R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cyffordd 41 yr M4 ym Mhort Talbot? OAQ(4)0616(EST)
2. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddamweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0604(EST)
3. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y byrddau dinas-ranbarthau? OAQ(4)0617(EST)W
4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â phrosiect ffordd gyswllt dwyrain bae Caerdydd? OAQ(4)0609(EST)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed yn y rhwydwaith bysiau T a ddarperir gan TrawsCymru? OAQ(4)0608(EST)W
6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0615(EST)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi gorllewin Cymru? OAQ(4)0600(EST)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffordd yng Nghymru? OAQ(4)0614(EST)
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwella'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0601(EST)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a Network Rail? OAQ(4)0618(EST)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Chyngor Sir Penfro parthed tollau ar bont Cleddau? OAQ(4)0613(EST)W
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i Faes Awyr Caerdydd? OAQ(4)0606(EST)
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ar briffyrdd sy'n rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd? OAQ(4)0602(EST)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru?OAQ(4)0612(EST)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru i gynyddu ffyniant yng Nghymru?OAQ(4)0611(EST)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion y gyfraith eraill ynghylch effaith y Bil Undebau Llafur ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(4)0081(CG)W
2. Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y
mae'r Cwnsler Cyffredinol yn helpu'r cyhoedd i ddeall mwy am
gyfreithiau Cymru? OAQ(4)0082(CG)W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Comisiwn y Cynulliad ddatganiad am anawsterau a brofwyd mewn perthynas â'r cyfeiriad e-bost cynulliad.cymru wrth danysgrifio i wefannau eraill? OAQ(4)0088(AC)