R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ecsbloetio nwy anghonfensiynol yng Nghymru? OAQ(4)2519(FM)W
2. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredoedd Llywodraeth Cymru i adfywio canol tref Llanelli? OAQ(4)2524(FM)W
3. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar rôl cydlynydd gwrthgaethwasiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2512(FM)
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch ymestyn y fasnachfraint etholiadol i bobl 16 ac 17 oed cyn etholiad y Cynulliad flwyddyn nesaf? OAQ(4)02518(FM)
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gymorth a chyngor y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i bobl sydd mewn dyled? OAQ(4)2510(FM)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau'r galon ar gyfer pobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)02516(FM)
7. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio doctoriaid a nyrsys yng Nghymru? OAQ(4)2509(FM)
8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at gyffuriau canser yn Nhorfaen? OAQ(4)2069(FM)
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(4)2508(FM)
10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ambiwlansys yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2521(FM)W
11. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd mamolaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2522(FM)W
12. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gyfnod y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyrraedd yn y gwaith o ddatblygu metro de Cymru? OAQ(4)2515(FM)
13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Bil Cymru o ran gallu'r Cynulliad i ddeddfu ym maes ynni? OAQ(4)02517(FM)W
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymiad i ymchwiliad cyhoeddus i'r ddamwain lofaol yng nglofa’r Gleision? OAQ(4)2520(FM)
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoli perygl llifogydd yng Nghymru? OAQ(4)2511(FM)