R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cysylltiadau diwydiannol yng Nghymru? OAQ(4)2552(FM)
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio canol dinasoedd? OAQ(4)2556(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2546(FM)
4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cysylltiadau economaidd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr? OAQ(4)2549(FM)
5. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen am gysylltiadau diwydiannol cadarnhaol yng Nghymru? OAQ(4)2547(FM)
6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am allyriadau yng ngorsaf bŵer Aberthaw? OAQ(4)2545(FM)
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reilffyrdd gogledd Cymru? OAQ(4)2557(FM)W
8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gymuned ffermio? OAQ(4)2551(FM)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau sydd wedi cael eu cymryd mewn perthynas â sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd o dan fesurau arbennig Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2558(FM)W
10. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector dur yng Nghymru? OAQ(4)2550(FM)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â rhoi'r cyflog byw ar waith yng Nghymru? OAQ(4)2553(FM)
12. Elin Jones (Ceredigion):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)2548(FM)W
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa broses y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn wrth ad-drefnu darpariaeth ysgol? OAQ(4)2555(FM)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith? OAQ(4)2554(FM)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pŵer môr-lynnoedd llanw? OAQ(4)2543(FM)