2015 Rhif 1686 (Cy. 218)

anifeiliaid, cymru

Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cydnabod sefydliadau sy’n cofnodi pedigrî gwartheg, defaid, geifr a moch ac yn nodi’r gofynion sy’n llywodraethu’r sefydliadau hyn o ran ffurf cofnodion pedigrî a’u cynnwys, ffurf tystysgrifau sootechnegol, a dulliau ar gyfer cofnodi perfformiad bridio ac asesu gwerth genetig er mwyn derbyn anifeiliaid at ddibenion bridio. Maent yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Safonau Sootechnegol 1992 (O.S. 1992/2370).

Maent yn trosi offerynnau canlynol yr UE o ran gwartheg:

—   Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/157/EC ynghylch anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 323, 10.12.2009, t1);

   Penderfyniad y Comisiwn 2006/427/EC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig gwartheg i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 169, 22.6.2006, t56);

   Penderfyniad y Comisiwn 2005/379/EC ynghylch tystysgrifau pedigrî a manylion i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 125, 18.5.2005, t15);

   Cyfarwyddeb y Cyngor 87/328/EEC ynghylch derbyn, at ddibenion bridio, anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 167, 26.6.1987, t54);

   Penderfyniad y Comisiwn 84/247/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy’n cadw neu sy’n sefydlu llyfrau buches i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 125, 12.5.1984, t58);

   Penderfyniad y Comisiwn 84/419/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chofnodi gwartheg mewn llyfrau buches (OJ Rhif L 237, 5.9.1984, t11).

Maent yn trosi offerynnau canlynol yr UE o ran moch:

   Cyfarwyddeb y Cyngor 88/661/EEC ynghylch y safonau sootechnegol sy’n gymwys i anifeiliaid bridio o’r rhywogaeth fochaidd (OJ Rhif L 382, 31.12.1988, t36);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/501/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo a goruchwylio cymdeithasau bridwyr a sefydliadau bridio sy’n sefydlu neu sy’n cadw llyfrau cenfaint i foch bridio o frid pur (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t19);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/504/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo a goruchwylio cymdeithasau bridwyr, sefydliadau bridio ac ymgymeriadau preifat sy’n sefydlu neu sy’n cadw cofrestrau i foch bridio hybrid (OJ Rhif L 247, 23.08.1989, t31);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/502/EEC sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi moch bridio o frid pur mewn llyfrau cenfaint (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t21);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/505/EEC sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi moch bridio hybrid mewn cofrestrau (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t33);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/503/EEC sy’n nodi’r dystysgrif i foch bridio o frid pur, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t22);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/506/EEC sy’n nodi’r dystysgrif i foch bridio hybrid, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t34);

—   Penderfyniad y Comisiwn 89/507/EEC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig moch bridio o frid pur a moch bridio hybrid (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t43);

—   Cyfarwyddeb y Cyngor 90/118/EEC ynghylch derbyn moch bridio o frid pur at fridio (OJ Rhif L 71, 17.3.1990, t34);

—   Cyfarwyddeb y Cyngor 90/119/EEC ynghylch moch bridio hybrid at fridio (OJ Rhif L 71, 17.3.1990, t36).

Maent yn trosi offerynnau canlynol yr UE o ran defaid a geifr:

—   Cyfarwyddeb y Cyngor 89/361/EEC ynghylch defaid a geifr bridio o frid pur (OJ Rhif L 153, 6.6.1989, t30);

   Penderfyniad y Comisiwn 90/254/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy’n sefydlu neu sy’n cadw llyfrau diadell i ddefaid a geifr bridio o frid pur (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t30);

—   Penderfyniad y Comisiwn 90/255/EEC sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi defaid a geifr bridio o frid pur mewn llyfrau diadell (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t32);

—   Penderfyniad y Comisiwn 90/258/EEC sy’n nodi’r tystysgrifau sootechnegol i ddefaid a geifr bridio o frid pur, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t39);

   Penderfyniad y Comisiwn 90/256/EEC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig defaid a geifr bridio o frid pur (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t35);

   Penderfyniad y Comisiwn 90/257/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â derbyn, at ddibenion bridio, defaid a geifr bridio o frid pur a defnyddio’u semen, eu hofa neu eu hembryonau (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t38).

