R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella'r ddarpariaeth band eang mewn cymunedau gwledig? OAQ(4)2383(FM)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diddymu cymorthdaliadau ar gyfer datblygiadau ynni gwynt ar y tir? OAQ(4)2393(FM)W
3. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r effaith y bydd newidiadau i'r system les a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn ei chael ar lefelau tlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)2392(FM)
4. Gwenda Thomas (Castell-nedd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y sefyllfa ariannol yn Ewrop ar hyn o bryd? OAQ(4)2382(FM)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu'r adroddiad Ymddiried mewn Gofal? (OAQ(4)2385(FM)
6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â mynd i'r afael â sgamiau? OAQ(4)2391(FM)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau cleifion arennol yng Nghymru? OAQ(4)2399(FM)
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llid yr ymennydd yng Nghymru? OAQ(4)2388(FM)
9. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella amseroedd aros yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2394(FM)
10. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella iechyd cyhoeddus? OAQ(4)2395(FM)W
11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision y Gronfa Byw'n Annibynnol o £20.4 miliwn i bobl Dyffryn Clwyd? OAQ(4)2396(FM)
12. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Fynwy? OAQ(4)2390(FM)
13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli cyflogau athrawon? OAQ(4)2401(FM)W
14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch goblygiadau'r trafodaethau ar adnewyddu siarter y BBC ar gyfer darlledu yng Nghymru? OAQ(4)2398(FM)
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2397(FM)