R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wirfoddoli mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(4)2538(FM)
2. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau lleol ar y stryd fawr yn Islwyn? OAQ(4)2527(FM)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau GIG yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)2539(FM)
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yng Nghymru? OAQ(4)2533(FM)
5. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran argaeledd band eang cyflym iawn yng Ngheredigion? OAQ(4)2541(FM)W
6. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau economaidd ar gyfer de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2542(FM)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhagolygon economaidd ar gyfer Canol De Cymru? OAQ(4)2525(FM)
8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae economi dinas-ranbarth Abertawe yn cael ei wella? OAQ(4)2526(FM)
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa ohebiaeth ddiweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gyda Llywodraeth y DU am y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ(4)2535(FM) TYNNWYD YNÔL
10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gomisiynu addysg cyn cofrestru i nyrsys yng Nghymru? OAQ(4)2530(FM)
11. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y manteision posibl o metro de Cymru i etholaeth Caerffili? OAQ(4)2528(FM)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)2532(FM)
13. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddinas-ranbarthau? OAQ(4)2536(FM)W
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau'r GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2529(FM)
15. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth iaith Gymraeg Busnes Cymru? OAQ(4)2540(FM)W