OPCfW%20Logo

 

Ymateb gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i

Ymateb Llywodraeth Cymru i

Adroddiad Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad ar Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl Dros 50

 

Medi 2015

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymateb hwn cysylltwch â:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,

Adeiladau Cambrian,

Sgwâr Mount Stuart,

Caerdydd, CF10 5FL

08442 640670

 

 

 

 


 

Gair am y Comisiynydd

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn eiriolwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru, gan sefyll i fyny a siarad ar eu rhan. Mae’n gweithio i sicrhau bod y rheini sy’n fregus ac mewn perygl yn cael eu diogelu ac yn sicrhau bod gan bobl hŷn lais sy’n cael ei glywed, eu bod yn cael dewis a bod ganddynt reolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig nac yn dioddef gwahaniaethu a’u bod yn derbyn y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Yr hyn mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd fwyaf pwysig iddyn nhw sy’n llywio gwaith y Comisiynydd ac mae eu llais wrth galon popeth y mae’n ei wneud. Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru’n lle da i heneiddio ynddo - nid i rai pobl yn unig ond i bawb.

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn:

·        Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Yn annog yr arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru.

·        Yn adolygu’r deddfau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Adroddiad y Cynulliad ar Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl Dros 50

 

1.   Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl Dros 50[1]. Mae’r ymateb hwn yn adeiladu ar fy nhystiolaeth ysgrifenedig[2], fy nhystiolaeth lafar ym mis Ionawr 2015, a’m llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor ym mis Awst 2015[3]. Rwy’n falch o gyfrannu i Ymchwiliad y Pwyllgor unwaith eto a thynnu sylw at y mater hollbwysig hwn.

 

2.   Er bod llawer i’w groesawu yn yr ymateb, mae yna feysydd lle mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i wella cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl dros 50.

 

Argymhellion 1, 3 a 7

 

3.   Mae’r argymhellion hyn yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn gwneud ymchwil er mwyn deall y sefyllfa bresennol yn well a nodi’r rhwystrau allweddol sy’n atal pobl hŷn rhag cael gwaith. Mae gwir angen hyn oherwydd y mae prinder tystiolaeth ac, fel y pwysleisiwyd yn yr adroddiad, mae angen am ddadansoddi diweddar a manwl gywir ar frys er mwyn gwneud penderfyniadau polisi ar sail tystiolaeth. Croesewir felly’r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor.

 

4.   Fel y pwysleisiais yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor, er bod llawer o’m gwaith yn digwydd ar y cyd rwy’n disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar y gwaith ymchwil hwn ac yn llwyr gefnogi gwaith elfen ‘Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth’ Heneiddio’n Dda yng Nghymru, gan gynnwys annog partneriaid eraill e.e. Gyrfa Cymru i gymryd rhan.

 

5.   Gyda chymorth digonol gan Lywodraeth Cymru, gallai’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, sydd hefyd yn bartner yn Heneiddio’n Dda, wneud yr ymchwil hwn. At hynny, gan ddefnyddio arbenigedd y Grŵp Cynghori Arbenigol Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth, mae llwyfan sefydledig sy’n dwyn ynghyd y partneriaid hynny sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i wella rhagolygon cyflogaeth ar gyfer pobl dros 50, yn hanfodol er mwyn darparu cyngor a lledaenu gwybodaeth ymysg rhwydweithiau partner. Drwy Heneiddio’n Dda yng Nghymru, rwy’n barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynigion ymchwil hyn.

 

Argymhellion 4 a 6

 

6.   O ran yr argymhelliad ynglŷn â chynllun dan arweiniad Llywodraeth Cymru i wneud mwy i herio gwahaniaethu ar sail oedran, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor. Mae rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn rhwystrau allweddol rhag cyflogaeth i lawer o bobl hŷn, ac mae angen gwneud llawer mwy i fynd i’r afael â hyn.

 

7.   Mae’r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at weithgarwch presennol gennyf fi drwy’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru a’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol, ac at y ffaith nad oes unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol. Rhaid i mi bwysleisio nad yw Heneiddio’n Dda na’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol yn derbyn arian penodol gan y Llywodraeth ac, felly, fod cymorth pellach yn ofynnol i symud ymlaen gyda’r gwaith a wnaed gan y Rhaglen a’r Fforwm.