Maent hefyd yn trosi Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC sy’n nodi’r egwyddorion sy’n ymwneud â’r amodau sootechnegol ac achyddol sy’n gymwys i fewnforio, o drydydd gwledydd, anifeiliaid, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 77/504/EEC ynghylch anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 178, 12.7.1994, t66).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ynglŷn â’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 


2015 Rhif 1686 (Cy. 218)

anifeiliaid, cymru

Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015

Gwnaed                                   14 Medi 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       17 Medi 2015

Yn dod i rym                            9 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([3]).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddarpariaethau yn offerynnau’r UE fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Enwi, chymhwyso a cychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015.

(2) Maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Deuant i rym ar 9 Hydref 2015.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw pob anifail o’r rhywogaeth fuchol;

ystyr “llyfr buches” (“herd-book” mewn perthynas â gwartheg) neu “llyfr cenfaint” (“herd-book” mewn perthynas â moch) yw unrhyw lyfr, cofrestr, ffeil neu gyfrwng data—

(a)     a gedwir gan sefydliad cydnabyddedig, a

(b)     y mae moch neu wartheg o frid pur o frid penodedig yn cael eu cofnodi neu eu cofrestru ynddo ynghyd â chyfeiriad at eu hynafiaid;

ystyr “llyfr diadell” (“flock-book”) yw unrhyw lyfr, cofrestr, ffeil neu gyfrwng data—

(a)     a gedwir gan sefydliad cydnabyddedig, a

(b)     y mae defaid neu eifr bridio o frid pur o frid penodedig yn cael eu cofnodi neu eu cofrestru ynddo ynghyd â chyfeiriad at eu hynafiaid;

ystyr “mochyn hybrid” (“hybrid pig”) yw mochyn a gynhyrchir drwy groesfridio bwriadol—

(a)     rhwng moch o frid pur o wahanol fridiau neu linachau,

(b)     rhwng anifeiliaid sydd eu hunain yn epil croesiad rhwng gwahanol fridiau neu linachau, neu

(c)     rhwng moch o frid pur a moch sy’n perthyn i’r naill neu’r llall o’r categorïau uchod;

ystyr “o frid pur” (“pure-bred”), mewn cysylltiad ag anifail o ryw frid, yw bod ei rieni a rhieni ei rieni yn ymddangos mewn llyfr diadell, llyfr buches neu lyfr cenfaint o’r brid, a’i fod yn ymddangos ei hun mewn llyfr diadell, llyfr buches neu lyfr cenfaint o’r brid, neu’n gymwys i ymddangos mewn llyfr o’r fath;

ystyr “sefydliad cydnabyddedig” (“recognised organisation”) yw sefydliad a gydnabuwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4.

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o dro i dro.

Hysbysiadau

3. Rhaid i hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad arall.

Cydnabod sefydliadau

4.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad, gydnabod sefydliad fel sefydliad cydnabyddedig o ran brid o anifeiliaid

(a)     os bydd yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru am gael ei gydnabod felly; a

(b)     os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, yn bodloni’r meini prawf a grybwyllir—

                           (i)    yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 84/247/EEC([4]) sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy’n cadw neu sy’n sefydlu llyfrau buches i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol, mewn perthynas â gwartheg o frid pur;

                         (ii)    yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 90/254/EEC([5]) sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy’n sefydlu neu sy’n cadw llyfrau diadell i ddefaid a geifr bridio o frid pur, mewn perthynas â defaid a geifr o frid pur;

