i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gytuno ar agwedd arbennig ar yr adroddiad asesiad poblogaeth cyfunol. Bydd yr awdurdod hwnnw neu’r bwrdd iechyd yn cadw’r ddyletswydd i fodloni’r gofynion statudol a amlinellir yn adran 14 o’r Ddeddf.

 

145.      Dylai’r asesiad poblogaeth cyntaf gael ei gyhoeddi erbyn mis Ebrill 2017 a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru adeg ei gyhoeddi. 

 

146.      Rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol adolygu eu hadroddiadau asesiad poblogaeth yn rheolaidd a’u diwygio os bydd angen. Y corff cydgysylltu arweiniol sy’n gyfrifol am reoli’r adolygiad hwn ac am gyflwyno unrhyw adenda ddilynol i Weinidogion Cymru. 

 

147.      Felly, rhaid sefydlu’r saith cytundeb partneriaeth canlynol at ddibenion cynnal asesiad o anghenion gofal a chymorth, cymorth i ofalwyr ac asesiad o wasanaethau ataliol:

 

a)    Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r awdurdodau lleol canlynol: Sir Fynwy, Casnewydd, Caerffili, Torfaen a Blaenau Gwent.

 

b)    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r awdurdodau lleol canlynol: Sir y Fflint, Wrecsam, Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych a Chonwy.

 

c)    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r awdurdodau lleol canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

d)    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r awdurdodau lleol canlynol: Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion.

 

e)    Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’r awdurdodau lleol canlynol: Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.

 

f)     Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a’r awdurdodau lleol canlynol: Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

 

g)    Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac awdurdod lleol Powys.

 

148.      Nod y cytundebau partneriaeth yw cyflawni dibenion adran 14 o’r Ddeddf wrth gynnal yr asesiad a ddisgrifir ym mhennod 2A o’r cod hwn.

 

149.      Rhaid i bob corff yn y cytundeb partneriaeth gyfrannu at unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r ymarfer. (Dylai’r costau fod yn isel iawn ac ar gyfer amser staff yn bennaf, er efallai y bydd rhai costau’n gysylltiedig ag argraffu neu ymgysylltu â dinasyddion).

 

150.      Rhaid i bob corff yn y cytundeb partneriaeth rannu’r wybodaeth sy’n ofynnol i gynnal yr asesiad poblogaeth. Dylai unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod person gael ei rhannu o fewn egwyddorion Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi WASPI. I gael mwy o wybodaeth am WASPI, dilynwch y ddolen ganlynol:

 

            http://www.waspi.org/


 

 

Pennod 3: Gwasanaeth Ataliol

 

Cyflwyniad

 

Cyd-destun

 

151.      Diben y bennod hon yw amlinellu’r gofynion ar awdurdodau lleol i ddarparu neu drefnu amrywiaeth o wasanaethau ataliol er mwyn cyflawni’r gwahanol ddibenion a amlinellir isod. 

 

152.      Mae adran 15 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu ystod a lefel o wasanaethau ataliol y credant y byddant yn cyflawni’r dibenion canlynol: 

 

a)    Cyfrannu at atal neu ohirio datblygiad anghenion gofal a chymorth pobl;

 

b)    Lleihau anghenion gofal a chymorth pobl sydd ag anghenion o’r fath;

 

c)    Hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant;

 

d)    Lleihau’r effaith mae eu hanableddau’n ei chael ar bobl anabl;

 

e)    Cyfrannu at atal pobl rhag dioddef camdriniaeth neu esgeulustod;

 

f)     Lleihau’r angen am:

                                      i.        achosion cyfreithiol am orchmynion gofalu neu oruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989,

                                    ii.        achosion troseddol yn erbyn plant,

                                   iii.        unrhyw achosion teuluol neu achosion cyfreithiol eraill mewn perthynas â phlant a allai arwain at eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol, neu

                                   iv.        achosion cyfreithiol o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn perthynas â phlant;

 

g)  Annog plant i beidio â throseddu;

 

h)   Osgoi’r angen i blant gael eu lleoli mewn llety diogel; a

 

i)     Galluogi pobl i fyw eu bywydau mewn ffordd mor annibynnol â phosibl.

 

153.      Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion hyn mewn perthynas â chyflawni ei holl swyddogaethau, yn hytrach na swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unig. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion hyn wrth gyflawni ei swyddogaethau hefyd. 

 

154.      Mae adran 14 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal asesiad strategol ar y cyd o anghenion gofal a chymorth ac anghenion cymorth gofalwyr. Rhaid i’r asesiad hwnnw hefyd asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau ataliol. Mae pennod 2 o’r cod hwn yn amlinellu’r gofynion ar awdurdodau lleol i gynnal yr asesiad poblogaeth hwn.

 

Diben

 

155.      Mae atal yn rhan annatod o raglen newid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae angen canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar er mwyn gwneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy i’r dyfodol. Mae’n hollbwysig nad yw gwasanaethau gofal a chymorth yn aros tan i bobl fynd i argyfwng cyn ymateb. Mae’r dull ataliol yn cynnwys hyrwyddo plant yn cael eu magu gan eu teuluoedd ac atal plant rhag derbyn gofal. Bydd angen i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a’u partneriaid ddatblygu agwedd strategol at atal.

 

156.      Mae angen cryfhau’r dull ataliol sydd eisoes ar gael ar draws rhaglenni a gwasanaethau, gan adeiladu ac ymestyn y gweithgareddau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael pan fydd pobl eu hangen.

 

157.      Y nod yw sicrhau bod pobl a chymunedau yn cael y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i nodi’r hyn sy’n bwysig iddynt a’r ffordd orau o roi trefniadau ar waith i ddarparu dull sy’n diwallu’r angen lleol hwnnw.

 

158.      Nid oes yna un diffiniad pendant o weithgarwch ataliol. Gall fod yn unrhyw beth sy’n helpu i ddiwallu angen a nodir a gallai amrywio o fesurau eang sy’n targedu’r boblogaeth gyfan i ymyriadau mwy personol sy’n targedu unigolion, gan gynnwys mecanweithiau i alluogi pobl i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Wrth ystyried sut i gyflawni dibenion gwasanaethau ataliol a amlinellir ym mharagraff 152 (a - i) a hyrwyddo llesiant, dylai awdurdodau lleol ystyried yr ystod o opsiynau sydd ar gael. Mae hyn yn debygol o amrywio rhwng awdurdodau lleol yn dibynnu ar yr angen. Fodd bynnag, dylai’r gwasanaethau ataliol gofynnol gael eu nodi fel rhan o’r asesiad poblogaeth.

 

159.      Rhaid i’r asesiad o ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i gyflawni’r dibenion a amlinellir ym mharagraff 152 (a - i) gael ei amlinellu yn adran 2 o’r adroddiad asesiad poblogaeth fel y disgrifir ym mhennod 2 o’r cod hwn. Mae hyn yn sicrhau bod gwasanaethau ataliol a ddarperir neu a drefnir yn cael eu llywio gan yr anghenion gofal a chymorth a nodir gan yr asesiad poblogaeth. Er mwyn nodi ystod a lefel y gwasanaethau gofynnol, mae angen i awdurdodau lleol sefydlu ac asesu'r hyn sy’n cael ei ddarparu/yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, gan ystyried lefelau capasiti ac ansawdd y gwasanaeth.

 

160.      Dylai awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd a gydag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol, i ddatblygu a darparu’r ystod a’r lefel ofynnol o wasanaethau ataliol. Er y gall awdurdodau lleol ddewis darparu rhai mathau o wasanaethau ataliol eu hunain, efallai y bydd gwasanaethau eraill yn fwy effeithiol o gael eu darparu neu eu trefnu mewn partneriaeth â phartneriaid lleol eraill, gan gynnwys y trydydd sector. Dylid archwilio’r manteision ychwanegol o weithio y tu allan i drefniadau a phartneriaethau presennol i ddarparu gwasanaethau. Dylai awdurdodau lleol geisio datblygu a galluogi adnoddau cymunedol i gyfrannu at ddull ataliol. Gall sefydliadau dielw, megis mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, sy’n cael eu cwmpasu o dan ddyletswydd adran 16 fod yn adnodd gwerthfawr hefyd. Mae pennod 4 o’r Cod hwn yn amlinellu gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â’r ddyletswydd o dan adran 16 o’r Ddeddf.

 

161.      Er mwyn darparu neu drefnu gwasanaethau ataliol, rhaid i wasanaethau cymdeithasol weithio ar draws yr awdurdod lleol i sicrhau bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o’r rôl arweinyddiaeth gymunedol.

 

162.      Yn yr awdurdod lleol, dylai’r gwaith o atal neu ohirio datblygiad anghenion gofal a chymorth gyd-fynd â chyfrifoldebau eraill awdurdod lleol, megis tai, hamdden ac addysg, gan gynnwys addysg oedolion. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion a ddisgrifir wrth gyflawni eu swyddogaethau eraill.

 

163.      Rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau yn ymwneud â phobl ag anghenion gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys bodloni’r rhwymedigaethau yn adran 15 o’r Ddeddf i ddarparu gwasanaethau ataliol. Rhaid i bartner perthnasol, megis Bwrdd Iechyd Lleol, gydymffurfio â chais i gydweithredu mewn perthynas â darparu gwasanaethau ataliol, oni bai y byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i’w ddyletswyddau ei hun. 

 

164.      Yn aml, mae pobl mewn cymunedau gwledig yn wynebu heriau penodol. Mae’n bwysig cydnabod yr angen i ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol mewn ffordd wahanol i oresgyn y rhwystrau hyn.

 

165.      Gall dau awdurdod lleol neu fwy benderfynu y byddai’n fwy ymarferol pe baent yn darparu neu’n trefnu gwasanaethau ataliol ar y cyd. Gall hyn hefyd helpu i ddarparu gwasanaethau ataliol gydag asiantaethau eraill, megis Bwrdd Iechyd Lleol.

 

166.      Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion a ddisgrifir wrth gyflawni eu swyddogaethau iechyd. Dylai Byrddau Iechyd Lleol ystyried egwyddorion gofal iechyd darbodus. Bydd integreiddio effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a mabwysiadu dull amlasiantaethol o ddiwallu anghenion pobl mewn ffordd ataliol o fudd i bob dinesydd.

 

Yn y sefydliad

 

167.      Er bod yna sawl enghraifft dda o wasanaethau ataliol yn cael eu darparu ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, mae’r gofynion yn y Ddeddf yn cynrychioli newid diwylliannol cyffredinol i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod staff yn ymwybodol o fanteision gwasanaethau ataliol ac yn cael eu hannog i ystyried sut y gellir eu darparu. Dylai staff deimlo bod ganddynt rym i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau i ymdrin â materion mewn ffordd ataliol, ac i fynd ati i ymgysylltu â theulu, ffrindiau ac eraill i nodi a sicrhau canlyniadau a nodir. 

 

168.      Yn ogystal â rhoi manteision i bobl, mae gwasanaethau ataliol yn darparu mwy o werth am arian i’r awdurdod lleol ac yn arwain at wella cynaliadwyedd. Er ei bod hi’n gallu bod yn anodd olrhain manteision ariannol darparu gwasanaethau ataliol, gallai datblygu model busnes sy’n olrhain buddsoddiadau ac yn monitro enillion ariannol gwasanaethau ataliol atgyfnerthu’r dull ataliol. 

 

169.      Er mwyn sicrhau bod y diwylliant hwn o ddarparu gwasanaethau ataliol yn dod yn rhan annatod o’r awdurdod lleol, ac yn enwedig ei adran gwasanaethau cymdeithasol fel bod gofynion statudol yn cael eu bodloni, bydd angen arweinyddiaeth ar draws yr awdurdod lleol gan bob Prif Weithredwr ac, yn bennaf, gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

170.      Bydd angen i awdurdodau lleol fod yn arloesol yn eu hagwedd at wasanaethau ataliol, gan wneud y defnydd gorau o adnoddau, sicrhau gwerth am arian ac ymgysylltu â dinasyddion a’r trydydd sector a darparwyr eraill i ddiwallu anghenion a nodir. 

 

Egwyddorion

 

171.      Rhaid i wasanaethau ataliol ar gyfer pob dinesydd, boed yn oedolyn neu’n blentyn (gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal), gael eu darparu neu eu trefnu mewn ffordd briodol ac amserol. Fodd bynnag, nid yw’r llwybr i wasanaethau ataliol yn un syml bob amser, gan fod anghenion pobl yn newid. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun angen mwy nag un math o gymorth gan wasanaethau ataliol a dylai allu cael cymorth gan wasanaethau cymwys ac ataliol yr un pryd er mwyn cyflawni gwahanol ganlyniadau personol.

 

172.      Mewn ffordd debyg, ni ddylai pobl gael eu hallgáu o unrhyw wasanaethau ataliol am fod ganddynt angen gofal a chymorth efallai na fyddant yn ‘gwella’ ohono. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun angen cymorth am gyfnod byr fel y gall gyflawni ei ganlyniadau personol, ond efallai y bydd angen cymorth pellach yn y dyfodol hefyd. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth os bydd person angen cymorth eto os yw ei gyflwr yn newid neu’n debygol o waethygu ymhellach. Dylai awdurdod lleol geisio darparu gwasanaethau ataliol i unigolion ar bob cam o lwybr y person hwnnw.  

 

173.      Gall gwasanaethau ataliol: 

 

a)    gael eu darparu’n gyffredinol i helpu pobl i osgoi datblygu anghenion gofal a chymorth;

b)    targedu unigolion sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu anghenion gofal a chymorth; 

c)    ceisio lleihau effaith angen gofal a chymorth presennol ar ddefnyddiwr gwasanaethau.

