OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1843 (Cy. 271)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i osod ffioedd am ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu anghenion person. Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt, neu y cynigiant eu darparu neu eu trefnu, wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Ymdrinnir â hyn yn Rhan 2 o’r Rheoliadau.
Mae Rhan 3 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol godi ffi am unrhyw wasanaethau a ddarperir ganddynt wrth gyflawni eu dyletswydd o ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15 o’r Ddeddf neu eu dyletswydd o ddarparu cynhorthwy o dan adran 17 o’r Ddeddf.
Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaeth gyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth. Yn yr amgylchiadau hynny, caiff yr awdurdod lleol naill ai wneud taliadau gros gan fynnu bod y person wedyn yn gwneud ad-daliad, neu wneud taliadau net ar y sail gofyniad bod person yn gwneud cyfraniad tuag at gost y gofal a’r cymorth sydd eu hangen i ddiwallu ei anghenion asesedig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1843 (Cy. 271)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015
Gwnaed 27 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
CYNNWYS
RHAN 1
CYFFREDINOL
1. Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
RHAN 2
CODI FFIOEDD O DAN RAN 5 O’R DDEDDF
2. Personau y mae rheoliadau 2 i 15 yn gymwys iddynt
3. Personau na chaniateir codi ffioedd arnynt
4. Gwasanaethau na chaniateir codi ffioedd amdanynt
5. Dyfarniadau ynghylch codi ffioedd
6. Amgylchiadau pan nad oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad
7. Uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl
8. Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu ffi mewn perthynas â pherson y mae’r awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth amhreswyl iddo
9. Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu ffi mewn perthynas â pherson y mae’r awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth iddo drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal
10. Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu ffi pan na chynhelir asesiad ariannol
11. Terfyn cyfalaf
12. Isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo
13. Isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal
14. Datganiad o ddyfarniad
15. Dyfarniad diwygiedig
RHAN 3
CODI FFIOEDD O DAN ADRANNAU 15 AC 17 O’R DDEDDF
16. Codi ffioedd am wasanaethau ataliol a chynhorthwy
RHAN 4
CYFRANIADAU AC AD-DALIADAU AM DALIADAU UNIONGYRCHOL
17. Personau y mae rheoliadau 17 i 30 yn gymwys iddynt
18. Personau na chaniateir ei gwneud yn ofynnol eu bod yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad
19. Gwasanaethau na chaniateir codi ffi amdanynt
20. Dyfarniadau ynghylch cyfraniadau neu ad-daliadau
21. Amgylchiadau pan nad oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad
22. Uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl
23. Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu swm cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliad uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl
24. Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol am lety mewn cartref gofal
25. Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad pan na chynhelir asesiad ariannol
26. Terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol
27. Isafswm incwm ar gyfer person a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl
28. Isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal
29. Datganiad o ddyfarniad – taliadau uniongyrchol
30. Dyfarniad diwygiedig – taliadau uniongyrchol
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 62, 66, 67, 69 a 196(2)([1]) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a
Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
defnyddir “A” (“A”) i gyfeirio at berson y darperir neu y trefnir, neu y caniateir darparu neu drefnu gofal a chymorth ar ei gyfer gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf, ac sy’n atebol i dalu ffi fel y darperir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hyn([3]);
mae i “ad-daliad” (“reimbursement”) mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion gan yr awdurdod lleol drwy wneud taliadau uniongyrchol, yr ystyr a roddir iddo yn y diffiniad o “taliadau gros” yn adran 53(2) o’r Ddeddf;
ystyr “anghenion asesedig” (“assessed needs”) yw anghenion person, a ganfuwyd mewn asesiad o dan adran 19 (dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth), neu 24 (dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorth) o’r Ddeddf;
defnyddir “B” (“B”) i gyfeirio at berson y gwneir taliadau uniongyrchol mewn perthynas â’i anghenion gan awdurdod lleol, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o’r fath mewn perthynas â’i anghenion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf, ac sy’n atebol i wneud cyfraniad neu ad-daliad;
ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—
(a) cymhorthdal incwm, neu
(b) lwfans cyflogaeth a chymorth, neu