                       (iii)    yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 89/501/EEC([6]) sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo a goruchwylio cymdeithasau bridwyr a sefydliadau bridio sy’n sefydlu neu sy’n cadw llyfrau cenfaint i foch bridio o frid pur, mewn perthynas â moch o frid pur; neu

                        (iv)    yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 89/504/EEC([7]) sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo a goruchwylio cymdeithasau bridwyr, sefydliadau bridio ac ymgymeriadau preifat sy’n sefydlu neu sy’n cadw cofrestrau i foch bridio hybrid, mewn perthynas â moch hybrid.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod rhoi cydnabyddiaeth o dan baragraff (1)—

(a)     os oes sefydliad cydnabyddedig yn bodoli ar gyfer yr un brid neu sefydliad ar gyfer yr un brid sydd wedi ei gydnabod yn unol â’r ddeddfwriaeth a restrir ym mharagraff (1)(b) rywle arall yn y Deyrnas Unedig; a

(b)     os yw Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai rhoi’r gymeradwyaeth—

                           (i)    yn rhoi cadwraeth y brid hwnnw mewn perygl; neu

                         (ii)    yn peryglu rhaglen sootechnegol y sefydliad cydnabyddedig o dan sylw.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i ymgeisydd am unrhyw wrthod cydnabyddiaeth drwy hysbysiad, gan roi rhesymau.

Tynnu cydnabyddiaeth yn ôl

5.(1)(1) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)     cânt dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi ar sefydliad sy’n methu â bodloni’r meini prawf a grybwyllir yn rheoliad 4(1)(b), drwy hysbysiad; a

(b)     rhaid iddynt dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi ar sefydliad sy’n methu’n barhaus â bodloni’r meini prawf hynny, drwy hysbysiad.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi ar sefydliad sy’n methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, drwy hysbysiad.

Rhestr o sefydliadau cydnabyddedig

6. Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)     sefydlu a chadw rhestr o sefydliadau cydnabyddedig; a

(b)     cyhoeddi’r rhestr yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2009/712/EC sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC o ran tudalennu gwybodaeth ar y Rhyngrwyd sy’n cynnwys rhestrau o sefydliadau a labordai a gymeradwywyd gan yr Aelod-wladwriaethau yn unol â deddfwriaeth filfeddygol a sootechnegol y Gymuned([8]).

Sefydlu llyfr buches, llyfr cenfaint, llyfr diadell neu gofrestr

7. Rhaid i sefydliad cydnabyddedig sefydlu a chadw llyfr buches, llyfr cenfaint, llyfr diadell neu gofrestr (yn ôl y digwydd).

Cofnodi anifeiliaid mewn llyfr buches, llyfr cenfaint, llyfr diadell neu gofrestr

8.(1)(1) Rhaid i sefydliad cydnabyddedig gofnodi

(a)     gwartheg o frid pur mewn llyfr buches yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 84/419/EEC([9]) sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chofnodi gwartheg mewn llyfrau buches;

(b)     defaid a geifr o frid pur mewn llyfr diadell yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 90/255/EEC([10]) sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi defaid a geifr bridio o frid pur mewn llyfrau diadell;

(c)     moch o frid pur mewn llyfr cenfaint yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 89/502/EEC([11]) sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi moch bridio o frid pur mewn llyfrau cenfaint; neu

(d)     moch hybrid mewn cofrestr yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 89/505/EEC([12]) sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi moch bridio hybrid mewn cofrestrau.

(2) Ni chaniateir i sefydliad cydnabyddedig gofnodi anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad, neu sy’n tarddu o semen, ofwm, neu embryo a fewnforiwyd o drydedd wlad, mewn llyfr buches, llyfr cenfaint, llyfr diadell na chofrestr oni bai bod yr anifail hwnnw, neu’r semen, yr ofwm neu’r embryo y mae’n tarddu ohonynt, wedi eu mewnforio yn unol ag Erthygl 4, 5, 6 neu 7, fel y bo’n gymwys, o Gyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC sy’n nodi’r egwyddorion sy’n ymwneud â’r amodau sootechnegol ac achyddol sy’n gymwys i fewnforio o drydydd gwledydd anifeiliaid, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 77/504/EEC ynghylch anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol([13]).