 

174.      Mae pobl fel arfer yn gwybod beth fydd yn eu helpu. Rhaid ymgysylltu’n llawn â defnyddwyr wrth nodi pa fesurau ataliol allai eu helpu i sicrhau eu llesiant ac wrth gynllunio’r ddarpariaeth. Gall y mesurau hyn fod o fewn eu hadnoddau eu hunain ac adnoddau eu cymunedau. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy, a ddisgrifir ym mhennod 5, yn gwneud cyfraniad allweddol at yr ymgysylltu hwn. Os na fydd unigolyn yn gallu mynegi ei farn, ei ddymuniadau neu ei deimladau, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr unigolyn yn cael cymorth i wneud hynny. Os nad oes modd i deulu neu ffrindiau ddarparu’r cymorth hwn ac os nad oes cymorth ehangach ar gael, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr unigolyn yn cael cymorth gan eiriolwr annibynnol ac nad oes rhaid i’r unigolyn dalu am y cymorth hwnnw.

 

175.      Gall gwasanaethau ataliol lefel isel gael effaith sylweddol. Er enghraifft, gall cymorth gyda sgiliau cymdeithasol, datblygu sgiliau bywyd a chyfeillio arwain at welliannau sylweddol i ansawdd bywyd unigolyn. Maent hefyd yn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd trwy helpu teuluoedd i ofalu am eu plant.

 

176.      Dylai hygyrchedd fod yn egwyddor allweddol wrth gynllunio ar gyfer gwasanaethau ataliol. Dylid rhoi sylw arbennig i sicrhau bod anghenion y rhai ag anableddau yn cael sylw priodol wrth gynllunio ar gyfer gwasanaethau ataliol mewn ardal.

 

Nodi’r rhai a all elwa ar wasanaethau ataliol

 

177.      Dylai atal fod yn ffocws cyson i awdurdod lleol o ran diwallu anghenion gofal a chymorth pobl ac anghenion cymorth gofalwyr. Fodd bynnag, efallai y bydd yna bwyntiau allweddol ym mywyd person neu yn y broses gofal a chymorth lle gall ymyrraeth ataliol fod yn hynod briodol. Dylai awdurdodau lleol roi trefniadau ar waith i nodi a thargedu’r unigolion hynny, yn enwedig trwy’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy a’r broses asesu a chynllunio gofal. Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn cyfeirio at 19(4)(b)(ii), 21(4)(c)(ii) a 24(4)(e)(ii), sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol asesu a allai darpariaeth gwasanaethau ataliol gyfrannu at gyflawni canlyniadau personol neu ddiwallu anghenion oedolyn, plentyn neu ofalwr ac, os felly, i ba raddau. Mae mwy o wybodaeth am y broses asesu ar gael yn y cod ar Ran 3 o’r Ddeddf.

 

178.      Gall pobl o dan yr amgylchiadau canlynol elwa ar gymorth ataliol. Nid yw’r rhestr hon yn un hollgynhwysol:

 

a)    Pobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty / eu rhyddhau o’r ysbyty;

b)    Pobl sy’n defnyddio/dod i gysylltiad â gofal a chymorth preifat;

c)    Plant sy’n derbyn gofal, plant mewn angen a phlant yn y cyfnod pontio;

d)    Pobl mewn profedigaeth;

e)    Pobl sy’n gwneud cais am fudd-daliadau megis Lwfans Gweini neu Lwfans Gofalwr;

f)     Pobl sydd newydd ddod yn anabl.

 

 

Helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau ataliol

 

179.      Mae pennod 5 o’r cod ymarfer hwn yn amlinellu’r gofynion ar awdurdodau lleol i ddarparu Gwasanaeth Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. I gefnogi effeithiolrwydd y gwasanaethau ataliol sy’n cael eu darparu, bydd angen i bobl allu cael gafael ar wybodaeth am y gwasanaethau hyn, a sut i gael mynediad atynt, trwy’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Dylai unrhyw gyfeiriad at berson ag anghenion gofal a chymorth fod ar ffurf sy’n diwallu anghenion y person hwnnw.

 

180.      Bydd angen cymorth priodol ar rai pobl, gan gynnwys plant, fel y gallant  ymgysylltu’n ystyrlon â gwasanaethau ataliol. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod cymorth o’r fath yn cael ei ddarparu a bod pobl yn ymgysylltu’n llawn â’u datrysiadau eu hunain. Bydd teulu a ffrindiau yn gwneud cyfraniad pwysig at helpu unigolion i sicrhau’r ymgysylltu hwn a sicrhau bod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu eu hatebion unigol. Fodd bynnag, ar adegau, dim ond trwy eiriolaeth annibynnol y bydd modd cyflawni hyn. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr unigolyn yn cael ei gefnogi gan eiriolwr annibynnol heb orfod talu am y cymorth hwnnw.

 

Eiriolaeth

 

181.      Mae gan eiriolaeth gyfraniad pwysig i’w wneud mewn perthynas â llais a rheolaeth ac fel sail i ofynion ehangach y Ddeddf o ran llesiant, diogelu ac atal. Mae’n gallu helpu pobl i fynegi eu barn a gwneud dewisiadau gwybodus, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at wasanaethau perthnasol. Dylai awdurdodau lleol ystyried hyn wrth helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau ataliol at y dibenion a amlinellir yn adran 15 o’r Ddeddf. Mae’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 10 o’r Ddeddf yn egluro dyletswydd awdurdodau lleol i drefnu gwasanaethau eirioli ar gyfer pobl ag anghenion gofal a chymorth.  

 

Ailalluogi ac Adsefydlu

 

182.      Mae ail-alluogi yn gallu bod yn elfen allweddol o wasanaethau ataliol. Mae mynediad amserol, uniongyrchol at wasanaethau ail-alluogi a dargedir yn helpu pobl, gan gynnwys plant, i gynnal eu gallu dros dymor hir. 

 

183.      Ystyr ail-alluogi yw helpu pobl i wneud pethau drostynt eu hunain (yn wahanol i’r modelau gwasanaeth traddodiadol lle mae’r gofalwr yn gwneud popeth) er mwyn gwella eu gallu i fyw bywyd mor annibynnol â phosibl gyda lefel briodol o gymorth. Bwriad cyffredinol ailalluogi yw galluogi person i adennill y sgiliau a’r medrau a oedd ganddo yn flaenorol er mwyn iddo fod mor annibynnol â phosibl. Mae hwn yn ddull personol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau lle mae’r person sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gosod ei amcanion ei hun ac yn cael cymorth gan dîm ailalluogi i’w cyflawni dros gyfnod cyfyngedig. Mae’n cefnogi anghenion corfforol, synhwyraidd, cymdeithasol ac emosiynol ac yn ceisio lleihau’r angen am gymorth parhaus ar ôl ailalluogi. Mae ailalluogi yn ceisio gwella sgiliau a gwydnwch unigolyn yn ei sefyllfa benodol. 

 

184.      Er mwyn bod yn effeithiol, dylai cymorth ailalluogi gael ei gyd-gynhyrchu rhwng dinasyddion ac ymarferwyr medrus. Gyda’i gilydd, dylent gyfrifo’n gywir botensial y person a’r rhwystrau i wella er mwyn llunio rhaglen i gyflawni canlyniadau’r person hwnnw.

 

185.      Mae adsefydlu yn hollbwysig o ran galluogi plant ac oedolion ag anabledd i fyw mor annibynnol â phosibl gyda’r lefel briodol o gymorth gan ei fod yn allweddol er mwyn caffael a datblygu sgiliau y byddent fel arall wedi’u dysgu yn achlysurol. Mae’n hollbwysig os na fydd unigolyn wedi gallu datblygu’r sgiliau hynny. Mae nodi gwasanaethau ataliol sy’n helpu pobl i ddysgu, cadw neu wella sgiliau a gallu swyddogaethol yn rhan annatod o hyrwyddo llesiant. Yr un fath ag ailalluogi, dylai adsefydlu effeithiol gefnogi anghenion corfforol, synhwyraidd, cymdeithasol ac emosiynol a chael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Efallai y bydd cymorth adsefydlu yn wahanol i wasanaethau ailalluogi safonol. Os felly, bydd angen gwahanol ddull, sef un sy’n canolbwyntio ar anghenion penodol yr unigolyn a’i deulu. O ganlyniad, efallai y bydd angen rhaglen fwy strwythuredig o gymorth, am gyfnod hirach.

 

186.      Dylai ailalluogi ac adsefydlu effeithiol gael eu darparu mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a’r GIG. 

 

Gofalwyr

 

187.      Mae gan ofalwyr rôl allweddol o fewn y gwasanaethau ataliol mewn ardal awdurdod lleol. Mae gofalwyr eu hunain yn darparu math o wasanaeth ataliol.

 

188.      Felly, dylai awdurdodau lleol helpu i sicrhau bod gofalwyr yn gallu byw eu bywydau eu hunain mor annibynnol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol o anghenion a chanlyniadau iechyd a llesiant y gofalwyr eu hunain, a’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol i gefnogi’r amcanion a’r canlyniadau hynny, er mwyn cefnogi a chynnal rôl ataliol y gofalwyr mewn perthynas â gofal a chymorth pobl eraill.

 

Gwasanaethau Ataliol i Blant a Theuluoedd

 

189.      Mae’r Ddeddf yn pwyso’n drwm ar yr elfennau plant mewn angen a llesiant yn Neddfau Plant 1989 a 2004. Nid oes unrhyw ddirywiad wedi bod mewn perthynas â hawliau plant. Mae’r Ddeddf yn atgyfnerthu’r egwyddor o helpu teuluoedd i ofalu am blant, gyda phwyslais ar helpu rhieni i ddatblygu eu gallu eu hunain i nodi a rheoli problemau, gan gadw teuluoedd gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel, cefnogol a sefydlog. Rhaid i awdurdodau lleol wneud yr egwyddor hon yn rhan annatod o’u gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

 

190.      Mae’r Canllawiau Statudol a gyhoeddwyd mewn perthynas â Rhan 7 o’r Ddeddf yn amlinellu’r gofyniad am ddull amlasiantaethol o ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i atal plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a chael eu gosod yng ngofal awdurdod lleol.

 

191.      Mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn wynebu heriau arbennig a dylai awdurdodau lleol ystyried hyn wrth helpu i ddiwallu angen a nodir. Mae ymyrraeth gynnar yn gallu bod yn hollbwysig yn hyn o beth. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ac yn cyfrannu at amryw o fentrau sy’n ceisio helpu unigolion a theuluoedd i gael cymorth priodol cyn gynted â phosibl ac atal teuluoedd rhag mynd i argyfwng. Er enghraifft, nod Teuluoedd yn Gyntaf yw helpu i wella canlyniadau i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae awdurdodau lleol yn nodi’r ffyrdd y gallant ddarparu Teuluoedd yn Gyntaf a darparu tystiolaeth o gyfraniad at gyflawni canlyniadau’r rhaglen. Mae hyn yn golygu bod rhaid i deuluoedd wneud cyfraniad at waith cynllunio a darparu i gefnogi teuluoedd ac adeiladu gwydnwch. Mae gweithgareddau fel hyn yn cyfrannu at gyflawni dyletswyddau statudol mewn perthynas â darparu gwasanaethau ataliol i blant a theuluoedd.

 

192.      Mae gan wasanaethau ataliol gyfraniad allweddol i’w wneud at ddiwallu anghenion plant, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, trwy atal neu ohirio amgylchiadau a all arwain at blentyn neu berson ifanc yn cael ei osod yng ngofal awdurdod lleol. Bydd y cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 6 hefyd yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag adran 15 o’r Ddeddf.

 

193.      Mae Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi cyhoeddi’r strategaeth Plant a Phobl Ifanc yn Gyntaf, sy’n amlinellu’r weledigaeth a’r ymrwymiad i wella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n wynebu risg o fod yn y system cyfiawnder ieuenctid, neu sydd eisoes yn y system honno. Mae’n darparu fframwaith ar gyfer atal troseddu neu aildroseddu gan blant a phobl ifanc. Mae dolen i’r strategaeth hon isod:

 

http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/publications/children-and-young-people-first/?lang=en

 

 

Codi ffioedd am ddarparu gwasanaethau ataliol

 

194.      Mae rheoliadau a’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 5 o’r Ddeddf yn amlinellu trefniadau ar gyfer asesiad ariannol a chodi ffioedd. Mae hyn yn cynnwys codi ffioedd am ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol.

 

195.      Gall awdurdodau lleol godi ffi cyfradd safonol i helpu i ddarparu gwasanaeth ataliol. Rhaid i awdurdod lleol ystyried lefel y ffi cyfradd safonol y mae’n cynnig ei chodi, a’i heffaith ariannol bosibl ar y person sydd angen ei thalu. Dylai awdurdodau lleol osgoi sefyllfa lle mae’r ffi cyfradd safonol y maent yn ei gosod yn atal pobl rhag derbyn y gwasanaethau ataliol, gan gyfyngu ar allu’r awdurdod lleol i gyflawni’r dibenion yn adran 15 o’r Ddeddf fel yr amlinellir ym mharagraff 148.

 

196.      Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi ffioedd am chwe wythnos gyntaf gwasanaethau ail-alluogi a ddarperir at ddibenion darparu cymorth i unigolyn i’w helpu i barhau i fyw’n annibynnol neu adennill y gallu i fyw’n annibynnol.

 

197.      Rhaid i awdurdodau lleol beidio â chodi ffioedd am wasanaethau ataliol i blant.

 

Gwerthuso effeithiolrwydd gwasanaethau ataliol

 

198.      Dylai awdurdodau lleol roi trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaethau ataliol a ddarperir neu a drefnir at ddibenion adran 15 o’r Ddeddf. Bydd asesiad poblogaeth yn gyfle i adolygu anghenion y boblogaeth ac effeithiolrwydd y gwasanaethau ataliol hynny sydd ar waith ar hyn o bryd. Fel rhan o’i phroses arolygu, bydd Asiantaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ystyried effeithiolrwydd darpariaeth gwasanaethau ataliol.

 

199.      Mae’r cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol a gyhoeddwyd o dan adran 145 o’r Ddeddf yn amlinellu’r fframwaith mesur perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r fframwaith hwn yn sail i’r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau ataliol ac yn galluogi awdurdodau lleol i dargedu adnoddau er mwyn parhau i wella.