(c) credyd gwarant;
mae “cartref gofal” (“care home”) wedi ei ddiffinio yn adran 197(1) o’r Ddeddf([4]);
mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([5]);
mae i “cyfraniad” (“contribution”), mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion drwy daliadau uniongyrchol a wneir gan yr awdurdod lleol, yr ystyr a roddir i’r gair yn y diffiniad o “taliadau net” yn adran 53(2) o’r Ddeddf;
mae i “cymhorthdal incwm” yr ystyr a roddir i “income support” a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([6]);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir yn adran 63(3) o’r Ddeddf;
ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi sefydlog a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y person sy’n atebol i dalu ffi am—
(a) gofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion); neu
(b) gwasanaethau a ddarperir o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf (darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy);
ystyr “gofal a chymorth ailalluogi” (“reablement”) yw gofal a chymorth—
(a) a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer A o dan Ran 2 neu 4 o’r Ddeddf; neu
(b) a sicrheir neu a drefnir gan A, pan fo A neu pan fydd A yn cael taliadau uniongyrchol a wneir yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf; ac
(c) sydd—
(i) yn cynnwys rhaglen o ofal a chymorth,
(ii) am gyfnod penodedig([7]) o amser (“y cyfnod penodedig”), a
(iii) â’r diben o ddarparu cynhorthwy i A er mwyn galluogi A i barhau i allu byw’n annibynnol yn unig gartref neu brif gartref A neu i allu gwneud hynny eto;
ystyr “gofal a chymorth amhreswyl” (“non-residential care and support”) yw unrhyw ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu angen person am ofal a chymorth, ac eithrio darpariaeth o lety mewn cartref gofal;
ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol sy’n diwallu rhan o anghenion asesedig oedolyn, sy’n digwydd i ffwrdd o gartref yr oedolyn gyda’r bwriad o’i gynorthwyo i gyfarfod eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu arfer ei ddiddordebau presennol, gan gynnwys cyfleoedd gwaith;
ystyr “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw, mewn perthynas ag—
(a) cymhorthdal incwm—
y lwfans personol([8]) ac unrhyw bremiymau([9]) y mae hawl gan A i’w cael, ond nid oes raid iddo gynnwys y premiwm anabledd difrifol (“severe disablement premium”) (“SDP”)([10]) pan delir y premiwm hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae A yn ei gael,
(b) lwfans cyflogaeth a chymorth—
y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan A i’w cael ond nid oes raid iddo gynnwys yr SDP pan delir y premiwm hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae A yn ei gael,
(c) credyd gwarant—
y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan A i’w gael, ond nid oes raid iddo gynnwys y swm ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol pan delir hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw swm ychwanegol a gaiff A sy’n gymwys i ofalwyr;
ystyr “incwm asesedig” (“assessed income”) yw’r rhan honno o incwm A, a gyfrifwyd yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, ac y caiff awdurdod lleol ei chymryd i ystyriaeth wrth wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “incwm wythnosol net” (“net weekly income”) yw’r incwm wythnosol sydd neu a fyddai gan A yn weddill, ar ôl didynnu’r ffi safonol (neu unrhyw ffi arall) a osodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn, allan o incwm asesedig A;
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail cyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([11]);
ystyr “preswylydd byrdymor” (“short-term resident”) yw person y darperir, neu y bwriedir darparu, llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf am gyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;
ystyr “Rheoliadau Asesiad Ariannol” (“Financial Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015([12]);
ystyr “Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol” (“Direct Payments Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015([13]);
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i’r term yn adrannau 50(7) a 52(7) o’r Ddeddf;
ystyr “terfyn ariannol” (“financial limit”) yw’r terfyn o ran cyfalaf A a osodir gan y terfyn cyfalaf;
ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw’r uchafswm cyfalaf, a asesir yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, y caniateir i berson y codir ffi arno feddu arno, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw, yn unol â rheoliad 11, dalu’r ffi safonol yn llawn.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, yn achos gofalwr, rhaid darllen cyfeiriadau at ddarparu neu drefnu gofal a chymorth fel pe baent yn gyfeiriadau at ddarparu neu drefnu cymorth.
RHAN 2
CODI FFIOEDD O DAN RAN 5 O’R DDEDDF
Personau y mae rheoliadau 2 i 15 yn gymwys iddynt
2.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn arfer ei ddisgresiwn i wneud yn
ofynnol bod person yn talu ffi, rhaid iddo wneud hynny yn unol
â gofynion y Rheoliadau hyn.
