Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2015 i'w hateb ar 1 Gorffennaf 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dyrannu cyllid cyfalaf i'r portffolio addysg a sgiliau? OAQ(4)0574(FIN)

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth? OAQ(4)0579(FIN)W

3. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer busnesau cymdeithasol? OAQ(4)0571(FIN)

4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr holl dyraniadau cyllidebol i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0583(FIN)

5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i linell gwariant y gyllideb ar gyfer gwasanaethau canolog a gweinyddu? OAQ(4)0578(FIN)

6. Keith Davies (Llanelli):Pa flaenoriaethau y rhoddodd y Gweinidog ystyriaeth iddynt wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0587(FIN)W

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwersi a ddysgwyd gan y sector cyhoeddus yn dilyn cynlluniau buddsoddi i arbed? OAQ(4)0573(FIN)

8. Janet Haworth (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch cyfanswm y gyllideb a ddyrennir i'w bortffolio? OAQ(4)0576(FIN)

9. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'n caniatáu ar gyfer hyblygrwydd wrth ddyrannu cyllid i'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0582(FIN)

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa adnoddau ychwanegol sydd wedi cael eu dyrannu i'r portffolio addysg a sgiliau yn dilyn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf? OAQ(4)0586(FIN)W

11. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei thaith gyllideb o gwmpas Cymru gan gyfeirio'n benodol at ogledd Cymru? OAQ(4)0584(FIN)W

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodion Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau adeiladu sydd wedi defnyddio rhestri gwahardd yn y gorffennol? OAQ(4)0572(FIN)

13. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith toriadau yn ystod y flwyddyn Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru? OAQ(4)0570(FIN)

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth gyfathrebu Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cronfeydd strwythurol Ewropeaidd? OAQ(4)0577(FIN)

15. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gronfa JEREMIE a sut y mae'n gweithredu yng Nghymru? OAQ(4)0588(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Elin Jones (Ceredigion):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0588(PS)W

2. Christine Chapman (Cwm Cynon):A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu'r Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan? OAQ(4)0585(PS)

3. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais domestig? OAQ(4)0577(PS)

4. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pecyn o gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(4)0590(PS)

5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch amseriad etholiadau lleol yn y dyfodol? OAQ(4)0581(PS)W

6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru? OAQ(4)0591(PS)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth all y Gweinidog ei wneud i annog pob awdurdod lleol i ymgysylltu ag agenda 'Good Food for All' y Sefydliad Materion Cymreig? OAQ(4)0592(PS)

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi bod swyddogion heddlu ychwanegol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio i greu ymdeimlad o ddiogelwch cymunedol? OAQ(4)0593(PS)W

9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0586(PS)

10. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amserlennu etholiadau awdurdodau lleol? OAQ(4)0578(PS)

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei asesiad o gostau ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(4)0579(PS)

12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cyflog byw mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0582(PS)

13. Leanne Wood (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y gwasanaeth y mae'r gwasanaeth tân yn ei darparu yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0589(PS)

14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal ynghylch datganoli plismona? OAQ(4)0587(PS)W

15. David Rees (Aberafan): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i atal cynnydd mewn trais domestig yn erbyn menywod yn ystod twrnameintiau chwaraeon? OAQ(4)0584(PS)