 

8.   Mae sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn arwain ar waith i herio gwahaniaethu ar sail oedran yn anfon neges gadarnhaol gref bod Cymru yn wlad sy’n cydnabod manteision cyflogi pobl hŷn ac yn hyrwyddo diwylliant o gyflogwyr cyfeillgar i oedran. Dylai ymdrechion Llywodraeth Cymru ategu fy ymgyrch codi ymwybyddiaeth a gaiff ei lansio ym mis Hydref 2015, Dweud Na wrth Ragfarn ar Sail Oedran.

 

9.   At hynny, gallai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ategu ymgyrch Llywodraeth y DU Positif am Oed[4] a chysylltu â chyflogwyr yng Nghymru, yn enwedig BBaChau, gael effaith aruthrol. Rwy’n croesawu derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor a datblygiad Cynllun Cyfathrebu i ymgysylltu â chyflogwyr a buddsoddi mewn sgiliau. Mae gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn hanfodol er mwyn cydlynu ymdrechion i hyrwyddo gweithleoedd cyfeillgar i oedran ac annog cyflogwyr i fynd i’r afael â rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran, a drwy Heneiddio’n Dda yng Nghymru a’m hymgyrch codi ymwybyddiaeth i, Dweud Na wrth Ragfarn ar Sail Oedran, byddaf yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Cyfathrebu a’r ymgysylltu â chyflogwyr.

 

Argymhelliad 5

 

10.               Mae’r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn gwrthod yr argymhelliad hwn, sef dylunio cynllun tebyg i Twf Swyddi Cymru ar gyfer rhai dros 50 oed sy’n ceisio ail-ymuno â’r farchnad lafur, yn peri gofid. Roedd fy nhystiolaeth ysgrifenedig, a’r adroddiad ei hun, yn ei gwneud yn glir bod pobl hŷn mewn cyd-destun cyflogaeth yn grŵp angof, i raddau helaeth, ac yn aml iawn yn ôl-ystyriaeth mewn cynlluniau a rhaglenni cyflogaeth.

 

11.               Mae yna bedair gwaith yn fwy o bobl dros 50 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) na sydd yna o rai dan 25 oed, ac eto ychydig o gefnogaeth a sylw i ail-ymuno â’r farchnad lafur maent yn ei chael. O ran y cyfeiriad at y duedd hirdymor mewn cyfraddau cyflogaeth ac anweithgarwch ar gyfer y garfan oedran benodol hon, er bod anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl 50-64 oed wedi gostwng unwaith eto ar lefel y DU yn 2014/15 i 28.5%, yng Nghymru mae’r ffigur wedi codi i 33.2%[5]. Mae hyn wedi arwain at 10,000 arall o bobl hŷn ddi-waith yng Nghymru a gellid priodoli’r cynnydd hwn i’r lefelau anghyfartal o gymorth sgiliau gwaith sydd ar gael.

 

12.               Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a dim digon o bobl ifanc yn gadael addysg (7 miliwn) i lenwi’r amcangyfrif o 13.5 miliwn o swyddi gwag ar lefel y DU yn y degawd nesaf[6], rhaid gwneud mwy i ymgysylltu â’r ‘miliwn coll’ h.y. rhai dros 50 a wnaed ‘yn ddi-waith yn anfwriadol’[7], gan helpu unigolion ac economïau unigol a lleol ar yr un pryd.

 

13.               Nid wyf yn cytuno nad oes achos busnes cyflawn wedi cael ei gyflwyno ar gyfer cynllun tebyg i Twf Swyddi Cymru. Ychydig iawn o gynlluniau sydd yna i helpu pobl hŷn i ddychwelyd i gyflogaeth neu i sicrhau bod ganddynt y sgiliau iawn i aros yn y farchnad lafur. Er fy mod yn croesawu’r gydnabyddiaeth bod pobl hŷn yn wynebu rhwystrau rhag cyflogaeth gwahanol iawn i rai mewn grwpiau oedran eraill, rwy’n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i drafod a datblygu rhaglen briodol a theg ar gyfer y nifer fawr o bobl ddi-waith dros 50 oed a geir yng Nghymru. Drwy gyfrwng Heneiddio’n Dda yng Nghymru byddwn yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu model cost-effeithiol ond priodol sy’n rhoi sylw i’r rhwystrau penodol hyn, ac adeiladu ar y cynigion a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2015[8].