 

Pontio

 

200.      Rhaid i’r adroddiadau asesiad perfformiad cyntaf, fel a nodir ym mhennod 2, gael eu cynhyrchu erbyn mis Ebrill 2017. Rhaid i’r adroddiadau asesiad perfformiad hyn nodi ystod a lefel y gwasanaethau ataliol sy’n ofynnol er mwyn cyflawni dibenion adran 15(2). Fodd bynnag, bydd y gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu neu drefnu amrywiaeth o wasanaethau ataliol i gyflawni’r gwahanol ddibenion a amlinellir yn y bennod hon yn dod i rym ym mis Ebrill 2016.

 

201.      Yn y cyfnod o 12 mis cyn i’r adroddiadau asesiad poblogaeth cyntaf gael eu cyhoeddi, bydd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol at ddibenion adran 15(2), a rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol roi sylw i ddibenion cyflawni’r dibenion hyn. 

 

202.      Er na fydd awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu llywio gan adroddiadau asesiad poblogaeth yn y cyfnod pontio hwn, dylent ddarparu neu drefnu gwasanaethau yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth bresennol o anghenion gofal a chymorth, ac anghenion cymorth gofalwyr. Bydd hyn yn cynnwys, mewn sawl achos, parhau i ddarparu gwasanaethau ataliol presennol. Yn ystod y cyfnod pontio hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ymarferol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â rhoi’r ddeddf ar waith yn gyffredinol, gan gynnwys mewn perthynas â gwasanaethau ataliol.


 

Pennod 4:

 

Hyrwyddo Mentrau Cymdeithasol, mentrau Cydweithredol, Gwasanaethau sy’n cael eu Harwain gan Ddefnyddwyr a’r Trydydd Sector

 

Cyflwyniad: nod a chwmpas

 

203.      Mae Rhan 2, adran 16 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo datblygiad sefydliadau dielw preifat yn eu hardal i ddarparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol. Mae’r modelau hyn yn cynnwys mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector.

 

204.      Rhaid i’r awdurdod lleol hyrwyddo cyfraniad pobl y darperir y gwasanaethau gofal a chymorth neu’r gwasanaethau ataliol hyn ar eu cyfer, at y gwaith o gynllunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno.

 

205.      Mae’r ddyletswydd yn gysylltiedig â gofynion asesiad poblogaeth ym mhennod 2 a fydd yn llywio’r math o wasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y boblogaeth a’r asedau sydd ar gael.

 

206.      Mae hefyd yn gysylltiedig â phennod 3 sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ataliol.

 

207.      Mae’r ddyletswydd i hyrwyddo yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol fod yn rhagweithiol wrth gynllunio a darparu modelau a fydd yn diwallu anghenion llesiant pawb – plant, pobl ifanc ac oedolion – gan hyrwyddo modelau sy’n seiliedig ar werthoedd cymdeithasol. Mae canlyniadau personol yn sail i’r system yn ei chyfanrwydd, a rhaid i ddatblygiad unrhyw fath o wasanaeth ganolbwyntio ar y nod hwn bob amser, fel yr amlinellir ym mhennod 1.

 

208.      Rhaid i’r bennod hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r canlynol:

 

·         Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·         Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015;

·         Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015;

·         Y penodau eraill yn y cod ymarfer ar Swyddogaethau Cyffredinol, yn enwedig pennod 2 (asesiad poblogaeth) a phennod 3 (gwasanaethau ataliol).

 

 

Cyd-destun

 

209.      Mae polisi gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau mwy o amrywiaeth yn y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy gwmnïau cydfuddiannol, cyflawni gwaith yn fewnol, comisiynu ar y cyd a pherchnogaeth gymunedol. Mae’n golygu rhoi grym i bobl a chymunedau. Mae hyn yn adlewyrchu amgylchedd mwy cymhleth, ac mae angen arweinyddiaeth gref a newid mewn diwylliant ac ymarfer. Mae’r egwyddorion hyn wedi’u hamlinellu yn y Papur Gwyn Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni – Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol.

 

210.      Mae’r Rheoliadau a’r cod ymarfer wedi’u rhoi ar waith i gefnogi awdurdodau lleol yn eu dyletswydd, sef annog twf a datblygiad modelau busnes dielw preifat newydd. Mae’r Ddeddf yn cynnwys diffiniadau eang a chynhwysol o fenter gymdeithasol a sefydliad trydydd sector. Bwriad y Rheoliadau a’r cod ymarfer statudol yw cefnogi twf mentrau cymdeithasol, sefydliadau neu drefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a sefydliadau’r trydydd sector, yn hytrach na gosod yn y gyfraith ddiffiniadau newydd o’r dulliau a’r modelau hyn.

 

211.      Bwriad dyletswydd gyffredinol adran 16 yw tyfu’r ystod o fodelau dielw preifat yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’r Rheoliadau a’r cod ymarfer statudol yn cefnogi rhoi’r ddyletswydd honno ar waith.

 

212.      Mae Rheoliadau a chod ymarfer adran 16 wedi’u cynllunio i gynnwys modelau newydd a’r modelau diweddaraf ac i hyrwyddo modelau gwasanaeth amgen ac arloesol.

 

213.      Wrth ddefnyddio’r cod ymarfer hwn a chyflawni dyletswydd gyffredinol adran 16, mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried y canllawiau presennol, y cymorth a’r diffiniadau sy’n berthnasol i’r sefydliadau a’r gweithgareddau hyn.

 

Mentrau Cymdeithasol

 

214.      Mae yna sawl diffiniad o fentrau cymdeithasol sy’n helpu awdurdodau lleol ac eraill i feddwl am ddatblygu modelau busnes dielw preifat. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Hwb Gwybodaeth a Dysgu’r Cyngor Gofal[2]. Mae Busnes Cymru yn disgrifio menter gymdeithasol fel busnes ag amcanion cymdeithasol yn bennaf. Mae elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes neu yn y gymuned, yn hytrach na chynyddu’r elw i randdeiliaid a pherchnogion.

 

215.      Mae mentrau cymdeithasol yn cystadlu yn y farchnad hefyd, ac mae angen iddynt gael eu rheoli’n dda er mwyn gwneud elw a chyflawni eu nodau cymdeithasol. Maent yn amrywio o siopau pentref bach sydd dan berchnogaeth y gymuned i sefydliadau mawr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

 

216.      Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar fentrau cymdeithasol ar gael yn y llefydd canlynol:

·         Canolfan Cydweithredol Cymru www.cydweithredolcymru.org.uk

·         Busnes Cymdeithasol Cymru

https://business.wales.gov/socialbusinesswales/

·         Cwmnïau Cymdeithasol Cymru http://www.socialfirmswales.co.uk/

·         Social Enterprise UK http://www.socialenterprise.org.uk/about/about-social-enterprise

 

Mentrau Cydweithredol

 

217.      Mae’r International Co-operative Alliance yn amlinellu saith egwyddor a chanllaw cydweithredol y mae mentrau cydweithredol yn eu harddel i roi eu gwerthoedd ar waith, sef:

·         Aelodaeth Wirfoddol ac Agored

·         Rheolaeth Ddemocrataidd Aelodau

·         Cyfranogiad Economaidd Aelodau

·         Ymreolaeth ac Annibyniaeth

·         Addysg, Hyfforddiant a Gwybodaeth

·         Cydweithrediad ymhlith Cwmnïau Cydweithredol

·         Ymddiddori yn y Gymuned

 

218.      Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar sefydliadau cydweithredol ar gael yn y llefydd canlynol:

·         The International Co-operative Alliance http://ica.coop/

·         Canolfan Cydweithredol Cymru www.cydweithredolcymru.org.uk

 

Y Trydydd Sector

 

219.      Mae Cynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn amlinellu diffiniad o’r Trydydd Sector. Mae’n dweud y derbynnir yn eang fod sefydliadau’r Trydydd Sector:

·         Yn gyrff anllywodraethol, annibynnol;

·         Wedi’u sefydlu’n wirfoddol gan bobl sy’n dewis trefnu eu hunain;

·         Yn cael eu sbarduno gan amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, yn hytrach na’r awydd i wneud elw;

·         Wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi eu gwargedau er mwyn cyflawni eu nodau cymdeithasol ac er budd pobl a chymunedau yng Nghymru.

 

220.      Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar sefydliadau’r trydydd sector ar gael yn y llefydd canlynol:

·         Cynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru http://llyw.cymru/topics/people-and-communities/communities/voluntarysector/?skip=1&lang=cy  

·         Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) http://www.cggc.org.uk/home?seq.lang=cy-GB  

 

221.      Mae mwy o ganllawiau, cymorth a ffynonellau gwybodaeth ar gael yn Hwb Gwybodaeth a Dysgu’r Cyngor Gofal[3].

 

222.      Mae’r cod yn sail i egwyddorion y Ddeddf, gan sicrhau bod pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, yn cyfrannu’n llawn at y gofal a’r cymorth hwnnw.

 

223.      Y bwriad yw y bydd perfformiad dyletswydd adran 16 yn cynyddu amrywiaeth y ddarpariaeth sydd ar gael, gan gydnabod na fydd un dull yn addas i bawb. Mae hefyd yn ceisio hwyluso amgylchedd lle bydd pobl yn gallu cefnogi eu hunain yn well, lle bo hynny’n briodol.

 

224.      Mae’r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo sefydliadau dielw yn gallu hyrwyddo nodau amgylcheddol a chymdeithasol eraill, sydd o fudd i’r gymuned mewn sawl ffordd. 

 

225.      Bydd y dull hwn yn cefnogi arloesedd a chreadigrwydd, yn cynyddu gwydnwch y gymuned ac yn lleihau’r risg o ddibyniaeth ar un math o ddarpariaeth gwasanaethau.

 

Dyletswydd i hyrwyddo – beth mae’n ei olygu?

 

226.      Mae’r Ddeddf yn gofyn am newid diwylliant o’r ffordd mae gwasanaethau wedi bod yn cael eu darparu i ddull sy’n seiliedig ar bartneriaethau, a pherthynas gyfartal rhwng ymarferwyr a phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar lesiant a sut y gall gwasanaethau helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt.

 

227.      Mae dyletswydd gyffredinol adran 16 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio a dangos dull rhagweithiol yn dilyn yr asesiad poblogaeth o anghenion gofal a chymorth a amlinellir yn adran 14. Rhaid i asesiad poblogaeth adran 14 gynnwys syniad o ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r angen hwnnw. Dylai hefyd asesu’r hyn a ddarperir gan fentrau cymdeithasol, sefydliadau a threfniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector.

 

Dyletswyddau Hollgyffredinol

 

228.      Mae llesiant yn sail i’r system yn ei chyfanrwydd. Mae cyd-destun y dull hwn wedi’i nodi ym mhennod 1 o’r cod ymarfer hwn, a rhaid i awdurdodau lleol gyfeirio’n ôl at y bennod honno i gael gwybodaeth am y canlynol:

·         Y diffiniad o lesiant

·         Dyletswydd llesiant

·         Hyrwyddo llesiant

·         Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinol

·         Ystyr rhoi sylw

·         Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

·         Monitro llesiant.

 

229.      Mae pobl – plant, pobl ifanc, oedolion a gofalwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau – yn asedau pwysig, ac mae ganddynt sgiliau, arbenigedd a medrau. Maent yn rhan annatod o’r fframwaith cyfreithiol hwn. Bydd gweithio gyda phobl yn allweddol er mwyn cyflawni llesiant a datgloi’r potensial ar gyfer creadigrwydd a fydd yn gwneud defnydd gwell a mwy effeithiol o’r holl adnoddau sydd ar gael.

 

230.      Mae’r Ddeddf yn darparu diffiniad clir a chyson o lesiant sy’n berthnasol i bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth.

 

231.      Mae adran 5 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf geisio hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, fel y diffinnir yn adran 2. 

 

232.      Mae’r ddyletswydd hollgyffredinol hon i geisio hyrwyddo llesiant yn berthnasol i bob person a chorff sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol ac asiantaethau statudol eraill. 

 

233.      Fel yr amlinellir ym mhennod 1, mae egwyddorion a chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig yn cynnwys:

 

·         Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, yn: http://www.un.org/documents/ga/res/46/a46r091.htm

 

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), yn: http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/rights/uncrc/?lang=en

 

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yn
http://www.un.org/disabilities/default.asp?id=150

 

 

Cyfranogiad Pobl

 

234.      Mae rhan o’r ddyletswydd i hyrwyddo yn golygu rhoi trefniadau cadarn ar waith i annog cyfranogiad pobl. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar ganlyniadau, yn hytrach na phrosesau ac allbynnau er mwyn i sefydliadau a threfniadau gael eu cynllunio gyda phobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, a chael eu harwain gan y bobl hynny hefyd. Mae hyn yn golygu ar lefel unigol, sefydliadol a strategol.

 

235.      Dylai awdurdodau lleol asesu a sicrhau bod gwasanaethau yn bodloni canlyniadau personol pobl ac, os yn bosibl, yn darparu gwerth ychwanegol. Yn aml, mae mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector yn cynnal gweithgareddau y credir eu bod yn ychwanegu gwerth at gymdeithas, er enghraifft, trwy gyflogi pobl leol i ddarparu’r gwasanaeth.

 

236.      Dylai cyfranogiad ddigwydd ar bob cam o’r broses o gynllunio a gweithredu gwasanaethau. Fel yr amlinellir yn adran 14, rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol:

 

·         Ymgysylltu â phobl (gan gynnwys oedolion a phlant ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a rhieni plant ag anghenion gofal a chymorth) wrth gynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth a sefydlu gweithdrefn ar gyfer yr ymgysylltu hwn

 

·         Cynnwys pobl wrth ystyried ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y gellir diwallu’r anghenion hyn trwy hyrwyddo ac annog datblygiad mentrau cymdeithasol, sefydliadau neu drefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector.   

 

237.      Bydd sawl ffordd o wneud hyn, ond bydd dull sy’n seiliedig ar egwyddorion cyd-gynhyrchu yn hanfodol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon. Mae hyn yn golygu dull sy’n:

 

·         Cydnabod pobl fel asedau sydd â chyfraniad cadarnhaol i’w wneud at gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

·         Cefnogi a rhoi grym i bobl gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

·         Rhoi grym i bobl ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu llesiant eu hunain, a chyfrannu at y llesiant hwnnw.