(2) Mae rheoliadau 2 i 15 yn gymwys mewn perthynas â phersonau y caniateir codi ffi arnynt yn rhinwedd adran 60(2), 60(4)(a) a 60(5)(a) o’r Ddeddf.
Personau na chaniateir codi ffioedd arnynt
3. Ni chaiff awdurdod lleol osod ffi am ofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir—
(a) i ddiwallu anghenion plentyn;
(b) ar gyfer person sy’n dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob pan fo diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw wedi ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig([14]);
(c) ar gyfer person y cynigiwyd iddo, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir fel rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([15]) (ôl-ofal).
Gwasanaethau na chaniateir codi ffioedd amdanynt
4. Ni chaiff awdurdod lleol osod ffi am—
(a) gofal a chymorth ar ffurf darparu cludiant i fynychu gwasanaeth dydd, pan ddarperir y cludiant gan awdurdod lleol a phan fo presenoldeb yn y gwasanaeth dydd a’r ddarpariaeth o gludiant i alluogi presenoldeb yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion asesedig y person;
(b) darparu datganiad sy’n nodi dyfarniad yr awdurdod yn unol â rheoliad 14;
(c) gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, pan fo’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;
(d) gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 4 o’r Ddeddf.
Dyfarniadau ynghylch codi ffioedd
5. Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf ac wedi cynnal asesiad ariannol o A yn unol â gofynion y Rheoliadau Asesiad Ariannol, rhaid iddo wneud dyfarniad ynglŷn â pha swm, os oes unrhyw swm, y mae’n rhesymol ymarferol i A ei dalu yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
Amgylchiadau pan nad oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad
6. Nid oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn os yr unig wasanaethau a ddarperir yw naill ai gwasanaethau y codir ffi unffurf amdanynt neu wasanaethau na chodir unrhyw ffi amdanynt.
Uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl
7.—(1)(1) Ac eithrio pan fo’r gofal a chymorth a ddarperir,
neu sydd i’w ddarparu, yn ddarpariaeth o ofal a llety mewn
cartref gofal, ni chaiff awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol
ymarferol i A dalu cyfanswm ffi o fwy na £60 yr wythnos am y
gofal a chymorth.
(2) Ond rhaid i awdurdod lleol, wrth gyfrifo cyfanswm y ffi am y gofal a chymorth y mae’r person yn ei gael at ddiben cymhwyso’r uchafswm ffi wythnosol ym mharagraff (1), eithrio unrhyw ffioedd mewn perthynas â gofal a chymorth y mae’n gosod ffi unffurf amdanynt fel bod unrhyw ffioedd unffurf yn cael eu cadw ar wahân i’r ffioedd am ofal a chymorth y mae’r uchafswm ffi wythnosol yn gymwys iddynt.
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu ffi mewn perthynas â pherson y mae’r awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth amhreswyl iddo
8.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas
â’r ffioedd am ddarpariaeth o ofal a chymorth nad
yw’n ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol ddilyn y weithdrefn a nodir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i awdurdod lleol—
(a) cyfrifo swm y ffi safonol am y gofal a chymorth a ddarperir neu sydd i’w ddarparu i’r person;
(b) diystyru unrhyw ffioedd yn y cyfanswm hwnnw sy’n ffioedd unffurf;
(c) cymhwyso’r uchafswm ffi wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, os byddai’r swm canlyniadol, fel arall, yn fwy na’r uchafswm;
(d) mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person ei dalu yn unol â rheoliadau 11 (terfyn cyfalaf) a 12 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo).
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu ffi mewn perthynas â pherson y mae’r awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth iddo drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal
9.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas
â’r ffioedd am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Wrth gyfrifo’r swm a delir gan A neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol ddilyn y weithdrefn ganlynol—
(a) cyfrifo swm y ffi safonol am y gofal a chymorth y mae A yn eu cael, neu a gynigir i A;
(b) mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i A ei dalu yn unol â rheoliadau 11 (terfyn cyfalaf) a 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal).
(3) Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi mewn perthynas ag A pan fo A yn breswylydd byrdymor, rhaid iddo drin A fel pe bai A yn cael gofal a chymorth amhreswyl a dilyn y weithdrefn yn rheoliad 8 gan wneud dyfarniad yn unol â rheoliadau 11 a 12.
