Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf 2015 i'w hateb ar 8 Gorffennaf 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu effeithiolrwydd mesurau i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(4)0352(CTP)

2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar bobl sy’n byw yn Nhorfaen? OAQ(4)0367(CTP)

3. Elin Jones (Ceredigion): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu mudiadau trydydd sector sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal? OAQ(4)0357(CTP)W

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol nad ydynt wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dal i dalu sylw iddo? OAQ(4)0353(CTP)

5. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd a wnaed mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar lesddeiliaid yn Nhorfaen? OAQ(4)0366(CTP)

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai cymdeithasol addasadwy yng Nghymru? OAQ(4)0358(CTP)

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn brwydro yn erbyn tlodi yng Nghymru? OAQ(4)0355(CTP)

8. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi mewn perthynas â chanolbarth Cymru? OAQ(4)0360(CTP)

9. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cymharol o dlodi yn y wardiau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn Nwyrain Casnewydd? OAQ(4)0363(CTP)

10. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal plant yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0359(CTP)

11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Dechrau'n Deg? OAQ(4)0350(CTP)

12. Janet Howarth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0361(CTP)

13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella ymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr? OAQ(4)0351(CTP)

14. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd yn y defnydd o undebau credyd yn ystod y Cynulliad presennol? OAQ(4)0354(CTP)W

15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Esgyn? OAQ(4)0365(CTP)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu manteisio ar drydaneiddio'r brif linell Great Western i Abertawe? OAQ(4)0583(EST)

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw drafodaethau diweddar a gynhaliwyd gyda Tata Steel? OAQ(4)0582(EST)

3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiect ailddatblygu Pont Briwet? OAQ(4)0592(EST)

4. William Graham (Dwyrain De Cymru):Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i’r effaith y bydd adroddiad terfynol y Comisiwn Maes Awyr yn ei chael ar Gymru? OAQ(4)0586(EST)

5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Grid Cenedlaethol am effaith codi peilonau newydd ar dwristiaeth? OAQ(4)0597(EST)W

6. Elin Jones (Ceredigion):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngheredigion? OAQ(4)0589(EST)W

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ(4)0595(EST)

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gefnogaeth ar gyfer busnesau bach ledled Cymru? OAQ(4)0596(EST)

9. Lynne Neagle (Torfaen):Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd mewn perthynas â'r anghydfod diwydiannol cyfredol rhwng rheolwyr Amgueddfa Cymru ac undeb PCS? OAQ(4)0599(EST)

10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod contractau cadwyni cyflenwi yn dod i fusnesau yng Nghymru fel rhan o'r datblygiad morlyn llanw ym Mae Abertawe? OAQ(4)0587(EST)W

11. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0588(EST)

12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gefnogaeth sy'n cael ei darparu i weithredwyr bysiau yng Nghymru i leihau eu hallyriadau carbon? OAQ(4)0584(EST)

13. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa effaith bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ohirio gwelliannau i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chael ar gynlluniau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0594(EST)W

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraniad arwyddion brown i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0585(EST)

15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun taleb gwibgyswllt? OAQ(4)0590(EST)W