Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Gorffennaf 2015 i'w hateb ar 15 Gorffennaf 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cwymp diweddar yn y pris a delir i ffermwyr am nifer o fathau o gynnyrch amaethyddol? OAQ(4)0334(NR)W

2. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i reoli TB buchol yng Nghymru? OAQ(4)0344(NR)W

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faint o'r 19 o argymhellion o fewn adroddiad Hwyluso'r Drefn a gaiff eu cyflawni erbyn diwedd y mis hwn? OAQ(4)0336(NR)W

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â llysiau'r dial? OAQ(4)0328(NR)

5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid grant craidd diweddar a roddwyd i raglen gweithredu'r cynllun gwastraff ac adnoddau (WRAP Cymru)? OAQ(4)0337(NR)

6. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau rheoli llifogydd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0326(NR)

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar waredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol? OAQ(4)0339(NR)W

8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nodau strategol y mae wedi'u rhoi ar waith ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ(4)0340(NR)

9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod draenogod y môr? OAQ(4)0335(NR)

10. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae ei adran wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gweithredu datganiadau ardal? OAQ(4)0331(NR)

11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(4)0329(NR)

12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i leihau faint o wastraff a gaiff ei gynhyrchu yng Nghymru? OAQ(4)0345(NR)

13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog nodi a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud tuag at gynllun lliniaru llifogydd yr Wyddgrug? OAQ(4)0332(NR)

14. Gwyn Price (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau'r bygythiad o glefyd i blanhigion a choed yng Nghymru? OAQ(4)0341(NR)

15. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ(4)0342(NR)

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch adeiladau ysgol a choleg ledled Cymru? OAQ(4)0613(ESK)

2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr argymhellion yn yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus? OAQ(4)0599(ESK)

3. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith ieuenctid yng Nghymru? OAQ(4)0611(ESK)W

4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Her Ysgolion Cymru? OAQ(4)0596(ESK)

5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad y lefel o gyllid a ddarperir i bob disgybl yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0610(ESK)

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ysgolion? OAQ(4)0598(ESK)

7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg Gymraeg yn Sir y Fflint? OAQ(4)0609(ESK)W

8. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag arweinwyr diwydiannol i nodi'r sgiliau gweithlu sydd eu hangen i gynnal gweithgynhyrchu fel sector graidd yng Nghymru? OAQ(4)0608(ESK)

9. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'n sicrhau bod awdurdodau addysg lleol yn diogelu ysgolion rhag toriadau yn y gyllideb awdurdodau lleol? OAQ(4)0607(ESK)

10. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch dyddiadau tymor ysgol a gwyliau? OAQ(4)0600(ESK)

11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau maethol i brydau ysgol? OAQ(4)0603(ESK)

12. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae'n rhoi sylw dyledus i ofynion Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud ag addysg? OAQ(4)0597(ESK)

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu'r nifer sy'n derbyn datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a'r ddarpariaeth ohono? OAQ(4)0612(ESK)

14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru? OAQ(4)0606(ESK)

15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0604(ESK)