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu ffi pan na chynhelir asesiad ariannol
10. Pan fo rheoliad 7(1)(b) neu (c) o’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gymwys (amgylchiadau pan nad oes dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i A dalu’r ffi safonol, yn ddarostyngedig i’r uchafswm ffi wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl.
Terfyn cyfalaf
11.—(1)(1) Pan fo gan A gyfalaf uwchlaw’r terfyn cyfalaf,
rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i A
dalu’r ffi safonol, yn ddarostyngedig i’r uchafswm ffi
wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth
amhreswyl.
(2) Y terfyn cyfalaf yw £24,000 a hwn hefyd yw’r terfyn ariannol at ddibenion adran 66(5) o’r Ddeddf.
(3) Pan fo’r cyfalaf sydd gan A ar y terfyn cyfalaf neu islaw iddo, rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu nad yw’n rhesymol ymarferol i A dalu’r ffi safonol nac unrhyw swm llai allan o gyfalaf.
Isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo
12.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol
yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu’n cynnig eu
diwallu, rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref
gofal.
(2) Rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i A dalu unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net A islaw’r isafswm incwm a nodir yn y rheoliad hwn.
(3) Pan fo A yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—
(a) yr hawlogaeth wythnosol sylfaenol i’r budd-dal perthnasol y mae A yn ei gael (“yr hawlogaeth sylfaenol”);
(b) swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth honno (“y glustog”);
(c) swm ychwanegol i ddigolledu A am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d) swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan A, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(4) Pan nad yw A yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm wythnosol yw—
(a) swm wythnosol yr hyn a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol fyddai hawlogaeth sylfaenol A i fudd-daliadau, gan ystyried oedran, amgylchiadau a lefel anabledd A (“yr amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol”);
(b) swm o ddim llai na 35% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol (“y glustog”);
(c) swm i ddigolledu A am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d) swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan A, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am wariant cysylltiedig ag anabledd wrth gyfrifo’r isafswm incwm.
Isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal
13. Pan fo awdurdod lleol yn diwallu, neu’n cynnig diwallu, anghenion A am ofal a chymorth drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal, rhaid i’r awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i A dalu unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net A islaw £26.50.
Datganiad o ddyfarniad
14.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad yn unol
â’r Rheoliadau hyn ynglŷn â’r swm y
mae’n rhesymol ymarferol i A ei dalu am ofal a
chymorth—
(a) a gynigir i A am y tro cyntaf; neu
(b) sy’n cael ei ddarparu i A eisoes ond y gosodir ffi amdano am y tro cyntaf,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i A, sy’n nodi’r taliad y mae’n rhaid i A ei wneud.
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu tan y dyddiad yr anfonir y datganiad at A.
(3) Ond unwaith y bydd datganiad wedi ei ddyroddi caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu ffi am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn dyddiad y datganiad([16]).
Dyfarniad diwygiedig
15.—(1)(1) Caiff awdurdod lleol wneud dyfarniad
newydd—
(a) pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yng nghyfalaf neu incwm A;
(b) pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yn y ffi safonol am y gwasanaeth (gan gynnwys newid o ganlyniad i wahaniaeth yn lefel y gofal a chymorth a ddarperir, neu yn y graddau y darperir y gofal a chymorth);
(c) pan fo’r awdurdod lleol wedi newid ei bolisi ynglŷn ag arfer y disgresiwn i godi ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf;
(d) pan fo’n tybio bod camgymeriad wedi ei wneud wrth asesu cyfalaf neu incwm A, neu wrth wneud y dyfarniad; neu
(e) pan fo A yn gofyn am ddyfarniad newydd.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu A i dalu ffi yn unol â’r rheoliad hwn, ni chaiff wneud taliad diwygiedig yn ofynnol tan y dyddiad y darperir datganiad pellach sy’n nodi’r ffi newydd, a bydd y datganiad blaenorol yn parhau i gael effaith tan y dyddiad hwnnw.
RHAN 3
CODI FFIOEDD O DAN ADRANNAU 15 AC 17 O’R DDEDDF
Codi ffioedd am wasanaethau ataliol a chynhorthwy
16.—(1)(1) Caiff awdurdod lleol osod ffioedd am wasanaethau a
ddarperir o dan adran 15 o’r Ddeddf (gwasanaethau ataliol)
neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf
(darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) yn unol â’r
rheoliad hwn.