Y gofyniad i gofnodi anifeiliaid mewn llyfr buches, llyfr cenfaint, llyfr diadell neu gofrestr

9.(1)(1) Ni chaiff sefydliad cydnabyddedig wrthod cofnodi anifail yn ei lyfr buches, ei lyfr cenfaint, ei lyfr diadell neu ei gofrestr os yw’n bodloni’r meini prawf ynglŷn â chofnodi.

(2) Rhaid cymryd bod anifail sy’n ymddangos mewn llyfr buches, llyfr cenfaint, llyfr diadell neu gofrestr o’r un brid a gedwir gan sefydliad a gydnabuwyd unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd yn unol â’r ddeddfwriaeth a restrir yn rheoliad 4(1)(b) yn bodloni’r meini prawf.

Tystysgrifau sootechnegol wrth fasnachu yn y Gymuned

10.(1)(1) Dim ond sefydliad a grybwyllir ym mharagraff (2) a gaiff ddyroddi tystysgrif sootechnegol ar gyfer masnachu’r canlynol yn y Gymuned—

(a)     anifeiliaid;

(b)     semen;

(c)     ofa;

(d)     embryonau.

(2) Dyma’r sefydliadau—

(a)     os tystysgrif ar gyfer anifail yw’r dystysgrif, sefydliad cydnabyddedig o ran y brid hwnnw o anifail;

(b)     os tystysgrif ar gyfer semen buchol yw’r dystysgrif, canolfan gasglu neu ganolfan storio a gymeradwywyd o dan Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008([14]);

(c)     os tystysgrif ar gyfer embryonau neu ofa buchol yw’r dystysgrif, tîm casglu embryonau a gymeradwywyd o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Eu Casglu, Eu Cynhyrchu a’u Trosglwyddo) 1995([15]);

(d)     os tystysgrif ar gyfer semen, ofa neu embryonau unrhyw anifail arall yw’r dystysgrif, sefydliad cydnabyddedig o ran y brid perthnasol.

(3) Rhaid i dystysgrif sootechnegol gydymffurfio â’r canlynol

(a)     Penderfyniad y Comisiwn 2005/379/EC([16]) ynghylch tystysgrifau pedigrî a manylion i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, mewn perthynas â gwartheg o frid pur;

(b)     Penderfyniad y Comisiwn 90/258/EEC([17]) sy’n nodi’r tystysgrifau sootechnegol i ddefaid a geifr bridio o frid pur, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, mewn perthynas â defaid a geifr o frid pur;

(c)     Penderfyniad y Comisiwn 89/503/EEC([18]) sy’n nodi’r dystysgrif i foch bridio o frid pur, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, mewn perthynas â moch o frid pur; neu

(d)     Penderfyniad y Comisiwn 89/506/EEC([19]) sy’n nodi’r dystysgrif i foch bridio hybrid, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, mewn perthynas â moch hybrid.

Monitro perfformiad ac asesu gwerth genetig

11. Rhaid i sefydliad cydnabyddedig dderbyn i’w brofi unrhyw anifail a gofnodwyd yn ei lyfr buches, ei lyfr cenfaint, ei lyfr diadell neu ei gofrestr, a rhaid iddo gyflawni’r monitro neu’r profi yn unol â’r meini prawf a bennwyd yn y canlynol—

(a)     Atodiad 1 i Benderfyniad y Comisiwn 2006/427/EC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig gwartheg i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol, mewn perthynas â gwartheg o frid pur([20]);

(b)     yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 90/256/EEC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig defaid a geifr bridio o frid pur, mewn perthynas â defaid a geifr o frid pur([21]); neu

(c)     yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 89/507/EEC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig moch bridio o frid pur a moch bridio hybrid, mewn perthynas â moch([22]).