 

14.               At hynny, gallai rhaglen sy’n darparu profiad gwaith i bobl dros 50 oed fod yn hynod fuddiol a gweithredu fel ‘porth’ i gyflogaeth amser llawn neu ran-amser. Gallai profiad gwaith ddarparu’r ysgogiad i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder ac addasu i amgylcheddau gwaith newydd. Mae Twf Swyddi Cymru wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i gefnogi pobl ifanc a gallai cynllun tebyg ar gyfer pobl hŷn wella eu rhagolygon cyflogaeth.

 

15.               Yn absenoldeb cynllun tebyg i Twf Swyddi Cymru, mae’r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth Cymru, sef rhaglen gyflogadwyedd newydd i oedolion o fis Ebrill 2016 ymlaen. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar Sgiliau Hanfodol craidd, ac rwy’n croesawu hyn yn fawr iawn. Rwyf wedi cefnogi’r syniad am Becyn Sgiliau Hanfodol ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys sgiliau ariannol a digidol, i wella eu rhagolygon cyflogaeth a chynyddu eu gwydnwch yn ddiweddarach mewn bywyd. Rwy’n disgwyl y bydd y rhaglen newydd yn rhoi sylw i anghenion sgiliau penodol pobl dros 50.

 

Argymhelliad 8

 

16.               Mae penderfyniad y Dirprwy Weinidog i wrthod yr argymhelliad i gyhoeddi strategaeth sgiliau yn benodol ar gyfer pobl dros 50 yn peri gofid. Y rhesymeg yw bod y cynnig hwn, a gynhwysir yn Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23, wedi cael ei disodli gan Ddatganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar Sgiliau a’i Chynllun Gweithredu Sgiliau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyfeiriadau yn y dogfennau hyn at y setiau sgiliau penodol y mae gofyn i bobl dros 50 eu cael, nac ystyriaeth ddigonol i’r rhwystrau allweddol rhag aros yn y farchnad lafur neu ail-ymuno â hi sy’n wynebu pobl dros 50 oed, ee cyfrifoldebau gofalu, cymwysterau sydd angen eu diweddaru, gwella hyder a’r angen am batrymau gwaith hyblyg.

 

17.               Mae’r Dirprwy Weinidog hefyd yn cyfeirio at Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Yn fy ymateb i’r ymgynghoriad ar y Fframwaith soniais am bwysigrwydd annog cyflogwyr i fuddsoddi mewn sgiliau ar gyfer pobl o bob oed o’r cychwyn cyntaf[9]. Rhaid i gyflogwyr yng Nghymru gydnabod manteision cyflogi gweithlu amrywiol, aml-genhedlaeth a buddsoddi mewn sgiliau i gadw neu ailgysylltu â gweithwyr hŷn. Ni roddir digon o sylw ar hyn o bryd i anghenion sgiliau pobl dros 50 oed a gallai Strategaeth Sgiliau Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn, wedi’i hategu gan gynllun tebyg i Twf Swyddi Cymru, wneud gwahaniaeth go iawn drwy roi i rai dros 50 y sgiliau iawn i ddychwelyd i gyflogaeth.

 

Argymhelliad 9

 

18.               Mae gwrthod yr argymhelliad i gynhyrchu canlyniadau penodol sy’n hyrwyddo gweithgarwch economaidd pobl dros50 oed fel rhan o’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn peri gofid. Rwy’n gwbl gefnogol i ddull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac mae cael pobl dros 50 yn ôl i gyflogaeth yn gallu arwain at ystod o ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys mwy o wytnwch ariannol a bod yn llai agored i dlodi ac ynysu cymdeithasol, cyfraniadau cadarnhaol i iechyd a lles corfforol a meddyliol yr unigolyn, ynghyd â gwelliannau mewn sgiliau, hyder a’r gallu i addasu i newidiadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Fel y soniwyd eisoes, nid oes llawer o dystiolaeth o’r problemau cyflogaeth sy’n wynebu pobl dros 50 oed, a phrin yw’r data ar faint o bobl hŷn, yn enwedig rhwng 50 ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sy’n ‘NEETs’ ac sy’n ceisio ail-ymuno â’r farchnad lafur.