(2) Os yw awdurdod lleol yn dewis arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (1) mewn perthynas â gwasanaeth neu gynhorthwy penodol, ni chaiff wneud hynny ac eithrio i’r diben o osod ffi unffurf mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw neu’r cynhorthwy hwnnw.
(3) Ni chaiff ffi unffurf a osodir o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r gost a dynnir wrth ddarparu’r gwasanaethau neu’r cynhorthwy y mae’r ffi yn ymwneud â hwy.
(4) Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (1) i osod ffi—
(a) ar blentyn;
(b) mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth o wasanaeth neu gynhorthwy y gosodir ffi mewn perthynas â hi o dan Ran 5 o’r Ddeddf.
RHAN 4
CYFRANIADAU AC AD-DALIADAU AM DALIADAU UNIONGYRCHOL
Personau y mae rheoliadau 17 i 30 yn gymwys iddynt
17.—(1)(1) Mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i’w gwneud yn
ofynnol bod person y mae’r awdurdod yn gwneud taliadau
uniongyrchol iddo yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad tuag at y gost
o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gofal a chymorth y gwneir
y taliadau uniongyrchol mewn perthynas â hi.
(2) Wrth arfer y disgresiwn i wneud cyfraniad neu ad-dalid yn ofynnol, rhaid i awdurdod lleol weithredu yn unol â rheoliadau 17 i 30.
(3) Mae rheoliadau 17 i 30 yn gymwys mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion am ofal a chymorth gan awdurdod lleol yn unol â dyletswydd neu bŵer i wneud taliadau uniongyrchol, a roddir gan y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhinwedd adrannau 50 a 52 o’r Ddeddf.
Personau na chaniateir ei gwneud yn ofynnol eu bod yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad
18.—(1)(1) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod B yn
gwneud cyfraniad nac ychwaith osod amod ar gyfer ad-daliad mewn
perthynas â B pan fo B—
(a) yn dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob, a diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw wedi ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig([17]); neu
(b) wedi cael cynnig neu’n cael gwasanaeth a ddarperir fel rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal).
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol gwneud cyfraniad nac ychwaith osod amod ar gyfer ad-daliad mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion am ofal a chymorth gan awdurdod lleol yn unol â dyletswydd neu bŵer a roddir gan y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhinwedd adran 51 o’r Ddeddf.
Gwasanaethau na chaniateir codi ffi amdanynt
19. Ni chaiff awdurdod lleol wneud cyfraniad neu ad-daliad yn ofynnol mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol ar gyfer—
(a) gofal a chymorth ar ffurf darparu cludiant i fynychu gwasanaeth dydd, pan ddarperir y cludiant gan awdurdod lleol a phan fo presenoldeb yn y gwasanaeth dydd a’r ddarpariaeth o gludiant i alluogi presenoldeb yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion asesedig y person;
(b) darparu datganiad sy’n nodi dyfarniad yr awdurdod yn unol â rheoliad 29;
(c) gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, os yw’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;
(d) gwasanaethau eiriolaeth sy’n ofynnol wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf.
Dyfarniadau ynghylch cyfraniadau neu ad-daliadau
20. Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n ei gwneud yn ofynnol gwneud cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol a wneir, neu y cynigir eu gwneud ganddo, ac wedi cynnal asesiad ariannol o B yn unol â gofynion y Rheoliadau Asesiad Ariannol, rhaid iddo wneud dyfarniad ynghylch pa swm, os oes un, y mae’n rhesymol ymarferol i B ei gyfrannu tuag at gost sicrhau’r gofal a chymorth y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy, pa un ai ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
Amgylchiadau pan nad oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad
21. Nid oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn os yr unig ofal a chymorth y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy yw naill ai gofal a chymorth y codir ffi unffurf amdanynt neu na chodir unrhyw ffi amdanynt.
Uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl
22.—(1)(1) Ac eithrio pan fo’r gofal a chymorth y gwneir
taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy yn ddarpariaeth o
ofal a llety mewn cartref gofal, ac yn ddarostyngedig i baragraff
(2) o’r rheoliad hwn, ni chaiff awdurdod lleol ddyfarnu ei
bod yn rhesymol ymarferol i B wneud cyfraniad neu ad-daliad o fwy
na £60 yr wythnos tuag at gost y gofal a chymorth.
