Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Mehefin 2015 i'w hateb ar 9 Mehefin 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad Llywodraeth Cymru ar adfer safleoedd glo brig yng Nghymru? OAQ(4)2312(FM)

 

2. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa faterion y trafododd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog yr Alban yn eu cyfarfod diweddaraf? OAQ(4)2317(FM)W

 

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro? OAQ(4)2309(FM)

 

4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi perchnogaeth cartrefi yng Nghymru? OAQ(4)2318(FM)

 

5. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag effeithiau camddefnyddio alcohol yng Nghwm Cynon? OAQ(4)2315(FM)

 

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(4)2320(FM)

 

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant datblygiad SEACAMS? OAQ(4)2327(FM)W

 

8. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig? OAQ(4)2322(FM)

 

9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu darpariaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd trawsffiniol? OAQ(4)2316(FM)

 

10. Gwenda Thomas (Castell-nedd):Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y rhai sy'n derbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol yn ymwybodol o'r goblygiadau iddynt hwy os bydd system i gofrestru’n awtomatig ar gyfer pensiynau yn cael ei chyflwyno'n raddol i bob cyflogwr? OAQ(4)2319(FM)

 

11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ei drefniadau llywodraethu? OAQ(4)2326(FM)

 

12. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi trosolwg o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i radio cymunedol? OAQ(4)2321(FM)W

 

13. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod ein treftadaeth ddiwylliannol? OAQ(4)2311(FM)

 

14. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2015? OAQ(4)2314(FM)

 

15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefelau staffio'r GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2310(FM)