·         Sicrhau bod ymarferwyr yn gweithio mewn partneriaeth â phobl i gyflawni canlyniadau personol ar lefel unigol a gwasanaeth.

·         Cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio canlyniadau ar gyfer gwasanaethau.

 

238.      Rhaid i bobl gyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau, a chynhyrchu asesiad poblogaeth, fel yr amlinellir yn y cod ymarfer hwn.

 

239.      Bydd dull cyd-gynhyrchu yn cyfrannu pob math o brofiad, sgiliau a gwybodaeth at y gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau. Mae mwy o wybodaeth am gyd-gynhyrchu ym mharagraff 248.

 

240.      Mae adran 15 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu ystod a lefel o wasanaethau ataliol y credant y byddant yn cyflawni’r dibenion a amlinellir yn adran 15(2). Mae’r ffocws cynyddol ar ymyrraeth gynnar ac atal yn gofyn am gydnabyddiaeth o’r adnoddau hynny sydd eisoes ar waith yn y gymuned.

 

Meysydd Allweddol

 

241.      Mae’r meysydd yn dod o dan bum prif bennawd. Mae’r meysydd hyn yn hollbwysig o ran helpu awdurdodau lleol gyda’u dyletswydd i hyrwyddo a’u helpu i ddangos sut maent yn cyflawni eu dyletswydd. Dangosir y rhain yn y diagram isod:

 

 

242.      Bwriad yr egwyddorion a’r arferion cyd-gysylltu yw adeiladu’r economi graidd leol o bobl sy’n cyfnewid eu sgiliau, eu diddordebau a’u hamser. Byddant yn helpu i newid y pwyslais tuag at gymorth a grëir trwy gydfuddiannau ac ymrwymiad cyffredin pobl sydd wedi buddsoddi ynddo. Mae mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a sefydliadau’r trydydd sector yn fathau o sefydliadau sy’n addas ar gyfer egwyddorion cyd-gynhyrchu oherwydd eu bod yn aml yn sefydliadau aelodaeth, democrataidd. 

 

243.      Mae hyn yn gofyn am ddull newydd o fesur llwyddiant sy’n cynnwys casglu gwybodaeth am a yw cymorth yn cyflawni’r pethau sy’n bwysig i bobl. Rhaid i fesuriadau edrych ar ganlyniadau personol a llesiant ar lefel poblogaeth ar gyfer unigolion. Mae hyn yn amlwg yn yr ymagwedd gyffredinol at ganlyniadau personol, yn y datganiad llesiant ac yn y fframwaith canlyniadau cenedlaethol. Bydd rôl Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn hollbwysig wrth fesur llwyddiant.

 

244.      Mae gan awdurdodau lleol gyfraniad pwysig i’w wneud o ran creu’r amgylchedd iawn lle gall pobl â diddordeb mewn cefnogi poblogaeth ardal leol ddod at ei gilydd i greu’r cymorth sydd ei angen arnynt. Dylai’r rôl hon gynnwys: creu amgylchedd lleol i hyrwyddo llais a rheolaeth defnyddwyr ar bob lefel a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad y gall mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector ei wneud at gyflawni amcanion polisi’r Ddeddf. Dylent weithredu hefyd fel gwasanaethau ataliol i gyflawni’r dibenion a amlinellir ym mhennod 3.

 

245.      Bydd y dull mwy agored hwn o nodi cyfleoedd cyffredin yn gofyn am drefniadau mwy hyblyg ar gyfer cynllunio, hyrwyddo a darparu gwasanaethau. Mae’r gweithgareddau craidd hyn yn berthnasol o dan cynllunio a darparu gwasanaethau (gweler adran 14 o’r Ddeddf). Bydd hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar gynnwys pobl yn y broses a mwy o ffocws ar ganlyniadau personol a hyrwyddo’r cydbwysedd iawn rhwng effeithlonrwydd adnoddau a  budd i’r gymuned.

 

246.      Mae dull cydweithredol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector yn cael eu hyrwyddo’n llwyddiannus.

 

Gwybodaeth ac adnoddau

 

247.      Mae pob math o wybodaeth ac adnoddau ar gael i gefnogi awdurdodau lleol, mentrau cymdeithasol presennol neu newydd, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector.

 

Cyd-gynhyrchu

 

248.      Ar lefel unigol, mae’r Ddeddf yn amlinellu dyletswyddau hollgyffredinol mewn perthynas â llesiant. Un peth sy’n hollbwysig i’r dull a’r system gyfan yw bod ymarferwyr yn cyd-gynhyrchu gyda phlant, pobl ifanc, gofalwyr a theuluoedd, a chydag oedolion, gofalwyr a theuluoedd. Mae gan bob partner yn y broses hon gyfraniadau i’w gwneud. 

 

249.      Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau cydbwysedd priodol rhwng cynnwys plentyn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaeth trwy roi cyfle iddo fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau, a sicrhau bod lles pennaf y plentyn hwnnw yn cael ei gyflawni. 

 

250.      Mae’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn helpu sefydliadau i fesur a gwella ansawdd y broses o sicrhau cyfranogiad plant a phobl ifanc. Mae’r safonau hyn yn seiliedig ar egwyddorion craidd cyfranogiad, ac fe’u cymeradwyir gan bobl ifanc. Mae gan wefan Hawliau Plant yng Nghymru[4]amryw o enghreifftiau o sut mae sefydliadau wedi cynnwys plant.

 

251.      Mae gan Rwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru[5]rai adnoddau defnyddiol hefyd.

 

252.      Dyma egwyddorion cyd-gynhyrchu:-

 

·         Gweld pobl fel asedau

·         Adeiladu ar fedrau

·         Datblygu cydymddibyniaeth a chydgyfnewidioldeb

·         Buddsoddi mewn rhwydweithiau er mwyn rhannu gwybodaeth

·         Pylu gwahaniaethau rhwng darparwyr a phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth

·         Hwyluso yn hytrach na darparu gwasanaethau

 

253.      Rhaid i awdurdodau lleol:

 

·         Roi trefniadau tryloyw ar waith lle mae pobl yn bartneriaid cyfartal o ran cynllunio a gweithredu gwasanaethau.

·         Sicrhau bod y trefniadau hyn yn cynnwys paneli lleol a rhanbarthol o gomisiynwyr, dinasyddion a darparwyr, yn gweithio gyda’i gilydd i lywio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl sydd angen gofal a chymorth.

·         Adrodd ar yr hyn y maent yn ei wneud i gefnogi cyd-gynhyrchu yn Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr.

 

254.      Mae pecyn cymorth Transforming Social Services: Towards an Enabling Wales[6]Anabledd Cymru yn amlinellu’r rhwystrau i gyfranogiad a sut i oresgyn y rhwystrau hyn. Dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid ddefnyddio’r pecyn cymorth hwn fel sail i sicrhau cyfranogiad ystyrlon. Mae’r pecyn cymorth yn disgrifio “What Disables; Practices We Have to Give Up”, a “What Enables; Practices We Want to Adopt”, a’r cwestiynau sydd angen eu gofyn er mwyn cynnwys pobl sydd angen gofal a chymorth, cynyddu llais a rheolaeth a rhoi egwyddorion cyd-gynhyrchu ar waith.

 

Darparwyr gwasanaethau

 

255.      Rhaid i awdurdodau lleol:

 

·                         Sicrhau bod darparwyr y maent yn comisiynu neu’n caffael gwasanaethau ganddynt yn annog a galluogi cyfraniad pawb at gynllunio’r gwasanaethau a sut y byddant yn gweithredu i gyflawni canlyniadau personol, a bod darparwyr yn cynnwys pobl yn y gwerthusiad a’r adolygiad.

 

Mesur Llwyddiant

256.      Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl i nodi a monitro cynnydd mae pobl yn ei wneud tuag at gyflawni a chynnal canlyniadau personol. Bydd y wybodaeth hon yn helpu awdurdodau lleol i ddeall a yw mentrau cymdeithasol, sefydliadau neu drefniadau cydweithredol, sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector yn effeithiol o ran helpu pobl i sicrhau llesiant.

 

257.      Mae canolbwyntio ar ganlyniadau personol yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol edrych y tu hwnt i ddarpariaeth gwasanaethau ffurfiol a gweithio gyda phobl a chymunedau i nodi a chynllunio ar gyfer cymorth a chyfleoedd sy’n gallu helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt. Mae hyn yn gofyn am bwyslais ar fodelau gwasanaeth newydd ac arloesol i gefnogi llesiant.

 

258.      Mae’r cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yn amlinellu fframwaith mesur perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r cod ymarfer hefyd yn nodi pwysigrwydd defnyddio gwybodaeth am ganlyniadau personol i ddeall perfformiad.

 

259.      Bydd data ansoddol, fel yr amlinellir yn y cod hwnnw, yn cynnwys gofyn i bobl am eu profiad o wasanaethau cymdeithasol ac a yw hyn wedi cyfrannu at wella eu llesiant. Rhaid i’r data hwn gael ei ddeall yng nghyd-destun perfformiad awdurdodau lleol i weld yr effaith mae gwasanaethau yn ei chael ar fywydau pobl.

 

260.      Bydd yr asesiad poblogaeth, a amlinellir ym mhennod 2, yn llywio’r mathau o fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol neu sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr neu’r trydydd sector sydd eu hangen er mwyn diwallu anghenion gofal a chymorth a nodir. Gall unrhyw werthusiad o’r modelau darparu hyn lywio’r asesiad poblogaeth trwy ddarparu tystiolaeth o’r graddau mae’r anghenion gofal a chymorth hyn yn cael eu diwallu.

 

261.      Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn gwneud cyfraniad allweddol at fonitro cynnydd ac effaith y ddyletswydd hon fel rhan o’i threfniadau cofrestru, rheoleiddio ac arolygu. Mae trefniadau rheoleiddio i’r dyfodol yn cael eu datblygu gyda digon o hyblygrwydd i alluogi modelau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau yn y system reoleiddio, pan fo hynny’n briodol.

 

262.      Wrth ddeall canlyniadau llesiant personol pobl, rhaid i awdurdodau lleol:

 

·         Ystyried y canlyniadau personol a amlinellir yn y datganiad llesiant

·         Ystyried effeithiolrwydd mentrau cymdeithasol, sefydliadau a threfniadau cydweithredol, sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector o ran helpu pobl i gyflawni llesiant

 

Creu’r Amgylchedd Iawn

263.      Mae gan awdurdodau lleol gyfraniad pwysig i’w wneud at greu amgylchedd a fydd yn hyrwyddo cyfranogiad pobl ar bob lefel wrth gynllunio, dylunio, hyrwyddo a gweithredu gwasanaethau. Bydd dyletswydd gyffredinol adran 16 yn elfen bwysig yn y nod cyffredinol hwnnw.

 

264.      Mae arweinyddiaeth yn hollbwysig wrth greu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer twf y modelau hyn, ac efallai yr hoffai awdurdodau lleol ystyried rolau sy’n hyrwyddo y dulliau hyn. Efallai yr hoffent hefyd ystyried rolau swyddog â chyfrifoldeb penodol dros ddatblygu mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector.

 

265.      Rhaid i awdurdodau lleol ar y cyd â phartneriaid bwrdd iechyd lleol sefydlu fforymau rhanbarthol i helpu darparwyr sy’n seiliedig ar werth cymdeithasol i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r agenda gyffredin ac i rannu a datblygu arfer da. Nod y fforwm hwn yw annog sector gwerth cymdeithasol ffyniannus sy’n gallu cynnig cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau ac sy’n barod i wneud hynny.

 

266.      Rhaid i’r fforwm hwn fod ar waith erbyn mis Medi 2016, gyda chylch gorchwyl ac aelodaeth gytunedig a blaengynllun ar gyfer ei gyfarfodydd. Rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer y fforwm a chymorth ysgrifenyddiaeth ar gyfer y cyfarfodydd. Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad bob tair blynedd ar weithgareddau’r fforwm a sut y mae wedi cyfrannu at gyflawni dyletswyddau o dan adran 16. Rhaid i’r adroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2019.

 

267.      Dylai cyfleoedd gael eu creu i alluogi pobl i rannu’r pethau y gallant eu gwneud, y potensial a’r rhwystrau i lesiant. Er enghraifft, dylid ystyried y gwaith o greu paneli lleol a rhanbarthol a fyddai’n cynnwys awdurdodau lleol, dinasyddion a darparwyr yn gweithio gyda’i gilydd i lywio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl sydd angen gofal a chymorth. Yn 2015-16, mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu paneli dinasyddion rhanbarthol ar draws mentrau cydweithredol rhanbarthol:  http://llyw.cymru/newsroom/healthandsocialcare/2014/140626regional-leadership/?lang=cy

 

268.      Ledled Cymru, mae yna sawl enghraifft o fentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a’r trydydd sector yn darparu gwasanaethau arloesol. Mae’r adroddiad, Cyflawni’r Ddyletswydd[7], yn darparu canllawiau ar sut y gellir creu cyfleoedd i bobl sefydlu a rhedeg eu gwasanaethau gofal a chymorth eu hunain. Mae awdurdodau lleol eisoes wedi defnyddio dulliau eraill ym maes cymorth a gofal cymdeithasol, hamdden a thai, er enghraifft. Mae gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru astudiaethau achos o wasanaethau amgen ar waith yng Nghymru, ac mae mwy o enghreifftiau a gwybodaeth ar gael yng Nghanolfan Gwybodaeth a Dysgu’r Cyngor Gofal[8].

 

269.      Dylai awdurdodau lleol geisio codi ymwybyddiaeth o rôl mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector o ran helpu pobl i gael gofal a chymorth o safon uchel, a’r manteision ac ystod y cymorth sydd ar gael. Dylai’r gwaith o rannu arfer da yn y maes hwn gael ei hwyluso gan awdurdodau lleol. Yn ogystal, dylai awdurdodau lleol helpu eu staff i ddeall sut y gallant weithio gyda mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn gallu darparu cymorth i fusnesau i’w helpu i ddatblygu’r mathau hyn o fodelau gwasanaeth. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) hefyd yn darparu cymorth ac arweinyddiaeth ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.cggc.org.uk/home?seq.lang=cy-GB

 

270.      Rhaid i awdurdodau lleol:

 

·                         Ystyried opsiynau mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector fel rhan o unrhyw benderfyniad i gynllunio, hyrwyddo a darparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol.