(2) Wrth gyfrifo’r uchafswm rhesymol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei dalu, o ran awdurdod lleol—
(a) rhaid iddo ddiystyru’r gost o sicrhau unrhyw ofal a chymorth y mae’n gosod ffi unffurf amdanynt, a
(b) caiff osod y ffioedd mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth yn ychwanegol at yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol.
(3) Pan fo B yn cael taliad uniongyrchol i’w alluogi i brynu cyfarpar, a fyddai fel arall yn cael ei ddarparu gan awdurdod lleol, o ran yr awdurdod lleol—
(a) rhaid iddo ddiystyru’r gost o’r cyfarpar wrth gyfrifo’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei dalu, a
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod B yn talu swm yn ychwanegol at yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol tuag at y gost o sicrhau’r cyfarpar.
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu swm cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliad uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl
23.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas
â dyfarnu lefel y cyfraniad neu’r ad-daliad y
mae’n ofynnol i B ei wneud, neu y caniateir ei gwneud yn
ofynnol bod B yn ei wneud, mewn cysylltiad â thaliadau
uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn a nodir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i awdurdod lleol—
(a) cyfrifo cost resymol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer B;
(b) diystyru o’r cyfanswm hwnnw—
(i) swm cyfwerth â’r ffi unffurf mewn cysylltiad â’r gwasanaethau hynny y codir ffi unffurf amdanynt yn unol â rheoliad 22(2); a
(ii) unrhyw swm a dalwyd am bryniant cyfarpar a fyddai, fel arall, yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol;
(c) cymhwyso’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, os byddai’r canlyniad, fel arall, yn fwy na’r uchafswm;
(d) mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad yn unol â rheoliadau 26 (terfyn cyfalaf) a 27 (isafswm incwm ar gyfer person a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl).
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol am lety mewn cartref gofal
24.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas
â dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas
â thaliadau uniongyrchol am lety mewn cartref
gofal.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, rhaid i’r awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn ganlynol—
(a) cyfrifo cyfanswm y gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth i ddiwallu anghenion B;
(b) mewn perthynas â’r swm yn is-baragraff (a), dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i B ei dalu fel cyfraniad neu ad-daliad yn unol â rheoliad 26 (terfyn cyfalaf) a rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal).
(3) Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi mewn perthynas â B pan fo B yn breswylydd byrdymor, rhaid iddo drin B fel pe bai B yn cael gofal a chymorth amhreswyl a dilyn y weithdrefn yn rheoliad 23 a gwneud dyfarniad yn unol â rheoliadau 26 a 27.
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad pan na chynhelir asesiad ariannol
25.—(1)(1) Pan fo rheoliad 7(1)(b) neu (c) o’r Rheoliadau
Asesiad Ariannol yn gymwys (amgylchiadau pan nad oes dyletswydd i
gynnal asesiad ariannol) rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn
rhesymol ymarferol i B gyfrannu, ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad,
swm sy’n hafal i’r gost resymol o sicrhau’r gofal
a chymorth y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â
hwy.
(2) Pan wneir, neu pan fwriedir gwneud, y taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion B am ofal a chymorth amhreswyl, mae’r gofyniad ym mharagraff (1) yn ddarostyngedig i’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl a osodir gan reoliad 22.
Terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol
26.—(1)(1) Pan fo gan B gyfalaf uwchlaw’r terfyn cyfalaf yn
rheoliad 11(2), rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol
ymarferol i B wneud cyfraniad neu ad-daliad o swm sy’n hafal
i’r gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth y gwneir
y taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy, yn
ddarostyngedig i’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol
mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl.
(2) Pan fo’r cyfalaf sydd gan B ar y terfyn cyfalaf neu islaw iddo, rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu nad yw’n rhesymol ymarferol i B wneud unrhyw gyfraniad neu ad-daliad allan o gyfalaf.
Isafswm incwm ar gyfer person a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl
27.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod yn
gwneud, neu’n cynnig gwneud, taliadau uniongyrchol i B i
ddiwallu anghenion B am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i B gyfrannu fel cyfraniad neu ad-daliad unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net B islaw’r isafswm incwm a nodir yn y rheoliad hwn.