 

19.               Mae’r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y Mesurau Perfformiad Sgiliau, a gyhoeddwyd ym Medi 2014[10]. Er bod gwell dealltwriaeth o sut mae’r mesurau hyn yn monitro polisïau sgiliau a rhaglenni i gefnogi swyddi a thwf, cynaliadwyedd ariannol a chydraddoldeb a thegwch i’w groesawu, nid oes unrhyw gyfeiriadau penodol at y materion sgiliau penodol sy’n wynebu rhai dros 50. Mae’r Mesurau yn cyfeirio at ddata ar y mynediad cyfartal i raglenni cyflogaeth a sgiliau. Er bod Llywodraeth Cymru yn haeru bod y mwyafrif helaeth o raglenni cyflogaeth a sgiliau yn niwtral o ran oedran, mewn gwirionedd mae’r rhaglenni hyn yn cael eu hanelu at rai o dan 25 oed. At hynny, mewn rhai sectorau e.e. y diwydiant gofal, rhaid i rai dros 25 ariannu eu hyfforddiant eu hunain ac nid oes dim cymhelliant yn aml i gyflogwyr gyflogi neu gynnig prentisiaethau i rai dros 50[11].

 

20.               Nid yw pobl dros 50 sy’n chwilio am gyflogaeth yn cael chwarae teg a rhaid i Lywodraeth Cymru fynd y tu hwnt i’r Cynllun Gweithredu Sgiliau a’r Mesurau Perfformiad Sgiliau i gefnogi gweithgarwch economaidd rhai 50 oed a throsodd. Er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru ystyried y cynigion gan Niace Dysgu Cymru yn ei gyhoeddiad ‘Sgiliau ar gyfer Ffyniant’ i sicrhau bod adolygiadau personol canol-gyrfa ar gael i bob oedolyn, gan ddwyn ynghyd wybodaeth am addysg a sgiliau i helpu pobl i benderfynu pa ddatblygiadau sgiliau pellach mae arnynt angen, yn ogystal â gwneud mwy i sicrhau bod rhai dros 50 yn elwa o brentisiaethau, sy’n ‘agoriad’ effeithiol yn ôl i gyflogaeth[12].

 

Argymhelliad 10

 

21.               Rwy’n croesawu derbyn yr argymhelliad i ddatganoli rhaglenni sgiliau’r Adran Gwaith a Phensiynau i Gymru mewn egwyddor. Rwy’n gefnogol iawn i ddatganiad y Dirprwy Weinidog y ceir mantais sylweddol o ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y Rhaglen Waith. Mae dull o’r fath yn golygu y gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth wedi’i deilwra i helpu pobl o bob oed yn ôl i gyflogaeth a rhoi sylw i faterion sy’n benodol i Gymru.

 

22.               Fel rwyf wedi’i grybwyll o’r blaen, mae perthynas gweithio mewn partneriaeth gadarn rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn hanfodol er mwyn cydlynu ymdrechion a lleihau dyblygu, gan arwain at ymyriadau gwell, mwy trawiadol sy’n cefnogi pobl dros 50 ar lawr gwlad. Cynigiodd Llywodraeth flaenorol y DU rai diwygiadau cadarnhaol i frwydro yn erbyn rhagfarn ar sail oedran yn y gweithle, gan gynnwys cynnig i gyflwyno hyrwyddwyr gweithwyr hŷn ar draws y DU[13]. Byddai’n hynod fuddiol pe byddai’r Llywodraeth bresennol yn bwrw ymlaen â’r cynigion hyn, ac mae hyrwyddwr gweithwyr hŷn i Gymru, yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn un enghraifft o gydweithredu effeithiol rhwng Llywodraethau.

 

Argymhelliad 11

 

23.               Rwyf yn croesawu’n fawr benderfyniad y Dirprwy Weinidog i dderbyn yr argymhelliad hwn. Fel rwyf wedi pwysleisio o’r blaen, er eu bod yn niwtral o ran oedran yn y rhethreg, mae’r rhan fwyaf o raglenni cyflogaeth a sgiliau yn canolbwyntio ar rai dan 25 oed yn ymarferol. Mae gan Gymru ‘weithlu angof’ ynghyd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad nad ydynt yn cael eu defnyddio na’u gwerthfawrogi’n ddigonol ar hyn o bryd. Mae gwell cefnogaeth i rai dros 50 o fudd i unigolion, cyflogwyr ac economïau lleol a chenedlaethol; mae adroddiad diweddar gan Hyrwyddwr Busnes y DU ar gyfer Gweithwyr Hŷn yn awgrymu bod ymestyn bywydau gwaith a chadw, ailhyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn yn gallu ychwanegu £55bn arall i gynnyrch domestig gros y DU[14].