·                         Rhaid i awdurdodau lleol â phartneriaid bwrdd iechyd lleol sefydlu fforymau rhanbarthol i gefnogi darparwyr sy’n seiliedig ar werth cymdeithasol. Rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu arweinyddiaeth a chymorth ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforymau hyn a chyhoeddi adroddiad ar weithgarwch bob tair blynedd.

 

Cynllunio, Hyrwyddo a Darparu

 

271.      Gall y gwaith o sicrhau gwasanaethau gynnwys grantiau, cytundebau lefel gwasanaeth neu gaffael. Rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio eu sail dystiolaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’r dulliau mwyaf priodol o gaffael a datblygu’r farchnad yn eu hardal.

 

272.      Mae cael hyn yn iawn yn hollbwysig i sicrhau newid mewn diwylliant, systemau ac arferion. Mae sut mae’r newid hwn yn cael ei gynllunio, ei hyrwyddo a’i ddarparu yr un mor bwysig â beth sy’n cael ei wneud. Mae’n bwysig bod penderfyniadau ynglŷn â gofal a chymorth priodol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn cael eu datblygu gyda mewnbwn gan y bobl sydd angen neu sy’n derbyn ymyrraeth gynnar neu wasanaethau ataliol, a gofalwyr.

 

273.      Fel rhan o’r cylch o gefnogi a sicrhau ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol priodol, rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda Byrddau Iechyd Lleol i gynhyrchu asesiad poblogaeth.

 

274.      Bydd yr asesiad poblogaeth, fel yr amlinellir ym mhennod 2 o’r cod ymarfer hwn, yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sail dystiolaeth glir a phenodol mewn perthynas ag anghenion gofal a chymorth ac anghenion gofalwyr er mwyn llywio gwahanol benderfyniadau cynllunio a gweithredol. Bydd adroddiad asesiad poblogaeth yn cynnwys yr asesiad o angen ac ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol. Dylai hyn lywio’r broses o gomisiynu gofal cymdeithasol gan awdurdodau lleol a galluogi awdurdodau lleol i fynd ati i sicrhau gwasanaethau.

 

275.      Gall gofal a chymorth ddod o lawer o wahanol ffynonellau, er enghraifft, gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau eu hunain fel cyfranwyr gweithredol, ffrindiau, teuluoedd, cefnogwyr, gofalwyr, gwasanaethau a ddarperir gan y sector annibynnol neu’r trydydd sector, modelau busnes megis mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr. Rhaid i awdurdodau lleol gyflawni dyletswydd gyffredinol adran 16 wrth nodi a sicrhau gofal a chymorth priodol.

 

276.      Trwy hyrwyddo manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol wrth gaffael, a thrwy ddatblygu meini prawf gwerth am arian sy’n ystyried effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol dros y tymor byr a hir, gall awdurdodau lleol weithio tuag at gyflawni’r nod hwn a chyflawni canlyniadau personol unigol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth.

 

277.      Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru[9] (WPPS) yn amlinellu’r egwyddorion allweddol mewn perthynas â chaffael yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn cynnig ymagwedd gwerth am arian at gaffael sy’n ystyried effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol dros y tymor byr a hir.

 

278.      Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gaffael cyhoeddus ar gael yn y Canllaw Cynllunio Caffael: http://prp.gov.wales/

 

279.      Dylai awdurdodau lleol adolygu eu Rheolau Sefydlog yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn addas i’r diben er mwyn sicrhau gofal a chymorth o safon, gan ddefnyddio’r modelau a amlinellir yn adran 16.

 

280.      Mae cydweithio ar draws adrannau ac asiantaethau yn rhan allweddol o gaffael cynaliadwy, llwyddiannus. Mae dull hyblyg ac arloesol sy’n defnyddio deddfwriaeth Ewropeaidd a chanllawiau arfer gorau yn hanfodol.

 

281.      Rhaid i awdurdodau lleol a’u partneriaid sicrhau eu bod yn ystyried cyfleoedd newydd a gyflwynir gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd i feithrin datblygiad sefydliadau sy’n cyflawni amryw o amcanion, megis; ail-fuddsoddi elw gyda’r nod o gyflawni amcan y sefydliad, a sicrhau bod elw’n cael ei ddosbarthu yn seiliedig ar ystyriaethau cyfranogiad; sicrhau bod strwythurau rheoli neu berchnogaeth y sefydliad yn seiliedig ar egwyddorion cyfranogiad neu berchnogaeth gweithwyr cyflogedig ac yn gofyn am gyfranogiad gweithredol gweithwyr cyflogedig, defnyddwyr neu randdeiliaid.

 

282.      Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn cynnwys dyletswydd newydd o gymesuredd, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu dulliau caffael sy’n gymesur ac yn seiliedig ar risg. Mae hyn yn helpu i sicrhau nad yw cyflenwyr llai o faint a sefydliadau’r trydydd sector yn cael eu hatal rhag ennill contractau yn unigol, fel consortia neu drwy rolau yn y gadwyn gyflenwi.

 

283.      Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 hefyd yn gallu cefnogi’r gwaith o weddnewid y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu, er enghraifft, mae Rheoliad 40 yn amlinellu sut y gall awdurdodau contractio geisio neu dderbyn cyngor gan arbenigwyr annibynnol neu awdurdodau neu gyfranogwyr y farchnad wrth baratoi’r caffael. Mae’r dull hwn wedi’i ymgorffori yn WPPS a’r Canllaw Cynllunio Caffael, ac mae’n cydnabod y manteision a’r dulliau arloesol y mae modd eu cyflawni trwy ymgysylltu â chyflenwyr yn gynharach a cheisio cael adborth o’r Farchnad. Mae Rheoliadau 20 a 77 yn rhoi cyfle i gaffael gael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n cryfhau ac yn helpu i greu mentrau sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

 

284.      Rhaid i awdurdodau lleol:

 

·         Gryfhau cyfraniad pobl sydd angen gofal a chymorth at gynllunio manylebau tendr i sicrhau bod gwasanaethau yn briodol i angen dinasyddion ac i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn addas ac yn briodol i wasanaethau cymdeithasol ar eu newydd wedd

·         Defnyddio mwy o ddeddfwriaeth gaffael gefnogol a galluogi

·         Ystyried y manteision ehangach i gymdeithas i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sy’n ystyried yr economi leol, gofynion cymdeithasol a’r effaith ar yr amgylchedd.

 

Cydweithredu

285.      Bydd dull cydweithredol yn sicrhau bod yr egwyddor o lais a rheolaeth yn rhan annatod o’r gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau.

 

286.      Rhaid i awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol weithio gyda’i gilydd i gynllunio a sefydlu gwasanaethau i wella canlyniadau personol. Mae Pennod 1 o’r cod ymarfer hwn yn diffinio llesiant ac yn amlinellu sut i hyrwyddo llesiant.

 

287.      Mae adran 166 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud hi’n ofynnol i gyfuniad o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol lunio trefniadau partneriaeth i gyflawni swyddogaethau penodol. Mae Rheoliadau ar wahân sydd wedi’u datblygu o dan adran 166 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol ym mhob ardal Bwrdd Iechyd Lleol roi cytundeb partneriaeth ar waith i gynnal yr asesiad poblogaeth. 

 

288.      Bydd asesiad cydweithredol o’r fath yn galluogi awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i nodi sut i ddiwallu angen ar y cyd, yn unol ag ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.

 

289.      Os bydd gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddiddordeb cyffredin mewn gwasanaethau cynllunio, hyrwyddo a darparu, dylent weithio gyda’i gilydd i ystyried a fydd modelau busnes dielw, amgen yn diwallu anghenion llesiant eu poblogaeth leol.

 

290.      Mae’r canllawiau statudol ar Ran 9 yn cynnwys cyngor pellach ar gytundebau partneriaeth.

 

291.      Rhaid i awdurdodau lleol:

 

·         Weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o bartneriaid i lywio’r asesiad poblogaeth ac agweddau eraill ar adran 14 o’r Ddeddf, gan ddefnyddio dull cydweithredol i nodi angen, angen nas diwallwyd a gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth

·         Gweithio gyda phobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, i lywio’r asesiad poblogaeth

·         Cydweithredu â phartneriaid i nodi ystod a lefel y gwasanaethau ataliol, fel sy’n ofynnol gan adran 15 o’r Ddeddf, i leihau angen pobl am ofal a chymorth ac i hwyluso byw’n annibynnol

·         Cydweithredu â Byrddau Iechyd Lleol, adrannau o fewn pob awdurdod lleol, megis addysg a thai, ac awdurdodau lleol eraill

·         Cryfhau’r gwaith o rannu arfer da, trwy gyfathrebu rheolaidd, a chefnogi’r gwaith o sefydlu a defnyddio rhwydweithiau a fforymau priodol i ddatblygu, hyrwyddo a chynllunio mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector

·         Cynnwys pobl ar bob lefel a cham mewn perthynas â’r gwasanaethau a fydd yn darparu gofal a chymorth iddynt

·         Ymgysylltu â hyfforddiant sy’n cefnogi cydweithredu.

 

Trefniadau pontio

 

292.      Bydd dyletswydd gyffredinol adran 16 yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Fodd bynnag, mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn cymryd camau i hyrwyddo modelau gwasanaeth dielw amgen; mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys mentrau cydweithredol taliadau uniongyrchol sy’n cael eu harwain gan ddinasyddion, darparu canolfannau hyfforddi, gwaith saer a garddwriaeth sy’n darparu hyfforddiant a chyflogaeth ac yn hyrwyddo ymgysylltu cymunedol ar gyfer pobl agored i niwed, darparwyr pecynnau iechyd a gofal cymdeithasol a chanolfan rwydweithio ar gyfer gofalwyr. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i roi’r ddyletswydd hon ar waith.


Pennod 5

Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

Cyflwyniad: nodau a chwmpas

 

293.      Mae’r bennod hon yn darparu canllawiau ar adran 17 yn Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae adran 17 yn rhoi sylw i ddarpariaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Ni wneir unrhyw reoliadau o dan yr adran hon o’r Ddeddf.

 

294.      Mae’r cod ymarfer hwn yn amlinellu’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu gwasanaeth sy’n darparu’r canlynol i bobl:

 

·         gwybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth, a

·         chymorth o ran cael mynediad at ofal a chymorth.

 

295.      Rhaid i’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy gynnwys gwybodaeth a chyngor ar:

 

·         sut mae’r system gofal a chymorth yn gweithredu yn yr ardal awdurdod lleol;

·         y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael;

·         sut i gael mynediad at y gofal a’r cymorth sydd ar gael; a

·         sut i godi pryderon ynglŷn â llesiant person y mae’n ymddangos bod ganddo anghenion gofal a chymorth.

 

296.      Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) neu Ymddiriedolaeth y GIG sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol hwnnw am y gofal a’r cymorth y mae’n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol. Bydd gan sefydliadau partner eraill, gan gynnwys sefydliadau’r sector annibynnol a’r trydydd sector, a dinasyddion Cymru, gan gynnwys y rhai mewn carchar, llety cadw ieuenctid a llety mechnïaeth, ddiddordeb yng nghynnwys y gofal a’r cymorth hwnnw a sut y maent yn cael eu darparu.

 

Y Gwasanaeth Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

 

297.      Mae’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn rhan annatod o lwyddiant y pontio i’r system gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae’n gyfle i newid barn pobl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru. Rhaid iddo hyrwyddo ymyrraeth gynnar ac atal i sicrhau bod pobl o bob oedran yn gallu cael eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol, ac archwilio opsiynau i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Dylai’r gwasanaeth hwn gael ei ystyried fel gwasanaeth ataliol ynddo’i hun trwy ei ddarpariaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy amserol o safon uchel.

 

298.      Bydd y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ddatblygu ei ystod a’i ffocws ar sail canfyddiadau’r asesiad poblogaeth y bydd yr awdurdod lleol yn ei gynnal yn gyfnodol, trwy ei drefniadau partneriaeth rhanbarthol (gweler pennod 2 Asesiad Poblogaeth). Bydd yr asesiad poblogaeth yn defnyddio’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i ddeall pa anghenion sydd gan bobl yn ei ardal a pha wybodaeth, cyngor a chynhorthwy sydd eu hangen arnynt.

 

299.      Bydd y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy (y gwasanaeth) yn hawdd ei ddefnyddio, yn groesawgar ac yn addysgiadol i greu gwasanaeth sy’n cyrraedd pobl cyn iddynt gyrraedd argyfwng ac sy’n cynnig ymyrraeth gynnar ac atal.

 

Gofynion Craidd y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy

 

300.      Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy sy’n cynnwys darparu:

 

a)    ymateb cymesur i’r ymholiad, gan alluogi’r unigolyn i gael mynediad at wasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal;

 

b)    gwybodaeth am ofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwr, sy’n gywir a chyfredol, heb yr angen i ddata craidd gael ei gofnodi yn yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol a heb i asesiad gael ei gynnal

 

c)    cyngor ar ofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwr, sy’n briodol i’r unigolyn, yn dilyn asesiad cymesur

 

d)    cyngor sy’n gynhwysfawr, yn ddiduedd ac er lles pennaf yr unigolyn, gan staff sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n fedrus yn y broses asesu

 

e)    cymorth sy’n galluogi’r unigolyn i gael mynediad at y gwasanaethau gofal a chymorth priodol, gan gynnwys gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal

 

f)     gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy hygyrch ar ofal a chymorth trwy amrywiaeth o gyfryngau (gan gynnwys ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, ffôn, wyneb yn wyneb, allgymorth, posteri a chyhoeddiadau)

 

g)    gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy hygyrch ar faterion gofal a chymorth wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau (gan gynnwys fersiynau Cymraeg, hawdd eu darllen, addas i blant ac ati)

 

h)   gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy hygyrch i grwpiau penodol, gan gynnwys gweithwyr cymorth un-i-un os bydd angen, er enghraifft, plant ac oedolion byddar a dall 

 

i)     ymateb ysgrifenedig neu lafar i ymholiadau ar y we o fewn tri diwrnod gwaith;

 

j)      cymorth eiriolaeth, fel y gall unigolion ymgysylltu a chyfrannu’n llawn at benderfyniadau sy’n effeithio arnynt;

 

k)    protocolau diogelu lleol sy’n sicrhau bod camau’n cael eu cymryd yn syth os bydd pryderon ynglŷn â diogelwch unigolyn

 

l)     proses glir i staff ei dilyn yn achos argyfwng neu gais am ofal a chymorth brys

 

m)  mecanweithiau sy’n sicrhau caniatâd i rannu gwybodaeth pan fo data craidd yn cael ei gofnodi a phan fo asesiad yn cael ei gynnal.

