2015 Rhif 1793 (Cy. 253)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg addas yn yr ysgol neu ac eithrio yn yr ysgol ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol nad ydynt, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, yn gallu derbyn am unrhyw gyfnod addysg addas oni wneir trefniadau o’r fath ar eu cyfer. Adnabyddir unrhyw ysgol a sefydlwyd ac a gynhelir gan awdurdod lleol sydd wedi ei threfnu’n arbennig i ddarparu addysg ar gyfer plant o’r fath yn uned cyfeirio disgyblion.

Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau sy’n cymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion.

Mae Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) yn cymhwyso amrywiol ddeddfiadau addysg i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 er mwyn mewnosod paragraff 16 newydd yn Rhan 2 o Atodlen 1. Effaith y paragraff 16 newydd yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 yw cymhwyso Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 i Unedau Cyfeirio Disgyblion fel y maent yn gymwys i ysgolion a gynhelir.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen llunio asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2015 Rhif 1793 (Cy. 253)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed                                 12 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       15 Hydref 2015

Yn dod i rym                      6  Tachwedd 2015

Drwy arfer eu pwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 6 Tachwedd 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru.

Diwygio

2. Yn lle paragraff 16 a’i bennawd yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007([2]) rhodder—

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

16. Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014([3]) yn gymwys o ran unedau fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir.”

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

12 Hydref 2015

 



([1])           1996 p. 56. Rhoddwyd y pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol: gweler y diffiniad o “regulations” yn adran 579 o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), mae’r pwerau yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru ac yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.

([2])           O.S. 2007/1069 (Cy. 109) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/2677 (Cy. 265).

([3])           O.S. 2014/2677 (Cy. 265).