(3) Pan fo B yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—
(a) yr hawlogaeth wythnosol sylfaenol i’r budd-dal perthnasol y mae B yn ei gael (“yr hawlogaeth sylfaenol”);
(b) swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth honno (“y glustog”);
(c) swm ychwanegol i ddigolledu B am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d) swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan B, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(4) Pan nad yw B yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—
(a) swm wythnosol yr hyn a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol fyddai hawlogaeth sylfaenol B i fudd-daliadau, gan ystyried oedran, amgylchiadau a lefel anabledd B (“yr amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol”);
(b) swm o ddim llai na 35% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol (“y glustog”);
(c) swm i ddigolledu B am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d) swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan B, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am wariant cysylltiedig ag anabledd wrth gyfrifo’r isafswm incwm.
Isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal
28. Pan fo awdurdod lleol yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, taliadau uniongyrchol i B i ddiwallu anghenion B am ofal a chymorth drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal, rhaid i’r awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i B gyfrannu, fel cyfraniad neu ad-daliad, unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net B islaw £26.50.
Datganiad o ddyfarniad – taliadau uniongyrchol
29.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad yn unol
â’r Rheoliadau hyn ynglŷn â’r swm y
mae’n rhesymol ymarferol i B ei gyfrannu fel cyfraniad neu
ad-daliad tuag at gost y gofal a chymorth y mae taliadau
uniongyrchol naill ai—
(a) yn cael eu cynnig i B am y tro cyntaf; neu
(b) eisoes yn cael eu talu i B, ond gwneir yn ofynnol am y tro cyntaf fod B yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i B, sy’n nodi’r taliad y mae’n rhaid i B ei wneud.
(2) Ni chaiff yr awdurdod lleol wneud cyfraniad neu ad-daliad yn ofynnol gan B tan y dyddiad yr anfonir y datganiad at B.
(3) Ond unwaith y bydd datganiad wedi ei ddyroddi caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod B yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wnaed cyn dyddiad y datganiad.
Dyfarniad diwygiedig – taliadau uniongyrchol
30.—(1)(1) Caiff awdurdod lleol wneud dyfarniad
newydd—
(a) pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yng nghyfalaf neu incwm B;
(b) pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yn y gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth (gan gynnwys newid o ganlyniad i wahaniaeth yn lefel y gofal a chymorth a ddarperir, neu yn y graddau y darperir y gofal a chymorth);
(c) pan fo’r awdurdod lleol wedi newid ei bolisi ynglŷn ag arfer y disgresiwn i godi ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf;
(d) pan fo’n tybio bod camgymeriad wedi ei wneud wrth asesu cyfalaf neu incwm B, neu wrth wneud y dyfarniad; neu
(e) pan fo B yn gofyn am ddyfarniad newydd.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu B i dalu cyfraniad neu ad-daliad yn unol â’r rheoliad hwn, ni chaiff wneud taliad diwygiedig yn ofynnol tan y dyddiad y darperir datganiad pellach sy’n nodi’r swm diwygiedig, a bydd y datganiad blaenorol yn parhau i gael effaith tan y dyddiad hwnnw.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Hydref 2015
([1]) Mewn perthynas â phob un o’r adrannau sy’n darparu pŵer i wneud rheoliadau, sylwer bod adran 197 yn diffinio “rheoliadau” fel rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
([3]) Mae adran 66(2) o’r Ddeddf yn cyfeirio at berson yr aseswyd ei adnoddau ariannol o dan adran 63 fel “y person a aseswyd”.
([4]) Mae adran 197(1) yn rhoi i “cartref gofal” yr un ystyr â “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14). Mae’r term wedi ei ddiffinio yn adran 3 o’r Ddeddf honno.
([7]) Bydd awdurdod lleol yn “pennu” hyd y cyfnod gofal a chymorth ailalluogi y mae ei angen ar A yn seiliedig ar anghenion asesedig A.
([8]) Y lwfans personol yw’r “personal allowance” fel y’i nodir ym mharagraffau 1, 1A a 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm 1987 (O.S. 1987/1967).
([9]) Y premiymau yw’r “premiums” a nodir yn Rhannau II a III o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
([10]) Gwneir darpariaeth ar gyfer y premiwm anabledd difrifol gan baragraff 13 o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.