 

Diffiniadau

 

 

Gwybodaeth:

Ystyr gwybodaeth yw data o ansawdd sy’n darparu cymorth i berson i’w helpu i wneud dewis gwybodus ynglŷn â’i lesiant. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut mae’r system ofal yn gweithio, y gwasanaethau llesiant ataliol sydd ar gael, gwybodaeth ariannol, gwybodaeth am daliadau uniongyrchol, gwybodaeth am ffioedd a materion eraill a fyddai’n galluogi rhywun i gynllunio sut i ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth, neu anghenion cymorth yn achos gofalwr. 

 

Dylai’r rhai sy’n gweithredu’r gwasanaeth gipio gwybodaeth am natur yr ymholiad a pha fath o wasanaeth y cafodd yr ymholwr ei atgyfeirio iddo, at eu dibenion gwybodaeth reoli eu hunain ac i gyfrannu at asesiadau poblogaeth. Nid oes angen data personol. Fel hyn, gallai’r person sy’n cael mynediad at y gwasanaeth er mwyn cael gwybodaeth aros yn ddienw at ddibenion cofnodi.

 

Cyngor:

Ystyr cyngor yw ffordd o gydweithredu â pherson i archwilio’r opsiynau sydd ar gael. Bydd hi’n ofynnol i staff gynnal asesiad cymesur trwy drafod a dadansoddi pum elfen yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol. Mae’n hanfodol bod yr ymholwr yn deall beth sydd ar gael iddo ac yn cyfrannu at wneud penderfyniadau ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig iddo a’r canlyniadau personol y mae am eu cyflawni.

Wrth ddarparu cyngor, bydd hi’n ofynnol i’r darparwr gwasanaethau ddefnyddio’r Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol i gofnodi’r asesiad. Dylai staff gofnodi cymaint o’r data personol sylfaenol ar gyfer y Set Ddata Graidd ag sy’n briodol i’r asesiad hwnnw, a chofnodi’r cyngor a roddir a chanlyniad yr ymholiad. 

Cynhorthwy:

Os bydd angen, darperir cynhorthwy ar ôl darparu gwybodaeth a chyngor. Bydd cynhorthwy yn golygu person arall yn cymryd camau gyda’r ymholwr i gael mynediad at ofal a chymorth, neu ofalwr i gael mynediad at gymorth.

Mae’r cyfrifoldeb dros y gweithgarwch a gynhelir yn cael ei rannu rhwng y cynorthwyydd a derbynnydd y cynhorthwy. Wrth ddarparu cynhorthwy, bydd angen asesiad hefyd a bydd hi’n ofynnol i’r gwasanaeth gofnodi unrhyw ddata personol ychwanegol ar gyfer y set ddata graidd a manylion y cynhorthwy a gynigir ac a dderbynnir ar yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol. Trwy’r broses o gynnig cynhorthwy, cynhelir asesiad cymesur.

 

 

301.      Bydd y gwasanaeth yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf â’r system gofal a chymorth ac, i lawer o bobl, dyma fydd eu cysylltiad cyntaf â gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i’r rhai sy’n gweithredu’r gwasanaeth wneud hwn yn ymateb cadarnhaol. Rhaid i’r ymateb fod yn addysgiadol, yn wybodus a thawelu meddwl yr unigolyn fod y cyngor a roddir er ei les pennaf.

 

302.      Bydd yna ffyrdd eraill y bydd pobl yn ceisio cael help, ond mae’n rhaid mai’r gwasanaeth yw’r ffordd fwyaf cyhoeddus y mae unigolion, neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt, yn cael gwybodaeth a chyngor ar eu hanghenion gofal a chymorth.

 

Sut beth fydd y gwasanaeth i’r rhai sy’n ei dderbyn?

 

303.      I’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth, rhaid iddynt deimlo eu bod wedi dod o hyd i rywun sy’n gwrando arnynt. Rhaid i bobl gael cyfle i esbonio’r hyn sy’n bwysig iddynt, i archwilio pa opsiynau sydd ar gael ac i ddod o hyd i’r help sy’n briodol iddynt i’w helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

304.      Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar bobl a’u canlyniadau personol, yn enwedig ymyrraeth gynnar ac atal. Bydd yn darparu gwybodaeth a chyngor sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan atgyfeirio i wasanaeth llesiant ac atal priodol yn y gymuned a darparu cymorth, os yn briodol, i alluogi pobl i helpu eu hunain ac eraill yn well. 

 

305.      Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn bwynt cyfeirio defnyddiol i awdurdodau lleol sy’n cynllunio a datblygu eu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Bu Anabledd Cymru yn cydweithredu â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddatblygu’r pecyn cymorth ‘Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol – Galluogi Cymru’ fel sail i gyflwyno modelau cyflawni newydd. Mae’r pecyn cymorth ar gael yn:

 

http://www.disabilitywales.org/transforming-social-services-toolkit/

 

306.      Bydd cyfeirio ac atgyfeirio yn rhoi dewis i unigolion ynglŷn â’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael yn eu hardal a chyfle i drafod yr opsiynau a chael cyngor ar y ffordd sy’n fwyaf tebygol o ddiwallu anghenion gofal a chymorth penodol yr unigolyn, yn ogystal â thrafod pa adnoddau sydd ar gael i’r unigolyn i’w helpu i sicrhau’r cymorth hwn. Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb, beth bynnag fo’i amgylchiadau, gan gynnwys os bydd yn dewis ariannu ei ofal ei hun.

 

307.      Dylai’r gwasanaeth gael ei ystyried fel gwasanaeth ataliol sy’n cynnig ymyrraeth gynnar trwy wybodaeth, cyngor a chynhorthwy o ansawdd. Fodd bynnag, rhaid iddo weithredu hefyd fel cyswllt canolog i wasanaethau ataliol sydd ar gael yn y gymuned a hyrwyddo’r cyfle i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Bydd y rhain yn amrywio o wasanaethau cyffredinol i gymorth mwy penodol. Os yn briodol, rhaid i’r Gwasanaeth helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, gan eu hatgyfeirio neu eu helpu i gysylltu, yn hytrach na chynnig cyswllt sylfaenol yn unig.  

 

308.      Rhaid i’r dull fod yn agored, yn groesawgar ac yn syml – ceisio helpu pawb i ddod o hyd i ffyrdd o ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth, beth bynnag yw lefel yr anghenion hynny.

 

309.      Rhaid i’r dull fod yn rhagweithiol – rhoi grym i staff annog pobl i gael help yn gynharach a’u cefnogi i helpu eu hunain i gadw eu hannibyniaeth mewn ffordd gymesur.

 

310.      Rhaid i’r gwasanaeth sicrhau bod staff yn ymateb mewn ffordd gymesur a phrydlon os bydd unrhyw faterion neu bryderon diogelu neu amddiffyn yn codi. Rhaid i’r gwasanaeth sicrhau bod protocol diogelu ar waith a rhaid i staff gael eu hyfforddi i weithredu’r protocol hwnnw.

 

Sut y bydd asesiad yn gweithredu o fewn y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy?

 

311.      Efallai y bydd unigolyn angen mynediad cyflym at asesiad o’i anghenion gofal a chymorth. Bydd angen i staff y gwasanaeth ddeall sut i nodi pan fo angen asesiad, bod yn ddigon cymwys a medrus i gynnal yr asesiad hwnnw a sicrhau bod modd ei gynnal yn gyflym. 

 

312.      Bydd yr asesiad yn amrywio o unigolyn i unigolyn o ran yr hyn sy’n ofynnol. Rhaid i staff y gwasanaeth gydnabod natur a maint yr ymholiad a cheisio darparu ymateb cymesur. Dim ond y gwaith o ddarparu gwybodaeth nad yw’n gofyn am ryw fath o asesiad. Os rhoddir cyngor a/neu gynhorthwy, bydd asesiad o anghenion person wedi’i gynnal.

 

313.      Rhaid i’r cydbwysedd rhwng unigolyn yn cael atebion i’w holl bryderon y tro cyntaf y bydd yn cysylltu â’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy, ac wedyn yn cael ei atgyfeirio at bobl eraill sydd â gwybodaeth neu arbenigedd mwy priodol, fod yn un pragmatig. 

 

314.      Rhaid i bobl deimlo eu bod wedi cael gwasanaeth teg a phriodol. Yn bwysicaf oll, rhaid iddynt wybod beth yw canlyniad eu cyswllt a pha gamau, os o gwbl, fydd yn cael eu cymryd a chan bwy.

 

315.      Bydd staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn cynnal asesiadau. Bydd staff yn cynnal asesiad pan fyddant wedi archwilio pum elfen yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol gyda’r unigolyn a nodir yn y cod ymarfer ar Ran 3. Rhaid i staff sy’n cynnal asesiadau ddefnyddio’r Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol, waeth pa mor gymesur yw’r dull hwnnw. Mae gofynion yr offeryn wedi’u nodi yn y cod ymarfer ar Ran 3.

 

Hygyrchedd i bawb

 

316.      Rhaid i’r gwasanaeth fod yn hygyrch i bawb mewn sawl ffordd fel y gall pobl ddewis sut y byddant yn defnyddio’r gwasanaeth a pha fformat sy’n addas iddynt. Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau y bydd y gwasanaeth yn cynnig cymorth ac arweiniad i bobl a gweithwyr proffesiynol trwy amrywiaeth o gyfryngau e.e. y we, ffôn, wyneb yn wyneb, allgymorth, rhwydweithiau cymdeithasol, cyhoeddiadau.

 

317.      Mae cydrannau strwythurol y gwasanaeth yn amrywio. Yn ôl gwaith a gyflawnwyd gan Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol[10] yn 2014, mae pedwar prif fodel yn cael eu defnyddio ledled Cymru. Pa bynnag fodel a fabwysiadir, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod y gwasanaeth y byddant yn ei roi ar waith yn cael ei gynllunio a’i ddarparu yn seiliedig ar yr asesiad poblogaeth a’i fod yn hygyrch i bawb, beth bynnag fo’u hoedran, eu hanabledd neu eu hangen.

 

318.      Rhaid i awdurdodau lleol geisio sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn cael eu cynnig mewn modd sy’n hygyrch ac yn diwallu anghenion eu poblogaeth. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i addasiadau rhesymol gael eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau hefyd fod pobl yn cael y cymorth priodol i’w galluogi i gael mynediad at y gwasanaeth.

 

319.      Rhaid i’r gwasanaeth fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg – mae llawer o siaradwyr Cymraeg ond yn gallu cyfathrebu eu hanghenion gofal yn effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae defnyddio’r Gymraeg yn ofyniad, yn hytrach nag ychwanegiad dewisol. Rhaid i’r gwasanaeth ystyried yr angen i fod yn hygyrch i bawb, a rhaid iddo gydymffurfio â’r egwyddorion a amlinellir yn fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol: Mwy na Geiriau..... [11]  

 

320.      Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gwybodaeth a chyngor yn hygyrch mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys fersiynau hawdd eu darllen a deunydd arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc ac eraill sydd angen cymorth ychwanegol.

 

321.      Rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy ledled yr ardal. Rhaid i’r gwasanaeth gael ei hysbysebu yn y fath fodd fel y bydd pobl ar draws yr holl gymunedau amrywiol yn gwybod beth y gall y gwasanaeth ei gynnig ac yn deall sut y gallant gael mynediad ato.

 

322.      Rhaid i bobl ei chael hi’n hawdd cael mynediad at y gwasanaeth, a chael eu trin ag urddas a pharch bob amser gan staff sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i blant a phobl ifanc a fydd angen teimlo’n hyderus bod y gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol, cywir a chyfredol iddynt ac yn hygyrch yn y ffyrdd y maent am eu defnyddio.

 

323.      Ym mhob achos, dylai awdurdodau lleol gynnwys oedolion, plant a phobl ifanc yn y gwaith o gynllunio a gweithredu’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn eu hardal leol. Fel hyn, bydd y gwasanaeth yn eiddo i’r boblogaeth leol ac yn cael ei werthfawrogi ganddi. 

                                                           

324.      Mae’n hanfodol bod pob unigolyn, waeth beth yw ei anghenion hygyrchedd, yn deall beth sydd ar gael iddo ac yn gwneud cyfraniad gweithredol at wneud penderfyniadau ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig iddo a sut i gyflawni eu canlyniadau personol. Gallai addasiadau rhesymol gynnwys darparu gwybodaeth a chyngor mewn fformatau hygyrch a/neu gyda chymorth cyfathrebu i sicrhau nad yw unrhyw un sy’n wynebu heriau yn cael ei allgau.

 

325.      Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i blant ac oedolion byddar a dall mewn fformatau a chyfryngau sy’n hygyrch iddynt a sicrhau bod ganddynt fynediad at weithwyr cymorth un-i-un hyfforddedig, yn ôl yr angen. 

 

 

Eiriolaeth

 

326.      Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Gall unrhyw unigolyn wahodd rhywun o’i ddewis i’w helpu i gyfrannu’n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau, teulu neu rwydwaith cymorth ehangach rhywun.

 

327.      Mae’n hollbwysig sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu’n llawn at brosesau sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd angen cymorth ar rai er mwyn gwneud y cysylltiad cychwynnol. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffordd orau o gefnogi unigolion yn hyn o beth i sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch ac yn cynnig cymorth priodol, gan gynnwys eiriolaeth.

 

328.      Un o swyddogaethau allweddol y gwasanaeth fydd darparu gwybodaeth i unigolion am yr amrywiaeth o wasanaethau eiriolaeth yn eu hardal a’u helpu i gael mynediad atynt.

