Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Medi 2015 i'w hateb ar 29 Medi 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen moderneiddio ysgolion Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2466(FM)

 

2. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y meddygon teulu a gaiff eu recriwtio yng Nghymru? OAQ(4)2464(FM)

 

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyth gwaith athrawon? OAQ(4)2467(FM)

 

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ariannu llywodraeth leol? OAQ(4)2457(FM)R

 

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i asesu'r gostyngiad mewn allyriadau carbon a fydd deillio o brosiect Metro De Cymru? OAQ(4)2470(FM)

 

6. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella perfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol? OAQ(4)2468(FM)W

 

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a Network Rail? OAQ(4)2472(FM)

 

8. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2469(FM)

 

9. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl undebau llafur yn y broses o gyflawni strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2471(FM)

 

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer practisau meddygon teulu yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2463(FM)

 

10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rannu data rhwng Dechrau'n Deg a'r ysgolion cynradd neu fabanod perthnasol? OAQ(4)2456(FM)

 

12. Keith Davies (Llanelli):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch argyfwng y ffoaduriaid yn dilyn cyfarfod arweinwyr yr UE ym Mrwsel yr wythnos ddiwethaf? OAQ(4)2473(FM)W

 

13. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynnig Llywodraeth y DU i gau llysoedd ynadon yng Nghymru? OAQ(4)2459(FM)

 

14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau argyfwng yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2462(FM)

 

15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wariant  llywodraeth leol ar daliadau diswyddo? OAQ(4)2458(FM)