Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2015 i'w hateb ar 21 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa bolisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i dyfu economi Cymru cyn etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ(4)0621(EST)

2. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella amseroedd teithio cymudwyr yng Nghymru? OAQ(4)0629(EST)

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth y mae'r Gweinidog yn eu hystyried i fod y prif rwystrau rhag datblygu busnesau ledled Cymru? OAQ(4)0625(EST)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0622(EST)

5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0635(EST)W

6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo beicio? OAQ(4)0630(EST)

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a Network Rail? OAQ(4)0636(EST)

8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth i ysgolion? OAQ(4)0632(EST)

9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafnidiaeth i ysgolion? OAQ(4)0634(EST)W

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(4)0620(EST)

11. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru? OAQ(4)0628(EST)

12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am deithio ar drenau yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(4)0619(EST)

13. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella economi Cymru? OAQ(4)0626(EST)

14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiadau ynni’r môr oddi ar Ynys Môn? OAQ(4)0631(EST)W

15. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus ar weithredwyr gwasanaethau bysiau? OAQ(4)0627(EST)

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ynghylch a yw'r Bil Undebau Llafur o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad? OAQ(4)0083(CG)W

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y bydd Bil Cymru yn effeithio ar  hygyrchedd deddfwriaeth ddatganoledig yng Nghymru? OAQ(4)0084(CG)W

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y digwyddiadau a gynhaliwyd fel rhan o wythnos Senedd@Abertawe? OAQ(4)0089(AC)