 

329.      Rhaid i anghenion unigolyn am eiriolaeth gael eu nodi adeg y cyswllt cyntaf. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod staff y gwasanaeth yn ddigon medrus i nodi unigolion sydd angen eiriolwr a bod y gwasanaeth yn cymryd camau i sicrhau bod yr unigolion hynny yn cael eu cefnogi. 

 

330.      Mae’r cod ymarfer penodedig ar eiriolaeth o dan Ran 10 o’r Ddeddf yn amlinellu’r swyddogaethau pan fydd rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, benderfynu sut y gallai eiriolaeth gefnogi’r gwaith o bennu a chyflawni canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â’r amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â’r anghenion am eiriolaeth yn rhan annatod o’r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.

 

Diogelu

 

331.      Os yw’n ymddangos bod anghenion yr unigolyn yn golygu bod yna ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i gyflawni ei swyddogaeth er mwyn amddiffyn a diogelu’r person rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (ac, yn achos plentyn: niwed neu’r risg o niwed), rhaid i’r awdurdod lleol weithredu ar y wybodaeth hon yn syth ac yn ddi-oed. Rhaid i awdurdodau lleol bennu a yw anghenion yr unigolyn yn gofyn am gyflawni unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan Ran 4 (Gofal a Goruchwyliaeth) neu Ran 5 (Amddiffyn Plant) o Ddeddf Plant 1989 neu o dan y Ddeddf hon ac, os felly, dylai’r awdurdod lleol weithredu ar hyn yn syth ac yn ddi-oed. 

 

332.      Felly, rhaid i awdurdodau lleol adlewyrchu’r dyletswyddau hyn a’r dyletswyddau cyfochrog i adrodd amheuon bod oedolyn neu blentyn yn wynebu risg wrth gynllunio a datblygu’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i sicrhau bod staff yn deall ac yn gweithredu’r protocol diogelu.

 

Codi Ffioedd am Gymorth

 

333.      Yn unol â Rhan 5 Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol, gall awdurdodau lleol godi ffi cyfradd safonol am gynhorthwy. Bydd y ffioedd hyn yn mynd tuag at dalu costau darparu’r gwasanaeth. Dylai awdurdodau lleol osgoi sefyllfa lle mae’r ffi cyfradd safonol y maent yn ei gosod yn atal pobl rhag derbyn cymorth, gan gyfyngu ar allu’r awdurdod lleol i gyflawni dibenion y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy o dan adran 17 o’r Ddeddf.

 

334.      Rhaid i awdurdodau lleol beidio â chodi ffioedd am gymorth a ddarperir i blant.

 

Pa gymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato

 

335.      Rhaid i’r gwasanaeth ddarparu mynediad at wybodaeth, cyngor a chynhorthwy perthnasol, priodol ac amserol o safon uchel, a rhaid iddo ddarparu pwynt mynediad rhwydd i bobl leol i’r system gofal a chymorth.

 

336.      Bydd hyn yn ymwneud â ffyrdd y gall pobl ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth, neu anghenion gofal a chymorth pobl eraill y maent yn gofalu amdanynt, nawr ac yn y dyfodol. Rhaid i’r gwasanaeth ddarparu gwybodaeth a chyngor ar sut i godi pryderon ynglŷn â llesiant person arall y mae’n ymddangos bod ganddo anghenion gofal a chymorth.

 

337.      Rhaid i’r gwasanaeth ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau llesiant ataliol sydd ar gael yn y gymuned, a chyngor ar beth fyddai fwyaf priodol i bobl a’u hamgylchiadau personol. Rhaid i’r gwasanaeth sicrhau bod pobl yn cydnabod eu bod wedi derbyn cyngor diduedd er eu lles pennaf. Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth i’r rhai sydd ei angen i’w helpu i gael mynediad at y wybodaeth a’r cyngor. Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau ataliol ar gael ym mhennod 3 o’r cod ymarfer hwn.

 

338.      Mae’r gwasanaeth yn adnodd sydd ar gael i ymarferwyr, waeth a ydynt yn gweithio i’r awdurdod lleol neu i sefydliad/asiantaeth arall. Bydd angen i staff sy’n gweithredu’r gwasanaeth gydnabod anghenion ymarferwyr eraill a sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor ar gael mewn fformat sy’n addas i’w hanghenion wrth iddynt geisio helpu’r rhai sy’n derbyn eu cefnogaeth.

 

339.      Os oes gan unigolyn fodd ariannol uwchlaw’r terfyn ariannol (fel yr amlinellir mewn Rheoliadau a waned o dan adran 69 o’r Ddeddf), neu os yw’n hunan-gyllidwr, dylai’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn gallu cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chynhorthwy o safon uchel sy’n ei alluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’i anghenion gofal a chymorth. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl sy’n gwneud penderfyniadau hollbwysig ynglŷn â’u gallu i fyw’n annibynnol.

 

340.      Dylai’r gwasanaeth wneud cysylltiadau â’i bartneriaid ehangach i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â sut mae’r system yn gweithio ac yn gallu adrodd ar faterion a chodi pryderon e.e. y gwasanaeth tân sy’n dod i gysylltiad ag unigolion a theuluoedd yn ystod eu gwaith ataliol e.e. archwiliadau diogelwch tân.

 

341.      Rhaid i’r gwasanaeth ddarparu gwybodaeth am daliadau uniongyrchol, ffioedd am ofal a chymorth a gwybodaeth a chyngor arall ar faterion a fyddai’n galluogi pobl i fedru cynllunio sut i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain, neu anghenion cymorth gofalwyr. Mae mwy o wybodaeth am daliadau uniongyrchol ar gael yng Nghod Ymarfer Rhan 4 – Diwallu Anghenion, ac mae gwybodaeth am godi ffioedd ar gael yng Nghod Ymarfer Rhan 5 – Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol. 

 

342.      Rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu i’r rhai mewn sefydliadau diogel – er efallai y bydd y ffordd y darperir y gwasanaeth hwn yn amodol ar ofynion penodol y system cyfiawnder troseddol. Mae mwy o wybodaeth am y dyletswyddau tuag at y rhai mewn sefydliadau diogel ar gael yn y cod ymarfer ar ran 11. 

 

Mesur Perfformiad

 

343.      Bydd y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn helpu pobl i gael mynediad at y wybodaeth iawn, pan fyddant ei hangen ac yn y ffordd y dymunant. Bydd pobl yn disgwyl gwybod a deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd ar gael iddynt ac yn gallu defnyddio’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth hwn i’w helpu i reoli a sicrhau eu llesiant.

 

344.      Rhaid i effeithiolrwydd y gwasanaeth hwn gael ei fesur a’i adrodd. Mae manylion fframwaith mesur perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol yn y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys:

 

·         Safonau ansawdd ar gyfer awdurdodau lleol sy’n disgrifio gweithgareddau awdurdodau lleol sy’n cyfrannu at gyflawni canlyniadau personol, mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol; a

·         Mesurau perfformiad a nodir mewn perthynas â chyflawni’r safonau ansawdd.

 

345.      Mae Safon 1 yn cynnwys gofynion mewn perthynas â’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. 

 

 

346.      Mae Safon 1 yn nodi:

 

Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda phobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth i ddiffinio a chyd-gynhyrchu’r canlyniadau personol y mae pobl am eu cyflawni, a byddant yn sicrhau eu bod yn mesur effaith y gofal a’r cymorth a ddarperir ar fywydau pobl, yn ogystal â chyflawni canlyniadau personol.

 

347.      Er mwyn cyflawni Safon 1 mewn perthynas â’r gwasanaeth, rhaid i awdurdodau lleol:

·         weithio gyda phobl fel partneriaid i atal yr angen am ofal a chymorth, a chyda phartneriaid eraill i drefnu gwasanaethau mewn ffordd sy’n atal neu’n gohirio angen pobl am ofal a chymorth

·         gweithio gyda phartneriaid i sicrhau mynediad at wybodaeth, cyngor a chynhorthwy clir a dealladwy i helpu pobl i reoli eu llesiant a gwneud penderfyniadau gwybodus

·         sicrhau bod penderfyniadau a wnaed yn ystyried amgylchiadau personol person, yn trin pobl ag urddas a pharch ac yn hyrwyddo hawliau dynol pobl

·         gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys darparwyr, i hwyluso ac arwain cynllun amlddisgyblaethol ar gyfer gofal a chymorth.

 

348.      Defnyddir mesurau ansoddol (cael adborth gan y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth) i fesur cyflawniad o ran y safonau ansawdd, ac mae’r rhain wedi’u rhestru yn y cod mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, a gyhoeddwyd o dan adran 145 o’r Ddeddf.  

 

349.      Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu’r mesurau ansawdd sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cyngor ledled Cymru. Yn y dyfodol, efallai y bydd y rhain yn cael eu mesur trwy gyfres o Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru neu Fframwaith Safonau  Ansawdd Cenedlaethol i Gymru. Byddai’r safonau hyn yn berthnasol i bob darparwr cyngor, waeth a ydynt yn cael eu rheoli a’u gweithredu gan y gwasanaethau statudol, y trydydd sector neu’r sector annibynnol. Byddai angen i awdurdodau lleol sicrhau bod y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn cydymffurfio â’r cynllun sicrhau ansawdd newydd hwn ar yr adeg briodol.

 

350.      Yn ogystal, argymhellir y dylid cydymffurfio â’r safonau yn y Fframwaith Safonau a Sicrhau Ansawdd Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth i Bobl Ifanc.

 

http://www.promo-cymru.org/resources-2/national-standards-quality-assurance-framework

 

 


 

 

 

Cofnodi Gwybodaeth

 

351.      Rhaid i awdurdodau lleol gofnodi data o’u gwasanaeth at y dibenion canlynol:

 

Monitro Perfformiad

Mae cofnodi gwybodaeth yn bwysig er mwyn cefnogi perfformiad y gwasanaeth a gwella’r gwasanaeth. Gellir dadansoddi’r cofnodion o’r dulliau cyfnewid gwybodaeth (galwadau a blogiau) er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o natur yr ymholiad a phroffiliau cwsmeriaid. Bydd data rheoli hefyd yn helpu i archwilio ac arolygu’r Gwasanaeth ac, at y diben hwn, dylai awdurdodau lleol ystyried cael adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau.

Gwasanaethau Cynllunio

Mae’n bwysig i awdurdodau lleol gofnodi gwybodaeth am natur ymholiadau ac ymatebion, yn ogystal â’r math o wybodaeth a chyngor a gynigir gan eu gwasanaeth i gefnogi’r asesiad o anghenion y boblogaeth a chynllunio gwasanaethau llesiant ataliol (gweler pennod 2 o’r cod hwn). 

Gwella’r Gwasanaeth

Cofnodi data personol pan ddarperir cyngor a chymorth fel na fydd rhaid i unigolyn ailadrodd yr un wybodaeth os bydd yn defnyddio’r un gwasanaeth eto neu’n parhau trwy’r system gofal a chymorth. Bydd hyn yn gwneud y system yn fwy effeithlon hefyd.   

 

Gwybodaeth Bersonol

 

352.      Pan gynigir gwybodaeth, rhaid gwneud cofnod o’r ymholiad, ond nid oes angen i ddata personol gael ei gasglu/gofnodi.

 

353.      Pan gynigir cyngor, rhaid i’r asesydd gofnodi cymaint o ddata personol â phosibl yn y set ddata graidd a chofnodi natur a chanlyniad yr ymholiad. Rhaid i’r gwaith cofnodi gael ei wneud gan ddefnyddio’r Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol, ond mewn ffordd sy’n gymesur â’r ymholiad. Dim ond os ystyrir bod anghenion unigolyn yn gymwys a bod angen cynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth yn achos gofalwr, y bydd rhaid bodloni’r rhwymedigaeth i gwblhau’r set ddata graidd yn ei chyfanrwydd.

 

354.      Bydd defnyddio’r Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol i gofnodi data personol yn galluogi staff i nodi’n gyflym a oes gan yr ymholwr gynllun gofal a chymorth ar waith neu a yw wedi derbyn gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy yn flaenorol. Yn ogystal, bydd yn galluogi unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â’r un person yn y dyfodol i gael eu prosesu’n gyflym, ac yn osgoi ailadrodd gwybodaeth bersonol ym mhob pwynt cyswllt.

 

355.      Rhaid i staff sy’n gweithredu’r gwasanaeth fod yn gymwys i gynnal asesiadau a deall yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol fel y gall ymholiad gael ei brosesu’n gyflym.

 

356.      Mae mwy o fanylion am yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol ar gael yn y codau ymarfer mewn perthynas â Rhan 3 o’r Ddeddf ar anghenion unigolion a Rhan 4 ar ddiwallu anghenion. 

 

357.      Pan fo gwybodaeth bersonol yn cael ei chipio yn y set ddata graidd o fewn yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol, rhaid cael caniatâd yr unigolyn i rannu ei wybodaeth â phartneriaid perthnasol.

 

358.      Rhaid i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phartneriaid y GIG i sicrhau bod unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn yn cael ei rhannu o fewn egwyddorion Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth y GIG ac awdurdod lleol yng Nghymru wedi llofnodi’r protocol hwn ac mae dolen ynghlwm yn: http://www.waspi.org/

 

Trefniadau Llywodraethu

 

Gwaith partneriaeth rhanbarthol

 

359.      Dylai’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy gynnig ymagwedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Rhaid i’r gwasanaeth atgyfeirio unigolion yn effeithlon i sicrhau eu bod yn derbyn yr ymateb cywir i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

360.      Mae Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi sylw i gydweithrediad a phartneriaeth. Diben Rhan 9 yw sicrhau bod awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd, a chyda phartneriaid eraill, i gynllunio a sicrhau darpariaeth gwasanaethau integredig i ddiwallu anghenion pobl yn eu hardal leol. Bydd y rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol.