 

24.               Mae’n hanfodol bod pobl iau yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn cael eu cefnogi i mewn i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, fodd bynnag, mae hefyd yn hanfodol bod rhai dros 50 oed, sydd eisiau ac angen aros mewn gwaith neu ddychwelyd i waith, yn cael yr un gefnogaeth. Byddai llawer o’r 205k o bobl ddi-waith yn y grŵp oedran 50-64 yng Nghymru yn hoffi gweithio[15]. Mae’r diffyg cyfle a mynediad i gefnogaeth yn fater cydraddoldeb y mae angen rhoi sylw iddo ar frys. Mae cydnabyddiaeth y Dirprwy Weinidog bod angen i Lywodraeth Cymru fonitro’r effaith y mae blaenoriaethu ymgysylltiad a chyflogaeth pobl ifanc yn ei chael ar bobl hŷn i’w groesawu, ac rwy’n disgwyl y bydd y Rhaglen Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth Cymru a gaiff ei lansio maes o law yn rhoi sylw gwell i anghenion rhai dros 50, wedi’i chefnogi’n llwyr gan y Mesurau Perfformiad Sgiliau sy’n bodoli eisoes.

 

Casgliadau

 

25.                Rwy’n falch bod cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 oed yng Nghymru, mater sydd heb gael llawer o sylw ers gormod o amser o lawer, yn awr ar yr agenda. Croesewir adroddiad y Pwyllgor yn fawr gyda rhai argymhellion cadarnhaol y gallent, o’u gweithredu, wneud llawer i wella rhagolygon cyflogaeth pobl dros 50 oed ar draws Cymru.

 

26.               Mae llawer i’w groesawu yn ymateb Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae’r ffaith iddi wrthod rhai argymhellion allweddol yn anffodus ac yn gyfle wedi’i golli i ddarparu gwell cymorth i bobl hŷn sydd eisiau neu angen aros yn y farchnad lafur neu ail-ymuno â hi. Byddaf yn trafod y materion hyn ymhellach gyda’r Dirprwy Weinidog yn ein cyfarfod nesaf ac edrychaf ymlaen at roi’r diweddaraf i’r Pwyllgor yn ein cyfarfod ar 7 Hydref.



[1] http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s43365/%20Llywodraeth%20Cymru%20-%20Medi%202015.pdf

[2] http://www.senedd.assembly.wales/documents/s35635/EBC4-03-15%20p.1%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[3]http://www.senedd.assembly.wales/documents/s43306/Letter%20from%20the%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales%20-%2014%20August%202015.pdf

[4] https://www.gov.uk/government/collections/age-positive

[5] https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Business-Economy-and-Labour-Market/People-and-Work/Economic-Inactivity/economicinactivityratesexcludingstudents-by-welshlocalarea-year

[6]https://www.niace.org.uk/sites/default/files/resources/Manifesto%20General%20Election%202015%20Skills%20for%20Prosperity.pdf

[7] http://www.ilcuk.org.uk/images/uploads/publication-pdfs/The_missing_millions_web.pdf

[8] http://www.senedd.assembly.wales/documents/s36927/EBC4-05-15%20p.14%20Older%20Peoples%20Commissioner%20-%20additional%20information.pdf

[9] http://www.senedd.assembly.wales/documents/s41213/CIS%2007%20-%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[10] http://gov.wales/docs/dcells/publications/140930-skills-performance-measures-cy.pdf

[11] http://www.senedd.assembly.wales/documents/s41213/CIS%2007%20-%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[12] http://www.niacecymru.org.uk/sites/default/files/resources/Final%20Manifesto%20Welsh%20version.pdf

[13] https://www.gov.uk/government/news/fundamental-reform-to-fight-ageism-in-the-workplace-older-workers-scheme-to-tackle-age-discrimination

[14] https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/411420/a-new-vision-for-older-workers.pdf

[15] https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Business-Economy-and-Labour-Market/People-and-Work/Economic-Inactivity/economicinactivityratesexcludingstudents-by-welshlocalarea-year (Anweithredol yn economaidd 196k, hawlio Lwfans Ceisio Gwaith 9k)