Derbyn at ddibenion bridio

12.(1)(1) Rhaid i sefydliad cydnabyddedig dderbyn at ddibenion bridio naturiol bob anifail o frid pur o’r brid y mae’n cadw ei lyfr buches, ei lyfr cenfaint neu ei lyfr diadell.

(2) Rhaid i sefydliad cydnabyddedig sy’n cadw llyfr buches, llyfr cenfaint neu lyfr diadell brid o wartheg, defaid neu eifr neu frid o foch o frid pur, dderbyn at ddibenion bridio ofa pob anifail o frid pur a phob embryo y mae eu dau riant wedi eu cofnodi yn llyfr buches, llyfr cenfaint neu lyfr diadell y brid.

(3) Rhaid i sefydliad cydnabyddedig sy’n cadw llyfr buches brid o wartheg neu lyfr cenfaint brid o foch o frid pur dderbyn at fridio drwy ffrwythloni artiffisial semen unrhyw anifail gwryw a gofnodwyd yn ei lyfr buches neu ei lyfr cenfaint ac a gymeradwywyd yn unol â’r profion y cyfeirir atynt yn rheoliad 11.

(4) Dim ond semen anifeiliaid a gymeradwywyd yn unol â’r profion y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 y caiff sefydliad cydnabyddedig sy’n cadw llyfr buches brid o wartheg neu lyfr cenfaint brid o foch o frid pur ei dderbyn at ddibenion ffrwythloni artiffisial.

(5) Rhaid i sefydliad cydnabyddedig sy’n cadw cofrestr i foch hybrid dderbyn at ddibenion bridio—

(a)     pob mochyn hybrid;

(b)     semen pob mochyn hybrid y mae ei linach wedi ei phrofi o ran ei pherfformiad a’i gwerth genetig; ac

(c)     ofa ac embryonau pob mochyn hybrid,

y mae ei rieni wedi eu sefydlu yn unol â rheolau’r sefydliad hwnnw.

(6) Rhaid i sefydliad cydnabyddedig sy’n cadw llyfr diadell brid o ddefaid neu eifr o frid pur dderbyn semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial o unrhyw anifeiliaid o’r fath yn unol ag Erthygl 2(1) o Benderfyniad y Comisiwn 90/257/EEC([23]).

Dirymu

13. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau Safonau Sootechnegol 1992([24]) o ran Cymru; a

(b)     Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Diwygio) (Cymru) 2008([25]).

 

 

 

 

 

Carl Sargeant

Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

14 Medi 2015



([1])           O.S. 2010/2690.

([2])           1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

([3])           Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

([4])           OJ Rhif L 125, 12.5.1984, t58, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/371/EC, OJ Rhif L 140, 1.6.2007, t49.

([5])           OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t30.

([6])           OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t19.

([7])           OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t31.

([8])           OJ Rhif L 247, 19.9.2009, t13.

([9])           OJ Rhif L 237, 5.9.1984, t11, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/371/EC, OJ Rhif L 140, 1.6.2007, t49.

([10])         OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t32, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/375/EC, OJ Rhif L 121, 13.5.2005, t87.

([11])         OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t21.

([12])         OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t33.

([13])         OJ Rhif L 178, 12.7.1994, t66, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC, OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t40.

([14])         O.S. 2008/1040 (Cy.110).

([15])         O.S. 1995/2478.

([16])         OJ Rhif L 125, 18.5.2005, t15.

([17])         OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t39.

([18])         OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t22.

([19])         OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t34.

([20])         OJ Rhif L 169, 22.6.2006, t56.

([21])         OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t35.

([22])         OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t43.

([23])         OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t38.

([24])         O.S. 1992/2370.

([25])         O.S. 2008/1064 (Cy.113).