 

361.      Mae gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol gyfraniad allweddol i’w wneud o ran dod â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i bennu sut y bydd darpariaeth integredig gwasanaethau, gofal a chymorth o fudd i bobl o fewn eu rhanbarth. Bydd angen i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn cael eu cynnig ar draws y rhanbarth mewn ffordd hygyrch sy’n diwallu anghenion eu poblogaeth. Dylai awdurdodau lleol arwain y gwaith o gytuno, gyda phartneriaid rhanbarthol, pa elfennau o’r gwasanaeth y dylid eu datblygu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. 

 

362.      Bydd pob awdurdod lleol yn rhan o fwrdd partneriaeth rhanbarthol a rhaid iddynt dderbyn arweiniad gan y bwrdd ar sut i ddylunio, cynllunio a datblygu’r model ar gyfer y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy a fydd yn sicrhau bod pobl yn ei chael hi’n hawdd cael mynediad at wybodaeth hyd yn oed os ydynt am gael gwybodaeth a/neu gyngor ar ofal a chymorth mewn rhan arall o Gymru. Bydd hyn yn uniongyrchol berthnasol i’r rhai sy’n byw ar y ffin rhwng dau awdurdod lleol ac i unigolion sy’n cysylltu â’r gwasanaeth ar ran rhywun arall sy’n byw mewn ardal wahanol.

 

363.      Dylai awdurdodau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth trwy’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol gynhyrchu strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo eu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Dylai awdurdodau lleol arwain y broses, ond dylent ddatblygu’r strategaeth gyfathrebu ar y cyd â phartneriaid. Dylai’r strategaeth ystyried y gwahanol gynulleidfaoedd targed a sut i’w cyrraedd, gan roi blaenoriaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed.

 

Asesiad o anghenion y boblogaeth

 

364.      Bydd y byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i ymateb i’r asesiad poblogaeth a gynhaliwyd yn adran 14 o’r Ddeddf. 

 

365.      Rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio gwybodaeth a gesglir trwy’r asesiad o anghenion y boblogaeth i gynllunio, datblygu a gwella’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio’n briodol a’i fod yn hygyrch i wahanol grwpiau cleient yn yr ardal, ac yn ystyried pa agweddau ar y gwasanaeth fyddai orau ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.

 

366.      Rhaid i awdurdodau lleol ystyried a defnyddio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 a phennod 2 o’r cod ymarfer hwn ar Asesiadau Poblogaeth.

 

Dyletswydd ar bartneriaid iechyd

 

367.      Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol a/neu Ymddiriedolaethau’r GIG ddarparu i awdurdodau lleol, o fewn y fenter gydweithredol ranbarthol, wybodaeth am y gofal a’r cymorth y maent yn eu darparu yn yr ardal. Dylai’r wybodaeth hon fod yn berthnasol a chywir a dylai gael ei darparu mewn fformat hygyrch y cytunwyd arno gyda’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy.

 

Darparwyr trydydd parti

 

368.      Os bydd elfennau o’r gwasanaeth yn cael eu darparu trwy drydydd parti, bydd y ddyletswydd yn aros gyda’r awdurdod lleol a rhaid i’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth gael ei fonitro’n agos. Ym mhob achos, rhaid i adborth gan bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth gael ei gasglu a chyfrannu at wella’r gwasanaeth.

 

Atebolrwydd

 

369.      Y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Rhaid i’r Cyfarwyddwr gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor ar y ddarpariaeth, y perfformiad a’r risg, ynghyd â chynlluniau ar gyfer gwella’r holl swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Dylai’r adroddiad hwn gynnwys y cynnydd a wnaed gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy a’i effeithiolrwydd o ran galluogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i’r rhai mewn sefydliadau diogel

 

370.      Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r cod ar oedolion a phlant mewn carchardai, llety cadw ieuenctid a llety mechnïaeth o dan Ran 11 o’r Ddeddf. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i oedolion mewn carchardai, llety cadw ieuenctid a llety mechnïaeth os yw’r sefydliadau hyn o fewn eu ffiniau. Rhaid iddynt weithio gyda’r asiantaethau a’r sefydliadau perthnasol i nodi sut y bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu.

 

371.      Ar gyfer oedolion, mae’r cyfrifoldeb yn cael ei ysgwyddo gan yr awdurdod lleol lle lleolir y carchar. Ar gyfer plant a phobl ifanc mewn llety cadw ieuenctid neu Sefydliadau Troseddwyr Ifanc, mae’r cyfrifoldebau hyn yn cael eu hysgwyddo gan yr awdurdod lleol lle’r oedd y troseddwr yn byw cyn iddo gael ei ddedfrydu neu ei roi ar remand.

 

372.      Rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i’r rhai mewn sefydliadau diogel, gan sicrhau eu bod yn hygyrch o ran cynnwys y wybodaeth a darpariaeth y gwasanaeth. Mae angen i’r gwasanaeth a darpariaeth a hygyrchedd gwasanaethau llesiant ac ataliol gael eu hystyried fel modd o gefnogi’r unigolion hynny yn ystod eu hamser mewn sefydliadau diogel ac wrth baratoi i’w rhyddhau a’u hadsefydlu.

 

373.      Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn gysylltiedig â’r gwaith o ddarparu gwybodaeth a chyngor a’r darpariaethau ar gyfer adsefydlu carcharorion o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a bod gwasanaeth cynhwysfawr ac integredig yn cael ei ddatblygu.

 

Modelau darparu

 

374.      Bydd y gwasanaeth yn tyfu dros amser trwy’r wybodaeth a ddarperir trwy’r asesiadau o anghenion y boblogaeth ac adborth gan gwsmeriaid.

 

375.      Rhaid i awdurdodau lleol wneud cysylltiadau â gwasanaethau gwybodaeth a chyngor eraill ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, megis y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd.  

 

376.      Dylid gwneud pob ymdrech i leihau dyblygu a sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor yn cael eu cynnig gan y staff mwyaf priodol a medrus. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn ystyried pa wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy eraill sydd ar gael wrth gynllunio a datblygu eu gwasanaeth. Ni ddylai gwasanaethau gwybodaeth a chyngor eraill gael eu dyblygu a dylent naill ai gael eu hintegreiddio gyda’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy neu fod yn gwbl hygyrch trwy’r gwasanaeth. Rhaid i awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’u partneriaid rhanbarthol, sicrhau bod y gwasanaethau cyngor a’r llinellau cymorth sydd ar gael, megis MEIC a’r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, yn gysylltiedig ac yn cael eu defnyddio’n effeithiol i ddatblygu gwasanaethau dibynadwy i bawb. 

 

377.      Efallai y bydd rhai agweddau ar y gwasanaeth yn fwy priodol i gynllunio a darparu ar lefel genedlaethol. Er enghraifft, byddai un pwynt mynediad ar-lein yn sicrhau mynediad cyson i’r cyhoedd ac yn osgoi dyblygu gwybodaeth genedlaethol. Mae hyn yn fwy hygyrch i’r dinesydd ac yn ddull darparu mwy darbodus ac effeithlon.

 

378.      Rhaid i’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy gael ei ategu gan gyfeiriadur cywir a chyfredol o wasanaethau. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut mae’r cyfeiriadur hwn yn cael ei reoli i sicrhau ei fod yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau lleol sy’n gywir yn y pwynt mynediad. Dylai awdurdodau lleol ystyried sut i fynd ati i gynnal a chadw’r cyfeiriadur gyda’u partneriaid ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. 

 

379.      Er bod rhaid i’r gwasanaeth gynnig gwasanaeth cyson waeth ble mae rhywun yn byw, rhaid i’r dinesydd deimlo ei fod yn gallu cael mynediad at wybodaeth a chyngor lleol yn rhwydd.

 

Hygyrchedd y gwasanaeth

 

380.              Nid yw’r gwasanaeth yn wasanaeth brys, felly nid oes disgwyliad y bydd staff ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Fodd bynnag, efallai na fydd gwasanaeth sy’n cael ei staffio rhwng 9am a 5pm yn ddigon a dylai awdurdodau lleol nodi beth yw anghenion y boblogaeth ac adolygu hynny’n rheolaidd. Dylai gwefan hygyrch olygu y bydd pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor eu hunain y tu allan i oriau arferol, a dylent ddisgwyl derbyn ymateb i’w hymholiadau o fewn tri diwrnod gwaith.

 

381.              Bydd yna adegau pan fydd pobl yn cysylltu â’r gwasanaeth am eu bod angen ymateb brys, naill ai gan yr awdurdod lleol neu sefydliad partner arall. Mae angen i’r gwasanaeth allu ymateb yn gyflym trwy drosglwyddo neu atgyfeirio’r ymholwr i’r gwasanaeth cywir. Mae angen sicrhau bod protocolau ar waith fel y gall hyn ddigwydd ac y gellir adolygu’r broses yn rheolaidd.

 

Cwynion

 

382.      Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol roi trefniadau ar waith i ymateb i gwynion ynglŷn ag unrhyw agwedd ar eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Os bydd unigolyn yn anfodlon â’r gwasanaeth y bydd wedi’i dderbyn trwy’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy, gall wneud cwyn gan ddefnyddio gweithdrefn gwyno gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

 

383.      Rhaid i awdurdodau lleol roi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth am eu proses gwyno ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys trwy’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy.  

 

384.      Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar ddelio â chwynion: Canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau mewn gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, a ddaeth i rym ar 1 Awst 2014. Mae dolen i’r canllawiau hyn ar gael yn:

http://cymru.gov.uk/topics/health/socialcare/complaints/?lang=cy

 

 

Goblygiadau i’r gweithlu

 

385.      Rhaid i awdurdodau lleol sefydlu tîm sy’n adlewyrchu cymysgedd o sgiliau a phrofiad o amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a sectorau. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pobl fyddar a dall yn gallu cael mynediad at weithwyr cymorth un-i-un sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig ar gyfer y bobl hynny yr aseswyd eu bod angen cymorth o’r fath.

 

386.      Rhaid i awdurdodau lleol ddatblygu cynllun hyfforddi’r gweithlu a ddylai gwmpasu staff rheng flaen sy’n gweithio yn y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy a’r gweithlu ehangach. Dylai’r cynlluniau hyfforddi unigol ar gyfer staff y gwasanaeth gael eu hadolygu a’u cynnal yn rheolaidd.  

 

387.      Rhaid bod staff wedi derbyn hyfforddiant ar yr Offeryn Asesu a Chymhwysedd Cenedlaethol a rhaid iddynt allu pennu’r angen i deulu, ffrindiau neu unigolion eraill eirioli ar ran yr unigolyn. 

 

388.      Mae’n bwysig bod yr hyfforddiant hwn yn cael ei gynnig i staff sy’n gweithio mewn sefydliadau partner i sicrhau bod yr ymagwedd gyfannol integredig at y system gofal â chymorth yn cael ei chyfathrebu trwy amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol. Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried hawliau mynediad ar gyfer y gweithlu ehangach sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy.  

 

 

Pontio

 

389.      Rhaid i awdurdodau lleol gynnig gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy o fis Ebrill 2016 ymlaen. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd datblygiad y gwasanaeth llawn a ddisgrifir yn y cod hwn yn ychwanegol at hynny. Disgwylir y bydd y gwasanaeth llawn ar waith erbyn mis Ebrill 2017.

 


 

Pennod 6: Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill

 

390.      Mae adran 18 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu a chynnal a chadw cofrestrau o bobl sy’n byw yn yr ardal fel arfer ac sydd â nam ar eu golwg, nam difrifol ar eu golwg, nam ar eu clyw, nam difrifol ar eu clyw neu sydd â nam ar eu golwg a’u clyw sy’n cael effaith sylweddol ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Ar gyfer y gofrestr o bobl â nam ar eu golwg a’u clyw, nid oes angen i unigolyn gael ei gofrestru ar wahân ar y gofrestr o bobl â nam ar eu golwg neu ar y gofrestr o bobl â nam ar eu clyw.

 

391.      Rhaid i awdurdodau lleol hefyd sefydlu a chynnal cofrestr o blant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n anabl neu sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain at anghenion gofal a chymorth, neu a allai arwain at yr anghenion hynny yn y dyfodol. Gall awdurdodau lleol hefyd gynnal cofrestr o oedolion yn eu hardal y mae’r meini prawf hyn yn berthnasol iddynt.  

 

392.      Wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan adran 18, rhaid i awdurdodau lleol nodi a chysylltu â phobl sydd â nam ar eu golwg a’u clyw, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau lluosog, gan gynnwys nam ar ddau synnwyr. Rhaid i awdurdod lleol hefyd nodi amgylchiadau ieithyddol yr holl bobl hynny yn y gofrestr berthnasol. Byddai hyn yn cynnwys dewisiadau pobl o ran cyfathrebu, er enghraifft Iaith Arwyddion Prydain neu Braille, neu drwy gyfrwng y Gymraeg.  

 

 

 

 

 



[1] Yn R. (Brown) v Secretary of State for Work and Pensions [2008] EWHC 3158, ystyriodd y llys beth y mae’n rhaid i gorff perthnasol ei wneud i fodloni ei rwymedigaeth i roi sylw priodol i’r amcanion a amlinellir yn y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Y ddyletswydd cydraddoldeb yn Brown oedd y Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn a.49A o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Mae achosion diweddar wedi cadarnhau bod yr egwyddorion yn Brown yn berthnasol hefyd i’r ddyletswydd yn a.149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

[2] http://www.ccwales.org.uk/getting-in-on-the-act-hub/

[3] http://www.ccwales.org.uk/getting-in-on-the-act-hub/

[4] http://www.childrensrightswales.org.uk/participation.aspx

[5] http://www.participationworkerswales.org.uk/

[6] http://www.disabilitywales.org/

[7] http://llyw.cymru/topics/health/socialcare/act/resources/?lang=cy  

[8] http://www.ccwales.org.uk/getting-in-on-the-act-hub/

[9] http://llyw.cymru/about/cabinet/cabinetstatements/2012/welshprocurement/?skip=1&lang=cy  

[10] Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynnig gwybodaeth, cynghorion a chymorth am wasanaethau cymdeithasol a lles ledled Cymru, Ebrill 2014 http://www.ssiacymru.org.uk/home.php?page_id=8471

 

[11] Mwy na geiriau - Fframwaith Strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol:http://llyw.cymru/consultations/healthsocialcare/words/?lang=cy